dwr mawr llwyd

 

Home
seren wen
white star
harbwr gwag
empty harbour
dwr mawr llwyd
big grey water
amryw / various
dolenni / links

 

dwrmawrllwyd.JPG (94821 bytes)

 

Y DWR MAWR LLWYD

 

DEUDDEG STORI

 

I Iwan

 

 

 

Diolchiadau

 

Hoffwn ddiolch i Gomer am gyhoeddi'r casgliad yma o storïau. Mae'r cwbwl ohonynt wedi gweld golau dydd o'r blaen ond gyda chefnogaeth Gwasg Gomer dyma gyfle imi eu golygu ac ailwampio cryn dipyn ar rai ohonynt. Diolch hefyd i olygyddion Barn, Golwg a Taliesin am ganiatáu imi ddefnyddio'r storïau a gyhoeddwyd ganddynt. Golwg a gyhoeddodd Nid Twrci Mo Ifan (17 Rhagfyr 1992), Y Parch a'r Het (5 Awst 1993), Reptiles Welcome (2 Rhagfyr 1993) a Llawn Iawn yw'r Môr (4 Awst 1994). Yn Barn y cyhoeddwyd Cyfraniad at Gofiant yr Hybarch Frawd Stotig Isgis (Ionawr 1992/Chwefror 1993), Morys y Gwynt ac Ifan y Glaw (Gorffennaf/Awst 1993), Crafu Ffenest (o dan y teitl Yr Hen Glerc) (Mehefin 1993), a Vatilan, Lleidr Llestri (Rhagfyr 1993/Ionawr 1994). Cyhoeddwyd y pump darn sy'n weddill yn Taliesin: Cartoffl (Ebrill 1993), Y Dw^r Mawr Llwyd (Haf 1993), Bant â'r Cawr (Gaeaf 1993), Amser y Gwcw yw Ebrill a Mai (Haf 1994) a'r Sbarion (Hydref 1994). Nid stori mo'r darn olaf ond tameidiau o storïau nas sgwenwyd a dyna pam fy mod i'n dweud mai deuddeg stori sydd yma ac nid tair ar ddeg. Yn olaf mi leiciwn ddiolch i Sian am bob dim.

 

dyma ni'n ôl 

 

CYNNWYS

 CARTOFFL 

Llawn Iawn yw'r Môr

Nid Twrci mo Ifan

Morys y Gwynt ac Ifan y Glaw

Cyfraniad at Gofiant yr Hybarch Frawd Stotig Isgis

Reptiles Welcome

Crafu Ffenest

Y Parch a'r Het 

Bant â'r Cawr

Y Dw^r Mawr Llwyd

Vatilan, lleidr llestri

Amser y gwcw yw Ebrill a Mai

Sbarion

 

Cyhoeddwr    

 

CARTOFFL

 

Nid oes sôn am Gartoffl Goch yn chwedloniaeth Canol Ewrop. Nid oes sôn amdano ar y cyrion chwaith. Creadur y cysgodion ydyw; ni dda ganddo dramwyo erwau noethion y paith Hwngaraidd ac nid o ddewis yr â, ar waelod trai, dros aberoedd tywodlyd y gorllewin. Coeden yw ei gartref a honno'n un â'i gwreiddiau'n ddwfn ym mherfeddion Coed y Graig Lwyd yng Nghymru. Ond nid pawb yn y parthau hyn a w^yr ei hanes. Nid yw'r sôn amdano yn wir nac yn fynych nac yn fawr. O'r ychydig dethol a w^yr amdano, haws ganwaith cael ganddynt ffoi dan weiddi ar draws y caeau na chael ganddynt fynegi'r un sill o'r hyn a wyddant am ei hynt. Rhy gref, rhy fyw yw'r gred y dêl dial Cartoffl yn esgud ac yn greulon ar y neb a ranno'i gyfrinachau enbyd.

O wybod hyn uchod, hysbysed y darllenydd nad ar chwarae bach y dylech chwi wthio'ch pig i'r llith a ganlyn. Cofied gan y darllenydd gwiw hanes annifyr Horlics y Post - yr hwn a roes imi'r hanes hwn. Daeth Cartoffl Goch ar ei warthaf gefn nos ddu a'i anrheithio a'i gosbi a dwyn ei stampiau.

Fe ddichon nad creadur llawen fydd Cartoffl pan genfydd i minnau gyhoeddi'r stori hon i'r byd a'r betws gael ei gweld ac odid na ddaw i'm ceisio ac i'm cosbi innau am ei fradychu. Ni waeth gen i; onid fy nyletswydd yw dinoethi'r gwir amdano? Mae'n amlwg fod arnoch chwithau awydd rhannu ffawd Horlics y Post? Ydych chi'n deisyfu Cartoffl Goch ar flaenau'i draed yn dw^ad amdanoch gefn nos ddu a chithau'n cerdded rhyw lwybrau tawel ac unig dan gangau duon y coed ar eich pen eich hun? Iawn felly, darllenwch ynteu.

 

Anifail go arbennig yw Cartoffl Goch. Nid yw'n fawr nac yn fach ac mae ganddo olau sy'n fflachio o'i glustiau pan fydd o'n flin. Nid aderyn mohono ond mae'n byw mewn coeden ac unwaith bu'n rhaid iddo fagu tri chyw bach mewn nyth. Bu ganddo gariad unwaith ond fel y diafol a'i was nid yn hir y'i cadwodd.

Cychwyn ei drafferthion oedd trip i Gaer yn rhith dyn coch â locsyn gwyn - cyfnod y Nadolig oedd hi - i brynu batris ar gyfer ei declyn. Y noson honno, yn lluddedig ac yn wan ar ôl ei daith, ac wedi dadrithio ohono yn ôl i'w ffurf gynhenid, a fyntau'n paratoi gyda rhyddhad enbyd i ddringo i'w wâl ym mrigau'r pren, cafodd gynnig pres am ei gynffon hir a swmpus a fagwyd ganddo'n daclus dros y blynyddoedd. Gwrthododd y cynnig yn ddiflewyn-ar-dafod ac aeth i'w wely. Deffroes y bore trannoeth a gwayw yn ei gefn a sylwi fod rhywun wedi tocio'i gynffon yn ystod y nos. Lled-gaeodd ei lygaid, gwthiodd ddau ddant hir a melyn dros ei wefus isaf a rhwygodd wialen ystwyth o fôn y pren. Cydiodd yn ei declyn yn ei bawen arall. 'Dwi'n amau'n gryf fod a wnelo Iorwg y Gynffon â hyn,' meddai'n chwyrn gan neidio i'r llawr a'r gwaed o'i ben-ôl clwyfus yn tasgu fel dw^r oddi ar gefn ci. Roedd goleuadau amryliw yn fflachio o'i glustiau ac roedd ager yn mygu o'i ffroenau fel o domen dail. 'Cosbaf yr Iorwg fradwr yna am hyn o drais,' meddai'n boenus a fyntau'n ceisio'i gysuro'i hun trwy feddwl am ffyrdd i ddial ar ei elyn newydd. Llusgodd y wialen ar ei ôl ar hyd llwybr y goedwig a'i llusgo wedyn o'r coed i ganol byd o gymylau gwynion a haul lle mae'r afon yn lledu ac yn llifo'n llonydd rhwng dwy dorlan. 'Mi gaiff Iorwg y Gynffon dalu'n ddrud am hyn,' chwyrnodd wrtho'i hun drwodd a thro. 'Mi wnaf i'r lari gwirion dalu am hyn o drais cas arnaf!'

Wel, yrw^an, i'r rheini ohonoch sy'n ei nabod, fe wyddoch fod Iorwg y Gynffon yn dipyn o gynffonnwr. Ei ddiléit yw hel cynffonnau anifeiliaid a'u harddangos ar barwydydd ei siambr. Maen nhw'n cymryd llai o le na'r anifeiliaid cyfain ac yn fwy defnyddiol. Mae o wedi dysgu'r iaith yn rhugl ond bod y bobol sy'n ei siarad ddim yn ei siarad hi fel mae hi yn ei lyfr. Am nad ydi o ddim yn dallt llawer mae o'n meddwl nad oes yna fawr i'w ddallt. Rhoes enw Cymraeg ar ei fab; mae ganddo gi o'r enw Pero ac aderyn o'r enw Parot. Bydd o'n archebu hadau i Parot o gylchgrawn bwyd adar dim ond er mwyn derbyn pecynnau drwy'r post. Pan fydd Horlics y Post yn galw efo'r pecynnau bydd Parot yn sgrechian. Bydd Iorwg y Gynffon yn rhuthro i'r drws ffrynt ac yn sibrwd 'Dyma ef y Postmon, beth sydd ganddo i ni heddiw?'

Bydd Horlics yn crafu'i arlais â blaen ei feiro ac yn gwthio'i gap i gefn ei ben. 'Seiniwch yn fan 'ma am yr hadau.'

'O, ai dyna sydd yma?' fydd ateb Iorwg. Dywedir mai ei hobi hel cynffonnau ydyw'r achos am roi'r Gynffon yn ei enw. Hadau Bach oedd ei enw cyn hynny yn ôl cofnodion y plwyf. Gellwch fentro fod Iorwg yn eithriad i'r rhelyw, efallai'n hollol unigryw.

'Diolch i Dduw ei fod o'n unigryw,' ydyw ymateb Horlics y Post i hyn. 'Pwy ddiawl fasa isio un arall 'run fath â fo?'

Ond yn nes at y pwynt yn hyn o hanes, ac fel yr awgrymwyd eisoes, y mae Iorwg y Gynffon yn gynffonnwr heb ei ail. Ei ddiddordeb ysol yng nghynffonnau bwystfilod y maes ac yn llosgyrnau ymlusgiaid y nos a'i harweiniodd, ymhen hir a hwyr, i Goed y Graig Lwyd yng Nghymru ac at goeden Cartoffl Goch, ac yno y cyflawnwyd ganddo un o dri Anfad Llost-Ladradau'r ynys hon.

Bid a fo am hynny, fe ddarfu i gasgliad cynffonnau hynod Iorwg ennyn diddordeb neb llai na Lluan Bol Deryn, llyfrgellyddes leol a gwdihw^. Clywais gan Horlics y Post iddi ymweld â Iorwg liw nos ddu ac iddi gael ganddo'r hyn a geisiodd. 'Afraid dweud,' meddai Horlics wrthyf ac yntau'n llyfu'r unig stamp a gyhoeddwyd gan Tsietsienia, 'afraid dweud iddo gael ei gyfareddu gan ysblander ei phlu sidanaidd a'i swyngyfareddu gan loywder ei phig. Yr oedd wedi gwirioni hefo hi a benthycodd iddi ran helaeth o'i gasgliad, yn cynnwys ei drysor gorau - cynffon Cartoffl Goch. Roedd hi wedi gofyn yn benodol am gael benthyg honno.' Amneidiodd Horlics y Post arnaf i ddynesu ato. 'Dyma iti stamp o Rwsia,' meddai'n ddwys gan wasgu'r petryal llaith i ganol fy nhalcen. 'Sylwa nad ydi o ddim mwy na'r stamp arall yna.' Estynnodd ei hances i sychu'r stamp i'w le a chamu'n ôl . 'Stampiau o Tibet sy'n brin o'm casgliad,' meddai. 'Ond ta waeth am stampiau, dyma fel bu'r hanes, yn ôl be ddywedodd Lluan wrthyf:

"Rwy'n gweithio mewn swyddfa weithiau ac mae ynddi lot o lyfrau a bydd Iorwg y Gynffon yn holi byth a hefyd am lyfrau'n ymwneud â chynffonnau. Mae o'n ddyn blewog iawn. Mae o'n siarad fel robot ac mae'i geg o'n symud o gwmpas ei ben. Mae ei goesau yn hir a'i wyneb yn fain ac nid y fi y mae'n ei garu ond y llyfrau yr wy'n eu cynrychioli. Nid y fo yw fy nghariad. Mae 'nghariad i'n goch ac yn gyfrwys ond 'dwi'n trio fy ngorau'i gael o'r un feddwl â mi. Mi ddaeth Iorwg y Gynffon acw un diwrnod a gofyn am fy ngweld i. 'Lluan,' medda fo, rydw eisiau dweud peth i ti. Mae gyda fi cynffon newydd ond nid yn gwybyddus beth i'w wneud gyda hi. Efallai gall ti cymorth fi? Rwy'n hoffi cael pwyllgor i trafod beth i'w wneud - Lluan, sut mae mynd ati i, ehm, i cael stwffio cynffon Cartoffl Goch i mi fy hun?'

" 'Paid â gofyn i mi,,' meddwn i, 'pam na stwffi di dy ben i fyny dy din? '

" 'Na, Lluan, mae cynffon Cartoffl Goch gennyf nawr ac mae yn apelio i fi. Ti'n gallu helpu fi i cael stwffio y cynffon hon i'w rhoi ar fy wal? Wyt ti'n hoffi trafod pwyllgor nawr?'

" 'Cadw dy blydi pwyllgor y dwylo blewog,' meddwn innau a do, mi wnes i suddo fy mhig yn ddwfn i ganol ei drwyn, ac a fyntau'n griddfan â'i ddwylo dros ei ben mi lwyddais i achub cynffon Cartoffl Goch a fflio drwy'r ffenest i ganol y nos. Beth bynnag, mae'r gynffon gen i rw^an a fi sy piau hi hefyd.'"

'Dyna,' meddai Horlics y Post, 'oedd tystiolaeth Lluan Bol Deryn.'

 

Yn y cyfamser roedd Cartoffl Goch wrthi'n bustachu tua chartref Iorwg y Gynffon a'r wialen fawr o'i ôl a'i blaen yn crafu graean gwyn y dreif a'r brigau'n gwneud sw^n suo a sisial wrth sgubo llwybr o'i ôl. Yma ac acw ar ei ôl roedd diferion o waed coch wedi lliwio'r cerrig mân. Roedd ei wynt yn ei ddwrn, roedd yn wan fel cath: effaith colli gwaed, meddyliodd, neu effaith colli'i gynffon. Neu'r ddau beth. Llusgodd ei gangen a'i declyn i fyny'r grisiau at y portsh. Gwasgodd fotwm y gloch.

'Dad,' gwaeddodd llais plentyn o'r ty^, 'Dad, mae 'na anifail go arbennig yn drws. Mae o fel hanner llwynog a hanner gwiwer, Dad, blaw bod gynno fo ddim cynffon!'

'Nagoes, toes gen i ddim cynffon!' chwyrnodd Cartoffl Goch. 'Sgwn i pam, eh? Sgwn i be 'di'r achos am hynny a sgwn i ar bwy mae'r bai! T'yd allan di, Iorwg y Gynffon, mi dy ddysga'i di i ddwyn cynffonnau pobol.'

'Nid pobol ydys ti,' meddai llais Iorwg y Gynffon o'r ty^.

'Dad, mae o'n gneud sw^n chwyrnu mawr ac yn dangos ei ddannadd!' gwaeddodd y plentyn, 'Ac mae 'na oleuadau'n fflachio o'i glustiau!' Ymddangosodd gwyneb gwelw'r plentyn wedi ei wasgu at wydr y ffenest ochor a'i anadl yn lledu'n llwyd ar ei hyd.

'Sydd Cartoffl Goch wedi dod, credais, Offeryn,' meddai llais Iorwg y Gynffon a fyntau'n swnio fel petai'n rhoi ei slipars am ei draed. 'Mae o'n dod o amgylch y cynffon, efallai.'

'T'yd allan i fan'ma a t'yd â 'nghynffon i hefo chdi,' chwyrnodd Cartoffl Goch a cheisiodd droi handlen y drws.

'Dad, Dad,' gwaeddodd Offeryn, 'mae Cartoffl yn trio dw^ad i'r ty^.'

Daeth pen y tad i ffenest y portsh. 'Rw^an, Cartoffl Goch,' meddai'n awdurdodol, 'dos ar goll. Cerwch yn ôl i dy coedwig. Dim animaliaid yn y ty^ hon.'

'T'yd â 'nghynffon i'n ôl imi'r sbaddwr afancod uffarn ichdi,' poerodd Cartoffl yn filain gan ddilyn â'i lygaid y geg a welai'n symud o gwmpas pen y dyn. 'Neu mi wthia'i'r wialen ystwyth yma drwy flwch dy lythyrau di a'r holl ffordd i fyny twll dy din di.'

'Nid oes bygythiad fel hon yn ofni fi, fwystfil coch heb gynffon. Mae Horlics y Post yn dw^ad yn cosbi ti os ti'n rhoi coeden trwy blwch post fi. Doswch neu mae'n poenus gennyf beth fi'n gneud i ti.'

'Mae o'n ddigon poenus yn barod, y lleidar llosgyrnau drama ichdi. Lle mae 'nghynffon i?' Dechreuodd Cartoffl Goch wthio'i gangen drwy flwch llythyrau'r portsh. Daeth Iorwg y Gynffon i ganol y portsh a dechrau ei gwthio'n ei hôl. Cododd Cartoffl ei declyn a'i anelu drwy'r ffenest at ben y dysgwr.

'Os na chaf fy nghynffon mewn dau eiliad mi fyddi di wedi camdreiglo am y tro ola, mêt,' bygythiodd yr anifail anafus â dicter lond ei lais.

'Be mae o'n ddeud, Dad?' gwaeddodd y plentyn.

'Cau i fyny, Offeryn,' gorchmynnodd y tad gan wthio'r bachgen yn ôl i'r ty^ a throi ar ei wrthwynebydd. 'Mae nid gennyf, Cartoffl!' Roedd pryder i'w ganfod dan acen wichlyd y dyn. 'Mae gan Lluan Bol Deryn. Hi sy'n wedi ei dwyn a'i bwyta. Nid gydag arfau peraroglus rwyt yn ein bygwth? Onid rwyt yn hoffi pwyllgor yn well i trafod popeth?'

'Be haru chdi'r cranc gwallgo,' chwyrnodd Cartoffl Goch. Cododd ei gangen a'i gollwng yn erbyn ffenest y drws a neidio'n ôl i osgoi'r teilchion gwydr. Cododd ei goes yn ddirmygus ar gornel y portsh a throi ar ei sawdl heb sbïo'n ei ôl. Yr oedd blinder mawr yn dw^ad drosto a chloffodd yn simsan yn ôl i lawr y dreif i chwilio am goeden addas i lochesu ynddi nes deuai nos. 'Pwyllgor, wir!' ysgyrnygodd wrtho'i hun..

'Dad,' meddai Offeryn Sawl Brithyll, 'Sut wyt ti'n medru siarad hefo'r anifail go arbennig yna yn ei iaith ei hun a chditha'n methu siarad Cymraeg?'

'O,' meddai'r tad, 'mae fi'n methu siarad iaith yr animal hon yn cywir hefyd, Offeryn.'

'Stopia alw Offeryn arna'i, nei di?'

'Ond dyna ydys eich enw ti, Offeryn.'

'Dad?' cwynodd y plentyn. 'Pam na fasat ti wedi prynu Enwau Cymraeg i Blant pan ges i 'ngeni yn lle'r Geiriadur Termau? Iesu bach, mae isio gras weithiau...'

 

Ar ei ffordd i'r pentref nesaf yr oedd Horlics y Post pan welodd Lluan Bol Deryn yn gorffwys ar gangen isel uwchben y llwybr. Yr oedd cynffon Cartoffl Goch yn hongian fel cadach dros y brigyn. 'To-wyt to-ww,' meddai hi pan welodd ei ffrind yn dod.

'Helfa beryg sydd gennyt, Lluan,' meddai Horlics y Post. 'Credaf nad hapus fydd Cartoffl Goch pan genfydd pwy gafodd ei gynffon.'

'To-wyt to-ww,' chwarddodd hithau. 'Mi ceith o hi gen i â chroeso. Nid i'w ysbeilio yr euthum i dwyllo'r dysgwr drwg ond i adennill i Gartoffl annwyl ei gynffon fawr a thrwy hynny adfer iddo'i falchder ac ennill i minnau'i ddiolch ac efallai hyd yn oed ei serch. Mi wn sut i'w phwytho'n ôl i'w lle fel na fydd ei ben-ôl fymryn gwaeth wedi'r cywain creulon a fu ar ei gwt syber. Gobeithio wedyn y gwelith faint mor fawr yw fy nghariad ato. Nid iawn fydd iddo droi tu min ataf ar ôl hyn.'

Gwthiodd Horlics y Post ei gap i gefn ei ben a chrafu'i arlais lle'r oedd stamp trionglog o Fongolia'n dechrau cosi'i groen. 'Os gwir y gair mi fydd yr un coch yn falch,' meddai gan estyn stamp lliwgar llun glöyn byw a'i lyfu'n ofalus. 'Haws ennyn llid Cartoffl na'i lawenydd,' ychwanegodd. Glynodd y stamp i'w dalcen a chodi'i sach i'w gefn. 'Paid â'i herio fo, Lluan,' meddai gan droi i fynd.

'Ella y gwnaf!' gwenodd hithau'n ddireidus. 'Ac ella wna'i ddim.' Sylwodd mai stamp o Lithwania oedd ar dalcen y postmon ac nad oedd werth ond dwy goron. 'Ei di ddim yn bell hefo stamp bach rhad,' galwodd ar ei ôl. Diolchodd fod ganddi lygaid yn ei phen i weld drwy lwydwyll y canghennau, gafaelodd â'i dwy grafanc yn y gynffon a chodi ar adain gref i ganol y coed.

Deffrôdd Cartoffl Goch a'r gwayw yn ei ben-ôl yn saethu drwy'i gorff ac yn gwneud i'w glustiau hael godi'n bigau ar dop ei ben. Roedd digon o olau ar ôl ynddynt iddo weld ei ffordd yn glir i ddringo o'r goeden. Cafodd hyd i bwll o ddw^r ar ymyl y llwybr a drachtio ohono'n sychedig ac yn hir. Tra oedd ei safn yn y pwll synhwyrodd fod ei glustiau'n codi i big eto a hwythau'n dal murmur pell to-wyt to-ww, to-wyt to-ww. Blincin Hogiau'r Wyddfa eto, meddyliodd a throi'n ôl at ei ddiod, neu... neu... Lluan Bol Deryn! A neidiodd i ben y goeden agosaf a chychwyn llamu o frigyn i frigyn drwy friglas lwyni'r brain tuag at y sw^n.

'TO-WYT TO-WW, TO-WYT TO-WW,' meddai Lluan Bol Deryn pan welodd o'n dw^ad.

'Cau dy geg a t'yd â 'nghynffon i'n ôl imi,' poerodd Cartoffl Goch yn ffiaidd.

'Does dim angen bod yn gas,' meddai hithau gan wincian arno. 'Be mae hi'n werth ichdi, dinfoel?' chwarddodd wedyn o gadarnle ei changen uchel.

'Mi wn i lle mae dy sgubor di, Lluan, mi wn i lle mae dy nyth ac mi wn sawl wy sydd gen ti. Y gynffon, Lluan, jest t'yd â'r gynffon!' Dechreuodd Cartoffl ysgwyd y goeden yn fygythiol.

'Ha ha ha,' meddai Lluan gan guddio'i gwyneb â'i haden dde. 'A be os ydwi wedi bwyta dy gynffon di? Ha ha ha... mae arna'i ofn fy mod i wedi bwyta dy gynffon di, Cartoffl druan, blasus hefyd, er braidd yn wydn yn y pen main. Tyfa un arall os wyt ti'n gweld ei cholli...'

Heb air o'i ben estynnodd Cartoffl Goch ei declyn a chyda goleuadau'i glustiau'n fflachio'n wyllt anelodd annel union at frest y deryn nos a gollwng tuag ati ergyd farwol fawr.

'O, Gartoffl gwyn, pa beth yw hyn?' ochneidiodd hithau wrth weld y smotiau coch yn britho'i bron. Llaciodd ei gafael yn y gangen a hithau'n plymio'n feddal i'r llawr a'i phlu'n tasgu fel eira mynydd i'r pedwar gwynt. Â'i ddannedd yn gwthio'n bellach bellach dros ei wefus gwibiodd Cartoffl Goch drwy'r brigau mân i gyfeiriad sgubor Craig-y-Nos. Dringodd yn lloerig i ben y trawstiau derw a thros y tulathau at y nyth. Estynnodd ei ddwylo i'w rhwygo'n sitrwds ond atolwg, oedodd ei law. Canys yno'n dorch o'i hamgylch roedd ei gynffon flewog fawr. Yn sownd wrthi yr oedd nodyn ar gardyn lliw: 'I'm cariad Cartoffl, dy gynffon yn saff, o waelod fy nghalon, Lluan Bol Deryn xxx'.

Diffoddodd y goleuadau yng nghlustiau Cartoffl Goch. Ni allai weld dim byd dim mwy. Gollyngodd ei declyn difa oddi wrtho fel petai'r haearn yn sydyn yn boeth. Cydiodd yn ei gynffon a gwthio'i wyneb i'r rhawn cynnes, a'i ddagrau'n glynu fel plaster yn y blew. Yn ddryslyd gwthiodd bawen ansicr i'r nyth a'i thynnu dros y tri wy llonydd a gafodd yn glyd yn ei gwaelod. Ystumiodd ei gorff fel y gallai eistedd yn ysgafn ysgafn ar ganol y nyth ac yntau'n clywed yr wyau'n grwn ac yn gynnes o dan ei din. Ni ddaeth siw na miw o unlle i darfu arno, dim ond suo pruddglwyfus y gwynt drwy frigau'r coed. Roedd oglau gwair y sgubor yn codi ato ac yn cosi'i safn a'i ffroenau. Llithrodd ewin o leuad i hollt yn y to sinc a syllu'n ddigyffro arno. Cododd ei safn at y golau a'i wrychyn yn codi. Y tu hwnt i sgubor Craig-y-Nos, y tu draw i fforest Coed y Graig Lwyd, roedd yr un lleuad yn ariannu tywod yr aberoedd gwag a'r un awel isel yn symud drostynt; ar y paith Hwngaraidd roedd yr afonydd yn wyn ac yn llonydd dan eu haen o rew, cryman y lleuad yn medi'r cymylau'n dawel a'r awel wan yn chwythu briwsion mân o eira bob hyn a hyn o frigau'r coed. Ac ar anterth distawrwydd y nos daeth ubain wylofus hir drwy'r awyr denau a'i adlais yn crogi'n grynedig ar y gwynt.

