amryw

 

Home
seren wen
white star
harbwr gwag
empty harbour
un diwrnod...
dwr mawr llwyd
big grey water
llen micro
amryw
dolenni / links

llanfrothen.JPG (112851 bytes)

 

dyma ni'n l

Y Syrcas (2004)

 

Y Filltir Sgwar (1996)

 

GWARTHEG AR Y DRAFFORDD (1999)

 

Gwr y Plas (2000)

 

cyhoeddwyr

 

 

Y Syrcas (2004)

Dim ond geiriau yn fy mhen ydyn nhw bellach a finnau'n cau fy llygaid. Dwi'n cau fy llygaid a'm clustiau am byth o sŵn y syrcas a dringo'r llwybrau tua'r lle mae Wil Pont Ucha Braich yn aros amdanaf. Abwyd i ladron, meddai'r papurau, oedd y sofran yn ei boced. Sgwn i ddaru amser rewi iddo fyntau ac yntau'n clywed blas, clywed sŵn, clywed poen a gweld y byd ar un amrantiad?

Chwarddodd y giang wrth ddal golau'r lleuad yn llygad y darn o aur a Wil yn suddo i ffynnon ebargofiant. Pan gododd o'r dŵr roedd y byd yn wahanol. Lle bu'r caeaun llenwir cof roedd erwau o iaith estron a'r creigiau'n gwegian uwch ei ben ym Mhraich-y-Pwll a thalcen sgubor Tyddyn Isa ar fin syrthio. Nid oedd o'n nabod y wlad hon. Dim ond y tylwyth teg welodd o'n croesi tuag atyn nhw dros lwybr y lleuad llawn ar draws y mr heibio Iwerddon.

Pan dynnwyd ei gorff o'r mawn roedd rhai'n dweud ei fod o fel petai'n cysgu. Un tro roeddwn i wedi gofyn iddo fo oedd yna ryw ddaioni yn y byd.

"Oes, rhwng fan hyn a Baltimr yn rhywle," meddai.


Roedd y giang i gyd yn y gorlan flaen a'u dwylo'n estyn at lawes y dyn syrcas. Dyn o bwys a'i fwstas startsh a'i got laes goch a'i drywsus gwyn oedd hwn a'i chwip yn ffraeth a'i fwtsias yn sgleinio fel tin sosban. Chymrodd o ddim sylw o'r hogia drwg yn y gorlan flaen. Welodd o mo Llinos a finnau chwaith er ein bod ni'n dilyn ei holl ystumiau. Pan aeth i'r cefn am hoe es innau i nl candi fflos i'r ciosg a gwylio'r we binc yn troi mewn padell arian.

"Cofia dy newid," meddai'r ddynes hefor sgarff goch am ei phen a gwthio rhyw bres i'm llaw.

"Pan dwi'n dy freichiau mae'r byd yn gynnas," meddai Llinos a'i llygaid fel dwy seren. Gafaelodd yn fy llaw a'i rhoi ar ei bol. "Hogyn ydio," ychwanegodd.

"Fedra'i ddeud rywsut."

Drannoeth a'r glaw yn bwrw fel hafau erstalwm edrychais allan o'r ffenest a'u gweld yn eu hetiau a'u cotiau yn dŵad i fyny'r stepiau tuag atom. Dim heulwen ar y tonau na hwylbrenni. Roedd yna rywbeth yn bwrpasol yn nhoriad eu coleri.


Roedd hynny ddeuddeng mlynedd yn l. Ers hynny dwi yma mewn caets mwnci a Llinos wedi mynd. Ges i gerdyn ganddi ryw dro o Efrog Newydd yn dweud mai. Ianto oedd enw'r plentyn.

Wn i ddim ydw i wedi cyrraedd rhyw gopa ond mae'r gwagle oddi tanaf yn fy nychryn ac yn codi pensgafndod arnaf. Dwi'n cofio nhw'n dweud wrtha'i am wagio fy mhocedi a finnau'n cael fy holi. Roeddan nhw'n holi pawb o'r cymdogion.
Galwodd y swyddog ar ei bennaeth. "Sbwch be sgin y gingroen yn ei boced."
Doeddwn i rioed wedi gweld y sofran o'r blaen. Roedd hi'n pelydru'n dawel fel haul drwy'r niwl a'i lliw yn felyn yn llygaid y wardeniaid. Rhoes y pennaeth faneg dryloyw am ei law a chodi'r dystiolaeth rhwng bys a bawd. Rhoes ei ben ar osgo i sbo arnaf a'r rhwydi cochion yn berwi yng ngwyn ei lygaid.

"Lle oeddach di cyn mynd i'r syrcas?" meddai. "Lle'r es ti wedyn?"

"Tyn dy grafangau oddi arna'i," meddwn innau. "Sgin i ddim byd i'w guddio."

"Mae gan bawb rywbeth i'w guddio," meddai. "Ein gwaith ni ydi darganfod be ydi o."

Cododd declyn rhwng bys a bawd a gwasgu botwm i agor sgrn i ddangos lluniau o'r lle cafwyd y corff yn gorwedd. Mawndir eang a phyllau duon hefo bryniau isel draw. Pwll mawn llawn dŵr a thraed Wil Pont Ucha Braich yn sticio allan. Unwaith wyt ti wedi bod yng Nghors y Bryniau wnei di mo'i hanghofio hi. Fues i ddim ar gyfyl y lle noson y syrcas.

Dywedais wrthyn nhw fy mod i'n ddiniwed.

Diffoddodd y pennaeth y sgrn. "Tydan ni ddim yn arestio neb diniwed," meddai.

"A hyd yn oed os basat ti'n ddiniwed, fedren ni mo'th ollwng di'n rhydd rhag ofn i bobol ddechrau poeni fod rhai diniwed yn cael eu harestio."

"Diolch am egluro," meddwn innau.


Pan fydden nhw'n fy nghuro ar fy mriwiau du las newydd byddai fel tollti dŵr berwedig ar hyd fy nghoesau. A finnau wedi blino byddwn i'n goro sefyll yn fy unfan. Fyddai fiw imi rwgnach am yr oerni neu'n droednoeth yr eira fyddwn i'n sefyll. Pan fyddwn i'n sychedig y diwn gron fyddai: Ddŵr i garcharor ddaw a phiso yn ei sgil. Ges i lond bol, gofynnais gawn i roi'r ffidil yn y to. Roeddwn i isio ildio.

"Ildio?" sgrechiodd gwas yr arteithiwr a'i llgada'n glafoerio. "Be s'an ti'r basdad." Roedd ei ddannedd yn fy ngwddw cyn imi droi a finnau'n gollwng sgrech.

"Gad o," meddai'r prif arteithiwr. "Dos am dy baned." Taflodd geiniog neu ddwy ato.



Cyfaddefodd y twrnai a roddwyd imi iddo gysgu yn ystod yr achos.

"Pam lai?" meddai. "Roedd hi'n amlwg i bawb dy fod ti'n euog."

"Pam na fasat ti wedi bargeinio?"

"Hefo be?" meddai a thanio sigart. Candi fflos?" Ofynnodd o ddim oeddwn i'n smocio.


Welis i mo'r twrnai wedyn ond mi welais y prif arteithiwr. Do, ymhen blynyddoedd. Roedd o'n edrych arna'i drwy gil ei lygaid. Yr un golau oedd yn pefrio o'i lygaid ac o'r blaen, hen olau melyn fel llygad madfall.

Eglurodd nad oedd ganddo ddewis ond fy ngham-drin o'r blaen. Roedd o'n waith, roedd o'n cynnal ei deulu. Ac oni bai amdano fo mi fyddai eraill saith gwaeth yn ei le, y gwas efallai, a rhes o rai eraill y tu allan yn curo ar y drws isio roi cynnig arni.

Eglurodd hefo'r cyrn gwrando am ei ben na fyddain clywed y sgrechian. Fyddai'r ffedog yn cadw'i ddillad rhag y gwaed. Byddai pawb hwyr neu hwyrach yn cerdded y tri cham ar ddeg i'r theatr fach a'r gwely gwyn. Wedi'r gawod a'r dillad gln, ac yntau'n swatio'n ei sedd ar y bws adref trwy'r caeau ŷd, byddai'i feddwl yn tawelu ac yn troi at bethau amgenach.

Dywedodd wrthyf iddo gael dyrchafiad dri diwrnod ar l fy nhrin. 'Symud i fyny'r grisiau,' oedd ei eiriau. Dyna lle roeddan nhw'n penderfynu'r polisau. Roedd yno garped o dan draed. Ond roedd y coffi o beiriant botymau ac roedd y ffenestri'n cau agor; roedd hi'n rhy boeth yn yr haf ac eto drwy'r gaeaf fyddai'r gwres canolog byth yn gweithio.

Fi oedd y carcharor diwethaf iddo ei brosesu. Roedd o'n falch nad oedd o ddim yn y busnes yna ddim mwy. Dair blynedd yn l collodd gefnogaeth y pennaeth a chafodd ei gyhuddo o fod yn wrth-chwyldroadwr. Roedd ei lygaid ymlusgiaid yn pefrio arnaf. Roedd o'n mynd i'w ateb drannoeth, wedi gofyn am fy ngweld. Mae'n siŵr ei fod o'n nabod digon yma i gael ambell ffafr. Wn i ddim pam ei fod isio 'ngweld i. Hwyrach nad oedd neb heblaw fi ar l o'r rhai a fu dan ei ddwylo.