 

O'r noson honno allan ni welwyd mo Cartoffl Goch yng Nghoed y Graig Lwyd ac ni welir mohono y rhawg eto nac yn crwydro'r dydd nac yn chwarae'r nos. Mae ei gywion wedi mynd o'r nyth a sgubor Craig-y-Nos wedi hen fynd â'i phen iddi. Nid oes bellach ond y fo a ninnau. Y ni yw'r helwyr, y rhai sy'n gwybod amdano. Y ni sy'n atebol am ei helynt, y ni a gynaeafodd ei gynffon, y ni a fedodd egin glas ei galon. Y ni yw'r rhai sy'n sôn amdano ac yn tynnu eraill i chwilio am ei guddfan. Arnom ni y mae'r bai. Ei eiriau olaf cyn diflannu i'r gwyll oedd, 'Am yr hyn a wnes esgymun fyddwyf, ac am yr hyn a wnaethoch, dyma'r felltith a roddaf arnoch: Chwychwi a w^yr gyfrinach chwerw Cartoffl, erlidiaf chwi'n ysgeler ac yn flin canys ni ddaw imi orffwys tra bo undyn byw ar ôl yn sôn am yr hyn a wneuthum!'

Dyna paham na fu hyd y dydd heddiw sôn am Gartoffl Goch yn chwedloniaeth Canol Ewrop, a dyna paham na fu sôn amdano ar y cyrion chwaith.

Felly pan fyddwch dryma'r nos yn cysgu chwi wyddoch pwy ddaw i'ch dadebru. Mae cysgod Cartoffl yn hir a'i lid o'n hwy.

 

 

 

 

 

 

Llawn Iawn yw'r Môr

 

'I be oeddach di isio taflyd fy mhethau i gyd i'r môr?' medda chdi. Roedd hi'n noson loergan leuad a'r lleufer drwy'r ffenest agored yn sgleinio yn dy lygaid. Ar wawrio oedd hi achos roedd brefu’r defaid i’w glywed o'r glastraeth.

Mi welais i chdi'n siarad yn dy gwsg o'r blaen, a'th lygaid yn agored fel hyn a chdithau'n cysgu. A dyma fi'n syllu rw^an i'th lygaid ac yn sibrwd, 'Dyna fo, 'mach i,' meddwn i. 'Cysga di.'

'Be am fy mhethau i?' meddai chdi.

'Pwy bethau wedyn?' meddwn i. Wyddwn i ddim p'un ai cysgu ynteu wedi deffro oeddach di.

'Fy mhethau fi i gyd,' medda chdi a chdithau'n dal i syllu heibio imi i lygad y lleuad. Roedd blaen y wawr yn dechrau dringo'r parwydydd. 'Fy welingtons, fy siaced a 'mrechdanau fi i gyd wedi cael ffluch gen ti i ganol y môr.' Roedd dy lais yn bell rywsut. 'Syniad chdi oedd mynd i lan môr,' edliwiaist wedyn. 'Yng nghanol twyni tywod mawr oeddan ni a ninnau i fod i gael te glan môr. Oeddwn i wedi tynnu am fy nhraed, ac wedi rhoi fy siaced yn y naill welington a'r brechdanau yn y llall. A dyma chdithau'n codi gan afael yn fy mhethau a rhoid ffluch iddyn nhw i gyd i ganol y môr. Meddwl ei fod o'n beth digri i'w wneud oeddach di, mae'n rhaid. Roeddach di'n chwerthin o'i hochor hi, beth bynnag, ac yn fy herian i fynd i'w nôl nhw i'r dw^r.'

'I be oeddach di isio cadw'r brechdanau yn dy sibw^ts?' meddwn i a finnau'n dychmygu ei fod o'n lle rhyfedd i gadw bwyd. Trio cofio oeddwn i pryd fuon ni i'r traeth ddwytha.

'Toeddan nhw wedi'u lapio mewn papur llwyd. Chdi oedd yr un oedd isio bwyd lan môr, yndê? A finnau wedi hwylio ychydig o frechdanau ac wedi eu lapio nhw'n bacad bach del. Fy mwyd i oeddan nhw, bwyd y ddau ohonon ni, a dyma chditha'n eu taflyd nhw i gyd i'r môr. Toedd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w rannu wedyn.'

'A be wnest ti wedyn?'

'Ond mynd i nôl fy mhethau i'r dw^r, yndê? Be arall wnawn i? A dyma 'na wamar o don fawr yn codi o 'mlaen i a'r tonnau eraill i gyd yn codi dros fy mhen i. Mi lwyddais i neidio'r un fawr fawr neu mi faswn wedi boddi'n syth. Ond roeddan nhw'n codi ata'i o hyd ac yn fy nghario i oddi wrthot ti a finnau'n eu gweld nhw'n gyrru heibio fi draw am y traeth ac yn torri am ben y twyni glan môr lle buon ni'n ista a'r lan wedi mynd yn bell a finnau'n methu cyrraedd atat ti'n f'ôl. Dim ond dy weld ti'n sefyll ar ben y twyni a dy law yn cysgodi dy lygaid. Ac mi glywais i chdi'n chwerthin wrth droi dy gefn. Dengyd yn ôl am y glastraeth wnest ti, a'th draed yn rhydd a sych a 'nhraed innau'n plymio i ddyfnjwn y môr.'

'Fedrist ti ddw^ad o'r môr yn diwadd 'ta, yn dy freuddwyd?'

'Do'n ôl pob golwg, neu faswn i ddim yma rw^an, nafswn, a dim diolch i chdi am hynny chwaith. Dwn i ddim sut dois i achos roedd y cerrynt am fy nghario allan i ganol yr eigion a finnau'n methu cwffio'n ôl. Welis i glogwyni'r Graig Ddu a gweld dannedd y creigiau'n corddi'r dw^r a'r gwymon yn dywyll yng nghanol yr ewyn a'r lleuad yn felyn ac yn llonydd. Ac mi glywis i'r dynfa yn gafael yna'i ac mi roeddwn i wedi blino a daeth yr awydd drosta'i i gael llithro i freichiau'r gwymon a charu mawr y dw^r. Doeddwn i ddim isio cwffio ragor. Roedd yr holl gicio a brathu wedi mynd yn drech arna'i. Llonydd oeddwn i isio, dim byd mwy. A finnau'n clywed y dw^r yn gynnes fel gwaed amdanaf. Braf oedd llithro o dan ei gynfasau o sidan. Braf oedd gwylio'r swigod yn codi a finnau'n suddo. O, roedd hi'n braf cael gollwng gafael a jest mynd. Tan nes cefais i'r gwaelod yn codi ata'i dan fy nhraed a brifo 'modiau ar y cregyn dan wymon y creigiau. Codi 'mhen ddaru mi wedyn ac mi ddaeth o'r dw^r a finnau'n chwilio welwn i'r llwybr sy'n codi o odre'r clogwyni. Mi gwelis i o, ond toedd yna ddim sôn yn unlle am y sibw^ts nac am y gôt na'r brechdanau na dim. A chdithau wedi mynd hefyd.'

'Mae'n siw^r dy fod ti'n flin gacwn hefo fi?' Roeddwn i'n sbïo drwy'r ffenest agored ar lwybr y lleuad oedd yn dal i sgleinio'n wan ar y môr mawr llwyd.

'Hefo chdi?' Difaterwch oedd yn dy lais. 'Toedd yna ddim byd ar ôl y tu mewn imi i'w gorddi. A doedd dim ots gin ti, yn nagoedd, roedd hynny'n amlwg. Roeddach di wedi taflyd fy mhethau i gyd i'r môr ac wedi chwerthin wrth droi dy gefn. Nid blin hefo chdi oeddwn i ond blin hefo fi'n hun am goelio dy bethau di unwaith... Ac yn flin 'mod i'n goro cerdded yn droednoeth dros gerrig miniog ac yn flin 'mod i'n goro chwilio eto byth amdanach di. Wyddost ti pam roeddwn i'n gorfod chwilio amdanach di? Er mwyn ichdi gael gwybod. Mi gerddais strydoedd trefi glan môr yn holi dy hanes, mi grwydrais heibio'r siopau pwcedi plastig a rhawiau melyn, heibio'r swigod gwynt a'r Saeson haf, dros bont yr harbwr draw i'r cei a finnau'n gofyn i bawb oeddwn i'n ei nabod a welson nhw chdi hyd lle a neb am fy helpu fi. Mêl ar eu bysedd nhw, toedd? Wrth eu bodd efo'r gwaith siarad roeddwn i'n ei greu iddyn nhw a finnau'n droednoeth hefo llond pen o dywod a 'ngwallt ar draws fy nannedd.

'A'r cwbwl dwi'n gofio wedyn ydi'r nos yn dw^ad a finnau'n dal i chwilio amdanat, a finnau'n cyrraedd yn ôl i fan'ma ac mae'n rhaid ei bod hi'n hwyr achos dyna lle'r oeddach di yn rhochian o'i hochor hi yng nghanol dy wely ac yn 'cau deffro imi pan oeddwn i isio gofyn Pam? Ond mi rwyt ti wedi deffro o'r diwedd rw^an, yn do, fy nghariad gwyn i? Ac felly deud wrtha'i rw^an, i be oeddach di isio taflyd fy mhethau fi i gyd i'r môr?'

 

Dwinnau'n cofio trio egluro ei bod hi'n ddrwg gen i, ei fod o'n beth ofnadwy i'w wneud, wrth gwrs, ond mai breuddwyd oedd hi wedi'r cwbwl ac nad oedd dim byd mawr wedi digwydd go iawn. Fyddwn i byth wedi meddwl gwneud y ffasiwn beth, ddim hyd yn oed mewn breuddwyd. 'Fyddwn i rioed wedi taflyd dy bethau di i gyd i'r môr,' meddwn i.

'Ond mi wnest,' medda chdithau.

'O, t'yd o'na bellach,' meddwn i. 'Mae'r haul ar godi. Pethau i'r nos ydi breuddwydion. Mae hi'n hwyr glas ichdi anghofio'r lol yma am daflyd dy bethau di i gyd i'r môr.' Efallai fod rhyw dinc crafog yn fy llais. Newydd ddeffro'r oeddwn i ac mi roedd gen i ben mawr ac angen paned o goffi dda. A dyma finnau o'r llofft gan feddwl gwneud paned inni a hefyd dangos ichdi unwaith ac am byth fod bob dim yn iawn. Mi es i estyn dy sibw^ts o'r twll dan grisiau, a'th siaced di o'r wardrob ichdi gael gweld 'mod i'n deud y gwir.

 

Ond erbyn chwilio yn y twll dan grisiau doedd dy sibw^ts di ddim yno a toedd dim sôn am dy siaced di yn y wardrob chwaith. Dal i orwedd ar y gwely'r oeddat ti gan syllu'n syth o dy flaen. Mi rois hambwrdd y pethau brecwast ar y bwrdd erchwyn. Mor welw oedd dy wyneb, meddyliais, mor llonydd oedd dy wefusau. Plygais drosot i'th gusanu ar dy wefusau. Roeddan nhw'n oer. Dim ond wrth godi 'mhen a syllu arnat y sylwais fod llond dy wallt o ronynnau bach tywod a'r rheini'n chwincio fel sêr.

 

 

Nid Twrci mo Ifan

 

Clywais yn ddiweddar griw o hen blant bach yn canu'n uchel ar eu ffordd o'r ysgol a dyma'r rhigwm a genid ganddynt:

 

'Mae Ifan Llwyd Ifan yn dwrci go iawn,

Fe'i rhostiwn ben bore a'i fwyta fo'n 'pnawn.'

 

Dim rhyfedd ei fod o'n gyff gwawd gan bawb, meddyliwn innau, a fyntau â'r fath olwg arno'n codi at ei gwsmeriaid gefn dydd golau. Ond dyna fo, y fo ydi perchennog unig siop larwm y pentref; mi gaiff wneud fel a fynno. Os myn esgeuluso'i drwsiad, esgeulused. Un tro daeth gwraig yr oedd arni hi bres iddo fo i'r siop ac meddai hi, 'Dach chi'n drwsiadus heddiw, Ifan Llwyd Ifan.'

'Nacdw,' meddai yntau, 'ydach chi am dalu'ch dyledion neu beidio?'

'Nacdw,' meddai hithau.

Rhag i neb gamddeall, fu Ifan Llwyd Ifan rioed yn ddyn poblogaidd yn yr ardal. Credaf fod gennyf sail i honni hyn yn sgil yr hyn a glywais â'm clustiau fy hun (credaf mai dyma'r clywed gorau sydd). Siaradais yn bersonol (eithr nid yn or-bersonol) gyda nifer o dwristiaid o'r Almaen a oedd yn chwilio am gastell. Yn fras dyma'r ymateb a gefais:

'Nid yw Ifan Llwyd Ifan yn ein teithlyfr. Ai dacw'r castell?'

Holais y porthor a nododd fy nhocyn ar balmant gorsaf rheilffordd y pentref (mae yma ganllath o lein yn gylch o gwmpas tw^r y llan; fe'i gosodwyd yn abwyd i ddenu ymwelwyr ond nis gwnaeth - nid oes gennym eto nac injan na cherbydau) a dyma'r ymateb a gefais: 'Rydym oll ac un yn drwgleicio'r dyn.' Efallai na ddihysbyddais yn llwyr yr holl ffynonellau a oedd ar gael imi ac efallai mai byrbwyll oedd fy honiadau yn Llais Llwyd (ein papur bro) yr wythnos ganlynol, ond Duw a w^yr mi wnes y peth iawn (dwi'n meddwl). Dwi'n cofio'r balchder a deimlais o weld y pennawd bras mewn print inc du: 'NID TWRCI MO IFAN LLWYD IFAN OND ****.'

Amlygir diffyg serch y brodorion tuag ato mewn ffyrdd cynnil ond arwyddocaol. Bydd pobol yn croesi'r stryd i'w osgoi. Bydd rhieni'n dysgu eu plant i wthio cachu defaid i'w flwch llythyrau. Ar aelwydydd y fro bydd neiniau a theidiau'n hel atgofion am yr hen amser gynt pan fyddid yn gwthio troseddwyr i lawr ei gorn simdde er mwyn iddynt ysbeilio'i eiddo. Mae ei enw'n ddigon i beri i ardal gyfan grychu trwyn.

Ni fydd Ifan Llwyd Ifan yn cyfarch ei gwsmeriaid wrth eu henwau. Dim ond galwadau ffôn dienw y bydd yntau'n eu derbyn. Yr unig ohebiaeth a gaiff fydd gorchmynion i dalu am bethau y mae eraill wedi eu prynu yn ei enw fo. Ni w^yr neb o ble y tardda'r môr atgasedd tuag ato. Barn y werin bobol yw nad ydynt yn gwybod tarddiad dim byd, felly bedi'r ots? Tydi o'n ddigon ei fod yn hen gingroen anghynnes a nhwythau wedi arfer ei gasáu o erioed? Efallai fod Cochen Ffrom yn waeth am ddrewi ac efallai fod Ardalydd Niwcymbyr yn fwy o goc oen ond yn y bôn y fo, Ifan Llwyd Ifan, yw'r drwg yn y caws am bob dim go iawn.

Mae yntau, wrth gwrs, wedi dysgu dygymod â'i driniaeth. Yn wir, weithiau, gellid credu ei fod am annog y peth. Yn aml bydd estroniaid i'r parthau hyn yn argyhoeddedig ei fod yn gwneud ati i dynnu pobol yn ei ben. Erys cof o hyd yn y plwyfi anghysbell ym mhen pella'r cwm lle bydd rhaib y gwynt yn miniogi'r cof, am Sais yn dw^ad i'r pentref ac yn holi am y saethu ym mhen draw'r stryd.

'Ifan Llwyd Ifan sydd yn saethu at y plant ysgol,' oedd yr ateb a gafodd y Sais.

'Mae'r dyn hwn yn gwneud ati i dynnu pobol yn ei ben,' meddai'r Sais. Cytunodd y brodorion, ond roedd gwên yn chwarae ar wefusau rhai ohonynt. Oherwydd dim ond estron cwbl anhyddysg yn ein traddodiadau ni a allai fod wedi meddwl y fath beth. Petai ond wedi dallt ein ffordd ni o siarad byddai wedi gwybod mai ystyr 'Ifan Llwyd Ifan sydd yn saethu at y plant ysgol' yw 'Mae gennym isod giang o hogiau iach yn plannu bwled blwm yn nhwll ei din'. Gresyn nad oedd y Sais wedi ein dallt ni'n iawn.

Ond mae angen Ifan Llwyd Ifan arnom. Unwaith, ffoes ymhell i le diarffordd a buom yn un haid yng ngyddfau'n gilydd nes iddo gael ei ddarganfod a'i ddwyn yn ôl i'n plith. Nid oeddem am i hyn ddigwydd eto felly torasom ei goesau i nadu iddo ddenig i ffwrdd eto. Cafwyd baglau iddo a'i wthio'n ôl y tu ôl i gownter ei siop.

Ac yntau'n crogi'n sigledig o'i faglau pren yr un fyddai'r diwn gron ganddo o hyd: 'A fedraf eich cynorthwyo?'

'Na fedri.'

'Bedachisio 'ta?'

'Isio larwm.'

'Rydych yn y lle iawn!'

'Wn i, lembo. Jest t'yd â fo.'

'Sut un hoffech chi?'

'Un coch hefo melon ar lawr gwastad.'

'Yn union deg, Syr!'

A dyna'r gwaethaf, waeth faint mor astrus ac annelwig fyddai'r archeb, byddai'r union larwm ganddo. Yr oeddem wedi hen ddihysbyddu ein geirfa fer, wedi ei throi y tu chwithig allan ac wedi benthyg geiriau newyddion na fedrem hyd yn oed mo'u dallt. Ond byddai storfa Ifan Llwyd Ifan yn dal i wegian dan bwysau larwmiaid rhyfedd a dieithr a ninnau druan yn methu dw^ad o hyd i enwau iddynt.

Gyda threigl y blynyddoedd daeth yn amlwg nad trwy deg yr oedd trechu Llwyd Ifan eithr trwy dwyll. Lle cynt y bu'i angen arnom bellach nid oedd arnom eisiau dim oddigerth gwaredigaeth oddi wrtho. Penderfynasom mai ar ôl yr arwerthiant Nadolig o larwmiaid hanner pris fyddai'r adeg orau i'w ladd. Ni fynnai neb fethu'r arwerthiant. Tyrrai'r werin bobol o bell ac agos, o bant i bentan ac o Fôn i Fynwy i fynychu'r achlysur hwyliog hwn. Larwmiaid yn mynd am hanner pris, eraill yn mynd am hanner nos. Ni fyddai taw ar weiddi'r gwragedd a chrio'r plant, mi fyddai fel ffair Borth acw a phawb a'i garreg i'w phledu drwy ffenest Siop Larwms iddyn nhw gael estyn eu dwylo blewog at y stoc tu mewn. Un flwyddyn daeth llond bws o Siapaneaid i'r arwerthiant a hwythau'n ceisio talu am eu pwrcasiadau. Nid oeddem yn dallt hyn canys nis gwelwyd o'r blaen. Llwyddodd Ifan Llwyd Ifan i fyw ar eu pres am beth amser, a medru prynu sebon i olchi'r rhwymau am ei ben. Ni wnaeth hyn ond corddi'r gymdogaeth yn waeth. Roedd yn rhaid inni gael gwared ohono.

Wmffra Nionod Bach ddaru daro ar y syniad. Dyna pam mai fo fu'n rhaid mynd i'r Sasiwn Mawr i hawlio'i dreuliau. Fe'n darbwyllodd i aros tan ar ôl y Dolig i ddifa'r gwerthwr larwms. Dadleuai y byddai gennym fwy o amser ar ein dwylo rhwng y Dolig a'r flwyddyn newydd a bod hynny'n caniatáu inni wneud joban iawn ohoni. Yr oedd ef, beth bynnag, wedi ymrwymo i fynychu sawl achlysur tymhorol cyn yr w^yl, meddai, ac roedd ei Sadyrnau i gyd wedi eu neilltuo ar gyfer ymweld â'r arbenigwr cosbi plant. Ategwyd hyn gan Einion Chwerthin. Yr oedd yntau'n brysur gyda'r coed Nadolig a rhwng hynny a'r ymarfer côr ni châi yntau gyfle i fynychu lladdfa Llwyd Ifan tan ar ôl Gw^yl San Steffan fan gyntaf. Cytunwyd ar ddyddiad ac amser: y seithfed ar hugain am wyth o'r gloch y bore. Gohiriwyd y cyfarfod ac aeth pawb am adref i gael te. Yn ddiweddarach, gwnaed cwyn swyddogol gan Alwyn Galwyn fod Iocyn Celwydd wedi ei rwystro rhag cynnig gwelliant yngly^n â'r bwriad i godi wal o amgylch defaid Ifan Llwyd Ifan, a bod Iocyn wedi bron â'i fygu wrth sodro cledr ei law am ei geg a'i drwyn i'w rwystro rhag siarad a bod hynny wedi peri i'r Cadeirydd fethu'r pwynt a geisiai'i wneud ac felly nas cofnodwyd. Teimlai'n flin iawn am hyn, meddai. Yn ddistaw bach teimlai aelodau eraill y pwyllgor ei bod efallai'n bryd i Alwyn Galwyn gael ei orfodi i lyncu pwcedaid o sment sychu'n sydyn ac wedyn ildio'i sedd i rywun callach.

Bid a fo am hynny, gwawriodd bore dydd Nadolig 1992 yn oer ac yn glir. Rhubanai'r mwg o simneiau'r tai, gwenai'r goleuadau melyn o'r ffenestri, a deuai sw^n chwerthin a gweiddi plant o gyfeiriad siop Ifan Llwyd Ifan. Mae'n hen draddodiad Nadolig yn ein hardal ni i'r plant bledu peli eira (pan fydd eira) neu bledu cerrig (pan na fydd) at ffenestri siop Ifan Llwyd Ifan. Yn wir, credaf mai dyma darddiad gwreiddiol yr hen ddihareb,

Dolig gwyn, Llwyd a'i myn;

Dolig llwyd, pledu cerrig at ffenestri'r cwd.

Bydd bore Dolig yn amser braf gennyf bob tro, hithau'n glyd ar yr aelwyd a thanllwyth o dân poeth yn clecio yn y grât a bolaid o win coch cynhesol yn iro'r galon, arogleuon y twrci a'r sbrowts a'r tatws rhost yn codi o'r gegin, a'r byd tu allan yn llwm ac yn oer a neb i'w weld yn unman heblaw Ifan Llwyd Ifan ar ei bedwar ar y palmant o flaen ei siop yn ceisio glynu papur newydd dros weddillion ei ffenestri.

Ni fyddwn yn caniatáu iddo gael pryd poeth i ginio Nadolig ond fel arfer bydd y cymdogion yn estyn ambell dun sardîns neu dun ffa pobi ac yn eu plymio drwy bapur newydd ei ffenest ar eu ffordd i'r oedfa neu i'r dafarn. Bydd yntau'n eu cywain yn ofalus, yn wir dyma fydd ei brif (a'i unig) gynhaliaeth dros gyfnod y gwyliau. Eithr er cymaint ei ddyled i'r gymdogaeth, bach iawn o ddiolch a gawn ganddo am ein haelioni.

Ond y flwyddyn hon bu tro ar fyd. Drannoeth Gw^yl San Steffan fe ddaeth pawb ynghyd i stafell bwyllgor neuadd y plwyf. Yr oedd pawb i ddw^ad a'u harfau difa Llwyd eu hunain gyda hwy, a dyna amrywiaeth od a gafwyd: cyllyll, ffyrc, picweirch, pladuriau, gwn cychwyn rasys, rhwyf cwrwgl, telyn deires, rhaffad o nionod, llond tun bisgedi o fins-peis, a thair coes twrci. Gyda seindorf arian Nionod Bach yn y blaen, gorymdeithiasom o'r neuadd, ar ganol Stryd Fawr (nid ei bod yn fawr felly ond y hi yw'r unig un sydd gennym) a sefyll yn swnllyd gerbron Siop Larwms.

'Tyrd allan, Ifan Llwyd Ifan!' galwodd Wmffra Nionod Bach gan daflyd nionyn drwy bapur newydd y ffenest ddrylliedig. Ategwyd y floedd gan drawiad o'r drwm a diasbedain o'r symbalau pres.

'Wedi cau heddiw,' ebe llais gwichlyd Ifan o ganol y papur. 'Dan annwyd trwm, dewch 'nôl fory.'

'Tyrd allan, Ifan Llwyd Ifan!' meddai Nionod Bach eto, 'neu mi cei di hi gennym ni!'

Daeth sw^n pesychu bloesg o grombil y siop.

'Tyrd allan, Llwyd Ifan. Edrych, mae gennym fins-peis iti. Edrych, mae gennym hefyd goesau twrci iti. Edrych y gwirodydd cryfion sydd gennym, fe wnâi'r rhain i galon yr esgimo oeraf yn y byd gnesu'n ei frest!'

Daeth pen rhwymedig Ifan Llwyd Ifan drwy'r ffenest, a golwg drybeilig arno a fyntau'n crynu dan gryd neu dan dwymyn. 'Mmmins-peis? Tttwrci? Gggwirodydd!?' meddai gan agor a chau ei lygaid gael iddo gael cynefino â'r golau. 'Wel... diolch ichi, gymdogion...diolch. Mae hyn...' Ond torrodd ei lais dan rym yr emosiwn a gronnai, siw^r o fod, yn ei frest o weld y fath dyrfa wedi hel i edrych amdano, a phowliai'r dagrau'n hael fel marblys i lawr ei ruddiau llwydion. Dichon na sylwasai ar yr arfau miniog a gludem.

Ond dyna ichi effaith a gafodd hyn o eiriau arnom! Fe'n syfrdanwyd. Ni allai undyn byw ohonom symud na bawd na throed. Ifan Llwyd Ifan yn dweud diolch! Pan gawsom eto ddefnydd tafod leferydd ymgynghorasom. Na, nid oedd hyd yn oed yr hynafgwyr hynaf yn ein plith yn cofio hyn o'r blaen. Penderfynasom na allem mo'i ladd a fyntau wedi bod mor glên â diolch inni, a hynny am y tro cynta 'rioed. Troesom ar ein sodlau a martsio'n dalog yn ôl am y neuadd gan adael y mins-peis, y coesau tyrcwns a'r diodydd gwirodydd ar drothwy llwm Ifan Llwyd Ifan iddo gael mwynhau gweddill y dydd yn dawel ac yn ddigyffro yng ngweddillion ei siop.

'Wedi'r cwbwl,' meddai Wmffra Nionod Bach, a ninnau o amgylch bwrdd pwyllgora'r neuadd yn disgwyl i'r sment setlo yn stumog Alwyn Galwyn, 'mae hi yn gyfnod ewyllys da i bawb ond tyrcwns 'tydi, hogiau? Ac fel y gwyddom, nid twrci mo Ifan Llwyd Ifan ond c**t!'

 

 

 

 

Morys y Gwynt ac Ifan y Glaw

 

 

Mae Morys y Gwynt yn y drws yn gofyn geith o ddw^ad i'r ty^. Mae o'n gwasgu'i wyneb i'r ffenest ac yn crafu'i ewinedd hyd y gwydr. Y byd sy'n rhy fawr a'r gwaith yn rhy hir. Mae o isio gorffwys mewn lle cynnes a braf. Wneith o ddim tarfu arni hi, mae o'n gaddo bihafio, wneith o ddim malu'r lluniau tro 'ma na dymchwel y byrddau. Dim ond meddwl ei fod o'n fawr mae hi; rhaid iddi gofio mwya'n byd fydd rhywbeth i'w weld o bell, lleia'n byd fydd o o'i gael yn eich llaw. Nid y fo fuodd wrthi neithiwr yn rheibio'r goedwig ac yn dwyn y dail. Gwarchod pawb, nacia, nid y fo ddaru gorddi'r môr a'i chwipio fo dros ben y cloddiau i gyd i ganol y tai. Fydd o byth ychwaith yn gwthio'i fysedd dan fondo'r toeau a'u codi fel codi caead blwch. Ar ysbrydion aflonydd Teulu Gwyn ap Nudd mae'r bai. Ar Bendigeidfran mae'r bai. Mae nhw i gyd isio cael marchogaeth yr awyr ar ei gefn. Byddant yn heidio amdano fo ac yn neidio ar ei gefn, yn gwasgu'u sbardunau pigfain i'w ystlysau ac yn ei fflangellu'n ddidrugaredd â'u gwiail tân. Pwy a wêl fai arno am grio a chnadu a'r fath giwed yn ei biwsio? Trio'u hel nhw o'na mae o. Gorfod gollwng pob dim o'i ddwylo a'i g'leuo hi rhagddyn nhw fel llwynog o flaen y cw^n. O na bai'n cael llonydd ganddyn nhw i ddilyn ei ddyletswyddau. Troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos ydi dyletswydd gwynt, llenwi hwyliau gwynion a'u gwthio dros groen yr eigion ydi dyletswydd arall, rhoi pàs i'r cogau sy'n mudo draw o'r Affric ydi un arall ond tydi o ddim wedi cael amser i wneud ei waith yn iawn. Pethau syml fel yna sy'n rhoi pleser iddo, nid gwneud drygau, ond mae nhw'n 'cau gadael llonydd iddo ac mae o'n mynd o'i go'n lân weithiau.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm iawn, wedi ffoi droeon o gylch ac o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau dragywydd yn ei hambygio ac yn ei gosbi. Newydd gael pum munud o flaen arnyn nhw mae o, wedi cael ei draed yn rhydd am y tro cyntaf ers cantoedd, plîs wneith hi agor y drws! Neu'r ffenest...dim ond iddo fo gael dw^ad i'r ty^, dim ond am dipyn bach...ac os ceith o ddw^ad i mewn, a geith Ifan y Glaw tu allan ddw^ad i mewn hefo fo? Mae Ifan fan hyn yn crio isio cael dw^ad i'r ty^.

 

Nachewch, chewch chi ddim dw^ad i'r ty^ ar ôl ichi dynnu'r lle 'ma'n gareiau y tro dwytha. Finna'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dweud y gwir. Rhai drwg ydach chi. Deud wrth Ifan am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau, tydan ni ddim isio'i deip o ffordd hyn. Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch Affrica lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno. Toes mo'i angen o'n fan hyn, na chditha chwaith, Morys. Cerwch o'ma i uffern ar ôl yr helynt hwyr a wnaethoch chi'r tro 'blaen.

Ond mae Ifan yn edifar iawn am be wnaeth o, Mrs bach, neith o mohono fo eto. Mae o'n crio go iawn isio cael dw^ad i'r ty^, Mrs, clywch ei lais o'n cwyno. Awn ni ddim o'ma tan gawn ni ddw^ad i mewn. Ninnau wedi dw^ad o le pell i edrych amdanoch chi, Mrs, roeddan ni'n meddwl yn siw^r y basa ni'n cael croeso. Ydi'n croeso ni wedi mynd yn brin yma, Mrs? Does bosib eich bod chi'n dal dig wrthon ni ar ôl y tro 'blaen? Mae hi'n falch o'n gweld go iawn, Ifan, mi ddaw at ei choed yn y munud paid ti â phoeni ac wedyn gawn ni fynd i mewn. T'yd, Ifan, cyfyd ar fy nghefn i, awn ni am dro bach dros y fron fry a draw am fynwes y dwyrain inni roi cyfle i Mrs bach hwylio sgram inni.

Ond mi ddeudaist ti y basan ni'n cael lle da fan hyn. Be wnawn ni rw^an, Morys? Mi dwi wedi blino teithio eangderau'r sygnau diwael ar dy gefn. Dwi'm isio mynd am dro hefo chdi. Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau yma sgynna'i amdana'i'n da i ddim pan fydd yr oerfel yn gafael ym mêr fy esgyrn. Carpiau hudol ar y diawl. Tydyn nhw'n cadw dim arna'i rhag y cenllysg mawr sy'n hyrddio o'r mynydd. Mae'i ofn o arna'i, Morys, ac mi ddaw eto amdana'i heno a 'ngholbio fi'n ddu las a'm lluchio i'r môr. Fedra'i ddim dioddef noson arall fel 'na. Felly, plîs gofyn iddi eto, Morys, gofyn gawn ni fynd i'r ty^. Mrs bach a chditha fel gwac a mew, ddeudaist ti, yn dallt eich gilydd i'r dim, yn benna ffrindiau. Fedra'i ddim coelio y basach di'n fy nhwyllo i fel hyn. Deud wrthi eto na wnawn ni ddim llanast, os wyt ti mor agos ati. Deud wrthi mai trwsgwl oeddwn i'r tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol blwydd, doeddwn i heb arfer hefo cyllell a fforc - a chofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri. Cofia ddeud wrthi mai chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde, nid Ifan y Glaw. Chdi wnaeth gur hyd y mur main, nid y fi. Deud ti wrthi yr a'i i mewn ar fy mhen fy hun. Wnes i fawr o'i le'r tro 'blaen. Gwranda, os ca' i fynd i mewn mi ro' i air da drosot ti ac ella wedyn y daw hi at ei choed a'th adael dithau i mewn. Ac os ydi hi'n 'cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i 'i chefn hi a dy adael di mewn beth bynnag, ac mi geith hi weld na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

 

Geith Ifan ddw^ad i'r ty^ ar ei ben ei hun 'ta, Mrs bach? Mae o'n gaddo bihafio, nid arno fo roedd y bai tro dwytha yn nacia? Dwi'n dallt pam nad ydach chi isio 'nghynnwys i, yndw'n iawn, ond pam cosbi Ifan druan a fynta heb wneud dim byd o'i le? Dewch Mrs bach, agorwch gil y drws iddo fo, mae o'n gaddo bihafio.

Cer di'n ddigon pell 'ta, Morys y Gwynt, draw i'r traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau. Rw^an, Ifan, a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da, t'yd i mewn am funud ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion, cofia, neu allan ar dy ben fyddi di, dallt? Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb diferu, hogyn, cer i'r cefn y munud yma i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna cyn iti gael annwyd. Mi gei di ddigon o dyweli glân yn y cwpwrdd cynnes. Mae 'na ryw hen ddillad i'r mab yn y gist wneith yn iawn ichdi wedyn. T'yd â'r hen bethau yna imi wir, gael imi'u sychu nhw o flaen tân. Rwyt ti'n crynu fel deilen, hogyn, wyt ti ddim yn dda? T'yd, mi gei baned gnesol a bechdan grasu ac mi ddoi di wedyn 'sti, fyddi di ddim yr un un.

Dach chi'n glên ofnadwy hefo fi, Mrs bach, diolch yn dew ichi. Mae'r fechdan grasu 'ma'n dda. Dwi am gadw tamaid i Morys erbyn fydd yn rhaid imi fynd allan ato fo. Bechod drosto fo'n goro rhynnu allan yn yr oerfel ac yn goro cuddiad oddi wrth yr ysbrydion aflonydd... Maen nhw'n ei blagio fo'n ddidrugaredd wyddoch chi, dyna sy'n ei yrru o o'i go a'i yrru o i wneud drygau. Cofiwch, mae hi'n well arno fo rw^an chadal fel byddai - mae Gwyn wedi cadw rhai o'r ysbrydion yn ôl i helpu hefo gwaith y Teulu ac mae Morys wedyn yn medru dianc yn amlach achos toes yna ddim digon ohonyn nhw i'w ddal o weithiau. Tasa fo'n cael dw^ad i'r ty^ mi gaech weld wedi altro mae o'n barod: 'plîs a thanciw' ydi hi bob gafael ganddo fo rw^an 'chi, rêl gwynt bonheddig ydi o wedi mynd. Ond dyna fo, mae'n rhaid iddo fo gael ei gosbi mae'n debyg. Cofiwch, mae o wedi diodda am be wnaeth o, ei gydwybod yn ei bigo fo dragywydd - o, oes mae gan hyd yn oed hen gorwynt fatha Morys gydwybod - mae o wedi diodda ergydion saethau edifeirwch yn gawodydd a'r rheini ar ben y sbardunau tân fydd yr ysbrydion aflonydd yn gwanio yn ei din. Ydach chi'n synnu fod y cradur yn cynddeiriogi ac yn chwipio troi yn ei unfan fel ci â briw ar ei din a'r coed a'r tai a'r môr a'r llongau i gyd yn chwipio troi hefo fo ac yn codi fel mwg i'r awyr a lle bynnag y bydd o wedi bod mae ôl ei droed i'w weld yn rhych ar draws y gwledydd. Ond neith o mohono fo eto, mae o'n gaddo na wneith o, os ceith o ddw^ad i'r ty^.

Wel galw arno fo 'ta, neno'r Tad, ond dwi'n dy ddal di'n gyfrifol am ei ymddygiad o, cofia, Ifan. Ac unrhyw chwarae'n wirion ac mi fydd y ddau ohonoch chi allan. Ydach chi'n licio tatws pum munud o'ch dau? Mi fydd ar y bwrdd erbyn dowch chi'n ych ola.

 

Morys, lle'r wyt ti, mae hi'n deud y cei di ddw^ad i'r ty^... Mi ddeudis y caet ti adwy... Morys! Morys y Gwynt! Lloches am y noson o'r diwedd ac mae hwn wedi diflannu! Lle uffarn mae o? Mi faswn i'n well off hebddo fo, wir Dduw. Mae bob man mor llonydd, dim sisial ym mrigau'r coed, dim byd ond rhyw pwt o ewyn ar frig y tonnau. Hei, chdi, awel fôr, welaist ti mo Morys y Gwynt yn unlla? Draw ar y bae oedd o gynna yn corddi'r dyfroedd fel fflamia ond sbia rw^an, mae pob man mor llonydd. Welais ti o ar y gorwel gynnau? Draw fan 'cw lle mae'r pyst haul yn gwneud patrymau ar y dw^r? O, wela' i o rw^an, a phell mae o wedi mynd! Ydi'r ysbrydion aflonydd ar ei gefn o o hyd? Cer â negas iddo fo drosta'i, wnei di? Be wyt ti'n feddwl dros pwy? Mi ddylat wybod pwy ydwi, ond Ifan y Glaw 'de. Dwi'n un o'r elfennau mawr, 'sti, yn feistr ar ryw chwa bach o ddarpar wynt fatha chdi. Felly dos rw^an a deud wrtho fo fod Ifan y Glaw yn deud am iddo fo ddw^ad i'r ty^. Dos, da'r awel, a brysia.

 

Dwi'n dechrau poeni, Mrs bach, mi ddyla'i fod o 'di cyrraedd erbyn hyn. Deu, oedd y tatws pum munud yn dda. Ust, glywsoch chi'r crafu ar y ffenest? Morys ydi o'n ei ôl yn siw^r i chi. Be gadwodd o dwch? Rargian, mae o wedi diffygio'n lân mae'n rhaid, drychwch arno fo yn un hwdwl ar y rhiniog. T'yd i'r ty^, Morys bach, gael ichdi gnesu o flaen tân. Morys, mae Mrs bach wedi gwneud tatws pum munud ichdi, t'yd, rho dy fraich am f'ysgwydd i... Sbiwch Mrs bach, ylwch golwg arno fo, mae o fatha tasa fo wedi bod hanner ffordd rownd y byd. Ylwch Mrs bach, mae o fel oen llywaeth, toes yna ddim chwyth ar ôl yn ei frest o. Dach chi'n coelio fi rw^an na chewch chi ddim trafferth hefo fo heno, Mrs bach.

Wel, wir, mi rydach chi i'ch gweld wedi eich dofi chadal y tro dwytha fuoch chi yma'n cadw reiat ac yn strancio ac yn malu. Dach chi i'ch gweld yn aeddfetach elfennau rywsut. Mi gewch ddw^ad pan fynnwch eto, cewch â chroeso, mi fydda'i'n falch o'ch cwmpeini. Mae'r mab wedi hen adael y nyth ac ers claddu'i dad o, rhad arno... Ond t'yd dithau, Morys, newidia'r hen garpiau budron yna ichdi gael cnesu'n iawn. Mi ddangosith Ifan ichdi. A hwdiwch, dyma bâr o slipars bob un ichi. Gwrandwch, ewch chi ddim adra heno, mi gyweiria'i ddau wely glapsam ichi yn y llofft gefn... Fyddwch chi ddim yr un rhai wedi cael noson iawn o gwsg.

 

Ifan, wyt ti'n teimlo'n iawn? Mi dwi'n cosi drosta'i ac mae 'nghroen i fel tasa fo'n rhy fach i 'nghorff i. Fedra'i ddim cynefino hefo dillad ei mab hi, dwi isio 'ngharpiau hudol yn ôl imi gael chwyddo'n fawr. Coda o'r gwely yna a helpa fi chwilio amdanyn nhw, ar lein maen nhw mae'n siw^r neu ar hors ddillad o flaen tân. Ty'd, brysia, well inni godi, mae gwaith yn galw. Picia lawr grisia i chwilio am y carpiau, Ifan, gael inni chwyddo'n fawr fawr a mynd yn ddrwg ddrwg. Mae'n biti gen i braidd fod yn rhaid inni reibio'r ty^ 'ma rw^an, wedi cael croeso da. Fyddi di'n poeni weithia, Ifan, ws ti, am orfod chwalu tai pobol a ballu? Yndi, mae o'n dw^ad hefo'r job, wn i, ond... Ta waeth, picia nôl ein dillad ni reit handi, nei di, chdi drefnodd inni gael dillad glân a ballu...

Aru chi gysgu'n iawn o'ch dau, Ifan? Hidia di befo am yr hen garpiau yna am funud bach. Y peth pwysig ydi, ydi Morys yn well wedi cael cwsg bach? Da iawn. Mae'r cradur wedi cael ei roi drwyddi'n o arw'n ddiweddar, tydi. Fydd y bacwn a'r wyau ddim chwinc eto... Be rw^an? Ia, y carpiau yna oedd gynnoch hi amdanoch pan ddaethoch chi, be amdanyn nhw? Be wyt ti'n feddwl eich dillad gwaith, doedd y dillad yna ddim ffit i glown yn y syrcas, hogyn. Roeddan nhw wedi madru i gyd ac yn drewi fel ffwlbart, nid dillad faswn i'n eu galw nhw. Wel, fedra' i ddim mo'u rhoid nhw ichdi, Ifan. Dwi wedi eu llosgi nhw. Mi aethon ar y tân neithiwr ar ôl ichi fynd i'ch gwlâu. Mi gewch gadw'r rheini rois i ichi. Fydd ar y mab mo'u heisio nhw eto. Fydd dim rhaid ichi grwydro'r byd yn rhith dau drempyn. Be sy, Ifan? Mi rwyt ti wedi gwelwi mwya sydyn. Eistedd di'n fan 'ma 'ngwas i, hwda lymed o ddw^r. Mae dy law bach di'n crynu, Ifan. Ifan, be sy?

 

Lle mae'r carpiau, Ifan? Pam na ddoist ti ddim â nhw? Rhaid inni newid yn ôl. Be sy mater, Ifan, wyt ti wedi gweld drychiolaeth neu rywbeth? Lle mae'r blydi carpiau hudol, Ifan? Dyna dwi isio'i wybod, lle ddiawl maen nhw? Fedrwn ni ddim rheibio'r ty^ na boddi'r fro heb y carpiau hudol, Ifan, felly lle maen nhw? Ydyn nhw yn y cwpwrdd cynnes ynteu'n hongian allan ar lein ynteu be? Brysia wnei di, imi gael gwisgo amdanaf a llenwi'r awyr a gwneud drygau mawr! Dwi isio bod yn wynt gwyllt eto a thydi ddiawl o bwys gen i am yr ysbrydion aflonydd chwaith! Rw^an lle mae 'nillad i, plîs, Ifan?

 

Bydd Morys y Gwynt ac Ifan y Glaw i'w gweld yn aml ar bnawniau Sul yn cerdded ar hyd y morglawdd uwchlaw'r traeth. Yn ystod yr wythnos fyddan nhw'n helpu Mrs bach hefo gwaith y ty^; hwfro, golchi llestri, picio'n ôl neges. Pan fydd hi'n braf fyddan nhw weithiau'n trin yr ardd ac yn tyfu mân lysiau fel tatws a moron a ballu. Bob Dydd Mercher, ar ôl cinio, fyddan nhw'n cymryd y Bws Bach i'r farchnad ond fyddan nhw ddim yn prynu dim byd. Tro o gwmpas y maes, paned mewn caffi ac adref erbyn amser te. Ond cerdded y morglawdd fyddan nhw ar bnawn Sul. Mae nhw'n cerdded yn ara deg a'u llygaid yn gwylio'r gwylanod sy'n cylchu'r castell. Mae nhw'n sefyll i wylio cwch yr haul yn suddo i'r bae. Pethau sydd wedi mynd yn fawr, rywsut, a'r byd wedi mynd yn ddiarth. Maen nhw'n gorfod rhoi clun i lawr ar fainc i gael eu gwynt atyn. Ar y llwybr wrth droed y fainc mae cragen wen wedi ei gadael gan ryw wylan neu ryw blentyn. Maen nhw'n ei dal at eu clustiau bob yn ail gael iddyn nhw glywed llais y môr mawr yn dw^ad ohoni a hwnnw'n sibrwd mwya'n y byd y bydd rhywbeth i'w weld o bell, lleia'n y byd fydd o pan ddaw o dan dy law.

 

 

Cyfraniad at Gofiant yr Hybarch Frawd Stotig Isgis

 

Bu'n fwriad gennyf ers tro byd gyhoeddi cofiant un o saint hynodaf ein cyfnod. Saif rhyngof a dwyn y gorchwyl hwn i ben flynyddoedd o durio a chloddio diflino ond boed i hyn o lith fod yn damaid i aros pryd i'r efrydydd dyfal a fyn bori ym maes ffrwythlon hanes ein harwyr sanctaidd.

 

Taeog o blwy'r Eithin yn ardal Diffwys fu'r Hybarch Frawd Stotig Isgis ran helaeth o'i oes. Yn allanol nid oes un dim hynod yn ei fuchedd. Hyd at adeg ei wasanaeth milwrol byw bywyd taeog cyffredin a wnai. Codi gyda'r wawr, mynd allan ym mhob tywydd i ysbeilio'i gymdogion, meddwi'n ulw yn y dafarn gyda'r nosau ac adref mewn pryd i golbio'i fam. Eithr yn ystod ei wasanaeth milwrol a barodd chwe blynedd trawsnewidiwyd Isgis o fod yn daeog dwylo blewog i fod yn garn lleidr didrugaredd ac yn sgandal uffernol. Anrhaith, rhaib a thrais a'i dilynai a daeth ei enw'n ddychryn i blant bach ym mhob cwr o'r wlad. Yn dilyn ei yrfa lwyddiannus yn y fyddin ceisiodd a chael ei ordeinio'n fynach ac felly y bu fyw weddill ei oes (na ddaeth eto i ben) yn wylaidd ac yn ostyngedig a'i galon yn eiriol dros eraill yn amlach na throsto ef ei hun.

 

O'i eni i'w farw (na fu eto) - mor llwm y llun! O'i fywyd allanol nid oes fawr i'w ddweud ac am fywyd mewnol dyn odid nad gresyn yng ngolwg Duw fyddo unrhyw ymchwiliad i dywyll leoedd yr enaid. Onid cableddus o'r bron fyddai ceisio dinoethi calon Cristion? Eithr yng ngwyneb hyn, ac yn y gred hyfryd na all un dim bellach fennu ar sancteiddrwydd ein Hybarch Ddwyfol Stotig, a ddaeth i'r byd o'i go ac a'i gedy'r un modd, mi geisiaf yma olrhain peth o'i hanes yn y gobaith y disgynno lygedyn o ddisgleirdeb y sant ar y sawl a'i darlleno.

 

Y galon yw maes y gad yn rhyfel yr Oen. A'r galon sydd ddofn. Yn y galon ddofn y bydd bywyd y gwir Gristion. A'r sawl a êl i gyfrin leoedd y llannerch honno a ddaw wyneb yn wyneb â dirgelion bod. Gw^yr y sawl a ymroddodd â chalon bur i synfyfyrio ar ei ystad fewnol mor anodd, mor amhosibl yw cyrraedd at lwyr ddealltwriaeth, hyd yn oed am ennyd awr, o ddirgel ffyrdd yr enaid canys yn ei dwyster mae'r galon yn cyd-gyffwrdd â'r lle hwnnw nad oes iddo na ffyrdd na ffiniau.

 

Nid oedd y Brawd Stotig yn deall hyn. Nid oedd yn deall fawr o ddim byd. Ond gwyddai lawer yn nyfnder greddfol ei galon. Gwyddai, er enghraifft, sut orau i sleifio heibio pawb i'r ffreutur amser cinio. Yn wir dyma ddechrau fy nghyfathrach ag ef, a minnau'n las-fynach dibrofiad yn nechrau fy ngyrfa sanctaidd. Gofynnais iddo fy nysgu yng nghyfrin grefft denig i mewn o flaen pawb. Cofiaf ei ofal a'i amynedd wrth fy hyfforddi. Mor ofalus y dangosai imi sut i baratoi bomiau mwg ac yna sut i'w gollwng o le uchel am ben y dorf dan weiddi 'Tân! Tân!' Coffa da amdano'n aros i gydied yn fy llaw a ninnau'n rhuthro ein dau drwy'r drysau am y seddi gorau a'n habidau mynachod yn nofio o'n hôl. Ie, mynach cyfrwys oedd y Brawd Stotig; yn feunyddiol fe synnwn at ei allu rhyfeddol i dwyllo'r Brodyr Zebra ac at ei allu i osod y bai ar Frodyr llai llwyddiannus. Ni phallwn â'i edmygu, ceisiwn ei efelychu, ef ydoedd fy athraw.

Mor awchus oeddwn, yn wir, i ddysgu'r hyn a allwn ganddo fel mai o'r bron y cofnodais unrhyw beth a ddywedodd wrthyf erioed. Er mawr syndod a siom imi'r awron a finnau'n cywain fy nodiadau ynghyd, gwelaf nad erys imi namyn un cardyn post a dwy anfoneb am olchi ei sanau budron. Ai dyma'r unig dystiolaeth sy'n aros o'r gyfathrach agos a fu rhyngom? Nage, canys erys eto yn storfa'r cof atgofion fyrdd amdano ac am ei storïau a'i hanesion oll. Y rheini yn anad unpeth ydyw cynsail hwn o gofiant. A'r cyntaf ohonynt oll ydyw hanes cyfnod ei eni pan nad oedd eto ond yn ifanc iawn.

 

Fel llawer o daeogion ei gyfnod rhoddai ei dad, Wlbig Isgis, groeso parod i bererinion a chardotwyr crwydrol. Ddyddiau gw^yl byddai'r ty^ dan ei sang ac anaml, drannoeth yr w^yl, y gadewid ganddynt gymaint â hances boced o'u hôl ond mynd â holl eiddo'r teulu i'w canlyn. Un tro tua'r Pasg ac yntau'n ddyflwydd oed, cododd Stotig ei ben o'r crud a gofyn i'w fam, 'Pam fod y bobol ddiarth a da yma'n mynd â'n holl eiddo ni oddi arnom bob tro y byddant yn galw heibio?' Ni allodd ei fam mo'i oleuo gan na wyddai hithau mo'r ateb. Gofynnodd y bachgen dyfal yr un cwestiwn i'w dad pan ddadlwythwyd hwnnw o ferfa yn hwyrach yr un noson. Daeth Wlbig ato a chodi'r plentyn bach yn ei ddwylo - yr oedd grym rhyfeddod wedi ei sobreiddio'n llwyr - ac ebychu mewn syndod: 'Clywch ar hwn! Gyda siarad treiddgar fel hyn fe eith y crwtyn yn bell!' A chyda hynny o sylwad rhoes hwb i'r bychan ar ei ben drwy'r drws agored i ganol y domen dail ar bwys y ty^. 'Ac efallai y dysgith hynna ichdi beidio â rhoi dy drwyn lle does mo'i angen!' Cafodd y profiad gryn ddylanwad ar y Stotig ieuanc. Hyd yn oed ac yntau mewn gwth o oedran yn bedwar ugain oed onid yw'r mynach musgrell yn dal i fynnu cael taenu tail ar hyd ei gorff cyn cysgu'r nos?