Mae'n anghyfreithiol cyfathrebu yn y carchar hwn heb ganiatd. Tydan ni'n byw yma fel chwain ar gynffon llwynog. Rydan ni'n nofio dros y rhaead. Dim ond weithiau daw'r atgof am yr haul trwy'r niwl fel melynwy ŵy mewn blawd a phatrwm brethyn y llarwydd melyn a'r coed pn fel locsyn morwr ar hyd y ln.
Mae ganddon ni wyddor newydd i siarad drwy'r waliau. Fedar y gwarchodwyr mo'i lladd hi, ond maen nhw'n cau dallt run gair na'i dysgu hi eu hunain. Dan ni'n diodda os ydan ni'n cael ein dal yn ei harddal hi.

Ond am ein bod yn gaeth mewn unigrwydd mae'r ysfa i gyfathrebu yn drech nag arglwyddi amsar. Tydan ni ddim yn gallu bod mewn byd heb neb heblaw ni'n hunain. Dyna pam mae'n bwysig cnocio waliau'n cymdogion.

Rydan ni wedi rhannu'r wyddor yn bump colofn o bump llythyren ac wedi rhoi dau rif i bob un. Taro'r rhifau hynny a bwlch yn y canol. Fe gymrodd dri mis imi ddallt sut oedd o'n gweithio a medru dallt y cwestiwn cyntaf, "Pwy wyt ti?" oedd wedi bod yn cael ei ofyn imi gan fy nghymydog ers deuddeg wythnos.

Roedd briwsion o gyfathrebu felly'n amheuthun i'r rhai a lwgai am gwmpeini. Byw mewn blwch a'r golau yn dy lygaid heb wybod na'r awr o'r dydd na'r nos a neb ddim callach o'th fodolaeth.

Cerddais yn fy nghell bob cam i America. Nl ac ymlaen fel pendil cloc, cyfrif'r camau, dychmygu'r siwrne. Troi'r gornel yn y stryd tu cefn i'r carchar a chroesi'r gamlas dros bont y cariadon. Lawr y rhodfa fawr dan gysgod llwyd y dail a'r ymbarelau. O ddwndwr y ddinas i'r maestrefi a'r gwastadeddau. Cerddedd y lonydd diarth am y gorllewin. Cyrraedd y ffin a thrio'i chroesi. Pan ti mewn cell ti ddim angen pasport. Croesi Ffrainc i gyd a Llydaw. Mynd i'r mr yn ymyl Brest. Cerddais fel Iesu ar wyneb y tonnau gan gyfri cilomedrau fesul mil o gamau. Ambell waith byddai heigiau o bysgod yn cosi fy fferau. Dro arall cawn gwmpeini llambedyddion. Unwaith gwelais aderyn ar adain lydan yn troelli fel cudyll uwch fy mhen.

Ymhen hir a hwyr daeth y gwylanod i'm croesawu i'r byd newydd a finnau'n gweld seren las yn codi dros y gorwel. Gweld bryncyn glas a dau lyn glas arno. Gweld llaw yn dal ffagl dn fydd byth yn llosgi. Lawr yn y Tir Chwalu ar ben Hir Ynys. Mynd yn ddi-ffeth yr holl ffordd i'w thŷ yn y Ddinas Newydd.

Roedd fy ngwraig yn sefyll a'i chefn ataf yn y gegin yn tafellu ciwcymber hefo cyllell o Siapan. Pesychais. Troes hithau ar ei sawdl ac aeth y gyllell drwydda'i fel tawn i'n wynt. Troes yn l at y sinc gan weiddi ar Jeff i agor ffenest, ei bod hi'n oer.

"Paid malu," meddai'r dyn. "Mae hi'n ganol Gorffennaf."

"Wn i hynny," meddai hi. "Hwyrach mai'r peiriant awyru sy'n rhy gry." Aeth o'r gegin ac mi es innau ar ei hl hi.

Nid i sbo'r peiriant awyru'r aeth hi ond i sefyll ar y feranda a syllu tua'r dwyrain. Roedd hi'n noson gynnes glos. Sbodd ar y sr. Hwyrach ei bod hi'n cofio amdanom ni fel yr oeddan ni ac yn clywed aroglau llosgi'r ffridd yn ei ffroenau.

"Pan oeddwn i yn dy freichiau unwaith mi ddywedaist wrtha'i fod dy fyd yn gynnes," meddwn i wrthi. "Rŵan dwi'n dy wneud di'n oer."

Aeth o'r feranda fel petai gwynt wedi ei chwythu'n l i'r tŷ. Sgwn i weithiau fydd hi rhwng nos a bore'n deffro a'm llais yn dal yn ei chlustiau? Hwyrach ei bod hi'n falch i gael ei thraed yn rhydd yma'n y byd newydd. Hwyrach na fedr hi ddim yngan fy enw i erbyn hyn. Gofynnais iddi ond ches i ddim ateb.


Es i heibio iddi ac i fyny'r grisiau. Roedd yna hogyn yn ista ar wely'n chwarae gm ar sgrn. Eisteddais ar ei wely. "Ianto wyt ti, ynde?" meddwn i.

Cododd ei ben.

"Cer i dy wely, Ianto," meddai llais ei fam o waelod y grisiau.

Rhoes ei law ar fy ngln, aeth drwodd i'r gwely. "Mae'r gwely'n wlyb soc, mam," gwaeddodd.

"Pwy ddiawl sydd yn fan'na hefo chdi?" meddai'i fam. Clywn ei sodlau'n clepian ar y grisiau.

"Tydw i ddim wedi gwneud dim byd," meddai Ianto.

"Arnaf i mae'r bai," meddwn i.

"Dŵr mr ydi hwn," meddai'r fam gan ffroeni cledr ei llaw.


Cerddais i lawr y grisiau ac allan o'r tŷ. Cerddais o floc i floc ar hyd y strydoedd a'r gwynt yn fy hel fi yn fy mlaen. A'm ffrwyn ar fy ngwr euthum am Faltimr lle mae'r wisgi'n rhad a'r merchaid ddim ofn ysbrydion. Roeddwn i'n meddwl mai yno y cawn i hyd iddo fo. Roedd cerdded yn ddilyffethair yn braf a'm synhwyrau led y pen nes clywed pob brigyn o'r goedwig yn suo yn y gwynt a gweld llygad y lleuad mewn gwlithyn ar fonyn gwair. Sefais yn hir ar groesffordd wledig gan wrando'r gylfinir yn chwibianu o'r mynydd. Pan oedd o wedi gorffan gofynnais iddo oedd hi'n hawdd byw'n bruddglwyf am flynyddoedd. Edrychodd arnaf ym myw fy llygad a chodi ar ei adain heb roi imi atab yn y byd.

"Wfft i hyn i gyd," meddwn innau gan feddwl ei chychwyn hi am adra. Ond doedd yna ddim adra'n bod felly es i yn fy mlaen.

"Suma'i, erstalwm," meddai Wil Pont Ucha Braich gan gamu ataf ar draws y ln.

"Mynd i Faltimr?"

"Pam lai?" meddwn innau. Dangosais iddo fo lle cefais fy nghlwyfo yn fy nghoesau ac yntau'n tynnu gwynab sur.

Dywedodd Wil Pont Ucha Braich fod hogia'r syrcas wedi ei amgylchynu ger pwll y fawnog ddechra'r noson. Nid y sofran yn ei bocad oedd yr unig abwyd i'r lladron. Roeddan nhw am ei waed o hefyd.

"Pam na fasach di wedi sbo dy newid?" meddai. "Ynteu smalio na welis ti mo'r sofran oeddach di?"

"Smalio dim," meddwn i. "Toedd Llinos ond newydd ddeud wrtha'i ei bod hi'n disgwyl babi. Dim ond hynny a'r candi fflos oedd ar fy meddwl i."


Ches i ddim mynd yr holl ffordd i Faltimr wedi'r cwbwl. Dim ond ysbrydion go iawn sy'n cael mynd i Faltimr hefo Wil Pont Ucha Braich. Roedd fy nghoesau'n simsanu a'm gwynt yn fy nwrn. A dyma chwa o wynt ar fy moch a'r munud nesa aeth llafn o eirlaw i'm clust nes oeddwn i'n crafangu am rywbeth i afael ynddo. Roeddwn i ar ystlys mynydd a'r grug yn fregus a'r pridd mn fel tywod berwi wyau rhwng fy mysedd. Clywais sŵn fy mwtsias mawr yn crafu'r graig a sylweddoli fy mod i'n cwympo'n ddilyffethair.

Glaniais ar fwrdd llong a'm stumog yn codi i'm gwddf wrth iddi bowlio a rhowlio fel corcyn ar y don. Roedd y glaw'n hyrddio a'r tonnau codi drosom ac wedyn yn suddo'n bantiau oddi tanom. Roedd y morwyr wedi hen glymu eu hunain i'r hwylbrenni. Gwnes arwydd y groes cyn canu'n iach a'r byd a phlymio i'r dŵr.