 

Nid anhapus oedd plentyndod Stotig Isgis ond trychinebus. Pan ddaeth i oedran llanc daeth i sylweddoli gymaint ar ei golled y bu yn cael ei eni'n fab i daeog brwnt. Dihangodd unwaith i'r goedwig a cheisio cael ei fabwysiadu gan deulu o eirth duon. Ni allodd mo'u darbwyllo i'w dderbyn. Dychwelodd at ei dylwyth a'i gynffon yn ei afl. Penderfynodd wneud y gorau o fyd gwael ac a fyntau'n ieuanc, hardd a chydnerth, bid sicr nad hogyn amhoblogaidd ydoedd hyd y pentref. Roedd yn gyfaill i holl lanciau'r lle, yn cerdded allan gyda llancesi'r plwyf, yn yfed gwirodydd a chwrw melyn, yn dawnsio a chanu'r ffidil, yn lladrata ac yn mwrdro, yn fyr, yn ymddwyn yn union yr un fath â phob llencyn arall yn y plwyf. Mawr oedd y llgadau bach a wneid arno'r Sul gan ferched pengoch llygatlas hardd yr ardal yn Eglwys ein Santes Elibwbana Llawr Plwyf Eithin. Atynnwyd yntau atynt, ac at un ohonynt yn anad neb, a chyn bod sôn am briodi fe gyflawnwyd ganddynt, un noson drom o haf, yn nhalar gweirglodd Cae Pen Stanc, y weithred a gyflawnir yn aml gan bobol ifanc ddireidus iawn.

Trannoeth y bore a hwythau'n gweithio ynghyd gofynnodd ei dad iddo, 'Ymhle fuest ti neithiwr, fy mab? Roedd pryder lond fy nghalon drosot.'

'Trin Swllt y Sgwd yng ngweirglodd Ydfab Pen Stanc os ydi o'n unrhyw beth i chi, 'Nhad. Dallt ichi fod yno o 'mlaen i... Ydi Mam wedi cael gwybod?'

Gresyn gennyf na chlywais gan y Brawd Stotig weddill yr hanesyn a nas cofnodwyd canys y mae'n dysgu inni lawer am derfysg mewnol y darpar fynach ar y cyfnod cythryblus hwn o'i fywyd cyn cychwyn ar amgenach gyrfa. Er mwyn ceisio goleuni pellach ymwelais â phentref genedigol y Sant lle cwrddais â'i dad a oedd erbyn hynny mewn gwth o oedran a fyntau dros ei gant a deg oed. Pan sylweddolodd pwy oeddwn i daeth allan o'r gwth a'm croesawu â breichiau agored. Llwyddais i osgoi ei grafangau ond pan holais yn fanwl yngly^n â'r digwyddiad uchod aeth ei groeso braidd yn brin ac fe'm carcharwyd am gyfnod ym mhydew ty^ bach y teulu yng ngwaelod yr ardd.

 

Digwyddiad arall o bwys yn natblygiad y llanc sanctaidd oedd yr hyn a ddigwyddodd un ben bore chwerw o Ionawr pan oedd cacen o eira'n cau am eu cwt. Deffrowyd y teulu gan sw^n crafu yng ngodre drws y gegin.

'Codwch allan i ffagio'r adar lladron uffarn 'na dan draed,' gwaeddodd Wlbig o'i wely. Agorodd Mrs Isgis y drws a phwy welodd hi ar ei hyd ar lawr yn crafu'r rhiniog ag ewin du ond Sglaffen y Cogydd. Wedi ei dadmer ar y stof, wedi tywallt dogn o wirod rwdins drwy dwmffat i'w chorn gwddw, ac wedi sodro tysen boeth yn ei boch dadebrodd Sglaffen a daeth at ei choed.

'Mi fuoch i ffwrdd,' meddai mam Stotig.

'Do, Amlen Isgis, bum oddi cartref,' meddai Sglafflen.

'Nid byr o gyfnod ydoedd,' meddai mam Stotig.

'Bu'n gyfnod maith,' meddai Sglaffen.

'Sut dywydd gawsoch chi ar eich gwyliau?' holodd Stotig Isgis.

'Nid ar fy ngwyliau y bûm, fab gwirion, ond ar bererindod i lefydd pell. Pererindod hyd feddrod merthyr yn y Ffydd a safodd drosom â'r corwynt yn ei ysu ac a safodd drosom â'r eigion yn ei wlychu ac a safodd drosom â'r byd yn cau amdano. Pererindod i'r man lle gorwedd llwch Chwithgoch Sant, y mwyaf a'r gorau o'r saint i gyd a'm ffefryn personol.' Disgleiriai'r dagrau yng nghonglau llygaid yr hen wraig. 'Dyn dwyfol iawn a da ydoedd yn sicr siw^r a phendifaddau ichi.'

Syfrdanwyd Stotig gan ei geiriau. Os oedd hwn yn ddyn dwyfol a da yna mae hynny'n golygu fod Duw yma gyda ni, felly does dim diben imi fynd i chwilio amdano fo oherwydd mae O yma yn y stafell hon rw^an ac ym mhob man, meddyliodd yn gynnil wrtho'i hun. Ar ôl hyn, ac yntau'n gwybod ei fod wedi darganfod ffydd, daeth newid mawr dros y llanc. Gafaelodd tynfa ynddo tuag at fywyd mynach ond roedd gan y mynach syniadau amgenach. Wedyn ysgrifennodd am fanylion i sawl enwad: Y Brodyr Gwynion, Y Brodyr Duon, Y Brodyr Zebra.

 

Ymhen hir a hwyr gofynnodd am ganiatâd ei dad i ddiosg ei ddillad lleyg. 'Be haru chdi'r sglyfath!' meddai'r tad. 'Cheith yr un mab i mi rodio'r stryd yn dinnoeth.'

Eglurodd Stotig yr hoffai abid mynach. Nid oedd ei dad am gyd-weld. 'Mae gin ti ddigon o habids afiach yn barod,' meddai. Ond o dipyn i beth daeth Wlbig i sylweddoli fod ei fab o ddifri yngly^n â mynd yn fynach a daeth hefyd i sylweddoli y byddai'r teulu beth uffarn yn elwach o gael cefnu ar y 'cyw gog' yma o fab iddyn nhw a lowciai fwyd tri dyn ac a yfai lond tafarn o lysh ar ei dalcen ond na chyflawnodd werth chwannen o waith at ei gadw erioed, dim ond rhochian yn ei wely tan ganol dydd a galw am ei frecwast wedyn.

'Fy mab,' meddai Wlbig un noson a hwythau'n ymgodymu â'i gilydd am le wrth y stof. 'Cysidrais yn hir ac yn ddwys dy gais am ganiatâd i'th urddo mewn urddau eglwysig a deuthum i gydsynio â thi ac i gytuno. Och wae, y nosweithiau digwsg a dreuliais yn troi a throsi'n feddyliol yr hen benderfyniad caled hwn! Bendith arnat, fy mab, mi gei fynd i'r môr ar fflat...... nage, dy frawd oedd hwnna... o, ia: Cei fynd yn fynach yn ddi-oed a byw fel cranc heb ddynas, cei fynd ar unwaith heb ddim strach y cwtrin bach anghynnas...! Ond, wrth gwrs, yn gyntaf mae'n rhaid iti gyflawni dy wasanaeth milwrol.'

'Bydd, bydd, bydd!' gwaeddodd Stotig, oherwydd yn yr ystad fregus yr oedd ynddi roedd yn agored i unrhyw awgrym a gyflwynid iddo. Cyflwynwyd iddo'r awgrym ei bod yn rhaid iddo ymladd cyn mynd yn fynach. Yr oedd yn hapus yn y fyddin. Daeth yn hyddysg ar drin arfau ac ar ladd. Mynach ydoedd hyd y gwyddai ef ac nid oedd hyd yn oed ei gadfridog â'r galon i'w ddarbwyllo nad mynach ond milwr ydoedd. Hyd ei anadl olaf (na bu eto) ni bu ddryll o'i ochor na chasgliad o fomiau yn bell o'i law. 'Fy ngwaith yn y byd hwn, yn y lle yma lle'r ydym, yn y rhagbrawf hwn ar gyfer llwyfan Theatr yr Arglwydd, fy ngwaith yw lladd llawer o anghredinwyr.' Nid anfynych (h.y. mynych) y bu'r ddameg hon dros ei wefus ddwyfol. 'Ac mi lladda'i nhw hefyd, y paganiaid aflan.'

 

Mae dylanwad ei dad ar ein Sant wedi ei gydnabod bellach gan bawb ond rhai 'ysgolheigion' honedig. Y mae eu hymennydd mor fach ag wy morgrugyn wedi ei hollti yn ei hanner (yr wy yn hytrach na'r morgrugyn) ac mae eu honiad felly'n anghywir. Flynyddoedd wedi i mi ddyfod i'w adnabod a'i garu fel tad ar ganol ei ginio fe'm breintiodd ag un o'i gyfaddefiadau prin ond o, mor werthfawr! Sbonciodd deigryn neu ddau o'i lygaid a chrynodd ei wefus dair gwaith. 'Ni ddeuthum erioed i draed sanau fy nhad,' meddai. 'Yn wir, claddwyd ef yn nhraed ei sanau. Roedd yn ddyn anllythrennog iawn. Ni allodd erioed ddysgu adrodd Gweddi'r Arglwydd. Coffa da am ei fersiwn gwerinol ef: "Haia, Dad, sut wyt ti'n y nefoedd? Sant eiddgar 'di'n enw. Dylad di'r ddynas. Dwi 'di gneud f'ewyllys fel na cheith hi'm dima..." Daeth ychwaneg o ddagrau'n ebrwydd i lygaid yr hen sant wrth gofio gweddïau ei dad. 'Roedd fy nhad yn credu ei fod yn sant,' meddai. Cododd ei wyneb sanctaidd at y ffenest a syllu drwyddi draw i'r pellter. 'Y creadur diniwed, annwyl.' Sychodd ei lygaid a'i lawes. 'Adnod arall fyddai gan fy nhad,' meddai'n freuddwydiol, 'fe'i clywaf eto yn canu yn fy nghlustiau: "Fy marclod yw fy mogel, ni fydd peisiau arnaf." Fy nhad druan, ni wyddai mo'r peth symlaf fyw. Credai fod dilyw Noa wedi digwydd ar Ddydd Gwener, ac mai dyna'r rheswm ein bod ni'n bwyta pysgod ar y dydd hwnnw. Dim ond yn ôl eu gwisg y gwyddai sut i wahaniaethu rhwng Mab Duw a Siôn Corn. Roedd yn ddyn hollol anwybodus, twyllodrus a budur. Dysgais ganddo'r cwbwl a wn.'

 

Teulu mawr oedd teulu Wlbig Isgis. Tad, mam, naw mab a deunaw merch a hwythau'n cyd-fyw'n serchus dan yr unto. Annwyl iawn gennyf yw'r hanes a gefais gan yr Hybarch Frawd, ac yntau'n ddwy ar bymtheg a thrigain oed, amdanynt oll yn un teulu bach dedwydd ar yr aelwyd yn adrodd chwedlau drwy'r nos ac yn tynnu gwelltyn am gael cysgu ar y gwely. Byddai'r bechgyn hy^n yn gweithio gyda'r tad ar y tyddyn. Un dydd Gwener o Ionawr hallt a hwythau'n cynaeafu tua'r Waun Galed digwyddodd fod yn dro i'n darpar fynach hwylio'r cinio canol dydd. Gan anghofio ei bod yn ddydd Gwener paratôdd ochor mochyn wedi ei rhostio ar gigwain dros farwor coch. Bwytawyd ohono ganddynt oll ond cadwodd tad Stotig Isgis damaid ohono yn ei bwrs heb i neb sylwi. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, ac yntau ar ei wely angau, troes tad Stotig ei wyneb ato. 'Fab,' meddai, 'a gofi'r Gwener hwnnw a ninnau'n cynaeafu'r Waun Galed, fe roddaist imi gig moch i'w fwyta? Roedd ei flas fel blas cig corff mynwent i mi. Dyma damaid a gadwais o'r diwrnod hwnnw hyd heddiw. Blasa fo! Onid ydi o'n ffiaidd?'

'Wel, Nhad,' meddai Stotig gan boeri'r afiach gig i'r llawr, 'Mae tuedd i fwyd ddifetha dros gyfnod o ddeugain mlynedd. Mi ddylech fod wedi cwyno ar y pryd yn lle cadw'r peth at eich calon fel hyn. Petaech wedi sôn ar y pryd mi allwn fod wedi cynnig wy wedi'i ferwi ichi neu rywbeth, ond wyddoch chi, ddeugain mlynedd wedyn, be fedra'i wneud ond dweud sori? Fe ddaru chi fwyta'r cwbwl ar y pryd, os dwi'n cofio'n iawn.'

'Nid oeddwn am dy frifo di, fy ngwas i. Mi wyddwn mor groendenau wyt ti am dy waith coginio. Ond dywed imi, fy mab, pam y cyflwynaist inni gig moch?'

'Am nad oedd golwg rhy iach ar y cig oen, fy nhad. Wedi marw o ryw haint oedd yr w^yn ac er eu bod yn rhad nid oedd cig gwyrdd yn apelio ataf.'

'Ond fy mab,' ebychodd y tad gan geisio codi ar benelin fusgrell. 'Mi roedd hi'n ddydd Gwener.'

'Oedd hi?' Craffodd Stotig i ên. 'Wel, fy nhad, efallai fy mod i wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi.''

'Ond sut gallet ti fod wedi anghofio peth felly?'

'O bosib, fy nhad, yn debyg i'r ffordd yr oeddech chithau wedi anghofio ei bod hi'n fis Ionawr, a bod saith mis arall tan y cynhaeaf. Efallai, Tada, yn y dull yr oeddech wedi anghofio hau'r had y flwyddyn honno a phob blwyddyn na chynt na chwedyn? Hwyrach, fy nhad, yn yr un modd ag yr anghofioch ymolchi'r un rhan o'ch corff erioed oddi ar y dydd y'ch ganed chwi? Mae pethau fel hyn yn digwydd i ddyn weithiau, 'Nhad, ac mae'n wir ddrwg gennyf os nad oedd y porc yn plesio...'

Gresyn o'r mwyaf gennyf nad oes gennyf gofnod o ddiwedd y sgwrs ddiddorol hon sy'n dinoethi inni nifer helaeth o rinweddau ein Sant.

 

Âi bywyd y pentref â'r bachgen dwyfol i'w ganlyn. Canu, dawnsio a charu oedd ei bethau. Ar ben y ffeiriau, ar ben y gwyliau fe'i gwelid â'i ffidil yn difyrru'r bobol ac yn cadw hwyl. Gyda'r hwyr un noson ffair W^yl Ifan gwelwyd Stotig a'i gyfaill Lyshog Pen Llau yn cyfeirio'u camre tua'r dref. Roedd ffidil Stotig a chwibanogl Lyshog â'u llond o ganu gwyllt y paith a nhwythau â'u cysgodion duon yn llenwi'r strydoedd wrth gamu'n larts tuag... tuag at feibion y crydd a nifer o'u cefnogwyr. Yr hynaf ohonynt, llabwst gewynnog o'r enw Crafwr, a ddaeth atynt gyntaf. Gafaelodd yn ffidil Stotig, poerodd yng ngwyneb y Sant a chrensio'r offeryn dan ei droed. Roedd tyrfa fechan o ferched y lle wedi hel o'u cylch. Pesychodd rhywun yn y distawrwydd. Dyma yng ngeiriau Stotig beth a ddigwyddodd nesaf:

'Mi benderfynais yr ildiwn i'r llanc cydnerth. Plygais fy mhen yn isel tua'r llawr. Eithr roedd gennyf gywilydd ymddangos yn llai na dewr o flaen y genethod. Roeddwn i'n cofio egluro wrth nifer ohonynt faint mor ddewr yr oeddwn mewn brwydr. Roeddwn i'n clywed mab y crydd yn fy herio, ond roeddwn i â'm llygaid tua'r llawr yn sbïo ar y cerrig mawr a welwn o gwmpas fy nhraed. Heb godi fy mhen eglurais yn ddiymhongar i Crafwr mab y Crudd nad iawn oedd iddo ddinistrio fy ffidil. Roeddwn i'n ei glywed yn piffian chwerthin a finnau'n codi â charreg drom yn fy llaw a blannais yng nghanol ei wyneb. Safodd fel coeden mewn gwynt am eiliad a chwympo i'r llawr. Cael a chael fu hi imi osgoi'r gwaed a sbowtiai allan o'i geg. Yn anffodus, aeth peth o'r gwaed ar un o'm sgidiau a chefais ddrwg gan Mam am faeddu. Eithr ni chefais drafferth gan Crafwr wedyn canys bu farw. Rwy'n credu'n gydwybodol mai dyna'r adeg y sylweddolais fod canu'r ffidil a'r chwibanogl yn gallu arwain i brofedigaeth a phenderfynais gysegru gweddill fy oes i wasanaethu Duw.'

Gwelwn yma'r mynach ifanc yng nghanol bwrlwm ieuenctid yn cael ei wysio, efallai am y tro cyntaf, i gyflwyno'i hun o flaen pyrth agored bywyd o ymgyrraedd ysbrydol, bywyd a ordeiniwyd iddo o awr ei eni. Collfarnaf yr awduron hynny a fydd yn trin a thrafod ein mynach annwyl, ei fywyd a'i waith, ac a fydd weithiau mor hy ag awgrymu darfod i'n harwr gael hwb sylweddol yn ei flaen ar hyd y llwybr a ragordeiniwyd iddo gan y ffaith fod lloches i'w gael o ymaelodi mewn urddau eglwysig hyd yn oed i lofrudd, yn enwedig ym mynachlog y Brodyr Zebra. Yr hyn mae'r awduron hybarch a da hyn yn ei fethu yw'r ffaith fod pawb yn y parthau hynny'n llofruddio'i gilydd yr adeg honno ac nad eithriad mo Stotig Isgis yn hyn o beth. Peth hollol naturiol iddo oedd ymuno â'r Brodyr Zebra.

 

Gyda chatrawd frenhinol y Taeogion Gwledig y bu Stotig yn gweini ei wasanaeth milwrol. Yn eu gwersyll ger dinas Cracyr. Un noswyl Sant Bifys cychwynnodd gyda dau o'i gyd-filwyr i ddifyrru'r noson yn y dref. Aethant i un o'r gwindai mawrion, gloywon, hardd ar y prif sgwâr lle'r oedd canu, dawnsio a dathlu dan y goleuadau grisial. Cawsant fwrdd llieinwyn ac archebasant fwyd a diod a dyma fwrw iddi'n frwd i sgwrsio ac i dynnu coes fel y byddir ar achlysuron felly. Eithr ni chyfrannai Stotig yr un gair i'r sgwrs. Toc troes ei gyfaill Rachaboflaf ato a holi: 'Wedi cael dwyn dy bwdin yntau dwyn dy dafod wyt ti, Stotig? Dangos inni'r sawl a ddygodd dy bwdin ac fe'i tagwn!'

'Ni ddygodd neb fy mhwdin canys nis archebais,' atebodd y milwr ifanc a golwg bell yn ei lygaid. 'Roedd y ddau gwrs cyntaf yn ddigon.'

'Beth ynteu sydd ar dy feddwl, Stotig, a bwrw fod gen ti un?'

'Meddwl yr oeddwn,' meddai Stotig, 'meddwl amdanom yma'n y dafarn hon yn bwyta o'r seigiau gorau ac yn drachtio fodca pur o wydrau grisial, a ninnau'n gwrando ar alawon pêr ein heangderau ac yn gwenieithio gyda'r merched ifanc ac yn eu cusanu'n braf... ac eto ar yr union awr hon, ar ben Moel Anial drwy ganol yr eira a'r gwynt yn torri trwyddyn nhw fel gwydr y mae'r mynaich troednoeth llwm yn ymlwybro o dan eu pynnau penyd tua'r offeren nos a hwythau heb gysgu ers pedwar mis. Meddwl yr oeddwn i tybed pwy sydd gan y lle gorau heno, y ni ar anterth ein rhialtwch yma ynteu y nhw, llwm fynaich, yng nghanol oerni blin yr eira?'

'Does dim dwywaith amdani,' meddai Rachaboflaf gan ddrachtio'n hael o'i fodca. 'Y mynaich sydd orau eu lle heno, yn bendifaddau.'

'Os oes coel ar hyn,' meddai Stotig wedi ei syfrdanu - dywedir bod golau fel golau'r haul wedi tasgu o'i lygaid - 'Os gwir y geiriau hyn, rwyf innau am fynd yn fynach canys tybiaf nad hawdd canfod lle gwell na'r eiddom yma'n awr ac os ydi'r mynaich yn well eu lle na ni yna mae'n fyd da iawn arnynt ac yn swnio fel y feri peth i mi.'

'Nid anodd gan hwn goelio'r anhygoel,' sibrydodd Rachaboflaf yng nghlust Postyn Byddar. 'Paid â'i ddarbwyllo fo o'r gwir neu mi geith siom fawr. '

'Sut?' meddai Postyn Byddar.

'Dim ots,' meddai Rachaboflaf.

'Be?' meddai Postyn Byddar.

'Cau hi'r penbwl!' meddai Rachaboflaf â rhoi sgwd i'w gyfaill oddi ar ei stôl oni roliodd i ganol y llawr a'r dawnswyr yn baglu drosto.

Y bore trannoeth diosgodd Stotig Isgis ei lifrai milwr a rhedodd i'r stryd yn noethlymun dan weiddi, 'Rwyf yn fynach, rwyf yn fynach'. Aed ag ef mewn sach at y Brodyr Zebra, at Abad Abaty Moel Anial.

'Fy mab,' gofynnodd yr Abad Badach iddo, 'rwyt heddiw'n wedi dy ddinoethi gymwys fel yr oeddet pan ddaethost gyntaf i'r byd. Dynesa ataf, fy mab, gael imi gael iro dy gorff ag olew sanctaidd.'

'Cadw dy hen fachau ichdi dy hun!'

'Ni raid iti strancio, fy mab.'

'Dwi ddim yn fab ichdi'r sglyfath,' gwaeddodd Stotig. 'Pwy ddiawl wyt ti'n feddwl wyt ti?' Rhoes Stotig swadan greulon i'r henwr ar ei big oni ffrydiodd y gwaed o'i drwyn.

'Fy mab diniwed, myfi yw'r Abad Badach. Ac ni ddylit fod wedi gwneud hynna. Canys ti yw'r Brawd Stotig a ddaw'n enwog y rhawg am dreulio blynyddoedd mewn twll tanddaearol heb ddim i'w fwyta na'i yfed ond bara haidd a dw^r golchi llestri, a dim gair i'w glywed ganddo gydol yr amser heblaw ei baderau ac ambell i "Ga'i ddod allan rw^an, plîs?" '

'Am be ti'n mwydro'r mul digychwyn? Does gen i ddim bwriad o dreulio blynyddoedd mewn twll...'

'Anghywir,' meddai'r Abad a'i fys a'i fawd yn dynn am ei drwyn i nadu'r gwaed. Troes at ei ystlyswyr Malwr a Gwasgwr. 'Ewch ag ef,' meddai a rhoes glec ar ei fawd. 'Fe'th welaf di mewn ugain mlynedd, Stotig, os byw ac iach yntê, os byw ac iach...' Sibrydodd air neu ddau arall yng nghlust ei ddisgybl ac yna'i daro'n ffyrnig yn ei lygad a migwrn cnodiog.

'Na, na, Abad Badach,' meddai'r taeog truenus ac yntau'n llefain dros bob man fel y'i llusgwyd o'r stafell. 'Abad Badach, sgynna'i ddim brwsh dannedd hefo fi, plîs gollyngwch fi... ga'i o leia estyn fy mhajamas... Mi ga'i gaethdra yn y tywyllwch...' Atseiniai'r ebychiadau lloerig hyd y coridorau cerrig a'r sw^n traed yn araf bylu. Ar draws tawelwch y nos daeth clec haearnaidd haearnborth yn cau a thoc wedyn dyma hi'n dawel eto. Estynnodd yr Abad Badach am gacen hufen o'r llestr arian wrth ei benelin a suddodd pâr gwancus o ddannedd gosod i'w chanol. Mae hon yn gacen felys iawn, meddyliodd wrtho'i hun.

 

Nifer o flynyddoedd wedyn, a'r Hybarch Frawd wedi hen gynefino â'i gartref tanddaearol, ymwelais ag ef un bore Nadolig a chael ganddo newyddion syfrdanol. Â chryndod lond ei lais ebe fo: 'Celf goll y Mynaich Zebra.' Pwyntiodd â'i fys ewinog du tua thwll yn ochor ei bydew. 'Darganfyddiad mawr o bwys,' meddai wedyn. 'Murlun canoloesol, rhaid iti sôn wrth Badach.'

Pan godwyd fi o'r pydew euthum ar f'union at yr Abad Badach. Mynegais iddo yr oll a glywswn. Cynhyrfodd yntau drwyddo a daeth golwg ryfedd i'w lygaid. 'Wyt ti'n hoff iawn o gacenni hufen?' gofynnodd yn gynnil.

Cyn pen dim o dro roedd y Brawd Stotig wedi ei godi o'i ffau ffiaidd. Golchwyd ef mewn baddon marmor, gwisgwyd abid a chasog amdano a dygwyd ef gerbron cynhadledd i'r wasg. Dyma fel yr adroddwyd am y darganfyddiad yn Y Taeog Plwyfol:

 

...cafwyd hyd i'r murlun gan yr Hybarch Frawd Stotig Isgis ac yntau'n crafu pridd a cherrig o dwnnel yr oedd wedi ei gloddio o dan y fynachlog. Mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd yr Hyb. Isgis, 'Roeddwn wrth fy modd yn y pydew, oeddwn wir ichi. Ugain mlynedd, ydi hi'n gymaint â hynny? Roedd Duw gyda mi yn y twll tan tua dwy flynedd yn ôl, ond bu camddealltwriaeth rhyngom ac fe aeth. Hoffwn bwysleisio nad ceisio denig o'r twll oeddwn i.'