Ond nid trochion eigion mr lanwodd fy mhen ond awel braf drwy'r coed palmwydd ar erchwyn traeth a'r dail yn dawnsio hefo'r haul. Wedi gwasgu'r dŵr o gonglau fy llygaid gwelais fy mod ar fy hyd mewn tywod gwyn, mn a hwnnw'n gynnes. Clywais adar o'r coed yn sgrechian.


Y tro nesaf agorais fy llygaid roeddwn i'n l yma o fewn y bedair wal gyfarwydd. Ond un diwrnod cafwyd hyd i ddwy nodwydd mewn tas wair. Daeth tystiolaeth i'r fei nad fi oedd ar fai. Cafodd llofruddion Wil Pont Ucha Braich eu dwyn i'r ddalfa a'm rhyddhau innau. Rŵan dwi'n gorfod meddwl am groesi Mr Iwerydd.

 

 

 

 

Y Filltir Sgwar

O odre deheuol y Moelwyn Bach mae cefnen hir a choediog yn ymestyn dair milltir go lew o Fraich-y-parc i lawr i'r Garreg. Roedd y Garreg, Garreg-pen-ar-Gyffin fel y'i gelwid gynt, a'i thrwyn yn y mr pan fyddai'r Traeth Mawr yn llenwi cyn belled Nanmor ac Aberglaslyn erstalwm, cyn dyddiau'r Cob. Mae'r dolennau haearn a ddefnyddid i glymu cychod i'w gweld o hyd ger hen efail y pentref hyd heddiw, ac mae eraill i'w gweld yng ngodre craig Garregalltran. Ynysoedd oedd y bryncynau bach sy'n britho'r morfa, fel y dengys eu henwau: Hir Ynys, Ynys Berfedd, Ynysfor, Ynys-fach. Plwyf rhwng y mr a'r mynydd oedd Llanfrothen, dau gwm yn codi o'r traeth: Cwm Croesor ar y naill ochor i'r cyffin yn codi tua'r Cnicht a chwm dipyn yn llai ar y llall yn codi hebio'r Wern a Moel Dinas i fyny am Bant-Mawr a'r Moelwyn Bach. Yng Nghefn Cyffin, ar ystlys ddeheuol y gefnen, y'm ganed i ym 1958 ac yno y cefais fy magu.

Ddau led cae o'r ty am i lawr mae nant o'r enw Afon Gaseg yn byrlymu heibio. Yng Nghae Ucha mae'i llygad hi a hithau'n llifo i lawr heibio'r Wern i'r morfa lle daw Afon Rhyd i ymuno hi cyn troi hebio'r Eglwys newydd allan heibio T-newydd-y-morfa i ymuno ymhen ryw filltir ag Afon Glaslyn fawr. Ac mae yn Afon Gaseg bwll nepell o'r pentref a adnabyddir ar lafar fel "Pwll Llong" ac ychydig yn bellach eto ceir "Llyn Wil Sin", y ddau le erbyn hyn dros bedair milltir o'r mr. Ceid cofnod yn llyfr cyfrif Plas Brondanw am ryw Gapten William Sin yn hwylio'i long i Llanfrothen ac mae'n debyg mai hwn roes ei enw i'r llecyn hwn:-

March 26, 1774. Wm Shone towards carrying culm 1/0

May 2, 1774 payd Wm. Shone boteman to go to his partner 5/0.

 

Mae'n siwr fod y Traeth Mawr yn werth ei weld ar dop llanw'r adeg honno, a'r mynyddoedd yn codi ar eu hunion o'r dw r a'u copaon yn y cymylau. Ym mhen ucha'r plwyf cyfyd y Cnicht pigfain i'r entrychion a'i gymdogion cefngrwm y Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach wrth ei ystlys. Am y morfa a nhw mae Moel Ddu a tholc yn ei thalcen a Moel Ehedog, neu Foel Hebog fel y'i gelwir heddiw, ac wedyn yr Wyddfa a'i chriw. Os sefwch ar ben y gefnen, gerllaw castell ffug Ben Twr, fe welwch islaw ar orwel y de-orllewin fwg simneiau Port yn dawch llonydd o dan Foel-y-Gest a'r mr wedyn yn sgleinio'r ochor draw. Mi fyddwn wrth fy modd yn hogyn yn gwneud mapiau o'r ardal gan nodi afonydd a nentydd y plwyf a'i fryniau a'i goedydd a chodi enwau'r ffermydd a'r creigiau ar llynnoedd i gyd. Roedden ni blant yn nabod bob twll a chornel o'n milltir sgwr, a ninnau wrthi o fore gwyn tan nos yn crwydro fel geifr ar hyd y creigiau ac yn dringo fel wiwerod yn y coed ac yn meddwl yn siwr mai ni oedd brenhinoedd a breninesau'r plwy. Roedd hi'n braf cael mynd am dro i'r rhaeadrau ar dywydd poeth ganol yr haf a chael dysgu nofio ym mhyllau'r Pandy a chlywed oglau'r mwsog yn oer a swn y dwr yn colbio'n clustiau a'r dafnau'n wynion ar y glaswellt ac ar y dail. Pandy'r Parc ydi'r hen enw arno fo ac mae pyllau'r olwynion dwr i'w gweld uwchben ac islaw'r rhaeadr hyd heddiw. Mi roedd digon o drafnidiaeth i'r lle hwn gynt mae'n rhaid gan fod ffordd bwrpasol o'r Parc i'r Pandy a dwy wal bob ochor iddi; ond tydi'r ffordd yn arwain i nunlle ond i'r Pandy felly tydi hi'n dda i ddim i neb erbyn hyn. Mae'n rhaid fod y Pandy cyn hyned 'r Parc lle trigai'r Anwyliaid o 1570 hyd tua 1700, ond nid oes gofnod o weithred nac undim arall amdano cyn 1710 pryd y trigai Sin Llwyd ynddo fel pannwr; yn llyfr cyfrifon Brondanw ceid:-

Ebrill 26, 1710 talu'r pannwr ddarn o'i lafur am weithio 13 llath o ddefnydd a 34 llath o frethyn @ 5/0.

Awst 2, do. talu am liw i lifo gwlanen ar gyfer dillad 'nhad 1/0.

Bu plasty'r Parc yn gyrchfan pwysig i feirdd Cymru ar hyd yr oesoedd. Ganrif cyn dyddiau Sin Llwyd y Pandy roedd Huw Machno'n fardd teulu yn y Parc a fo ganodd gywydd marwnad Lewis Anwyl ym 1605:

Gwladwr caf, glewdwr cyfiawn,

Golud a dysg gwlad a dawn,

Aer da'i rwysg erioed a'i wraidd,

Ac aeres ei wraig iraidd.

Cyn hynny bu Wiliam Lln yntau'n fardd teulu yno. "Bardd wyf fi heb rodd i fyw" meddai wedi marwolaeth ei noddwr, Robert ap Morys o'r Parc ym 1576. O'r ardal hon cyn hynny yr hanodd Dafydd Nanmor a alltudiwyd o Wynedd oherwydd ei gerddi i Gwen o'r Ddl, ac yma yn yr Hafod Garegog y magwyd Rhys Goch Eryri - ac mae'r cof am hwnnw'n parhau yn yr enw a roddir ar gopa Bryn Twr rhwng Afon Nanmor ac Afon Dylif, sef Cadair Rhys Goch. Fe barhaodd y traddodiad barddol yn hir yn yr ardal hon, nid yn unig yn y Parc ond hefyd ym Mhlas newydd ac yn y Wern. Canodd Ellis Rowland gywydd marwnad ei noddwr Ffowc Sins y Wern ym 1720:

Beirdd Gwynedd beraidd ganiad

Trostoch, glr, daeth tristwch gwlad

Am athro fu i'm meithrin,

Ac un a wni'r gn yn win.

Yn ddiweddarach lawer cafwyd beirdd megis Thomas Richards Wern a Ioan Brothen i gynnal y traddodiad canu caeth; hon yn wir oedd un o'r ardaloedd cyfoethocaf ei beirdd yng Nghymru yr adeg honno. Ac nid ddaeth y traddodiad i ben eto. Mae yma feirdd o'r ardal fydd yn ymryson yn gyson ar Dalwrn y Beirdd.

Ond dichon mai Ioan Brothen oedd y mwyaf adnabyddus o feirdd yr ardal yn ystod hanner cyntaf y ganrif hon. Buasai'n gweithio am gyfnod hir yn chwarel y Rhosydd, 1,400 o droedfeddi uwch ben y mr ar fwlch-y-Rhosydd rhwng Cwm Croesor a Chwmorthin. Ar un adeg fe gyflogid tua 200 o ddynion yno a'r rheini'n byw ar hyd yr wythnos mewn barics ar yr esgair anial. Dyma fel y canodd Ioan i'r lle:

 

                        Hunwn (a blin oedd hynny) - yn fy oer

                            Annifyrraf lety

                        A theimlo brath amal bry'

                        Ar waelod y budr wely.

Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf roedd mwyafrif dynion Llanfrothen yn gweithio yn y chwareli, ond eu bod nhw hefyd gan amlaf yn fn dyddynwyr yn cadw ychydig dir i ategu'r cyflog o'r chwarel.

Erstalwm roedd ffiniau'r plwyf gryn dipyn yn ehangach nag y maen nhw heddiw, yn ymestyn hyd Trwyn-y-Penrhyn ar ben draw eithaf Penrhyn Deudraeth. Bu Gerallt Gymro heibio'r lle ar ei daith drwy Gymru ym 1188. "Aethom, wedi hynny," meddai, "dros y Traeth Mawr a'r Traeth Bychan...lle y gosodwyd o'r newydd ddau gastell o gerrig: y naill yn Eifionydd, yng nghyfeiriad mynyddoedd y Gogledd, a berthynai i feibion Cynan, a'i enw Deudraeth..." Teithiwr arall a fu ar dramwy drwy'r ardal oedd George Borrow, ym 1854, ar ei ffordd o Feddgelert i Faentwrog. Fe ddaeth ar ei rawd dan gronglwyd Craig Garregalltran ac ar draws y morfa i Dan Lan. Gwelodd yno fwthyn gwyngalchog ac arwydd y tu allan iddo a fyntau'n gobeithio y ci yno gwrw da ond "Tea made here, the draught which cheers but not inebriates." oedd yr hyn sgwenwyd ar yr arwydd.

"The bill of fare does not tempt you, sir," meddai'r ddynas a ddaeth i'r drws...

"It does not," said I..."What's the name of that strange looking crag across the valley?"

"We call it Craig yr hyll drem, sir; which means - I don't know what it means in English."

"Does it mean the Crag of the frightfull look?"

"It does sir," said the woman; "ah, I see you understand Welsh. Sometimes it's called Allt Traeth."

"The high place of the sandy channel," said I, "did the sea ever come up here?"

"I can't say, sir; perhaps it did; who knows?"

I fyny'r allt ychydig yn bellach draw o Tan Lan, tua'r flwyddyn 1550, fe ddechreuwyd adeiladu stad fechan Brondanw gan ryw Hywel neu'i gilydd ac fe ddaeth hi gydag amser i gynnwys y tir o 'Garreg-pen-ar-Gyffin' hyd odre'r Moelwyn Bach. Ymhen amser aeth y stad i feddiant Robert ab William o'r Gorllwyn Uchaf ar lethrau Moel Ddu ac yna i'w fab William Roberts. Dyma'r cyfnod pryd yr ailadeiladwyd llawer o'r Plas ac mae yno i'w weld hyd heddiw lechen ar dalcen y ty gyda'r llythrennau W.W. 1660 arni sy'n cofnodi'r gwaith a wnaeth (W)illiam (W)illiams, etifedd William Roberts, ar y lle.

Ymhen amser fe ddaeth y stad o law i law drwy'r teulu i feddiant mab ac etifedd John Williams Ellis a Harriet Ellen ei wraig, sef John Clough Williams-Ellis, mathemategydd, ysgolhaig a bardd a arddelai'r enw barddol Sin Pentyrch. Priododd ag Ellen Mabel, merch John Greaves, Plas Waenydd a bu iddynt chwech o feibion. Wedi ei farw ym 1913 daeth Plas Brondanw i feddiant ei ail fab, Betram Clough Williams-Ellis, sef fy nhaid innau.

Roedd fy nhaid yn 75 mlwydd oed adeg fy ngeni ac mi gafodd fyw am ugain mlynedd ar l hynny wedyn. Yn Llanfrothen yr oedd ei wreiddiau fo ac yma y mae fy rhai innau. Er gwell neu er gwaeth, dyma'r lle a'm gwnaeth yr hyn ydwyf; dyma'r lle y mae ei dirlun yn rhan ohonof 'r gwyntoedd syn chwythu drosto yn un m hanadl.

 

 

 

 

GWARTHEG AR Y DRAFFORDD

Mae'na wartheg ar y draffordd uwchben Delhi Newydd. Gwartheg gwynion, budron hefo lwmpyn ar eu cefnau. Maen nhw'n cnoi cil yn ara deg a nhwythau'n sefyll neu'n gorwedd yn y llwch. Ceir yn gwyro i'w hosgoi.Gan y gwartheg mae'r hawl ar y ln mae'n amlwg, fel defaid Blaenau Ffestiniog. Tydi hi'n rhyfedd y pethau sy'n debyg rhwng Cymru ac India? Yn Rajastn bydd y beirdd gorau yn hanu o bentrefi penodol lle mae'r traddodiad magu beirdd yn gryf. Mae'r cylchdeithiau barddol yn bethau hanfodol o hyd. Mewn pentrefi eraill megir cyfarwyddiaid crwydrol. Gwelais gyfarwydd proffesiynol wrthi gerbron y bobl a'i fab teirmlwydd yn dal cannwyll iddo ac weithiau'n canu pib. Dywedodd Marc Kharre wrthyf ei fod o'n caru India, "am ei bod hi mor rhydd." Ar y pryd roeddo'n gyrru fel cath i gythraul i Jaipwr mewn Maruti. Talu cildwrn wnaetho er mwyn cael trwydded, nid sefyll prawf. Doedd o ddim yn nabod neb oedd wedi sefyll prawf gyrru. Wyddai o ddim a oedd yna brawf yn bod. Beth bynnag, pa les fyddai prawf lle nad oes rheolau? 

Ddiwedd pnawn adeg Diwali oedd hi ac mewn munud, fel oren yn syrthio, dyma hi'n nos. Pan gyrhaeddom ni ei dy^ aeth y to ar dn. Y traddodiad adeg Diwali ydi tn gwyllt ar bob stryd ac roedd un o'r rocedi wedi gwibio i'r ddail y winwydden ar dalcen ei dy^ gan roi'r dail ar dn. Roeddem ni'n sefyll ar ben y to. Edrychodd arnaf a'i lygaid yn tasgu fflamau ac estyn ei gledrau at y gwres. "Roeddwn i'n dechrau'i chlywed hi'n fain," meddai. "Ty'd, estyn at y bwyd yma." Toc daeth y gweision i basio pwcedi o law i law mewn ymgais i ddiffodd y goelcerth. 