'Deallwn, oherwydd natur fregus y murlun na fydd i'w weld am beth amser eto. Ymddengys mai'r unig un sydd wedi ei weld hyd yma yw'r Hyb. Isgis. 'Mae'n arbennig o wefreiddiol,' meddai llefarydd materion anhygoel y Fynachlog. 'Mae ein Brawd Stotig wedi disgrifio golygfa ryfedd. Mae'n ymddangos nad oes hafal i'r llun hwn wedi ei weld ar wyneb haul daear erioed. Mae'r Abad wedi archebu bara brith a sgons i de a dyna sut y bydd yn dathlu'r darganfyddiad.'

 

Wedi'r dathlu cefais y fraint o fod yr un cyntaf i gael gweld y murlun. Arweiniwyd fi gan yr Hybarch Stotig ei hun. Crynai ei lais ag emosiwn wrth iddo egluro imi, 'Dyma'r darganfyddiad pwysicaf a wneuthum erioed. Roedd fel dydd yn gwawrio arnaf.' Arweiniwyd fi yn ôl drwy'r haearnbyrth celloedd ac i lawr y grisiau culion cerrig i grombil y ddaear. Yn y gwaelod crogai ystol raff ac i lawr honno'r aethom i'r dyfnjiwn. Wedi hir ddisgyn daethom at geg twnnel a ninnau'n gwasgu iddo ac yn cropian ar ein hyd â'n gwynebau gwta fodfedd o'r llawr. Yn y pen gwelais yng ngolau'r fflashlamp lechen fawr lefn ac arni nifer o ysgythriadau oedd yn ymdebygu i ymgais gyntefig i chwarae OXO.

'Dyma chdi,' meddai Stotig o'r tu cefn imi.

'Dyma'r cwbwl?'

'Gwêl fel mae'r cylchoedd yn cynrychioli'r Bod Mawr a'r croesau'n ymgais gynnar i ddadansoddi'r aberth ar y groes. Gwêl fel y mae'r llinell letraws sy'n cysylltu'r tair croes ynghyd yn cynrychioli'r gwrth-Grist sydd am nacáu gwyrth yr aileni. Onid ydi o'n wyrthiol berffaith?'

'Mae o'n crap,' meddwn i'n sychlyd braidd gan geisio cuddio peth ar fy siom. Ni allaf wadu nad oedd rhyw ddraenen bach o amheuaeth wedi turio i swigen fy mrwdfrydedd. Meddyliais fagio am yn ôl. A dyna pryd y sylweddolais na allwn fynd. Roedd cwymp sydyn o bridd fel petai wedi cau y tu cefn imi. Yr oeddwn yn gaeth. 'Sut 'dan ni'n mynd o fan hyn, Stotig frawd?' meddwn i. 'Hei, Stotig, lle'r wyt ti!'

Disgynnodd ychydig o bridd eto ac aeth o dan goler fy nghasog a chrafu fy nghroen. Cythrais i'r pridd gyda'm hewinedd ond daeth cwymp arall dros fy mhen. Roedd golau'r fflashlamp ar ddarfod. Yr oeddwn ar fy mhen fy hun yn y twll tywyll, tawel. Ystyriais roi'r gorau i'r holl syniad o sgwennu cofiant yr Hybarch Frawd Stotig Isgis.

 

Reptiles Welcome

 

Reptiles Welcome meddai'r arwydd ac mi es innau i mewn.

'Su'mai con,' meddai'r boi tu ôl y ddesg, 'isio rhywbeth wyt ti?'

'Pam dydi'r arwydd tu allan ddim yn Gymraeg?' holais innau.

'O, wela' i,' meddai'r dyn. 'Un o'r rheini wyt ti, ia? Blydi Welsh Nash. Dwi'm isio dy deip di yma. Eniwê, be ydi reptile yn Gymraeg?'

'Ymlusgiad ydi'r gair swyddogol,' eglurais innau. 'Ond tydi o'm yn air da. Mae'n well gennyf i gael fy nghyfeirio ataf fel 'anifail ymlusgo', mae o'n fwy gwleidyddol gywir ac yn swnio'n well.'

'Chdi â dy Gymraeg mawr,' meddai'r boi tu ôl y ddesg. 'Sudd oren a chreision fyddi di isio nesa, mwn. Blydi crancs. Sut fath o "anifail sy'n ymlusgo" wyt ti beth bynnag?'

'O, armadilo,' meddwn innau gan gochi'n fflam goch achos roeddwn i wedi anghofio fy nghyflwyno fy hun. Roeddwn i wedi dysgu ei bod hi'n hanfodol dy gyflwyno dy hun i bobol a dyma finnau rw^an wedi anghofio gwneud. Roeddwn i'n swil, toeddwn, ac yn ffwndrus achos dyma'r tro cynta imi fod mewn gwesty ac roedd pob dim yn newydd imi 'toedd? Roeddwn i ofn gwneud rhywbeth yn rong mewn lle crand, yn enwedig tro cynta achos fasat ti ddim isio dangos dy hun yn wirion o flaen pobol ddiarth nafsat? Toedd hwn ddim yn lle crand felly erbyn dallt ond wyddwn i mo hynny ar y pryd.

'Tydi ffycin armadilo ddim yn repteil,' meddai'r boi.

'Pardon?' meddwn innau.

'Dim ond repteils dwi isio yma, ddim blydi anifeiliaid o fforestydd y glaw. Wyt ti'n meddwl na fedra i ddim nabod 'ymlusgiad' pan wela'i un? I be ddiawl 'dwi'n talu 'nhrethi os ydi pob anifail penchwiban am gael martsio drwy fy lle fi'n cwyno am fy seins gan honni ei fod o'n repteil? Sw^ Gaer ydi'r lle i chdi, mêt. '

'Wel, dwi'n feri sori,' meddwn innau ac mi roeddwn i'n sori go iawn achos ymlusgiad oeddwn i wedi meddwl oeddwn i, nid trio twyllo'r dyn oeddwn i. Roeddwn i wedi cael fy nwyn i fyny i gredu mai dyna'r oeddwn i gan y cenhadon ystwyth, rheini ddaru fy nghymryd i oddi wrth Mam a'm magu fi mewn caets. Wyddost ti be, hwnna oedd y tro cynta imi ddysgu nad dyna'r oeddwn i. Mi ges sgytwad go hegar, dwi'n deud dim llai. 'Ga'i lasiad o ddw^r, syr, plîs,' meddwn i, 'dwi'm yn teimlo'n dda iawn.' Mi ges gymaint â hynny gynno fo a chael ista lawr am funud hefyd ac ar ôl cael llymaid bach o ddw^r mi ddois ataf fy hun a gallu egluro'r sefyllfa i'r perchennog ac mi ddaeth yntau at ei goed wedyn a dechra bod yn reit glên.

'Tisio peint 'ta?' medda fyntau, 't'yd, dwi'n alcoholic.'

'Wel oce 'ta,' meddwn i, 'trowch fy mraich i.' Roeddwn i'n trio torri cyt o'i flaen o a smalio 'mod i wedi hen arfer a ballu. Trio chwerthin yn gês i gyd a jarffio i fyny at y bar ond wedyn mae hi'n anodd chwerthin hefo ceg bach bach fatha sgin armadilo ac mae hi'n anodd jarffio hefo cragen ar dy gefn a choesau chwe modfedd o hyd. Ta waeth, mi gym'ris i at y cwrw, Felinfoel oedd o os dwi'n cofio'n iawn, ac mi wnaeth hi gwpwl o beints ac mi'r aeth rheini'n gwpwl o beints wedyn - wyddost ti fel mae hi - ac erbyn daeth y locals i mewn gyda'r nos roedd y ddau ohonom ni'n dawnsio ar ganol y bwrdd pw^l. Nacia wir, dim byd hoyw, dynas armadilo ydwi yli, Belinda 'di'r enw. Be ddeudaist ti oedd d'enw di? Cartoffl? Enw Cymraeg da. Y wiwer goch ola' ddeudist ti? Dwyt ti ddim yn debyg i'r un wiwer welais i. A be ddigwyddodd i dy gynffon? O, sori, sore point, dallt yn iawn...'ddylis i ddim dy fod ti mor groendenau. Dwi'n siw^r fod mewnlifiad y llwydion yn broblem fawr ichi, ia dallt yn iawn, cyw. Rw^an, lle'r oeddwn i? Ia, wel, ar ganol bwrdd pw^l oeddan ni, ac mi roedd y cwsmeriaid wedi gwirioni'n bot 'toeddan, tro cynta i lawar ohonyn nhw weld armadilas chwaethach byth ei chwrdd a chael prynu peint iddi. Dwi'n meddwl mai am fy mod i'n enghraifft wych o'm rhywogaeth ddaru nhw gymryd ata'i i ddechra a hefyd, wel, mi fyddai'r armadilos eraill yn sw^ yn arfer dweud fy mod i'n secsi. O, taw â dy lol wirion... Gwranda, dyma'r boi oedd bia'r lle ata'i tua amser cau a gofyn awn i i'r gwely hefo fo. Deud wnaeth o na fydda'i wraig o ddim adra tan yn hwyr hwyr a toedd dim ots amdani beth bynnag, yr hen sgwran hyll iddi'n smocio'i ffags yn gwely ac yn byta'i tsips yn bath a byth yn cynnig panad iddo fo pan fyddai hi'n cael panad bora a ta waeth am hynny roedd yn gas gynno fo hi beth bynnag a toedd hithau ddim yn hidio fawr amdano fo felly pa wahaniaeth oedd o i neb os oedd o wedi syrthio mewn ffansi hefo repteil?

'Ddeudist ti nad oeddwn i ddim yn repteil,' mynnais innau achos oeddwn i wedi dechra meddwi dipyn bach ac os nad ymlusgiad oeddwn i go iawn toeddwn i ddim am i neb gael meddwl mai dyna oeddwn i. 'Anifail ydwi a thydwi ddim yn drewi lot.'

'Oce 'ta 'mach i,' medda fyntau'n ffeind, 'neith hi un arall ac mi awn i'r llofft am ffwc.'

'Dwi'm yn gwybod ffor i neud o,' meddwn i achos toeddwn i ddim.

'Be, mynd fyny grisiau?' medda fyntau.

'Nacia,' medda finnau achos mi roeddwn i'n swil braidd. Doeddwn i ddim wedi cael cyfathrach rywiol hefo dyn mawr blewog hefo bol cwrw o'r blaen. Wyddwn i ddim be i'w ddisgwyl. Wel, toes yna fawr o ddarpariaeth o ran gwersi rhyw yn y sw^. Dwi'n amau mai dyna'r rheswm tydi sw^ ddim yn lle da i fagu anifeiliaid bach, ac wrth gwrs hefyd pan ti'n gaeth mewn caets wyt ti'n rhy ddigalon i fod isio ffwcio lot. Oeddwn i wedi bod hefo rhai o'r mwncwns ond oeddan nhw'n hoples. Naddo, fues i rioed hefo gwiwer cofia, fasa gen i ddim awydd rywsut. Ta waeth, roedd hwn yn fwy na'r un mwnci welis i erioed ac yn lot mwy na gwiwer. Wel, mi es i'r llofft a thurio i ganol blerwch y cynfasau, dwi'n siw^r fod fy nghragen i'n gwneud lwmp dan y dillad gwlâu ond fedrith armadilo ddim tynnu'i chragen 'sti achos mae hi'n sownd, ond cragen neu beidio dwi'n meddwl 'mod i'n reit ddeniadol yn ll'gada Walter - sori, ddeuis i ddim, naddo, Walter Harris ydi'i enw o, ella dy fod ti'n gwybod amdano fo... wel, mae'n rhaid fod Walter yn fy ngweld i'n ddeiniadol achos pan ddaeth o i'r llofft roedd gynno fo bolyn tent syrcas yn ei drwsys ac mi ddaeth yn syth amdana'i heb dynnu amdano na dim, dim ond agor ei falog a syrthio'n glewt i ganol y gwely.

'Walter,' meddwn i mewn llais bach clws, 'Walter, wyt ti am wneud cariad hefo fi, wyt ti Walter? Plîs paid â bod yn ryff hefo fi, wnei di...'

'O ffyc off, crwban,' meddai Walter a dyma fo'n dechrau chwyrnu fel injan stêm. A phan sbïais i arno fo wedyn dyma fi'n gweld faint mor horibl oedd o go iawn, a'i hen dishirt o'n stremps i gyd a'i fol cwrw fo fatha slefran fôr anfarth a'i wallt o'n diferu o saim a'i ddannedd o'n frown ac yn felyn a dyma fi'n meddwl ych a fi, am ddyn ffiaidd, dwi'm isio hwn yn gariad i mi. A dyma fi'n closio'n nes ato fo ac yn turio fy nhrwyn hir i'w falog ac i mewn i'w drôns o a dyma fi'n cydiad gafael yn ei hen bidlan gerfydd fy nannedd bach a'i chnoi hi fel fflamia fatha tasa hi'n bry genwair ac ws ti be, 'ddeffrodd y diawl ddim, cofia, a finnau'n gallu denig allan o'r ty^ drwy'r cefn a rhedeg nerth fy mhegla ar draws caeau i'r coed i guddiad. Cuddiad ydwi byth 'ddar hynny hefyd achos mae'r sw^ isio fi'n ôl ac mae Walter wedi rhoi hylltod o bres iddyn nhw i gael hyd i fi ond chân nhw byth mohona'i achos dwi'n rhy giwt iddyn nhw i gyd.

Mae'n iawn arnach di, Cartoffl, toes yna'r un sw^ fyddai'n cynnig crocbris am wiwer goch heb gynffon... Ia, mi wn i eich bod dan warchae'r llwydion a ballu a ballu, ond taw am funud, gael imi gael gorffan y stori. Fues i draw heibio gwesty Walter yn ddiweddar 'ma, 'sti. Wedi mynd am dro bach i'r cyffiniau oeddwn i ac mi arhosais i'n ddistaw bach yn y coed am y lôn a'i le fo i gael busnesu dipyn bach. Doedd fawr ddim wedi newid. Mi roedd angen côt o baent ar yr adeilad, roedd llond y potiau blodau o chwyn a dim byd yn y maes parcio ond rhyw hen gronc o gar a dim gwynt yn y teiars. Dim ond un peth oedd wedi newid - roedd o wedi gosod arwydd newydd sbon y tu allan a hwnnw mwya c'wilydd iddo fo'n dal yn uniaith Saesneg, a be sgynno fo arno fo ond 'No ffycin Reptiles'.

 

Crafu Ffenest

 

Cyn iddo ddiffodd golau erchwyn ei wely penderfynodd Scilingo, capten wedi ymddeol o'r llynges, godi i roi taw ar y crafu ar ei ffenest. Roedd gwres y ty^ wedi ei hen ddiffodd ac felly gwisgodd ei slipars a'i w^n nos cyn croesi'r stafell. Rhythodd drwy'r gwydr i drio dal y diawchiaid bach ond ni welodd ddim byd. Nid oedd dim i'w weld heblaw'r tywyllwch y tu allan. Parodd hynny beth syndod i Scilingo oherwydd tybiasai y byddai goleuadau'r stryd yn dal ynghyn yr adeg yma o'r nos. Ond gan na chodai'n aml iawn mor hwyr â hyn ni feddyliodd fawr amdano. Roedd y nos yn gwneud i'w ffenest sgleinio fel drych gan ddangos ei wyneb yn fanwl ac yntau'n falch o weld fod pob blewyn yn ei le. Roedd hi'n amser maith ers iddo'i weld ei hun yn y drych. Wedi rhoi'r gorau i eillio'i locsyn i beth yr oedd angen cadw drych yn ei ystafell? Gwelodd heno bâr o lygaid yn rhythu arno. Sylwodd ar y cysgodion hirion oddi tan ei lygaid. Pryd daeth y rhychau dyfnion yna ar draws ei dalcen? Daeth llaw i'r golwg, ei law dde, a honno'n codi at ei wyneb ac yn anwesu blew ei locsyn.

A fyntau wedi cau'r llenni fe ddaeth pethau'n ôl i drefn. Tybiodd fod y sw^n crafu wedi mynd. Ni allai mo'i ddioddef, yn enwedig yn ystod y nos. Roedd y smic lleiaf o dwrw'n ddigon i'w gadw ar ddi-hun neu i'w ddeffro ac yntau'n cysgu. Nid oedd wedi bod yn cysgu'n dda hyd yn oed cyn y crafu ffenest. Ond rw^an gyda'r crafu ffenest diawledig yna wedi dyfod i'w blagio rownd y bedlen... Pwy oedd y tu ôl iddo? Pwy bynnag oedd wrthi, mi caen nhw hi ganddo fo a holl rym y gyfraith yn gefn iddo, unwaith y câi o afael ynddyn nhw. Mi gaent weld nad neb o ddyn oedd Adolfo Scilingo. Ceisiodd feddwl faint oedd hi o'r gloch er mwyn taro nodyn ar bapur. Fel arfer byddai'n gallu dyfalu'r amser yn gywir i'r pum munud agosaf. Eithr am ryw reswm heno sylweddolodd nad oedd ganddo'r syniad lleiaf faint o'r gloch oedd hi. Ni chadwai gloc, wrth gwrs, gan y byddai'r tipian diderfyn wedi ei yrru'n wirion bost mewn byr o dro. A beth bynnag, onid i'r cloc y bu'n gweithio gydol ei yrfa erioed? Onid oedd hi'n iawn iddo anghofio am ormes bysedd y cloc bellach ac yntau wedi ymddeol? Gwasgodd y botwm yn ystlys ei set radio ond efallai oherwydd traul ar y batris ni ddaeth ohoni ond hisian tonau'r môr. Rhoes dro i'r nobyn crwn ond yr un sw^n a gafodd ar draws pob tonfedd. Ac o roi'r teledu ar fynd ni chafodd ar honno ddim byd ond eira mân yn pluo ar bob sianel. Cododd declyn y ffôn i gael galw'r cloc siarad. Gwylltiodd yn gacwn pan ddaeth hisian tonau'r môr o glust y ffôn hefyd, fel y sw^n sy'n dyfod o grombil cragen. Pam nad oedd dim byd yn gallu gweithio'n iawn yn y wlad ansyber hon? Onid oedd ei filiau i gyd wedi eu talu'n brydlon? Pa esgus oedd ganddyn nhw am ddiffygion fel hyn? Penderfynodd yr âi ar ei union allan i ffonio'i gw^yn o'r ciosg stryd. Ond pan geisiodd agor drws ei lofft roedd yr handlen yn troi'n gylch fel pedlen beic a'r drws yn 'cau agor. Curodd ei ddyrnau ar y pren nes sylweddoli na chlywai neb mohono. Dyna fo, meddyliodd, mi arhosai tan y bore felly ac mi weiddai allan drwy'r ffenest a chael help wedyn. Yn ei dempar odid na fyddai wedi ceisio dringo o'r ffenest i ganghennau'r goeden oni bai iddo eisoes sicrhau ei bod wedi ei thocio'n llym rhag dyfod ei brigau ar gyfyl ei ffenest. Ar yr adar yr oedd y bai, mae'n rhaid, felly. Roedd hi'n gywilydd o beth nad oedd gwydr atal sw^n yn gallu atal rhyw fymryn o grafu adar. Roedd y gwydr dwbl wedi llwyddo i ladd trydar yr adar ben bore yn effeithiol iawn. Ond nid y crafu ffenest, ni ataliai mo hwnnw o fath yn y byd. Byddech yn tybio mai papur llwyd oedd yn ei ffenesri, nid gwydr tew. Ond felly mae hi, mae'n debyg; tydi'r adar yn nythu yn y gwanwyn ac yn mynd yn wenwynllyd o'u coeau o bob aderyn arall a ddaw ar eu cyfyl? A hynny'n cynnwys eu cysgod eu hunain yn y gwydr a dichon mai dyna ydi'r twrw ar y ffenest, hyrddiadau'r cyrff bach pluog yn taro'n erbyn y gwydr. Rhyw ditw tomos las wallgo neu robin goch hurt bost. Wfft iddyn nhw. Doedd gan Scilingo fawr o barch at adar. Ac roedd eu giamocs yn ei gynddeiriogi, a nhwythau mor hy a'i amddifadu o'i gwsg bob nos. Byddai'r pethau hyn yn cael eu datrys unwaith ac am byth yn y bore, wedi i'r wawr dorri.

Aeth i orwedd. A'r clustogau o'r diwedd yn braf o dan ei ben gwasgodd fotwm y golau erchwyn i'w ddiffodd. Llifodd y duwch drosto nes oedd llond ei ben o wreichion coch a melyn o flaen ei lygaid ym mhob man. Daeth sw^n bach heibio'r crafu ffenest i mewn i'w glust. Rhyw sw^n o'i grombil oedd o, fel tipian cloc. Bwrlwm o synau fel swigod mewn dw^r yn berwi drwyddo. Roedd ei anadl yn gyson, serch hynny, fel anadl y rhai a deithiai'r awyren. Byddai eu hanadl yn gyson ac yn llyfn a nhwythau'n cysgu'n sownd. Roedd gan bob un ohonynt ryw batrwm neilltuol i'w anadlu. Pymtheg ohonyn nhw'r noson honno, saith dyn, wyth dynes, yn gorwedd yn noeth ar lawr yr awyren a'r cwbwl ohonynt yn anadlu'n braf. Mae'r awyren yn chwyrnu drwy'r nos. Mae hi'n canu grwndi uwch ben yr eigion. Roedd lleisiau'n siarad yn ei helmed ac yn ei orchymyn. Egyr y pyrth cefn a daw hoelen o wynt i'w wyneb a gwynder y lleuad i'w lygaid. Ymhell bell islaw mae'r tonnau'n gwnio pwythau cris croes ar y môr. O un i un mae o'n helpu i lusgo'r cysgwyr noeth tua'r porth allan ac yn eu gwthio fesul un drwyddo. Nid yw'n eu gwylio'n disgyn. Unwaith fe lithrodd ei droed a fu ond y dim iddo fo blymio allan ar ôl un o'r cysgwyr. Mae o'n plymio eto heno drwy haenau o gwmwl ac yn gweld amrannau bach o ewyn yn wincio arno a llygad y lleuad ar y môr. Ond cyn iddo ddeffro mae o'n arafu ac yn suddo'n hawdd trwy ddail castanwydden i'r llawr a dafnau o law yn pitrwm patrwm ar y dail. Llenwa ei ysgyfaint ag aroglau'r glaw a gwylio'r dw^r yn gwneud olion malwod ar y dail. Sefyll mae o ar ganol llwybr caregog rhwng y caeau a'r coed. Yn y pellter mae'r mynyddoedd wedi eu cuddio gan garthen o gwmwl. Efallai mai'r tu hwnt i'r mynyddoedd y mae ei gyrchfan? Mae o'n holi'r cerddwr sy'n cymryd seibiant ym môn y clawdd. Nid yw hwnnw'n ei ateb. Nid yw'n codi ei lygaid ato nac yn ei gydnabod mewn unrhyw ffordd. Dyro ateb, gwaedda, mae'n rhaid iti roi ateb. Mae o'n cofio'r gweiddi a'r sgrechian liw nos o'r seleri holi. Mae'r cerddwr yn dal i'w anwybyddu. Be fedr Scilingo ei wneud ond cerdded y llwybr tua'r bryniau draw? Mae o'n dyfod at gastell a'i byrth o'n eang a'i dyrau'n lluosog. Ni ddaw adyn byw ato ac yntau'n crwydro'r cynteddau. O neuadd i neuadd mae o'n chwilio'r castell a phob neuadd yn foel heb danau ar ei haelwydydd. Yn y man daw i ben un o'r tyrau. Oddi tano fe wêl gefn gwlad clytiog o gaeau a choed. Yn y pellter mae stormydd duon yn hel am gopaon y mynyddoedd. Wrth sbïo i lawr mae o'n cael pendro sydyn ac mae cerrig y tw^r yn sydyn yn ansad o dan ei draed. Mae o'n sychu'r chwys oddi ar ei dalcen ac yn simsanu yn ei ôl am y grisiau. Unwaith eto mae o'n prysuro o neuadd i neuadd gan chwilio am ffordd i ddianc. Wedi cyrraedd y llawr o'r diwedd mae cloeau mawr ar y drysau. Mae agoriad yn crogi mewn blwch yn ochor un o'r drysau ac yntau'n estyn amdano. Dim ond pennau'i fysedd sy'n llwyddo i gyffwrdd â'r metel oer. Pam ei fod o wastad mor oer? Mae o'n cofio rw^an, bu yma o'r blaen. Ac wrth gofio mae o'n sylweddoli ei fod o wedi deffro a'i bod hi'n ddu bitsh yn ei ystafell a dim sw^n crafu yn dyfod o'r ffenest. Mae o'n estyn at y lamp erchwyn ac yn gwasgu'r botwm. Dratia, mae'r ffiws wedi chwythu, neu mae'r bylb yn ffliwt. Ydi'n rhaid iddo fod heb olau rw^an, ar ben bob dim?