Nid yw'n wir fod pawb sy'n mynd i India yn mynd yn sl hefo'r bwyd. Dim ond un tro yr es i'n sl a hynny ar l salad yng o westy'r Oberoi. Roedd y dail letys yn iach a dilychwyn ond efallai na ddylid bod wedi eu trochi mewn carthffos cyn eu gweini. Ta waeth, roedd colli pymtheg pwys mewn wythnos yn brofiad diddorol. Awgrymodd y doctor y dylwn orffwys a chan fy mod yn methu symud bawd na throed ni bu'n anodd cytuno. Ni allwn sbo ar letysen am yn hir wedyn. Dyna'r adeg hefyd y dechreuais wfftio at ddw^r a throi at win. Mae Gwin Coch Golconda yn goch ac yn dod o Golconda ond wn i ddim pwy feddyliodd ei alw'n win. Bu'n rhaid teithioi'r anialwch am lymed o ddw^r croyw i dynnu'r blas. Mae dw^r gloyw ffynhonnau dyfnion Rajasthan yn cael ei fesur fesul tropyn i wydrau bychain cain. Ac yn uwch ei barch na gwin. Mae'r bwyd yn iach yn yr anialwch hefyd. Y Maharaja ei hun aeth fi yno yn ei jp. Llond dwy landrofar ohonom yn crafangu am rywbeth i afael ynddo fo. Roedd o'n gyrru'n wyllt heb na ffos na ffordd i'w arwain, dim ond twyni tywod am a welet. Yn y pentref cyntaf y trawsom arno roedd hi'n arfer gan y bobl roi croeso i deithwyr lluddedig trwy gynnig iddynt lefrith hefo opiwm wedi ei doddi ynddo. "Mi cyma'i o drosoch chi," meddai'r Maharaja. "Nid ydych wedi arfer." O hynny allan aeth ei yrru o ddrwg i waeth ac aeth i saethu dryll hir gan lywio'r jp hefo'i benelin. Eglurodd fod teigrod a llewpartod yn y cyffiniau ynghyd chathod y jwngl ac eirth sloth, crocodeilod, jacanod, udfilod, tsincaraod, sambarau, nilgwn, gaseliaid, baeddod, mongwsiaid a sgwarnogod. Nododd hefyd fod genau goegion monitor gerllaw a pheithonau. Saethai weithiau i'r awyr. "Oes yma adar hefyd?" holais gan na welwn yr un. "Adar!" gwaeddodd. "Wrth gwrs bod yma adar. Tydi'r lle yma'n berwi hefo Ciconiaid paentiedig, ciconiaid duon, peunod, eryrod, fwlturiaid, hwpwod a mn adar eraill." Gwaharddwyd hela yn yr anialwch adeg difreinio'r tywysogion o'u hawliau statudol gan Indira Gandhi ganol y 60au ond efallai nad oedd neb wedi sn wrth ein Maharaja ni. Ei dir hela oedd hwn a thir hela'r Maharaja oedd o am fod. Gwnaed y lle yn Barc Cenedlaethol yn 1982 ond ni wnaeth hynny namyn hogi min ei ysfa i ladd. "Ceid yma dros dri chant a hanner o wahanol rywogaethau o adar prin un adeg," ymffrostiodd wrth y bar yn ei blasty wedi ei droi'n westy y noson honno. "Bellach mae'r ffigwr dan gant ond mi ddaw'n is o wella fy annel ychydig." Ei hoff adaryw'r rheini sy'n bwrw'r Gaeaf yma cyn dychwelyd i'w cynefin gogleddol yn y Gwanwyn: pelicaniaid, telor Siberia, garanod, gwyddau, chwiaid, eryrod, gweilch, llamystennod, hebogau, dwy siglen fraith ac un ehedydd. "Ond y ffefryn gen i," meddai'n llawen gan roi clec i wydraid sylweddol arall o Johnny Walker, "yw garan mawr gwyn Siberia. Dim ond deucant ohonyn nhw sydd ar l, a'r rheini'n cyrraedd yma o ben draw'r byd."  O aberoedd afon Ob y deuant dros fynyddoedd yr Aral chwe mil o gilomedrau gan basio dros Affganistn a Phacistn i chwarae mig gyda bwledi'r brenin. Mae llond ei gynteddau a'i neuaddau o bennau adar ac anifeiliaid. Yn ei faddondy mae'n cadw crwyn llyffantod wedi eu chwythu'n swigod. Yn y bwyty mae ganddo bennau teigrod a llewpartod. Yn fy llofft roedd draenogod wedi eu stwffio'n britho'r waliau, rhai mn a rhai mawr. Yn anffodus byddai'r pinau o'u cefnau'n aml yn cwympo i ganol fy ngwely yn ystod y nos. Cwynais a chefais lofft arall.Yn hon roedd troed eliffant wedi ei gosod i ddal ymbarelu ac un arall yn gwneud bin sbwriel. Roedd pen y cawrfil uwch fy ngwely ac wrth dynnu ar ei drwnc gallwn ganu'r gloch i alw'r gwas. Rhwng y pennau yn y cyntedd roedd arddangosfeydd o arfau pigog a drylliau hynafol. Roeddwn wedi cael ar ddallt nad oedd neb i drafod gydag ef y ddamwain angheuol a ddaeth i ran ei dad, y Maharaj Singhji Hathiwala III un hwyrnos chwil pan faglodd ar y grisiau a thynnu cawod o bicelli a gwaywffyn o'r parwydydd am ei ben y rhai a'i trywanodd yn enbyd onid oedd wedi ei hoelio fel croen twrchyn i'r carped. Ond un noson a finnau wedi llwyddo i'm cloi fy hun allano'm llofft cefais le i ystyried tranc anffodus y tad. Euthum i'r cyntedd i holi am agoriad sbar. Nid oedd neb ar ddihun. Bm am blwc yn astudio'r pennau corniog a'r arfau a'r arfbeisiau ac yna sylwais ar y tyllau ar y llawr. Dyma beth od, meddyliais, gan gofio'r honiad mai wedi syrthio o'r grisiau yr oedd yr henwr truain. Wrth astudio'r tyllau a chymharu'r pellterau oddi wrth y wal daeth yn lled amlwg na allai'r gwaywffyn ddim bod wedi o'r pared i wneud cebab o'i dad o. Roedd yn amlwg fod rhywun wedi pledu'r creadur hefo picelli o  ben y landin. Yn ebrwydd clywais besychiad. Safai'r mab yn ei ddillad hela a'i ddryll yn ei law a'r llaw arall yn troilli pen pigfain ei drawswch. Eglurais yn ffwndrus pam fy mod i'n stelcian hyd ei goridorau yn oriau mn y bore yn fy mhajamas. "I shall shoot you," meddai yntau. Anelodd ei ddryll at fy nhalcen. "Toes gynnoch chi ddim lle i ben arall ar eich parwydydd," ymbiliais innau. "Efallai mai dim ond tynn ydi'r drws, nid wedi cloi." Rhoddais gic i'r drws nes bod y pren yn crensian. "You have spoilt my door," meddai'r heliwr. "This is bad cricket you wicked Welshman!" Dyna pryd y deallais maiSais oedd y Maharaja hwn o ran anian os nad mewn ymarweddiad. Ar amrantiad datryswyd dirgelwch y tatws rhost i frecwast a'r uwd i swper. Ni soniais wrtho am fy amheuon ynghylch tranc ei dad. 

Yn Nghashmr cefais datws rhost hefyd, wedi eu rhostio'n unol a'r hen drefn. Coffa da gan hen gojars y dyffryn am y byddigions main a fyddai'n eu gwyliau ar lyn Dl yn eu cychod mynd i nunlle. Mae'r cychod yn o hyd wedi eu sodro hefo stanciau fel egwyddorion Ceidwadwyr. Bob bore bydd hanner cylch o fasnachwyr, crefftwyr a marsiandiwyr yn nhin y cwch yn aros i gyfarch gwell 'r teithwyr talog sy'n codi o'i gwelyau. Daw eraill heibio ar gychod hirfain i gynnig ffrwythau neu ddiodydd. Mae'r bwyd yn gyfuniad o'r brodorol a'r traddodiadol Prydeinig. "Ond mae pethau wedi newid, cofiwch", pwysleisiodd y penteulu, Aziz wrthym a hwnnw wedi bod unwaith yn gogydd ym myddin y Raj. "Roeddwn i'n uchel fy mharch am fy mhwdin yn y fyddin," meddai. "Y fi oedd y gorau am wneud pwdin Efrog a phwdin rwli-pwli. Mi wyddwn sut i ferwi blodfresych nes ei bod hi'n chwalu a gallwn hwylio cawl gwinau Windsor bendigedig. Fi hefyd oedd pencampwr saws gwyn y Saeson. Pwy heddiw sy'n cofio sut i wneud saws gwyn? Ydi'r Prydeinwyr yn ei werthfawrogi o hyd, deudwch? Wn i ddim pwy fydd yma ar f'l i gynnal traddodiad saws gwyn y dyffryn. Nid yw'r meibion wedi dangos diddordeb ac nid gwaith genethod yw gwneud saws gwyn, bid siwr. Mae'n berygl mai darfod gyda mi wneith y rist a bydd dim saws gwyn i ginio eto yng Nghasimr." 

Yn l y traddodiad roedd Casimr dan ddw^r llyn un adeg nes i Casiap ei yfed a'i boeri dros y Pwnjb. Braminiaid oedd y bobl gyntaf a ddaeth i'r dyffryn. Daeth cenhadon Bwdistaidd o lys Asica wedyn a blagurodd diwylliant Bwdistaidd yma yn ystod oes Cwsin oddeutu dau gant Oed Crist. Ond y diwylliant Hindw^aidd oedd prif ddiwylliant y dyffryn hyd nes trechwyd Udiana Defa yn 1346 a choroni Siams-ud-Din yn frenin. Ei linach ef a deyrnasodd hyd 1586 pan wastrodwyd y dalaith gan Acbar a'i dwyn i'w ymerodraeth. Yn 1757 concwerwyd y lle eto, y tro hwngan Achmet Si a'i gwneud yn rhan o Affganistn. Yn 1819 cipiwyd y dalaith gan Ranjit Singh a'i gwneud yn rhan o ymerodraeth y Siciaid. Wedyn, yn 1846, pan drechwyd y Siciaid gan fyddin Prydain fe werthwyd Casimr i Gwlap Singh o Jammu am saith miliwn a hanner Rwp. Unarddeg blynedd wedyn dilynwyd Gwlap Singh gan Rambir Singh a daeth dau Farajaha arall ar ei l: Partab Singh (1885-1925) a Hari Singh (1925-1949). Hindwiaid oedd y tywysogion hyn er bod y bobl, at ei gilydd, yn Foslemiaid. Pan ddaeth annibyniaeth yr India yn 1947 cafodd y tywysogion i gyd yr hawl i ddewis naill ai Pacistn neu India. Yng Nghasimr roedd y Maharaja mewn cyfyng gyngor. Ac yntau'n Hindw^ roedd 80% o'i ddeiliaid yn Foslemiaid. Dyma fel y datganodd ar y pryd: "Yn awr, felly, yr wyf i Shriman Inder Mahander Rajrajeswar Maharajadhiraj Shri Hari Singhji, Jammu or Kashmir Naresh Tatha Tibbetadi Deshadhipathi, Teyrn Talaith Jammu a Kashmir, wrth arddel fy sofraniaeth dros y Dalaith ddywededig yn awdurdodi'r Weithred Ddyfodiad hon gan ddatgan ohonof ei hildio i Ddominiwn yr India...gyda'r bwriad i lywodraethwr cyffredinol yr India weithredu o ran Talaith Jammu aKashmir...y dyletswyddau hynny y'u hymddiriedir ynddo dan ddeddf Llywodraeth yr India, 1935, fel y'i gweinyddir yn Nominiwn yr India, y15ed dydd o Awst, 1947". Dadl yr Indiaid yw bod y Weithred Dyfodiad hon wedi ei harwyddo gan Mahrajah Hari Singh ar y 26ain o Hydref 1947, a bod y Mahrajah wedi cytuno i ildio'i dalaith i India er mwyn derbyn cymorth milwrol i oresgyn gwrthryfel poblogaidd yn ei erbyn. Eithr mae'n annhebygol iddo arwyddo'r ddogfen ar y 26ain gan ei fod ar y ffordd iJammu y diwrnod hwnnw, taith o tua 350 o gilomedrau. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod cyfarfod wedi bod rhyngddo a'r llywodraeth ar y 26ain. Dim ond ar y 27ain y cynghorwyd y Maharaja gan MC Mahajan a VP Menon (a oedd wedi hedfan o Srinagar yn un swydd) fod y Weithred Dyfodiad wedi ei chytuno yn Nelhi. Arwyddwyd y Weithred, os arwyddwyd hi, ar y 27ainHydref 1947 a milwyr India yn barod yn eu barics yn Srinagar. Nid yw'r weithred wreiddiol wedi gweld golau dydd erioed mewn fforwm rhyngwladol. Fersiwn wedi ei brintio a ddangoswyd yn unig hyd yma. Yn ystod haf 1995 cyhoeddodd awdurdodau'r India fod y ddogfen wreiddiol wedi mynd ar goll. Mae rhai'n amau a arwyddwyd hi o gwbl. Ar un ystyr, a ydi hynny'n gwneud gwahaniaeth i neb? 