Mae o'n flin ei fod o'n gorfod straffaglu o'i wely i chwilio am swits y golau mawr. Nid yw ei slipars yn y lle y gadawodd o nhw wrth droed y gwely. Nid yw'r carped yn y lle y dylai fod ar lawr o dan ei wely. Yn lle carped mae cerrig a'r rheini'n fferru'i draed. Mae o'n estyn ei law i chwilio am y swits golau ond ni ddaw dan ei fysedd ond cerrig geirwon mur castell. Yn araf deg bach, â'i law o'i flaen, mae o'n cylchu'r ystafell gan ddisgwyl bob munud cael dyfod at ffenest neu at ddrws. Ond ymhen hir a hwyr mae o'n rhoi'r gorau iddi ac yn gorfod gorwedd ar lawr i gael ei wynt ato. A daw'r oerfel i'w ysu hyd fêr ei esgyrn. Yn ei annifyrrwch mae o'n holi pam fod yn rhaid iddo fo ddioddef hyn? Dim ond dilyn ei gyfarwyddiadau a wnaeth yn ei waith, fel pawb. Nid y fo oedd wedi dyfeisio'r polisïau. Nid y fo oedd wedi rhoi'r pigiad cysgu i'r rheini oedd yn fflio'r awyren. Dim ond dilyn rota'r noson wnaeth o. Yn ôl rota'r noson honno ei waith oedd helpu i luchio allan. Os oedd ganddo awydd i ddyfod ymlaen yn ei yrfa fe wyddai fod yn rhaid iddo gymryd rhan, ni fyddai ganddo obaith fynd yn gapten heb rhoi help llaw ar awyren nos Fercher. Ac oni fu bron iddo dalu'n ddrud am ei wasanaeth hefyd? Mae o'n fflio'r awyren eto. Neu efallai mai awyren arall ydi hi. Mae o'n eistedd yn nesaf at y ffenest yn union y tu ôl i'r adain chwith. Mae'r haul yn loyw ar fetel yr adain a fflapiau ar ymyl yr adain yn agor ac yn cau. Yn croesi'r mynyddoedd mae ffyrdd igam ogam yn mynd dros y bylchau a'r haul weithiau'n chwincio oddi ar sgrîn wynt rhyw gerbyd ar y lôn. Yma a thraw yn y dyffrynnoedd mae rhwydwaith y lonydd yn cyrraedd pentrefi. Ar gopaon y mynyddoedd mae'r eira'n sgleinio'n wyn yn yr haul ac yn las yn y cysgodion. A llond sgyfaint o gwmwl yma a thraw yn crwydro'r ffriddoedd. Mae hi'n amser cinio ar yr awyren a daw dwylo mewn menig duon i rannu'r arlwy a rhoddir hambwrdd plastig ar y silff o'i flaen. Mae caead ffoil wedi ei gau'n dynn ar ddesgil betryal y prif gwrs, yr unig fwyd cynnes a gafodd, felly dyma'r un cyntaf i'w agor, penderfyna. Rhaid iddo godi clustiau'r cap ffoil a thynnu'r caead yn ofalus rhag iddo golli'r cynnwys ar ei lin. Cyllyll a ffyrc tila mae rhywun yn eu cael hefyd, ond o leiaf nid rhai plastig ydyn nhw. Mae o'n dewis hanner potelaid o win coch, gwin y wlad maen nhw'n hedfan drosti. Sylwa fod tameidiau o gwmwl yn dechrau britho'i ffenest allan fel gwlân dafad ar weiren bigog. Mae'r awyren wedi dyfod i ganol rhyw derfysg, medd y llais mewn nifer o ieithoedd, ac ni fydd y coffi'n cael ei weini nes y byddant wedi dyfod allan ohono'r ochr draw. Mae'r niwl yn chwyrlio'n dew y tu allan i'w ffenestr a Scilingo'n dychmygu angylion yn hedfan drwyddo a'u gynau gwynion yn llaes a'u traed yn noeth. Roedd pawb arall yn ymgodymu a'u cinio. Fe sbïodd allan eto a gweld gwyneb yn sbïo'n ôl arno o'r niwl. Ni allodd mo'i reoli'i hun a sgrechiodd nerth esgyrn ei ben. Troes pawb eu pennau ato mewn syndod. Mae'r sgrech yn fferu rywle yn ei frest. Nid pennau sydd wedi eu troi ato ond penglogau a dannedd mawr gwynion yn gwenu arno a thyllau duon yn syllu arno yn lle llygadau.

Bob tro pan fyddai'n deffro o'i gwsg cythryblus byddai Scilingo yn ceisio dileu ei freuddwyd o'i feddwl. Byddai'n prysuro i ymolchi ac i wisgo amdano ac allan â fo wedyn i'r stryd. O'i fwrdd ar balmant y caffi byddai'n arfer gweld y mamau a'r neiniau yn eu dillad duon ac fe wyddai beth oedd ar eu baneri ond nid aeth atynt erioed i egluro'r hyn a wyddai am y desaparecidos. Efallai y dylai egluro, efallai wedyn y câi lonydd gan y crafu blin. Mi âi atynt yn y bore, penderfynodd, ond bod y bore heddiw'n hir yn dyfod. Yn y cyfamser mae o ar ei hyd ar lawr yn fferru yng nghanol y tywyllwch ac mae'r crafu yn ei ôl. Mae'r crafu'n nesu'n nes bob gafael. Daw'r crafu ato ar hyd y cerrig mawr. Mae'r crafu'n sibrwd yr hen gwestiynnau yn ei glust fel tonnau'r môr yn holi'r graig ac mae pymtheg enaid a phymtheg mil yn ei gario fel cwrwgl ar lanw uchel ac o'r diwedd mae o'n deall nad ei holi y maen nhw ond ei gyhuddo. Gw^yr nad cysgu y mae o a gw^yr na chaiff ddeffro eto ychwaith. Mae'r crafu wedi cyrraedd ei frest ac mae'r ewin hir wrthi'n symud ei ddillad nos oddi ar ei groen. Ac yntau'n noeth daw crafangau mewn menig i afael am ei fferau ac am ei arddyrnau a'i dynnu'n dynn dros y cerrig. Mae'r crafu ar ei ffenest wedi peidio a Scilingo eisoes yn clywed y nos yn llifo drwy'i wythiennau yn lle gwaed.

 

 

 

 

Y Parch a'r Het

 

Dros filltir o led ydi'r afon yn ei cheg ac mae'r llwyni isel ar y dorlan bellaf yn mynd a dw^ad fel rhuban yn nhonnau'r tes. Daw pob math o nialwch i'r lan yng ngheg yr afon: hen ddodrefn, sgerbydau cychod, cyrff. Oni bai am yr awel sy'n codi o wyneb y dw^r mi fyddai'n rhy fyglyd i eistedd allan ar y feranda dan gysgod y cynfas gwyn. Wrth gwrs mae'r pimms oer yn help, ac mae hi'n braf cael gwrando crafu'r tonnau ar y tywod du.

'Esgusodwch fi,' meddai dyn bach wedi ei wisgo fel arloeswr tiroedd anghyfannedd o fwrdd cyfagos. 'A glywais i chi'n sôn am Buenos Aires?' Roedd helmet wen am ei ben a gwallt mawr gwyn fel cnu dafad yn ymwthio ohoni. 'Lle diddorol iawn,' meddai'n fyfyrgar. 'Wyddech chi mai o'r Llydaweg Buan hag Aes y daw'r enw? Wel, a dweud y gwir, y fi enwodd y lle.' Siaradai'r dieithryn braidd heb agor ei geg, fel tafleisydd.

Cododd a sefyll ger eu bron. 'Maddeuwch i mi, wnes i ddim fy nghyflwyno fy hun.' Estynnodd ei law. 'Yr Athro Devet E. Lostig M.A., Llydawr a llyfrbryf wrth fy ngwaith ond arloeswr tiroedd anghyfannedd yn ystod oriau hamdden.' Syllodd ar y gwydrau pimms. 'Ar eich gwyliau ydych chi, mor hy â gofyn?'

'Y Parchedig John F. Thomas,' meddai John F. Thomas gan wthio'i wydr o'r neilltu a chodi i ysgwyd llaw â'r dyn. 'A dyma Gloria Wilderbeest-Evans, fy nyweddi. Mae ein "gwyliau" ar fin dw^ad i ben.' Roedd tinc sur i'w glywed yn ei lais.

Pan gafwyd nad oedd yr Athro'n aelod o'r hen gorff archebwyd rhagor o'r ddiod oer a daeth y gweinydd tal yn ei fenig gwynion i'w dollti i'r gwydrau gan foesymgrymu'n ffurfiol ond yn urddasol.

'Ddaru chi ddim hidio llawer am y wlad, felly?' holodd yr arloeswr Llydewig. 'Y bwyd ddim yn dygymod hefo chi mae'n debyg.'

'Nid hynny oedd,' grwgnachodd John F. Thomas. 'Cael ein herwgipio wnaethon ni. Diar annwyl, gan ddau giaridym budr ac anllythrennog a chael ein trin yn enbyd iawn ganddyn nhw. Ond mi gawsant ail yn y diwedd, y ffieiddgwn afiach iddyn nhw!'

'Bu'n brofiad ysgytwol iawn,' ategodd Miss Wilderbeest-Evans yn ei llais edrych lawr ei thrwyn. Roedd hi'n llong hwyliau fawr o ddynes a'i breichiau fel canghennau a'i choesau fel dwy goeden. 'Sut fath o daclau brwnt fyddai'n herwgipio pererin, dwch?'

'Gif yp,' meddai'r Llydawr, 'eithr credaf y caf wybod yn dra buan.'

Ac mi gafodd wybod. Eglurwyd iddo fel y bu John F. Thomas yn mwynhau te Cymreig (paned a phic-ar-y-maen) yng nghaffi Casa Marguerita gannoedd o filltiroedd o'r sanctaidd fan y bu Miss Wilderbeest-Evans yn teithio ynddi ar ei phererindod i San Marcos de la Compostella Uchaf. A chafodd wybod am y modd y daeth y ddau yn agos yn ystod eu caethiwed ac yn y diwedd setlo ar briodi. Tydi o'n rhyfedd y pethau a arfaethir i ddyn gan Ffawd?

Roedd Ffawd Higgins yn ddyn boliog iach a llond sach o chwerthin mewn bocs yn ei frest. Nid trwy orwedd ar wastad ei gefn mewn gwely plu y llenwodd ei ben â dannedd aur eithr trwy chwys ei wyneb ynghyd â'i allu rhyfeddol i nabod mewnfudwyr addas i'w pluo. Dyn ydoedd wedi ei galedu gan erwinder llethol y paith, un o 'hil y diawl dan haul y de' chadal Byfer y Bardd yn ei epig 'Hallt yw'r Môr'. Y diwrnod hwnnw pan ddaeth Miss Wilderbeest-Evans heibio San Marcos de la Compostella Uchaf yn ei fan yr oedd Ffawd Higgins wrthi'n clymu'i ful i ganllaw grisiau'r salw^n.

Ond nid yn San Marcos de la Compostella Uchaf yr oedd John F. Thomas y diwrnod hwnnw eithr saith gan milltir o'r fan a fyntau'n cael 'paned wrth fwrdd â lliain coch a gwyn drosto ym muarth caffi Casa Marguerita dan gysgod masarnen fawr. Roedd ei goler starts yn brathu'i dagellau a'i het gantel llydan yn boeth odiaeth am ei ben. Cododd gwpan tsieina eiddil at ei fin a honno'n cosi godre'i drawswch trwchus.

'Paned dde,' meddai fel petai'n dyfod o grombil mwynder Maldwyn. (Un o Fôn ydoedd go iawn ond ei fod o wedi darganfod amgenach tafodiaith).

'Iti moin ifi wneid e nawr, Parch bach?' holodd Marguerita Mimosa mewn acen a orweddai rywle rhwng Gwauncaegurwen a Santiago.

'Ddim eto, ddynes, er mwyn dyn!' bytheiriodd John F. Thomas. 'Rwy'n cael 'paned.' Tasgodd stribed o de o'i geg a chronni'n berlau crynedig hyd odre'i fwstash. Pwyntiodd â bys main diwyro i gyfeiriad llwch a godai'n igam-ogam o ganol ehangder unffurf y dyffryn. 'Mae rhywun yn dyfod ac nid dirwestwr mohono.'

Gwelid o bell glustiau hirion mul yn codi ac yn gostwng drwy'r llwch ac o dro i dro gwelid chwip yn codi ac yn gostwng hefyd a thoc wedyn clywid clec lledr yn cosbi'r gwynt.

'Bydd e, Señor Morgan, sbelen yn cyrraedd w,' meddai Señora Mimosa. 'Mae amser 'da ni i gael un bach 'to 'sbo.'

'Tewch, ddynes.' meddai yntau. Temiodd arni a brathu brathiad pwrpasol o'i bic-ar-y-maen.

 

Yn y cyfamser mae Miss Wilderbeest-Evans â'i breichiau ar y cownter a hithau'n plygu drosto tuag at Jose Juan y gwerthwr creiriau ac mae hi'n lleisio'i chw^yn am y seithfed tro. 'Nid af oddi yma oni chaf fy mhres yn eu hôl! Mae'r gofrodd a brynais yn ddiffygiol. Mae o wedi torri. Dyma hi'r dderbynneb. Rw^an tala!'

'Mae'n ddrwg gennyf,' ymddiheura marsiandwr y cofroddion diffygiol, dyn main pryd tywyll a'i wep wywedig yn suddo'n is na'i ysbryd llwm. 'Mae'r pres wedi mynd, desaparecidos, welwch chi?' Mae'n dangos â chefn ei law y ddrôr fawr wag sy'n agored o'i flaen. 'Dewch,Señorita, darllenwch fy ngweflau: Dim pres yn ôl, dim byd, byth!

 

Tydi o'n rhyfedd fel y gall Ffawd dynnu dau lwybr yn un? Yr oedd Ffawd Higgins wrthi'n clymu'i ful i ganllaw grisiau salw^n y pentref a newydd dynnu cefn ei law dros ei weflau pan welodd ddynes fawr nobl a'i pheisiau fel dail coed yn plymio allan o siop greiriau Jose Juan ac yn cwympo'n hwdwl i ganol y stryd. Rhuthrodd ati a chynnig iddi help ei law. Bustachodd hithau'n drwm i'w thraed a dechrau curo'r llwch o'i sgerti llydain.

'Ffawd Higgins, at eich gwasanaeth, fadam,' meddai'r brodor a'r aur yn fflachio fel brithyll yn ei wên. Dechreuodd ei helpu i guro'r llwch o'i dillad.

'Tynnwch eich hen ddwylo oddi arnaf,' meddai'n chwyrn. 'Rwy'n all right, thanciw. Nid wyf erioed wedi profi'r fath annuwioldeb. Rydych oll ac un yn anwariaid yn y parthau hyn ac mi fydd yn adroddiad anffafriol iawn gaiff y W.I. amdanoch pan af adref.'

'Siw^r iawn, siw^r iawn,' ymddiheurodd Ffawd Higgins gan feddwl wel, i beth y mae twrci'n da ond i'w bluo? 'Dewch, mi wn i am le lle cewch chi lonydd.'

Nid amlach y daw Ffawd nag y daw Anffawd yn ei sgil.

 

Mae Anffawd Morgan yn gweiddi 'Hola!' wrth groesi buarth Casa Marguerita tuag atynt. Saif Marguerita Mimosa wrth benelin y Parch gan arllwys bwa o de o'i thebot i lygad ei gwpan.

'Bonas tardas, Señor Morgan,' medd yr wreigan a phlygu'r ben-glin i'r newydd-ddyfodiad tal, llychlyd.

'Y Parchedig John F. Thomas,' medd John F. Thomas gan godi ac estyn ei law.

'Que?' medd y dyn a throi at Marguerita.

'Un o'r hen wlad,' eglura hithau. Mae hi'n plygu'r ben-glin ato cyn troi am y ty^. Dychwela â llond ei hafflau o lestri te. Hwylio'r bwrdd nesaf at fwrdd John F. Thomas i Anffawd Morgan gael te hefyd.

'O Gymru 'chi'n dod, ife?' medd y dyn gan blygu drosodd at fwrdd ei gymydog. Mae o'n estyn ei law ato'n ara deg bach. Ar ei arddwrn sylwa John F. Thomas ar lun tatw^ glas o we pry copyn a phry cop mawr arni wrthi'n rhwydo'i brae. Maen nhw'n ysgwyd llaw.

'Wel,' medd Anffawd, wedi iddo ddrachtio o'i baned, 'beth sy'n dod â thi i le fel hyn, Señor Thomas?'

'Enillais i wyliau ym Mhatagonia am wylio S4C,' eglura John F. Thomas heb rodres yn ei lais. 'Deuthum yn ail mewn cystadleuaeth darogan y dyfodol. Mi ffilmiwyd y cwbwl yng Nghaernarfon.'

'Wel,' medd Anffawd, 'sdim diben darogan y gorffennol, sbo.' Mae sglein yn lledu ar draws ei lygaid culion. 'Darogan y dyfodol ife? Dyma brawf iti: Beth sy'n mind i ddicwdd fori?'

'Ail y dois i,' medd John F. Thomas yn bwyllog. 'Nid wyf eto'n feistr ar fy nghrefft. Ryw awr ymlaen llaw ydi'r gorau y medraf ei ddarogan eto.'

'Wyt ti'n gallu darogan poen a gofid i ti dy hinan o fewn yr hanner awr nesaf yma 'te?'

'Nid wyf yn medru darogan hynny,' meddai John F. Thomas.

'Blydi hoples!' medd Anffawd Morgan gan estyn bonclust egr iddo onid yw ei sgrech yn uwch na bloedd mochyn ar agor ei wddf. Nid yw Anffawd fawr o dro wedyn yn ei glymu â'i raff a'i godi fel sach i gefn ei drol.

Mae'r haul eisoes yn lledu cysgodion ar draws buarth y caffi. Mae'r awel nos yn siffrwd yn nail y gastanwydden. Â chlep o'i chwip mae Anffawd Morgan yn gyrru'r drol wichlyd a'i llwyth syfrdan yn ôl y ffordd y daeth ar draws y paith. Cyn mynd o'r golwg yn llwyr yng nghysgodion y nos mae o'n codi'i het unwaith ar Marguerita Mimosa a hithau'n sefyll yn syllu arno o adwy'r buarth.

 

'Miss Wilderbeest-Evans!' ebychodd John F. Thomas wedi i'r rhwymau gael eu tynnu o'i geg. 'Ai chi sydd yno?' Nid oedd erioed wedi ei gweld yn ei blwmars o'r blaen.

'Nage,' atebodd hithau'n sychlyd braidd, 'pwy oeddech chi'n ei ddisgwyl?'

'Cael eich herwgipio gawsoch chi?'

'Rydych yn graff iawn.'

Credai John F. Thomas fod tinc eironig yn ei llais ond fe'i hanwybyddodd. 'Pwy fasa'n meddwl eich gweld fel hyn,' meddai. Blwmars atal cactys oedd ganddi amdani.

'Tewch â'ch blydi lol, ddyn, a gwnewch rywbeth!' Gorchymyn oedd hi'n bendant, tybiodd John F. Thomas, mi fyddai'n well iddo geisio ufuddhau. A'i lygaid wedi cynefino fe welai ei bod hi wedi ei chlymu ben lawr traed fyny o drawst uchel yn y nenfwd, yr un trawst ag yr oedd yntau wedi ei glymu iddo. Roeddan nhw ill dau yn crogi fel dau ystlum gerfydd eu traed o nenfwd ogof. Roedd tân coed yn mygu yng ngheg yr ogof a'r fflamau'n aflonyddu'r cysgodion. Llenwai'r mwg eu ffroenau a llosgi eu llygaid.

'Gwnaf fy ngorau glas ond 'dwn i ddim fedra'i,' meddai John F. Thomas yn ymddiheurgar. Cychwynnodd siglo tuag ati gan geisio bachu'i ddannedd ym mhlygiadau hael ei blwmars y rhai a ddadorchuddiwyd gan gwymp ei sgerti am ei phen. Llwyddodd i gynyddu'r siglo onid oedd o fewn dim i'w chyrraedd a chydag un hwb arall o'i bennau gliniau ar y tro dyma bendil ei gorff yn pledu i mewn iddi fel pêl yn taro sachaid o lwch lli.

'Be gythraul ydi'r sw^n a'r strancio yna?' gwaeddodd Ffawd Higgins o ganol ei flancedi ger y tân. 'Rhowch gorau iddi! Cer i roi proc arall iddyn nhw, Anffawd, cofn iddyn nhw anghofio'u bod nhw'n hefo ni rw^an.'

'Yn gwmws,' meddai'r llall gan godi'n flinderus ond heb rwgnach. Roedd Anffawd yn hoff o brocio tinau ymwelwyr. Prociodd y ddau'n brofiadol â phicwarch hir.

'Be wnaethon ni i haeddu hyn?' holodd John F. Thomas wedi tewi o sgrechiadau Miss Wilderbeest-Evans.

'Dyna 'dan ni am ei wybod,' meddai Ffawd Higgins yn gynnil, a'i ddannedd aur yn fflachio yn fflamau'r tân.

'Anwariaid,' meddai Miss Wilderbeest-Evans dan ei gwynt.

'Ti moin proc arall, swigen?'

'Yn eno'r tad, byddwch drugarog!' ymbiliodd hithau'n, wel, yn ymbilgar iawn.

'Na,' meddai'r ddau herwgipiwr yn swta reit.

'Be ydach chi isio hefo ni 'ta?' wylodd hithau wedyn.

Troes Anffawd at Ffawd a chodi'i sgwyddau. Amneidiodd hwnnw arno a sibrwd yn ei glust gan bwyntio at...at...

'Ydach chi rioed am...am...' petrusodd John F. Thomas. 'Am gadw Miss Wilderbeest-Evans yma'n gaeth hefo chi a 'ngorfodi fi i fynd oddi yma i chwilio am ei phridwerth tra 'dach chi'n ei hanrheithio o'i gwyryfdod?' Roedd gronyn o obaith yn ei lais y tro hwn.

'Dim ffiars o beryg, ' atebodd Ffawd Higgins.

'Bedachi'n awgrymu?' mynnodd Miss Wilderbeest-Evans yn ffrom. 'Ai felly'r Parchedig Thomas yma sy'n mynd â'ch ffansi?'

'Byddwch yn dyner hefo fi,' meddai John F. Thomas a chwythu sws.

'Ylwch,' gwaeddodd Ffawd Higgins gan neidio i'w draed yn gacwn wyllt, 'nid eich cyrff chi 'dan ni isio ond eich arian. Be ddiawl ydach chi'n feddwl ydan ni? Y blydi cwbwl ydan ni isio ydi'ch pres chi. '

'Faint 'dach 'chisio?' Atseiniodd llais Miss Wilderbeest-Evans o wal i wal fel deryn mewn caets. 'Ac mewn punnoedd Lloegr cofiwch, dyna'r cwbwl sgynnon ni ond mi gewch eu newid nhw yn y banc.'

'Wn i hynny,' meddai Ffawd Higgins gan wasgu syms cymhleth yr olwg i'w galciwleiddiwr. Craffodd ar y sgrin. 'Deg punt a saith deg saith ceiniog...'

'Be, yr un?' Roedd sgytwad yn llais John F. Thomas. 'Ydach chi'n siw^r fod hynna'n iawn?'

'Wel, oce 'ta, 'gymrwn ni hyn'na am y ddau ohonoch chi,' ildiodd yr herwr.

'Iawn!' cytunodd Miss Wilderbeest-Evans. 'Mae'r pres yn fy mhwrs i. Mae'na bapur ugain yna ac mi dwisio'r newid!'

 

Cododd Miss Wilderbeest-Evans hances gotwm wen at ei thalcen a galw am lond jwg arall o pimms. Pesychodd John F. Thomas i'w ddwrn a sythu'i goler. Roedd hi'n uffernol o boeth. Meddyliodd a fyddai'n weddus iddo ddiosg ei siaced a phenderfynu efallai na fyddai. Ac eto, roedd yr Athro Devet E. Lostig wedi cael diosg ei helm wen a'i hen wallt mawr gwyn yn codi o'i ben fel cyn chwythu plu cloc dant y llew. Syllai'r Athro Llydewig o'r naill i'r llall wrth wrando'r hanes hynod.

'Hanes hynod,' meddai'r Athro Llydewig.

'A dyma hi'r fodrwy.' Cododd Miss Wilderbeest-Evans ei llaw i'w dangos. 'Mae Mr Thomas am brynu un iawn imi yng Nghaernarfon wedi inni gyrraedd adref, yn tydach anwylyd?'

'Buan hag Aez,' meddai John F. Thomas yn ei dipyn Llydaweg er mwyn ei ddangos ei hun.

'Si, Señor, Buenos Aires,' meddai'r gweinydd a hwnnw wrthi'n arllwys y ddiod. 'Dacw hi eich cwch yn symud tua'r lanfa yn awr.'

'Wel diolch byth a yec'hed mad,' meddai Miss Wilderbeest-Evans. Bu cryn dincial gwydrau a drachtio'n hael. 'A wyddoch chi be ydi'r peth rhyfedda i gyd?' meddai hi wedyn. 'Wedi cam ddarllen ei beiriant cyfrif oedd yr herwr dwl ac anllythrennog! Deng mil saith gant saith deg saith o bunnau oedd ar y diawl isio gynnon ni... ond doedd o heb arfer hefo pres Saesneg yn nagoedd, y lembo hurt iddo fo. Roedd o mor dwp, roedd y ddau ohonyn nhw mor hollol ddwb, mi roeddwn i'n crefu na fyddai gonestrwydd John F. Thomas ddim yn drech na fo a gadael y gath o'r cwd.'

'Wel, mi roedd yn anodd coelio,' ategodd John F. Thomas. 'Wyddoch chi mai mul Ffawd Higgins oedd y clyfra ohonyn nhw ill tri, rhwng hwnnw â throl Anffawd Morgan oedd hi. Mi welis benabyliaid callach. Petae'r taclau byrbwyll ond wedi gwybod fod gennym adwy i'r cwbwl a gasglwyd gan werin Arllechwedd at gronfa capeli'r Wladfa - dros ddeng mil o bunnau mewn arian sychion yn ein gofal - mi leiciwn weld eu gwynebau a nhwythau'n gwybod hynny! A dychmygwch drasiedi i ffyniant yr achos fyddai i ni fod wedi colli'r cwbwl i'r ffasgwyr lladronllyd. Diolch byth, mae'r cwbwl yn saff ym mag Miss Wilderbeest-Evans. Achos dathlu ddwywaith, ydach chi ddim yn meddwl? Mae gennym amser am un bach arall siawns, cyn elo'r cwch. Weinydd! Jwgiad arall o bimms os gweli di'n dda.'

'Si, señor,' meddai'r gweinydd a chipio'r jwg a'r gwydrau gweigion oddi ar y bwrdd a'u lluchio dros ben y teras i'r afon islaw.

'Be haru chi ddyn?' chwyrnodd Miss Wilderbeest-Evans ar godi o'i set.

Rhoes yr Athro Devet E. Lostig M.A. law ar ei braich a'i hatal. 'Hidiwch befo'r gwydrau,' meddai gan wenu o glust i glust nes i'w ddannedd aur yn fflachio fel brithyll yr haul. 'Ha, ha, ha,' meddai wrth dynnu'r mwng gwyn oddi am ei ben a'r chwerthin yn dengyd yn ffrydiau o'r bocs yn ei frest.

'Ff..ff..ffawd Morgan!' sgrechiodd y ddau a llamu y tu cefn i'r gweinydd. 'Galwch yr heddlu, weityr, galwch y fyddin! Herwr ydi o, dyn drwg, daliwch o!'