Ni wyddwn ddigon i ateb ac roeddwn hefyd newydd sglaffio nifer o gebabiau a pheli briwgig a llwyth o fara fflat. Nid oeddwn wedi sylweddoli fod wyth saig arall i ddilyn, y cwbl ar blatiau arian ar betalau rhosod ar y lawr. "Oes gennych chi fynyddoedd yng Nghymru?" holodd Aziz. Cadarnheais fod gennym fynyddoedd. Ymhen blwyddyn daeth ei fab i Gymru ac fe'm holodd eto am leoliad y mynyddoedd. "Dacw nhw," meddwn innau gan bwyntio tua'r Wyddfa. "Ni welaf ddim byd heblaw rhyw fan fryncynau a chymylau," meddai'r mab. "O, ia," meddwn innau, "ond yn y cymylau yna uwchen y bryniau mae'r mynyddoedd, rhai enfawr enbyd sy'n cyrraedd yn agos at y lleuad. Mae yna wledydd ar erchwyn y mynyddoedd yna na w^yr neb ar lawr gwlad mo'u henwau na dallt eu hiaith." "Ie," meddai yntau,"mae lle felly uwchben Casimr o'r enw Ladhac. Mi af thi yno y tro nesaf y deui draw."

Un o'r unig lefydd sydd ar l a hen ddiwylliant Bwdistaidd Tibet yn dalei dir yn dynn ydi Ladhac. Oherwydd yr uchder, am chwe mis o'r flwyddyn mae hi'n oerach nag ar begwn y Gogledd ac am bum mis mae hi'n baradwys o ffrydiau a ffrwythau a chaeau melyn. Lle tebyg ydi bwlch Rotang ym mhen uchaf Cwm Cwlw ddau can milltir i'r dwyrain. Manali ydi'r brif dref a'r bwytai'n aml yn rhai Tibetaidd gyda lluniau'r Dalai Lhama ar bob wal. Ffynhonnau poethion sy'n nodweddu'r ardal a choedwigoedd pin. Rhaeadrau ewynnol yn rhuo o fynyddoedd yr Himalia a dolydd a'u llond o flodau gwylltion. Un tro daeth Fifisfata, seithfed ymgnawdoliad Manw, i'r ardali gael profi'r ffynhonnau poethion. Yn ei faddon un bore cafodd hyd i silidon. Dywedodd y pysgodyn pitw wrtho mai Matsya oedd ei enw a gofyn iddo'i warchod a'i fagu oni phrifiai'n bysgodyn praff. Edrychodd y seithfed Manw ar y darpar bysgodyn yng ngwaelod ei gwpan. "O'r gorau," meddai a'i luchio i danc pwrpasol gerllaw. Dysgodd gan ei bysgodyn lawer o hanfodion byd pysgod llynnoedd India. Magodd ef onid oedd fel macrall a'i fagu eto onid brifiodd i faintioli siarc a'r bath wedi mynd yn rhy fach iddo. "Beth wnaf thi a'm baddon mor fach?" meddai Fifisfata un bore. "Cer fi i'r mr," meddai'r siarc. Cyn llithro i'r lli sibrydodd Matsya'r Siarc yng nghlust Fifisfata y seithfed Manw: "Daw dilyw dros y byd a mud fydd y fro dan ddw^r y llyn," meddai.  "Beth a wnaf?" holodd Manw. "Gwna arch o estyll preiffion i'th gynnal ar y weilgi wyllt," meddai Matsya. Pan ddaeth y glaw 'roedd y seithfed Manw'n barod a'i arch yn gorcyn hylaw ar y dw^r. Wedi'r dilyw daeth sychder a Manw'n clywed trwyn ei gwch yn crafu ar y graean. Pan giliodd y dw^r gwelodd ei fod ar gopa bryn uchel. Manali ydi enw'r lle hwnnw heddiw, a'r enw'n tarddu o enw'r seithfed Manw a laniodd ar y bryn. Wn i ddim beth ddigwyddodd i'r pysgodyn. 

O gylch Manali mae'r creigiau'n codi'n wyn o dduwch fforestydd pn a rhodedendron. Mae'r cymylau'n rhannu ar y creigiau ac aroglau'r coed yn debyg iawn i'r hyn fasach chi'n ei ddisgwyl. Yn yr haf mae'r perllannau'n drwm o ffrwythau a bwrlwm nentydd yn llenwi'r pentrefi cerrig. Dim rhyfedd fod yr hipis cyntaf wedi gwirioni ar y lle pan welwch pa fath o chwyn sy'n tyfu lannau'r lonydd. Mae hi'n anffurfiol hyd heddiw yng ngwestai safonol y cwm. "Lle mae'r toiled?" holais yn unohonynt. "Allan trwy'r drws, dros y ffordd a'r tu l i'r orsaf fysiau," oedd yr ateb. "Ond aros i'r bws adael." Mewn lle arall a hithau'n hwyr y nos roedd y bwyty'n gwagio. A dyma ddau o'r gweinyddwyr yn dechrau symud dodrefn a ninnau wrthi'n llymeitian coffi. Toc dyma nhw yn eu hl yn eu pajamas gan lusgo dau wely i ganol y llawr. "Nos dawch," meddan nhw gan ddringo i'r gwelyau a chodi dwy gledr llaw at ei gilydd. Cawsom bas yn l gan lond bws bach o Siciaid oedd wedi dyfod i brofi anturiaethau bwlch Rotang. Wedi gweld faint o boteli wisgi gweigion oedd ganddynt yng nghefn y bws gwrthodais y cynnig i ymuno ar daith i'r mynyddoedd drannoeth y bore. Rwy'n falch, serch hynny, fedru cadarnhau i'w taith fod yn llwyddiant ac iddynt ddychwelyd yn ddianaf. Nid y nhw, fod bynnag, ydi'r unig yrwyr anwadal yn India. Yn sicr nid oes neb o'r gyrwyr loriau wedi cael prawf gyrru. Ar ben hynny maen nhw gan amlaf allan o'u pennau ar alcohol ac opiwm er mwyn cadw'n effro ar hyd y nos ar draws yr isgyfandir. Ar gwt pob cerbyd gwelir arwydd: Wait for Side. Horn Please. OK.TaTa. Rhestrir eu trwyddedau teithio gyda balchder: All Hariana, UP, Punjab, HP, Bihar, Maharashtra. Nid ydynt yn edrych mor dda a'u tinau i fyny yn y ffos lle bydd canran go dda o gerbydau India'n diweddu. 

Yn Hariana unwaith mewn tacsi du a melyn ynghanol nos daeth sw^n rhyfedd o'r injan. "Dim problem" meddai'r gyrrwr gan siglo'i ben yn rhithmig. Diffoddodd y goleuadau er mwyn arbed y batri. Roedd hi'n noson gynnes fel inc. Doedd dim goleuadau ar y ln. Dim ond siffrwd cyson certiau camelod, gwichian certiau bustych a chlep gwadnau sandalau ar lwch y llawr. Sw^n ac aroglau troliau'n powlio'n araf ers canrifoedd. Cafwyd fflashlamp o rywle ac aeth y dyn i fol y modur. Mewn dim roedd wedi trwsio'i beiriant. Pan daniodd yr injan daeth y llifoleuadau melyn a gwneud y gorffennol yn bell eto. Mewn awr arall roeddwn mewn gwesty modern arall yn Nelhi. Nid pellter o ran milltiroedd sy'n pwyso ar ddyn yn India ond pellter y byd. Wedi sefyll ennyd ynghanol diffeithwch daw'r bobol atat o bob cyfeiriad yn blant ac yn bentrefwyr. Dim ond i weld y dieithryn, nid i ofyn am ei gardod na'i gydymdeimlad. Dim ond i gael edrych yn dy lygaid a gafael yn dy law. Yng Nghymru heno mae hi'n bwrw glaw. Mae'r defaid yn y cae yn llwyd ac yn llonydd a'r gwartheg ar y draffordd yn dal i gnoi cil yn y cof.

Robin Llywelyn

1/6/99

 

 

 

 

 

Gŵr y Plas

Deffrais am crys coler starts yn dal amdanaf. Straffaglais at y ffenest gan dynnu ar fachyn y tei bach ddu. Roedd yr haul yn fawr mewn awyr wen ac olion traed yn brithor traeth. Gwelwn bobl yn crwydro a'u cŵn yn prancio. Pwy roes fi yn fy ngwely? Doedd dim golwg ohonot ti. Dim sŵn plant. Canrif newydd a finnau heb syniad sut y deuthum i fan hyn. Cofiwn ddechraur noson yn eglur ddigon. Cofio rywdron ystod y gydar nos yr alwad at erchwyn hen storwr. Dyna ydi drwg chwilfrydedd, methu gadael lonydd i bethau fod. Roedd hi wedi hen basio hanner nos erbyn imi gyrraedd y partin l a finnaun gorfod rhoi clec i lond cratsh ar fy nhalcen er mwyn dal i fyny. Mae gen i gof o ddrws cerbyd yn agor a dwylon fy ngwthio. Yma yn nechraur pnawn dwin dechrau cofior gweddill.

Gorwedd i wyneb at y pared yr oedd o. Ni throes ataf; cafodd ei droi gan y nyrs a afaelodd am ei ysgwyddau ai droi fel logyn ar y tn. "Mi ddoist," meddai ymhen ennyd. Estynnodd ei law; roedd ei fysedd fel brigau sychion. Teimlwn ei lygaid arnaf ac ar fy siwt am tei bach ddu. Efallai fod rhain credu mai meddyg oeddwn i, wedi fy ngalw om parti Mileniwm ar gyfer rhyw waith na allai neb arall moi gyflawni. "Mae gen i stori iti," meddai.

"Stori?"

Pesychodd y storwr. Gwasgodd fy llaw. "Digwyddodd hyn ers talwm. Roedd y plasty yn ffynnu a gŵr bonheddig a'i wraig yn byw ynddo. Roedd hwn mor gyfoethog fel bod ganddo goets a phedwar ceffyl yn ei thynnu a gwas mewn lifrai yn ei gyrru ac un arall wrth gwt y goets. Roedd ganddo ddolydd breision a thir a bryniau a choedwigoedd. Roedd ei wraig yn hardd a'i blasty'n ysblennydd a'i seleri'n drwm o winoedd aeddfed Bwrgwyn a Bord. Dyn oedd hwn ar ben ei ddigon tan nes aeth y genau goeg i'w gorn gwddf ac yntau'n cysgu. Pnawn o haf oedd hi ai weision wrthin lladd y weirglodd ac yntaun clywed yr haul ar ei wegil a phenderfynu gorffwys ar y gwair newydd ei ladd ym mhen y dalar. Pan ddeffrodd roedd y weirglodd yn wag a chryman o leuad uwch ei ben. Pan geisiodd godi aeth y fath wayw drwyddo fel mai ar ei bedwar y llusgodd ei hun adref. Roedd cawod nos yn brithor ffenestri fel y daeth i olwg y plas.

"Lle buost ti mor hir?" meddai'r wraig.

Ni ddywedodd air o'i ben ond cropian iw lofft. Drannoeth y bore gofynnodd y wraig iddo eto be oedd yn bod.

"Pigyn yn fy ochor," meddai ai ddannedd yn crensian. Gafaelodd yn y bwrdd iw sadioi hun.

Y noson honno anfonwyd y gwas mawr i nl y meddyg. Oedodd y gwas y trap ger y porth a chodii gap ar wraig y plas. Troes hithau ar ei sawdl yn l ir tŷ.

Gwichiodd lledr cadair y meddyg wrth iddo estyn am ei wydraid o grombil ei ddesg. "Mymryn o gamdreuliad, mi warantaf." Estynnodd am ei lyfr cyfrif ai gwilsyn.

"Wedi bod yn cysgu'n y weirglodd," meddai'r gwas. "Beryg ei fod o wedi llyncu madfall a honno wedi dodwy wyau lond ei fol o."

Cymerodd y meddyg jochiad arall oi ddiod. Mor lliwgar oedd ofergoelion y werin. "Rhaid inni alw heibior Gwindy ar y ffordd," meddai gan gau bachyn ei fag du. "Maen nhwn fy nisgwyl i yno. Mi awn ir Plas wedyn."

Aeth y meddyg drwodd ir parlwr gorau i gymryd ei le wrth fwrdd cardiaur rhingyll fel y byddai bob nos Wener yn y Gwindy. Aeth y gwas ir gegin at y gweision ar morynion eraill a soniodd am yr helynt. Eithr roedd y meddyg yn ffyddiog nad oedd fawr oi le ar ŵr y plas, ychwanegodd. "Gwaethar modd," galwodd rhywun a phawb yn chwerthin.

Ymhen hir a hwyr daeth dyn dieithr i mewn ac anelu ei fys at y gwas mawr. "Mae fy meistr am air hefo chdi allan," meddai.

Siglodd trap y plas fel y camodd rhywun ohono a sefyll ai gysgod yn lledu oi flaen. Offeiriad oedd yn l ei wisg. Estynnodd ffiol las i'r gwas. "Rho ddiferyn or dŵr hwn ar dalcen dy feistr," meddai. "Hefor dŵr hwn yi bedyddiwyd o, a phan ddl etifedd caiff yntaur dŵr hwn iw fedyddio yn ei dro." Gwthiodd y botel i ddwylor gwas. Ar hynny dyma olau newydd yn taror buarth a sŵn traed ar y graean. Roedd y meddyg yn brasgamu tuag atynt ai wynt yn ei ddwrn. Roedd on flin fel tincer am iddo golli eto ar y cardiau. Gwthiodd heibio iddynt ac ir trap gan rwgnach am orfod chwilio amdan y gwas ym mhobman. Bun rhaid ir gwas fynd yn l ir Gwindy i godi nifer o boteli gwirodydd yr oedd y meddyg wedi eu harchebu. Rhwng y cardiau ar ddiod y sn oedd fod llechen y meddyg yn drymach o dipyn nai lyfr cyfrifon. "Cer di i ddweud wrtho fo na cheith o mohonyn nhw ta," meddair gwas mawr wrth y tafarnwr. "Nid dy negesydd di ydw i."

Culhaodd llygaid y tafarnwr. "Dos nhw ta," meddai.

Roedd gwraig y plas ar y rhiniog yn eu disgwyl. Ceisiodd y gwas mawr egluro pam eu bod mor hwyr. Camodd y Meddyg heibior ddau ohonynt ac ir tŷ. Dangoswyd ef ir llofft. Safodd am ennyd a synhwyro awyrgylch ac aroglau corff. Gwyddai mai defod wag fyddair chwilio am guriad calon ac am gylchrediad gwaed. Daliodd pwt o ddrych dan ffroenaur gŵr a nis pylwyd. Gwasgodd ei fodiau dros yr amrannau papur i gau llygaid y pen, cadwodd ei wats boced a chlepioi fag. "Maen ddrwg gen i," meddai. "Does dim y medrai wneud. Ddoi nl yn y bore i gwblhaur gwaith papur."

"Sut mae o, ddoctor?" meddair gwas pan ddaeth y meddyg yn ei l ir gegin. "Fasa fo rywfaint elwach or dŵr yma ar ei dalcen?" Cododd y ffiol las ai chynnig ir Meddyg.

"Ofergoelion," meddair meddyg. "Lliwgar ond diwerth. Llymed o wisgi, ar y llaw arall"

"Mi i gwydraid i fyny iddo fo rŵan," meddair gwas.

"Nid iddo fo, y twmffat, i mi. Mae o wedi marw."

Gwrthododd y meddyg pob ymgais iw ddarbwyllo i aros dros nos. Erbyn cyweirior trap iw hebrwng yn l roedd hin arllwys y glaw ar dafnaun dew fel sylltau yng ngolaur llusern. Bun rhaid arwain y gaseg dros bont git ln gan mor llithrig oedd y llechi. Roedd dŵr yr afon yn tasgu fel sr dros erchwyn y bont.

Y bore trannoeth 'roedd aroglau mwg a pharddu ar yr awel a dim sn am y gwas nar meddyg. Cafwyd hyd i'r trap ar ei ochr yn nŵr yr afon a'r gaseg yn porin ddilyffethair ger y bont a'i thindres yn llusgo oi hl. Un or gweision bychain gafodd hyd i darddiad y mwg draw ar y fawnog, bwthyn y gwas mawr wedi mynd ar dn yn ystod y nos. Galwyd y rhingyll a chafodd hwnnw hyd i gorff y gwas a hwnnw wedi ei dduo gan y mwg ai ysu gan y fflamau. Roedd poteli gwirodydd gweigion oi gylch. Cafwyd hyd i oriawr boced y meddyg yn ei feddiant a waled ledr y Meddyg ar y llwybr tu allan. Roedd hin tynnu at amser cinio cyn iddyn nhw gael hyd ir meddyg a thynnui gorff or afon. Y corff wedi mynd yn sownd o dan y bont. "Maen bur amlwg beth sydd wedi digwydd," meddair rhingyll wrth wraig y plas. "Bydd dyn yn gweld peth tebyg yn aml gyda throseddwyr or fath. Pan welodd beth oedd o wedii maen siŵr ir cachgi ffoi iw ffau iw yfed ei hun yn dwll ar wirodydd y meddyg cyn gwneud amdanoi hun. Euogrwydd sydd wedi ei ladd o, welwch chi."