Ni chynhyrfodd y gweinydd ddim. Tynnodd ei fenig gwynion yn bwyllog a'u lluchio i'r afon. Rhoes law fawr am ysgwydd John F. Thomas a'r pry copyn ar ei chefn yn las ac yn chwyslyd ar ôl bod cyhyd yn y faneg wen. Gwenodd yn hyll. 'Nid amlach y daw Ffawd nag y daw Anffawd yn ei sgil,' meddai gan estyn cyllell hir o'i gôt a phrofi'r min ar ei dafod. 'Shw'mai?'

Llewygodd Miss Wilderbeest-Evans.

'T'yd yma,' meddai Ffawd Morgan wrth y Parch John F. Thomas gan godi'n araf oddi wrth y bwrdd ac amneidio arno i ddyfod yn nes. 'Tydwi ddim yn hapus iawn 'da'r pethach 'chi wedi bod yn 'ddweud gynne fach.' Rhoes ei fraich yn dadol am ysgwydd y Parch a phlygu ato i sibrwd yn ei glust: 'Ond rwy'n ddyn rhesymol. Beth am i'r pedwar ohonom ni fynd am dro bach hyd lan yr afon inni gael trafod pwy sy'n ful twp a phwy sy'n fasdad dwl. Dadebra'r het yna a gwêd wrthi am ddod a'i phwrs gyda hi.'

Mae'r llwyni ar y lan bellaf yn rhubanu yn y gwres o hyd a'r tonnau'n lledu'n ddiog y tu cefn i gwch Buenos Aires a honno'n troi o'r lanfa am ganol yr afon. Ar hyd y glennydd mae dryswch o sbwriel yn chwysu yn y tywod du ond ni ddaeth neb eto i chwilio drwyddo fo; ni ddeuant tan heno pan fydd pwysau'r haul wedi llacio a'r gwres mawr wedi mynd yn llai.

 

 

Bant â'r Cawr

 

Nid yn yr union acen honno na chwaith yn yr oslef acw yr oedd Bendigeidfran wedi bwriadu cyffesu. Dwi'n amau a oedd o wedi bwriadu cyffesu o gwbwl ac i mi does ryfedd yn y byd i'r gymdogaeth gapelog ond hoff o gabarê hon godi yn ei erbyn a'i arddel fel gelyn a'i gladdu wedyn yng nghanol y rhedyn i rifo'r sêr yn oes oesoedd. Dichon i hynny ei daro'n ei dalcen fel lorri lo a honno'n rowlio lawr yr allt heb frêcs ond 'a fo bont bid Bant' fyddai tiwn gron yr emynwr uchelgeisiol hwnnw a drigai gerllaw. A beth bynnag, ymresymodd hwnnw, onid hen bagan barfog oedd y cawr, rhyw gyw dryw o dduw ar waetha'i faint, duw di-sylw o'r cynfyd blin a oedd angen pin bach yn ei swigen fawr. Yn bendifaddau nid heb ei dalcen y bu fyw'r hen Bant ac nid yn aml heb ei ben chwaith.

Cadwodd ei ben a phawb o'i gylch yn holi pryd oedd o am ei arddangos eto. 'Cawn weld,' meddai'r pen o'r bocs a chanodd fel cana'r aderyn am grwydro yma a thraw a sôn ei fod o'n disgwyl i'w dad o alw draw. Oni wyddai o'r gorau mai hanfod crefyddwr llwyddiannus yw'r gallu i gorddi'r ffyddloniaid i ladd pawb o ychydig ffydd. Ewch i mewn i'w byrth ef a dwyn ei dy^. Dyna oedd byrdwn ei bregeth yn y bocs ond y cwbwl oedd ar ei feddwl oedd ble mae'r drws? Y drws na ddylid ei agor oedd ganddo dan sylw, y drws hwnnw sydd draw dros y tonnau lle mae'r aber yn cau ar y gorllewin a lle mae llawenydd a chyfeddach ac ar achlysuron arbennig, ar ôl ychydig o lanhau ethnig, rialtwch mawr. Roedd yr hen Bant â'i fryd ar wella'i fyd. Ond sut? Onid dyna'r cwestiwn?

Ai ffyrnicach yn y cof fodoli mewn bocs ynteu gwyro ar yr aswy law? Edrychodd yr hen Bant ar yr oriawr ar ei arddwrn a meddwl pe na bai'n byw yn yr anialwch ond yn cael cerdded union ffordd wrth olau dydd y byddai'n brafiach o lawer arno. Tynnodd ei ben yn ddisymwth o'i focs a syllu eto ar ei elyn mawr. Nid oedd mor debyg â hynny i gyw dryw, penderfynodd. Dyn mawr oedd hwn a fforest am ei ben a'i lais yn uwch nag alto a'i drwyn yn finiocach na dirmyg Sais.

'A w^r,' meddai Bendigeidfran, wedi sylwi ar ben yr hen Bant yn ymddangos o'r bocs, 'mi a wn pwy wyt ti ac ni chyfarchaf well iti. Nid wyt gystal dy degwch a'th ben yn noeth heb flwch amdanaw. Rwyt ti hefyd yn falwr awyr o'r radd flaenaf. Ys pregethwr athrist ansyber wyt a'th ormes sydd yn faich ar yr ynys hon.'

'Sbia adra'r pagan anferth,' ysgyrnygodd yr hen Bant drwy'i ddannedd. Rywle yn y pellter seiniodd corn trên. 'Mi wn i ddigon amdanat ti i lenwi traethawd ymchwil a hynny dim ond er mwyn trafod dy dueddiadau rhywiol gwyrdroëdig! Ydi hi'n wir be maen nhw'n ddeud amdanat ti a'r ffured? Druan o'r ffured, ddeudwn i. Mi fasa trafod hagrwch dy wep di'n llenwi dwy gyfrol Ysgrifau Beirniadol ac angen pedair arall i dy ddisgrifio'n iawn. I ymdrin yn arwynebol yn unig â'th ddiffygion glendid mi fyddai gofyn argraffu chwaer gyfrol i'r Bywgraffiadur ond hefo sgwennu llai. Fasa 'na ddim lle yn yr un geiriadur ar gyfer dy iaith ffiaidd ac aflednais, hyd yn oed Geiriadur yr Academi. A gresyn iti fynegi'r farn a fynegaist am fy mhen. Nid er dy fwyn di y gosodais rubanau yn fy ngwallt. A thydi ffuen o ots gennyf i os na chyfarchi di well â mi. Does gen i mo'r amynedd na'r awydd i ddal pen rheswm hefo cawr mor anfeidrol ei dypdra ac ar ben hynny dacw hi fy nhrên. Da bo.'

'Ta ta,' meddai'r cawr gan godi ei law at gwmwl o gandi-fflòs pinc. Roedd hen widdon lwyd astrus yn eistedd am ben y cwmwl yn gwbwl groes i safonau glendid newydd y gymuned ewroffobaidd statws-i-datws werdd. 'A!' meddai Bendigeidfran, wedi anghofio fod ganddo gywilydd o'i faint, canys nid yn aml y gwêl dyn widdon yn symud ato drwy'r cwmwl.

Cododd y widdon ei bys at ei gwefus a sibrwd yn egr, 'A oes gennyt chwaneg o lafariaid, gawr?'

'Oes,' ebe'r mawr, 'nifer.'

'Dangos imi felly dy grair o hen bair o oes a aeth heibio a'th ddulyn neu dy faladeulyn a'th esgair gerllaw'r coed.'

Agorodd Bendigeidfran ei falog. Dechreuodd y widdon lwyd chwerthin o'i hochor hi. Roedd hi wedi arfer â gweithio'r nosau mewn bariau ym Mrest ac yn un sgut am ganu baledi trist y môr. Ond o weld y cawr yn sychu'r dagrau yn ei ffedog cymerodd biti drosto. Efallai'n wir, meddyliodd, fod yma un o hynodion bethau Cymru. Estynnodd iddo deipysgrif yn olrhain talpiau o'i hanes na wyddai hyd yn oed o amdanyn nhw.

'Mi wn i pwy sgwennodd hyn!' meddai'r cawr a fyntau'n cael cip ar drên yr hen Bant wrthi'n cael ei sugno fel sbageti i geg y twnnel du. Roedd y deipysgrif wedi ei sgrwnsio'n belen yn ei ddwrn. Gwelai ben yr Hen Bant yn ei wylio o ffenest cerbyd ola'r trên.

'Cer yn ôl i chwarae yn dy lyn y pysgotwr drama,' gwaeddodd yr hen Bant a chodi'i ddwrn yn fygythiol ar y cawr. Gollyngodd Bendigeidfran ei afael yng nghwmwl y widdon a hwnnw'n nofio fry i entrychion awyr a hithau'r widdon yn gafael yn dynn ac anghofiodd pawb am y widdon wedyn.

'Nid chwarae fydda' i yn fy llyn!' gwaeddodd Bendigeidfran ac estynnodd ei law fel chwip a bachu'i fysedd yn nhindres y trên a'i llusgo o'r twll fel llyngheryn o din maharen. 'Ond mae gen i bysgod,' ychwanegodd pan oedd y ddau wyneb yn wyneb drachefn. 'Maen nhw'n byw yn fy mhysgodlyn.'

'Wrth gwrs.' meddai'r hen Bant.

Fel mae'n digwydd bod mae'r rheilffordd yn cydredeg am gryn bellter gyda glannau'r llyn cyn turio drwy'r mynydd i gyrraedd y byd go iawn. Gwthiodd y cawr ddau fys i ddw^r ei lyn a chodi ohono ddau siarc syfrdan. Rhoes eu pennau yn ei geg a chau'i ddannedd arnynt. Pan ryddhawyd y siarcod dawnsiasant lambada bach dros y tonnau a hwythau'n canu soprano am golli rhyw gi o'r enw Shep. 'Cwpwl o'm silidons,' meddai'r cawr. 'Hoffet ti weld rhai o 'mhysgod mawr i rw^an?' Roedd distawrwydd yn llethu'r llwyni a braw syn yn y brwyn.

Torrwyd ar y tawelwch gan larwm bach yn canu o oriawr yr hen Bant. 'Hei,' meddai gan guro'i ddwylo'n bwyllog ddwywaith neu dair, 'dwi'n eitha licio dy steil di. Dwi'n chwilio am act fathag un chdi ar gyfer fy nghabarê. Wyt ti'n rhydd nos Wener?'

Nos Wener oedd hi'n digwydd bod. Eisteddai'r hen Bant ar stôl uchel ger y bar a'r farmones y tu ôl i'r bar wrthi'n tynnu iddo beint o gwrw melyn 'go iawn' stotberger o'r Isalmaen. Roedd yr hen Bant yn hoff o win Bwrgwyn ac o win coch clir Bordô - roedd o'n berchennog ar blasty bychan, un o'r Petits Châteaux bondigrybwyll, Châteaux Pant, lle byddai'n drugarog wrth ei werin ac yn dad i nifer o'i daeogion, yn enwedig ar y Sul, a hynny'n dangos ei fod yn wir Gristion, ond er hoffed oedd o'i win a'i werin ni fynnai i neb yma wybod hynny ac felly ym mar cefn yr hen Fat nid yfai namyn cwrw melyn bach rhag i'r locals feddwl ei fod o'n gadi ffan. 'Mi dy fwcia'i di yn y fan a'r lle,' meddai. 'Dyma dy gontract. Ti on ar ôl yr act nesa.'

Ystyriodd y cawr y cynnig. 'Ti'n tynnu 'nghoes i, twyt,' meddai. 'Mi fedra'i ddeud arnach di nad wyt ti o ddifri. Yn un peth, dwi'n amau bodolaeth dy gabarê di ac yn ail, dwi'n amau dy fodolaeth di dy hun.'

Chwarddodd y gynulleidfa'n frwd pan glywsant hynna a chlywyd un llais lef yn uwch na'r lleill yn gweiddi 'Anterliwt!'

'Diolch Mr Bobyrt,' meddai'r hen Bant yn nawddoglyd braidd. 'Camodd i erchwyn y llwyfan a chodi'i law i gysgodi'i lygaid rhag y llifoleuadau. 'Pan 'dach chi mor enwog â fi mi rydach chi'n dysgu i ymdopi â mân rwystredigaethau megis pen bach fatha Mr Bobyrt yn porthi o'r cefn neu â rhywrai byth a hefyd am ddwyn eich Hosannau.' Cododd y meic yn agos at ei geg. 'Ond yn awr, mae'n hen bryd inni gynnig cwestiwn jac-yn-bocs arall i'r gynulleidfa. A dyma fo. Er mwyn sefydlu gwastadedd eang o baith, beth sydd arnoch ei angen?... Ia, Mr Bobyrt?'

'Tir rhywun arall, syr,' galwodd Mr Bobyrt yn awyddus fel cangarw^.

'Da'r hogyn, Bobyrt,' meddai'r hen Bant. 'Ti wedi ennill gwyliau di-droi'n ôl i Batagonia bell. Ond yn awr, ac mae'n rhyddhad personol i mi ac yn fwynhad i chwithau, dyma gyflwyno heno am y tro cyntaf erioed ar lwyfan yr hen Fat, ac mae'n haws gennyf ei wneud o heno gan fod neithiwr wedi darfod â bod a nos fory heb eto'i chyffwrdd, dyma gyflwyno, yr holl ffordd o Harlech yn Ardudwy: Bendigeidfran gawr a'i draed ar lawr i'ch difyrru â'i driciau mân a mawr am obwyti, beth wedwn ni?... hanner awr? Rhowch groeso iddo.'

'Bwwwwww!' gwaeddodd Bobyrt ond boddwyd ei brotest gan fonllefau o gymeradwyaeth a churo dwylo a chicio traed sgidiau hoelion mawr ar estyll gwichlyd llychlyd llawr.

'Diolch,' meddai'r cawr gan gamu'n ansicr o'r asgell chwith a fyntau'n cochi 'dat ei glustiau ac yn clywed y chwys yn treiglo dan ei geseiliau. 'Mae'n ddrwg gen i am y to.' Cododd y goron o do'n ofalus oddi am ei ben a'i osod yn y cae swings cyfagos. Ymddiheurodd am chwalu'r llwyfan dan ei draed ac yna estynnodd ei law i'r wybren a gafael mewn cwmwl bach arall i'w ddefnyddio fel clustog. Wedi ymgyffordduso aeth rhagddo i gyflwyno hanner awr o ddifyrrwch a doniolwch gyda'r difyrraf a'r doniolaf i gynulleidfa'r hen Fat ei brofi na chynt na chwedyn a phan oedd y cyfan drosodd a fyntau'n ymlacio yn ei stafell newid yn tynnu'n hir ar sigâr o Ciwba a'i ji-an-ti ger y drych o'i flaen daeth cnoc ar y drws.

'Pwy sy 'na?' holodd y cawr. Ysgwn i pwy sy 'na? Meddyliodd wedyn a rhoes ei sigâr ar ei hochor yn y blwch llwch a chlymu'r w^n nos sidan yn dynnach amdano.

'Rydym yn fagad anfodlon,' meddai'r arweinydd a safai fel sment ar y trothwy a'i gefnogwyr yn eu hyll y tu cefn iddo, rai ohonynt a dannedd miniog yn ymwthio dros eu gwefusau.

'Pwy'n union ydach chi?' holodd y cawr.

'Ni ydi'r rhai basa'n rheitiach i ni fod wedi cael bod yn ganolbwynt i'r stori hon yn hytrach na chdi.'

'Dach chi'n ei roi o mewn ffordd glogyrnaidd iawn ydach chi ddim?' meddai'r cawr yn wfftiol. 'Mae gen i hawl i fod yma achos dwi'n fwy na chi.'

'Annelwig iawn wyt ti yn ein barn ni,' meddai'r arweinydd. 'Does yna ddim disgrifiad iawn ohonot a dan ni ddim yn gwybod dim byd o dy hanes. Lle mae'r holl gyfrolau yma amdanat? Welson ni'r un. Onid llechwraidd ydi'r ffordd y sleifiaist i mewn i ganol yr hanes ac ar ben hynny dan ni'n meddwl ei fod o'n beth dan din dy fod wedi dy wneud mor fawr.'

'Rhydd i bawb ei farn,' meddai'r cawr. 'I mi nid y fi sy'n fawr ond y chi sy'n fach. A thydach chi byth wedi ateb fy nghwestiwn: Pwy ydach chi pan dach chi'n gall?'

'Y ni ydi'r rhai a ddifreiniwyd o'r chwedl a'i hawlio hi'n ôl a wnawn. Sef ydym fyfi Elfyn Olew a guddiodd mewn llwyn a'r estron yn troedio'n llwybrau ac a wylodd pan welodd ei wlad yn mudo ac yma'n gefn imi wele Coch ei Deiliwr a bwythodd well tyllau nag a welaist ti o glytiau ac a wnaeth fantell aur i frenin Brythoniaid byd ac yn gefn iddo yntau mae Swaballt ac wrth gwrs tydi Swaballt ddim angen cyflwyniad, nacdi. O, ac mae'r widdon yma hefyd yn cwyno fod pawb yn ei hanwybyddu amdani.'

Ystyriodd Bendigeidfran y geiriau hyn heb yngan gair. Agorodd ei geg i siarad. 'Rwy'n gweld,' meddai. 'Wel o leia tydi Bluegroser ddim hefo chi.'

'Cw î,' meddai Bluegroser. Roedd o'n sefyll y tu cefn i Swaballt a hynny'n ei wneud yn anweledig achos fel y gw^yr y cyfarwydd, mae cysgod Swaballt yn gwneud popeth y disgynno arno'n anweledig.

'O, briwsion,' meddai'r cawr. 'Rwy'n dyfalu ei bod ar ben arnaf felly.'

'Ia,' meddai Elfyn Olew. 'Nid a fo ben bid bont ydi hi rw^an ond ar hen ar yr hen gawr! Mi rwyt yn y lle rong, gyfaill, a dacw'r drws.'

Cododd y cawr ei dent syrcas o hances at ei drwyn a chwythu. Sychodd Lyn Tegid o'i lygaid a chodi ar ei draed. Ar ei ffordd allan rhoes gam gwag a ffagio'r hen Fat yn fflat fel mat a'r bagad anfodlon yn grybibion fel pryfaid genwair wedi eu mathru rhwng dwy garreg.

'Rwy'n dyfalu na fyddaf yn ymddangos ar y llwyfan hwn y rhawg,' meddai Bendigeidfran wrtho'i hun. Ar hynny pigwyd ef gan ei gydwybod. 'Paid,' gwingodd. 'Wir yr rw^an, nid oeddwn ond dipyn yn wirion, nid cawr drwg.'

'Dwi'n amau hynny,' meddai'r hen Bant gan frathu ei ben dros y clawdd y tu ôl i'r hwn y bu'n piso. 'A dwi'm yn talu i chdi am dy berfformans heno chwaith, ichdi gael bod yn dallt. Mi gei di ganu'n iach â dy swllt a chwech.'

'Cwtrin plentynnaidd,' meddai'r cawr dan ei wynt a hwnnw'n wynt mawr mawr a sgubodd yr hen Bant i ben derwen fawr gyfleus gerllaw.

'Tri chanmil o drychfilod yn dy wely!' meddai'r hen Bant yn groendenau fel llyffant mewn padell ffrio. 'Wyth ar hugain o slumod gwenwynig yn dy wallt a saith sguthan i fyny dy din!'

'Nagoes, yr emynwr talcan slip ichdi,' meddai'r cawr yn hunan fodlon i gyd wedi tynnu'i law drwy'i wallt ac wedi gwthio bys ymchwilgar i'w ogof anhyfryd.

'Oes!' mynnodd yr hen Bant a rhoes glec ar ei fawd.

'Waaaaaa!' sgrechiodd Bendigeidfran a fyntau'n sboncio fel sioncyn gwair mawr.

'Gwranda,' meddai'r diwinydd parchus o bwys aruthrol sydd wedi cael astudio'i waith yn fanwl heb i neb ganfod na rheg nac anweddustra ynddo tan yn ddiweddar, 'Gwranda'r lwmp, dwi'n cyfri lawr o ddeg a dyna hi wedyn, ta ta. Ffinito. Rwbio chdi allan, tynnu'r tjaen arnach di, canu'n iach. Achos ti ddim yn bod.' Edrychodd yr hen Bant ar ei wats. Roedd Bendigeidfran yn dal i neidio hyd y lle â golwg boenus arno ond yn dal i gadw llygad ar yr hen Bant. 'Deg, naw, wyth, saith...' cyfrai'r hen Bant yn bwyllog.

'Dwi'n sori, dwi'n sori,' gwichiodd y cawr yn wyllt, 'stopia'r cyfri, tynna'r pethau ofnadwy yma oddi arna'i, plîs, maen nhw'n fy lladd i, hen Bant, maen nhw'n fy lladd i...'

'Bw hw, bechod de,' meddai'r hen Bant a stopio'r cyfri ar ddau. 'Ddyla dy fod ti wedi meddwl am hynny cyn ichdi 'ngalw fi'n emynwr talcen slip.'

'Ond un o'r de wyt ti i fod, Wil, nid Gog wyt ti,' ebychodd Bendigeidfran â'i anadliad olaf ond un.

'Hei, ti'n iawn hefyd!' meddai'r hen Bant ac fe dynnodd yr hud oddi ar Bendigeidfran a gyrru'r slumod o'i wallt a'r sguthanod o'i din a'r trychfilod o'i wely a'u hanfon yn ôl i dy^ Elwyn yng Nghaernarfon.

'Ffancs, Pant,' meddai'r cawr â'i anadliad olaf. 'Ac am hynna mi wna innau gyffesu nad wyf yn bod go iawn.'

'Doedd hynny ddim mo'r peth doethaf i'w wneud,' meddai'r hen Bant wrth wylio'r cawr yn datgymalu ac yn diflannu fesul tamaid nes nad oedd ar ôl ohono ond ei drwyn trahaus a'i dalcen a'i ben.

Claddwyd pen y clamp anffodus nid yn y Gwynfryn i rwystro'r Saeson rhag dyfod i'r ynys ond a'i wyneb i fyny dan swp o fwsog ger ffos y ffin ac yno y mae o'n hyd heddiw'n cyfri sêr.

'Fel deudis i,' meddai'r emynwr o Shir Gâr o lwyfan newydd y Fat ifanc a'r lle dan ei sang, 'a fo bont bid Bant.' Cafodd, fel y caiff bob tro, gymeradwyaeth frwd a hyd yn oed Mr Bobyrt yn gorfod gweiddi hwrê.

 

 

 

Y Dw^r Mawr Llwyd

 

Y dw^r mawr llwyd a'i donnau pitw sy'n goglais fy ngwegil ac yn gwneud hen sw^n twt twtian fel sibrwd pregethwyr yn fy nghlust. Finnau wedi meddwl erioed fod dw^r yn beth lliwgar llawen, nid yn hen beth surbwch blin. Dwi'n dal i gofio fel y byddwn i'n gwirioni hefo fo erstalwm. Cofio fel byddwn i wrth fy modd ar deras heulog yn gwylio cychod yr aber yn gwneud cylchoedd gwynion rownd y bae. Cofio ni'n gorwedd ar lan pwll y rhaeadrau'n chwerthin wrth glywed dim byd ond rhuo'r dw^r. Awn i ddim ar gyfyl lle felly rw^an. Awn i nunlle'n agos i ddw^r. Fasa waeth gen i tawn i byth yn gweld diferyn o'r diawl peth eto. Ond tydi hynny ddim yn debygol achos mae o ym mhob man yma, toes gen i nunlle i droi nad ydwi'n ei weld o'n llenwi pob twll a chongl o'm llygaid. Tydwi'n goro byw yn ei ganol o?

Nid ei fod o'n oer, tydi o ddim, mae'i dymheredd o'n o lew am wn i neu mi faswn wedi fferru erstalwm. Ond be sy'n ddiflas ydi ei unffurfrwydd o. Mae o jest mor ddigyfnewid, mor debyg iddo fo'i hun, mor gyson ddiflas fflat. Dim iot o ffraethineb, dim owns o wreiddioldeb, yn hollol ddi-fflach. Dim byd ond yr un hen wyneb llwyd digymeriad sych yna rownd y bedlan. Ia, mi wn ei fod o'n groes-ddeud ond mae hwn yn ddw^r sych a dwi'n dweud hynna a finnau yn ei ganol o'n wlypach na sgodyn ers oes Adda. Mi fydda'i'n trio pob dim hefo fo: trio tynnu llaw dros ei ben o, canu iddo fo, dweud straeon digri wrtho fo - does dim byd yn tycio. Dro arall fydda'i'n blino ar ffalsio hefo fo ac yn mynd ati i'w ddyrnu o, ei waldio fo'n iawn nes bydd fy migyrnau'n gignoeth. Wrth gwrs fydd hynny'n tycio dim chwaith. Mae'r dw^r mawr llwyd yr un fath o hyd, yn dweud dim ac yn gwneud llai. A'r hen donnau diffaith yma'n dal i hel o gwmpas fy nghlustiau i ac yn cosi ffroenau fy nhrwyn.

Fuodd pethau ddim fel hyn erioed, naddo'n tad. Dwi'n cofio'r adeg pan oedd y dw^r yn fach, fydda fo'n treiglo'n ddiniwed rhwng bodiau fy nhraed gan wenu'n slei bach yn llygad yr haul. Finnau'n meddwl ein bod ni'n dallt ein gilydd, y dw^r bach a finnau, ein bod ni hwyrach hyd yn oed am fod yn ffrindiau. Fyddwn i'n camu drosto fo, yn neidio fel gafr ar d'ranau o'r naill ochor i'r llall, yn mynd ac yn dw^ad fel mynnwn i, yn cael hwyl iawn yn chwarae ac yn chwerthin hefo fo. Toes yma fawr o hynny rw^an. Sbia o ddifri calon ffordd mae'r sglyfath wedi troi allan: un gwyneb llwyd diderfyn a'i lond o donnau bach dibwys yn mynd i gyd fel dyn â chrynfa o'r cryd arno.