"Dwn i ddim be iw ddweud," meddai gwraig y plas.

"Mae dyn yn fy swydd in gwynebu pethau tebyg byth a beunydd," meddai'r rhingyll. "Diolch o leiaf fod gŵr y plas yn teimlon well."

"Rhyw fymryn o gamdreuliad, yn l y meddyg," meddai hithau. "Ond maen debyg ei fod o wedi gorflino hefyd. Chodith o ddim oi wely am sbelan, maen beryg. Licioi le yna ormod taech chin gofyn i mi. Bechod dros deulur meddyg druan."

Ni bu adferiad gŵr y plas mor sydyn ag a obeithiasaii wraig. Bun gaeth iw lofft am wythnos a mwy. Ni fynnai weld neb a mynnai gadwr llenni ar gau. Ni chi neb ond gwraig y plas ddwyn tendans arno o fore gwyn tan nos. Ddwywaith yn unig y gadawodd hithau ei erchwyn gydol ei gystudd. Unwaith, yn unol gwŷs y rhingyll, i roi tystiolaeth ei bod hi'n adnabod corff y gwas mawr a'r llall pan fynychodd gynhebrwng y meddyg. Yn y fynwent tynnodd un o'i menig duon ac ysgwyd llaw r weddw ai phlant. Nid aeth i gynhebrwng y gwas mawr achos ni chafodd un, dim ond ei droi i ryw dwll.

Ymhen hir a hwyr, un bore o Hydref, agorwyd llennir llofft. Roedd y gwyddau gwylltion yn cyrraedd o diroedd y gogledd ar rhedyn yn gringoch ar hyd y gelltydd. Roedd ei locsyn wedi llaesu a lledu dros ei wyneb ai lygaid wedi duo ac wedi suddo yn ei ben. Dichon ir ysgydwad a gafodd effeithio arno mewn ffyrdd eraill hefyd, oherwydd drannoeth ei atgyfodiad parodd ymgasglu macwyaid a morynion y plas ir cyntedd a diolchodd iddynt am eu gwasanaeth. Rhoes ganmoliaeth iw gwaith. Ymddiheurodd na fyddai wedi ymgynghorin helaethach nhw yn y gorffennol. A dymunodd iddynt ddydd da.

"Chlywais i rioed mohono fo'n diolch i neb am ddim o'r blaen," meddai un.

"Mi ddaw at ei goed cyn hir," meddai un arall.

Ond ni ddaeth at ei goed. Dridiau'n ddiweddarach galwodd ei brif weision ato i drafod gwaith y gaeaf. Dangosodd fod rhannu cyfrifoldebau yn well na rhannu bygythion. Gydai gyfrifwyr aeth chrib mn drwyr cyfrifon au gosod mewn trefn am y tro cyntaf ers tro byd. Ac er prysured ydoedd wrth ei waith ni allair bobl lai na sylwi fod rhyw ramant newydd wedi blaguro rhyngddo ef a gwraig y plas. Fel dwy golomen yn hwyliou nyth, yn l un or hen forynion. Pan ddechreuodd hithau ddangos tua dechraur Gwanwyn bu dathlu mawr yn y gymdogaeth ar gobaith am etifedd ar fin cael ei wireddu. Ganwyd iddynt fab. Pennwyd dyddiad ar gyfer y bedydd a'r bore hwnnw roedd yr eglwys dan ei sang. Cymerodd yr Offeiriad y bychan o freichiaur fam ar ffiol las o law y tad. Taenodd ddiferion ar y talcen bach. Wedi dychwelyd y ffiol i ŵr y plas fe gerddodd yr Offeiriad r baban yn ei freichiau ir cr ar gangell gan ei ddangos i bawb ir dde ar aswy. Cerddodd at y porth ac allan or eglwys ir fynwent a thrwyr glwyd ir ln. Pan gododd y rhieni ou seddau roedd yr eglwys yn fud a llygaid pawb arnynt. Rhedodd y ddau or eglwys ond roedd yr Offeiriad ar mab wedi mynd.

Ni bur plas byth yr un fath wedyn. Ar waethaf chwilio o bant i bentan ni welwyd mor mab eto nar Offeiriad. Aeth y tad i yfed yn drwm. Dywedir iddi hithau golli ei phwyll. Aeth y stad rhwng y cŵn ar brain. Ŵyr neb sut yr aeth y plas ar dn. Roedd hin noson wyntog fawr. Gwrthododd hithau adael ei stafell yn y tŵr hyd yn oed ar fflamaun ymestyn eu bysedd tuag at ei ffenest. Cafwyd hyd iddo yntau y bore trannoeth yn crwydro wrth bont git ln r ffiol las yn ei law.

Dechreuodd y storwr besychu. Cafodd lymaid o ddŵr ar rhan fwyaf ohonon colli hyd ei grys nos. Pwyntiodd at y cwpwrdd wrth ei erchwyn. "Estyn hi," meddai. Tynnais ffiol las or cwpwrdd ai hestyn iddo. Syllodd i fyw fy llygaid. "Chdi biau hon rŵan," meddai. "Ac maena un peth arall. Nid fi laddodd y meddyg. Roeddwn i wedi galw arno fo i ddod allan or trap inni gael croesi pont git ln ar droed. Curais wedyn ar ddrws y trap ond ches i ddim ateb. Pan agorais y drws mi lithrodd yntau allan fel sliwen ir dŵr ai ben dros erchwyn y bont. Dwn i ddim ai cysgu oedd o ynteu wedi marw yn y trap. Ta waeth, mi waeddais yn fy mraw ar gaseg yn dychryn ac yn ei tharanu hi ar draws y bont ar meddyg ai ffr wedi bachu yn un o strapiaur trap yn cael ei dynnu oi hl ai ben ai ysgwydd yn mynd yn sownd dan y bont. Eglurais ir cwbwl yn fanwl i wraig y plas.

"Pwy goelith nad chdi laddodd y meddyg?" meddai hithau.

Roeddwn i'n sefyll yn wlyb diferol yng nghanol cegin y plas.

"Tyn amdanat," meddai hithau. Gwnes innau. Nid dyna oedd y tro cyntaf.

Cludais gorff gŵr y plas oi lofft ai osod ar fwrdd y gegin. Rhoesom fy ngharpiau gwlybion amdano a wats y meddyg yn un or pocedi. Rhoddais y corff dros fy ysgwydd noeth ai gludon droednoeth dros y fawnog. Euthum photelir meddyg ir bwthyn a lluchioi waled ar y llwybr. Yn y bwthyn tolltais y gwirodydd drosto a thanio matsen.

Y bore wedyn a finnaun swatio yng ngwely gŵr y plas mi glywn y cyffro mawr ar gweiddi y tu allan. Gallwn glywed llais dy fam yn galw ar un or gweision bychain i fynd ar ei union i nl y rhingyll."

Gwasgodd fy llaw i fysedd main. Ni ddywedodd air arall oi ben. Pan ddaeth y nyrs mi dynnodd ei law om llaw ai gosod wrth ei ystlys. Edrychodd ar ei horiawr a nodi rhywbeth ar bapur nodiadau troed y gwely a thynnur gynfas dros ei ben. Dilynais hi or ward a hithaun dad-gloi y drysau fesul un ac yn eu cloi nhw ar ein holau.

Dwin cofio cyrraedd yn l ir parti. Maen rhaid fy mod i wedi cymysgu diodydd yn uffernol achos toes gen i ddim co o gyrraedd adref wedyn. Roedd yr hen ganrif wedi mynd erbyn i mi ddeffro drannoeth y bore neu drannoeth y pnawn. A hithau ar fin tywyllu codais y ffiol las or bwrdd ac estyn fy nghot. Pan gyrhaeddais git ceg y ln safais a gwylior ewyn yn tasgu dros erchwyn y bont. Ni fentrais cyn belled ag olion y plasty. Estynnais y ffiol om poced ai lluchio gydam holl nerth i ganol y dŵr ar cerrig. Ceisiais gau git y ln om hl ond roedd y dolennau wedi rhydun gacen am y cetynnau.

 

 Robin Llywelyn

1 Ionawr 2000

 

cyhoeddwyr

Cyhoeddwyd Y Syrcas gan Words Without Borders - The Online Magazine for International Literature 2004

Cyhoeddwyd y Filltir Sgwar yn y gyfres Places - Y Man ar Lle, Gwasg Gregynog, Y Drenewydd, 1996. ISBN 0-948714-65-4.

Cyhoeddwyd Gwartheg ar y Draffordd yn Y Teithiwr Talog 2 (Gol. Gwyn Erfyl) Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1999. ISBN 0-86381-592-8.

Cyhoeddwyd Gŵr y Plas yn Storaur Troad (gol. Manon Rhys) Gwasg Gomer, Llandysul, 2000. ISBN 1-85902-903-9

nl i'r top