Mae gen i go da o'r adeg fyddwn i'n medru gweld yn bell bell i bob cyfeiriad a'r dw^r yr adeg honno ond yn cyrraedd 'dat fy mhennau gliniau, a finnau fatha rhyw Fendigeidfran o foi yn sathru arno fo ac yn cerdded yn dalog drwyddo fo'n ei ffagio dan fy nhraed. Deu, mi fyddai'r gwynt yn tonni yn fy ngwallt a lliwiau'r tiroedd yn llenwi fy llygaid, rhai'n isel a rhai'n uchel a'r cwbl yn gylch o amgylch y dw^r. Fyddai wedi bod y peth hawsaf yn y byd yr adeg honno imi fod wedi camu o'r dw^r a throedio'r tir. Fyddwn i'n rhoi fy llaw allan i'w gyffwrdd o weithiau, roedd o mor agos. Thâl hi ddim imi bendroni yngly^n â hynny rw^an, byddai'n well imi drio cau fy meddwl arno fo, cau'r adwy ar yr 'ugeiniau o lwyd, anghynnes, ddi-les feddyliau', eu cadw nhw o'r golwg yn dynn dan yr hatshys.

Ond fedra'i ddim. Roedd yna gymaint o diroedd braf i bob cyfeiriad a phobol glên yn byw ynddyn nhw i gyd cyn y dw^r. Tir isel oedd tua'r de oddi wrtha'i. Ar hwnnw y collais olwg gynta. Pryd oedd hynny, dywad? Tua'r adeg roedd y dw^r wedi cyrraedd o gwmpas fy nghanol, dyna pryd oedd o. Roeddwn i heb gymryd fawr o sylw o'r tir isel cyn hynny achos fyddai'n well gen i edrych tua'r mynyddoedd i'r gogledd neu tua'r ffriddoedd a'r ceunentydd coediog i'r dwyrain. Dim ond cip wrth fynd heibio a gâi'r tir isel gen i rw^an ac yn y man ac wrth gwrs dwi'n 'difaru hynny rw^an achos erbyn hyn toes gen i ddim byd ond brith gof am yr iseldir, dim ond y syniad ei fod o wedi bod yno unwaith. Digwydd troi fy mhen ddaru mi un tro a sylwi'n sydyn nad oedd o ddim yno. Y dw^r wedi codi'i orwelion i gyffwrdd â chantel y cwmwl isel a dim byd rhyngthyn nhw bellach i'w cadw ar wahân, dim llinell bell na dim. Codi fy sgwyddau wnes i a throi'n ôl i syllu tua'r uchelderau lle dilynwn â'm llygaid hynt yr eryrod a welwn yn cylchu'r copaon fel petaent yn crogi ar gortynnau. Gweld wedyn gwyn y defaid grisial ar y ffriddoedd a gwydr ffenestri'r tyddynnod yn goleuo yn yr haul hwyr. Gweld colli'r lliwiau fydda'i fwyaf am wn i.

Do, aeth y ffermydd, y ffriddoedd a'r copaon hwythau dan y don. Mynd o un i un dros gyfnod maith wnaethon nhw. Doeddwn i fawr o feddwl y byddai'r dw^r yn mynd â nhw i gyd ond dyna fo, o leia mae'r cof am rheini'n aros, cofio'u cadernid balch di-ildio yng ngolau'r haul. Dwi ddim isio meddwl amdanyn nhw yn eu gwendid wedyn, yn ddim byd ond clytiau o ynysoedd yn brigo i'r gwyneb rhwng y dw^r a'r cwmwl. Dwn i ddim pryd aethon nhw. Y tro cynta imi sylweddoli eu bod nhw wedi mynd oedd yr adeg y daeth y dw^r gynta dros fy sgwyddau, dwi'n cofio'r don gyntaf a lyfodd fy afal breuant a finnau am ryw reswm yn codi 'ngolygon tua ffiniau pellaf fy myd ac yn gweld yn y lle y bu'r ynysoedd ddim byd bellach ond y dw^r. Efallai 'mod i'n methu ond mi daerwn mai tua'r adeg honno hefyd y boddwyd yr haul.

Roeddwn i'n dal i gofio am sbel i ba gyfeiriad roedd yr ynysoedd wedi bod a dyma benderfynu unwaith trio symud tuag atyn nhw. Ond mae'n rhaid fy mod i wedi drysu'r cyfeiriad achos waeth faint y cwffiwn drwy bwysau'r dw^r welwn i ddim byd ond y llanw llwyd ar bob llaw yn codi fel soser i gusanu'r cymylau cantel isel uwch fy mhen. Tonnau llwyd y dw^r a'r awyr draeth wedi mynd yn un. Fy nhraed innau a'm coesau wedi mynd yn un â'r tywod a'r cerrig mawr ac anweledig. Llwyd ydi'r unig liw sy'n bod ym myd y dw^r mawr. Pe bai yma lygaid i'm gweld fe'm gwelent innau'n llwydaidd fy ngwedd mwn, a pha ryfedd? A chan nad oes na nos na dydd yn y byd llwyd cyll dyn ei afael ar dreigl amser a chyll amser hithau'i statws a'i harwyddocâd. Dysgais yma werth amynedd a'i bris hefyd.

Ar y dw^r mae'r bai, mae o'n codi mor araf nad oes modd dal sylw ar newid ei lefelau. Yr unig awgrym nad ydi o'n llonydd fydd ambell don hyfach na'i gilydd a ddaw weithiau gryn oriau cyn y lleill fydd yn rhwym o ddilyn yn ei sgil. Heddiw aeth ton i'm clust ac un arall, neu'r un un efallai, i'm llygad. Nid yw'r dw^r mawr llwyd yn derbyn eithriadau: unffurfiaeth yw dechrau a diwedd y gân. Mi fentraf fy mhen y rhydd hyd yn oed yr hen ddw^r sych hwn gysgod o wên pan eith blewyn olaf fy nghorun o'r golwg dan ei groen herciog. Mi sychith ei ddwylo a sythu'i dei a dweud wrtho'i hun yn ei ffordd dawel, undonog nad oeddwn i'n bod go iawn ac na fu yma eirioed ddim byd ond dw^r.

Mi dwinnau, a deud y gwir, yn gweld y diwrnod hwnnw'n hir yn dw^ad. Dwi wedi 'laru ar undonedd y dw^r, mae'i lais o fwyfwy yn fy nghlustiau yn llenwi 'mhen â blinder plwm. Mi dwi wedi cael hen lond bol. A be wn i, efallai bydd fy myd i'n well o dan y dw^r. Pwy a w^yr na welaf yno eto fy mryniau a'm ceunentydd ac y daw eto'r eryrod i gylchu uwch fy mhen? Hwyrach y daw ataf gopaon newydd fel preiddiau grisial o gorlan y nos. Hwyrach pan fydd y wawr yn goch a'r sêr o un i un yn diffodd eu canhwyllau y cyfyd arnaf eto haul gwyn rhyw fore llonydd. Felly dewch, donnau, llyfwch gopa fy mhen, sugnwch fêr fy esgyrn, llyncwch fi a'm gollwng drwy'ch rhwydi'n rhydd. Yn rhydd o'ch sibrwd hen bregethwyr, yn rhydd o afael y dw^r mawr llwyd.

 

 

 

Vatilan, lleidr llestri

 

Vatilan, lleidr llestri hirben a diegwyddor, oedd yr unig un i Nel ei garu go iawn erioed. Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai Nel yn dal dano gan weiddi, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi'n gweiddi eto, 'Wel, toedd dda gen i mo'r hen gingroen beth bynnag.' Doedd waeth beth wnâi Vatilan, byddai Nel yn sefyll yn gefn iddo drwy ddw^r a thân.

 

Dyn cyfrwys oedd Vatilan, fel y buoch chi'n amau, a dyn drwg iawn. 'Mae'r diwedd yn agos,' meddai Vatilan unwaith wrth y siopwr Gemp a fu unwaith yn enwog am ei gasgliad o lestri Kemper, ond nid ar ôl i Vatilan alw.

'Wwwwww,' meddai'r siopwr Gemp drwy'r rhwymyn am ei geg gan geisio gwthio'i dafod rhwng ei ddannedd.

'Siarad yn gall, ddyn, neu cau hi,' meddai Vatilan a chodi pen-glin frwnt rhwng coesau Gemp a thorri cawg Kemper am ei ben. Dwi'm yn cofio beth oedd ymateb y siopwr ond dwi'n gobeithio fod hon yn enghraifft ddigonol o gyfrwystra'r lleidr llestri Vatilan.

 

'Vatilan,' meddai Nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr, 'dwi isio siarad hefo chdi.'

'Nid Vatilan ydwi,' meddai'r plismon bochgoch siwtlas enfawr a gamodd o borth y slobfa a sefyll o'i blaen. Roedd ganddo bwced yn y naill law a brwsh sgwrio yn y llall. Rhoes y brwsh yn y bwced a honno ar lawr. 'Nid Vatilan mohonof o gwbl,' meddai eto. Estynnodd lyfryn o'i boced a darllen ohono: 'Lleidr yw Vatilan a phlismon o'r enw PC Llong wyf innau.' Edrychodd yn fuddugoliaethus ar Nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais, 'Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau.'

'Cau dy big, y plismon drama,' meddai Nel. 'Pryd wyt ti'n mynd i ryddhau fy nghariad... Wnaeth o fawr o'i le.'

'Naddo?' Ffugiodd PC Llong syndod mawr. Cododd y bwced a throi at y graffiti enbyd a beintiwyd hyd furiau ei gelloedd. Dechreuodd sgwrio'n galed a'r ewyn yn lafoer gwyn o safn ei frwsh. Yn ddisymwth oedodd ei law a throi at y ferch a safai'n gwylio'r gwaith. Roedd ansicrwydd yn ei wedd. 'Wyt ti'n siw^r na wnaeth o fawr o'i le?' holodd gan sychu'r chwys berw o'i dalcen â hances fawr.

'Yndw 'sti,' meddai hithau.

Cododd yntau'i lyfr o'i boced a chrychu'i dalcen wrth chwilio a chwalu drwyddo fo. Toc goleuodd ei wep a daeth gwên i chwarae ar ei fin. 'Reit, mi rwyt ti'n rong!' gwaeddodd a phlannu bys i ganol ei lyfryn. Toedd o fawr o gop a dweud y gwir ond mi roedd o'n hoff o fân ddefodau'r swydd. 'Mae'n dweud fan hyn fy mod i wedi restio fo droeon am sawl trosedd ac nad wyf i'w ryddhau dros fy nghrogi. Ac mi ddyfynnaf: Tydan ni ddim am adael i lofruddion enbyd grwydro'r strydoedd yn ddilyffethair. '

'Yndach,' meddai Nel a dyma hi'n ei gicio yn ei ffêr. Mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllen gam ymhellach.

Roedd PC Llong yn sboncian i fyny ac i lawr fel estrys ungoes ac yn chwythu fel fflamiau ar ei chwibanogl arian. Cymerodd Nel y cyfle i edmygu'r graffiti y bu'r heddwas yn ceisio'i lanhau. 'VATILAN DIEUOG' a 'RHYDDID I VATILAN' oedd y sloganau, mewn llythrennau breision cochion, ac un arall o dan y rheini'n dweud mewn paent glas: 'PC LLONG Y CWD'.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

'Nid y gwir sy'n lladd ond Vatilan,' gwaeddodd PC Llong o'r gwter lle glaniodd. 'Y fo sy'n lladd, fo sy'n dwyn a fo sy'n mwrdro. A fi sydd wedi ei ddal!' Un cyndyn oedd y swyddog i gydnabod ei feiau fo'i hun; byddai'n ei gweld hi'n haws i gydnabod beiau pobol eraill a'u harestio nhw am hynny. Dyna sut ddaru o ddal Vatilan. Crafangodd am ei lyfryn oedd yn agored ar y ffordd lathen oddi wrtho ond roedd Nel yno o'i flaen i'w gicio dan olwynion lorri a'i sbydodd yn dipiau. Ciciodd hi ei helm o'i afael hefyd ac aeth honno dan olwynion y bws ysgol.

'Rw^an, y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel gan sefyll â'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

'Mae'r dillad isa yna sgynnoch chi amdanoch yn anghyfreithlon,' meddai PC Llong. 'Tynnwch nhw!'

'Nanaf y sglyfath,' poerodd Nel, 'o leiaf ddim tan wyt ti'n cyfadda na ddaru Vatilan ddim lladd neb... T'yd w^an, mi gei di ddweud wrtha'i...'

Roedd PC Llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel Nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin. Wrth sbïo ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro:

 

Mi hoeliwn ni ei glustiau bach i'r bordyn mas y bac,

Mi hoeliwn ni ei glustiau bach i'r bordyn mas y bac.

 

Roedd y gwynt yn llenwi ei ffrog hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno. Ond cofiodd toc fod ganddo job o waith i'w wneud wrth gwrs, a dyma fo'n meddwl chwarae ei gardyn gorau a dweud mewn llais oeraidd: 'Ond fo laddodd Huws Parsli, ynte? Mi fues i'n ei gnebrwng o, mi fues i'r fynwent...'

'Be am inni ofyn barn Huws Parsli am hynny?' meddai Nel yn swta. Camodd dros yr heddwas a tharo'i phen i mewn i ddrws y siop lysiau ar gornel y sgwâr. 'Ddowch chi allan am funud, Huws Parsli, plîs, mae PC Llong isio gair hefo chi.'

Daeth dyn mewn ffedog streips o'r siop gan sychu'i ddwylo ar gadach gwyn. 'Be mae hwn isio eto?' grwgnachodd, 'Mae gen i gwsmer yn siop. Mi fydda'i 'di colli hwnnw munud a fynta'r cynta'r wythnos yma.' Safodd â'i ddwylo ar ei gluniau gan wylio PC Llong a oedd yn ei eistedd ar ochr y palmant yn ceisio cael ei wynt ato. 'Wel, be wyt ti isio tro 'ma, Llong? Dwi 'di talu'r pres cadw draw ichdi un waith mis yma. Brysia, mae gen i siop i'w rhedeg.'

Cododd yr heddwas ei ben a syllu'n amheus ar Huws Parsli. 'Onid ydi o'n wir fod Vatilan wedi eich llofruddio?'

'Yli di yma, PC Llong,' meddai Huws Parsli'n dechrau cael myll, 'mi fues i drwy hynna i gyd yn cwrt. Naddo, ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nac uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod i'r cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i. Er mwyn dyn, a wnei di roi'r gorau iddi?'

'Twyt ti ddim yn talu digon o bres cadw draw imi roi'r gorau iddi'n gyfan gwbwl,' atebodd PC Llong. Gwnaeth osgo ar i'r gwerthwr llysiau fynd ymaith. 'Symud ymlaen rw^an di, cer yn ôl i dy siop, mae dy gwsmer di newydd gerdded allan hefo llond ei hafflau o dy stoc di.' Rhegodd Huws Parsli a'i bachu hi o'na ar ôl y cyn-gwsmer. Troes PC Llong at Nel a thapio'i drwyn yn wybodus.

'Wel?' meddai Nel.

'Wel be?' meddai PC Llong.

'Wel wyt ti'n fodlon coelio rw^an na laddodd Vatilan mo Huws Parsli? Mi rwyt ti wedi'i glywed o gan y dyn ei hun, o lygad y ffynnon.'

'Tydi gair Huws Parsli'n profi dim i neb,' meddai PC Llong gan godi i'w draed a phlygu ei ddwy ben-glin tuag at allan.

'Paid â bod yn grinc,' meddai Nel a hithau'n closio ato gan sychu tamaid o lwch o'i foch efo bys sidanaidd. Gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch. 'T'yd rw^an, bydd di'n blismon da. Rhyddhau Vatilan, nei di?'

'Alla'i ddim.' Roedd PC Llong yn dechrau anesmwytho. Roedd wedi colli ei lyfr nodiadau ac yn anffodus doedd o heb ddysgu'r rhesymau ar ei gof. Ceisiodd ganolbwyntio. 'Na, alla'i ddim,' meddai eto, 'achos hyd yn oed os ydi Huws Parsli'n dweud y gwir - ac mae gennyf f'amheuon - hyd yn oed wedyn rwy'n credu fod yna fater bach arall ar ôl, yn toes? Rwy'n tybied fod yna fater ychwanegol, siw^r o fod, ydach chi ddim yn meddwl?'

'Oes?' holodd Nel yn ddiniwed. 'Dwn 'im byd.'

Tynhaodd PC Llong ewynnau ei ên a rhwbio'i arlais yn ffyrnig. Roedd hi'n anodd meddwl heb ei helmet. 'Mater arall ...mater o bwys...'Doedd o ddim yn dw^ad. Roedd o wedi mynd... Roedd o ar goll heb ei helm a'i lyfryn, yn y gors, yng nghanol nunlle heb fap. Mor wir y gair, Lle bydd camp bydd rhemp... rhemp? Gemp? Ia! Hwnna ydi o! Y siopwr Gemp siw^r Dduw, sut y bu iddo anghofio? Wel, mae'r achos yn y bag rw^an yn saff! Cliriodd PC Llong ei lwnc a chwyddo'i frest i'w llawn maint. 'Y siopwr Gemp!' meddai ac anadlu allan gyda rhyddhad mawr.

'O, hwnnw.' Doedd Nel ddim i'w gweld yn poeni fawr am hynny. 'Tydi hynny'n ddim byd, nacdi,' meddai'n ddidaro. 'Laddodd o mo hwnnw, yn naddo?'

'Naddo, ond mi drïodd ei orau.'

'Naddo,' meddai'r siopwr Gemp oedd yn digwydd croesi'r stryd tuag atyn nhw ar y pryd. 'Ddaru o ddim trio, wyddoch chi. Cam â fo fyddai dweud hynny. Wyddoch chi beth, gyfeillion, tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith - wel, toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno, yn nagôn, ac mi wnes i gadw braidd gormod o sw^n. Roedd yn rhaid iddo fo chwalu'r cawg Kemper am fy mhen neu mi fasa rhywun wedi 'nghlywed i. A chwarae teg iddo fo, mi anfonodd gardyn o'r carchar i ymddiheuro i'r cawg. Doedd dim yn rhaid iddo fo'n nagoedd? O ran hynny mi wnaeth y cawg anfon cardyn i minnau yn ymddiheuro am y pen. Ynteu ai 'mhen ddaru ymddiheuro i Vatilan... dwi'm yn siw^r rw^an...' Dechreuodd y siopwr Gemp chwilio drwy'i bocedi. Tynnodd fol afal a thamaid o gortyn o boced ei drowsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth.

'Diddorol iawn, Gemp,' meddai'r heddwas. Estynnodd ei bensal sbâr a gwnaeth nodyn ar lawes ei grys.

'Felly toedd Vatilan ddim isio dy ladd di, nagoedd, Gemp?' meddai Nel yn sgipio tuag ato fo gan roi ei braich i orwedd am ei ysgwydd esgyrnog. 'Be wyt ti'n feddwl o garcharu Vatilan druan am iddo beidio â thrio dy ladd di?'

'O, sgandal,' meddai Gemp. 'Wyddoch chi beth, gyfeillion? Theimlis i rioed yn well 'achan. Roedd y glec ar fy mhen hefo'r cardyn post o Gemper yn ffisig i 'noctor i. Mae hwnnw wedi bod yn cwyno'n ddiweddar, dwi wedi dweud wrtho fo am gymryd peth o'i ffisig ei hun. Mi fydda'i'n credu fod yfed fy nw^r fy hun yn beth da, wyddoch chi - wel mi rydwi'n ei gael o'n rhatach yn tydw? A dyna chi'r llestri... Wel, mae'n well gen i'u lle nhw. Dim gwaith sychu llwch, dim gwaith poeni yn eu cylch nag yn eu sgwâr. Mae'r busnes newydd mewnforio rhew o Rwsia'n talu ar ei ganfed, felly diolch yn fawr iawn ichi'r un fath ond mi sticia'i at hwnnw os byw ac iach. Diawcs, PC Llong, ydach chi yn y farchnad am 'chydig o rew Rwsiaidd? Rhew gorau, cofiwch. Mi gewch hwylio'ch llong ynddo fo, ha ha ha... ydach chi'n ei chael hi, Sarjant? Fues i rioed yn hapusach, ac i Vatilan mae'r diolch am bob dim...' Dawnsiodd Gemp ddawns bach ysgafn droed i fyny ac i lawr y palmant gan glecio bys a bawd.

'Ydach chi wedi darfod?' holodd PC Llong. 'Oherwydd mae'n rhaid imi gymryd i dasg nifer o'r honiadau hyn. Os mai rhew ydach chi'n ei werthu sut ydach chi'n disgwyl imi hwylio llong ynddo fo? Ac os, fel y credaf, ac fel yr awgrymwyd gennych, nad oes gennych chi rew go iawn ond yn hytrach rhew wedi'i ddadmer - sef dw^r, ia, dw^r, Gemp - yna mi rydych chi'n agored i gael eich erlyn gan adran safonau masnach y cyngor dosbarth. Ac i ateb eich pwynt olaf ond un, nacdw, tydw i ddim yn 'ei chael hi', ddim ar hyn o bryd beth bynnag. Ac nid Sarjant mohonof - ddim eto. A thydi o ffuan o ots gen i ydach chi'n hapus neu beidio.'

Curodd Nel ei dwylo. 'Sut ddaru chdi gofio'r holl eiriau yna heb lyfr?' holodd hi'n wawdlyd. 'Ydi hynna'n ddigon o brawf ichdi na wnaeth Vatilan ddim byd o'i le? Nid lleidr mohono fo ond cymwynaswr sy'n cynnig cymorth i bobol ymwared â'u heiddo a thrwy hynny ganfod byd gwell iddyn nhw'u hunain. Mae o hefyd yn ymgynghorydd busnes buddiol ac effeithiol fel y gwelwch o fenter newydd Gemp a sefydlwyd iddo'n un swydd gan fy nghariad i.'

'Yr unig beth sydd,' meddai Gemp gan grafu'i ben, 'ac mi ddylwn ofyn i Vatilan decini, ond mae o'n jêl tydi, wel yr unig beth sydd ac mi hoffwn eich barn, ydach chi'n meddwl y dylwn i botelu'r rhew a'i alw o'n ddw^r? DW^R DA O RWSIA. Dyna oedd yr enw oedd gen i dan sylw. Mae o'n well na DW^R Y MYNAICH tydi? Dach chi'n gweld mae yna lot o'r rhew, wel y rhan fwyaf ohono a dweud y gwir, yn cyrraedd acw heb ei rewi'n iawn, wyddoch chi... Ac wedyn mae o'n hen beth anhydrin i'w bacio mewn bocsys papur ac ati, mae o ar hyd y ty^ 'cw ac mae'r wraig wedi 'ngadael i ar ôl deugain mlynedd o'i herwydd o, ac er mor hoff yr ydwi o'm dw^r, fel y gwyddoch efallai, fedra'i yn fy myw mo'i yfed o i gyd, wyddoch chi, mae yna ormod ohono fo. Ac wedyn meddwl yr oeddwn...'

'Cau hi, Gemp,' meddai PC Llong. 'Ar dy feic.'

Cododd Gemp yn sigledig ar gefn ei feic a phedalu'n ffwndrus i lawr y lôn. Teimlai Nel bechod drosto fo, ond roedd o'n hapus medda fo ac roedd hynny'n beth da. Vatilan oedd y peth pwysicaf rw^an, meddyliodd; rhyddid i Vatilan!

'Rhyddid i Vatilan!' gwaeddodd Nel gan redeg at PC Llong a dechrau curo'i dyrnau bychain ar gasgen ei frest. 'Vatilan dieuog! Vatilan dieuog!'

'Yli di yma!' meddai PC Llong gan gydio yn ei garddyrnau hi, 'Ai ti felly sy 'di bod yn peintio'r sloganau yma hyd furiau fy nghelloedd?'

'Nacia'n tad,' meddai Nel. 'Digwydd eu darllen nhw wnes i. Gwranda, Llong, plîs wnei di roid un cyfle bach arall i Vatilan, mi af i'n wystl drosto fo.'

'Be 'di wystl?'

'Dim ond cyfiawnder dwi'n ei erfyn gen ti, Llong, dyna'r cwbwl.' Dechreuodd strancio i geisio cael ei garddyrnau'n rhydd o'i bawennau. Cwympodd strap ei ffrog oddi ar un ysgwydd. Wrth edrych i lawr ar hyd ei drwyn gallai'r plismon weld siâp ei chefn a'i bronnau a'i chroen brown llyfn.

'Mi gafodd ei farnu'n ôl y drefn arferol,' meddai'n freuddwydiol.

'Naddo ddim,' mynnodd hithau gan lwyddo o'r diwedd i dynnu un llaw yn rhydd o'i afael. 'Y cwbwl gafodd o oedd chdi'n gweiddi: 'Vatilan wyt ti felly mi rwyt ti'n euog. Carchar amdani.' Pwy roes yr hawl ichdi farnu pobol?'

'Ddim dyna be ddigwyddodd,' protestiodd y PC.

'Ia'n tad, dyna be ddigwyddodd,' gwaeddodd Vatilan drwy fariau'i gell. 'Ond dim ots, achos dwi'n hapus yma.'

'Nagwyt tad,' meddai PC Llong yn flin.

'Mae'n iawn felly, tydi,' meddai hithau gan luchio'r gwallt o'i gwyneb a fflachio gwên ddireidus ar y glas. 'Os wyt ti'n hapus, Vatilan, mi dan ninnau'n hapus 'tydan rhen gopyn?' Rhoes winc awgrymog ar PC Llong a thynnu tafod dros ei gwefusau'n ara deg.

'Yndan,' meddai PC Llong.

Cydiodd hithau ym mhawen yr heddgeidwad a'i lusgo ar ei hôl i borth y swyddfa. I mewn â nhw i'r stafell aros ac eistedd ar y fainc hir. Edmygodd hithau'r botymau ar ei lifrai a'u cyfri bob yn un, a'u sugno wedyn yn ei cheg a'i thafod yn rhoi sglein bach i'r metel gwyn. 'Botymau sgleiniog sgen ti'n de?' meddai gan wthio'i llaw i'w siaced dynn a dadfachu'r botymau fesul un. Roedd PC Llong yn dechrau chwysu eto ac roedd fel petai awyren bach swnllyd yn mynd rownd a rownd ei ben, sw^n fel cachgi bwm yn sownd mewn bys coch yn canu grwndi yn ei glust. Teimlai'n gysglyd braf. Roedd hi wedi ei ddadwisgo cyn iddo fedru dweud prif gwnstabl a doedd fawr o ots ganddo chwaith. 'Pa un ydi'r gell fwyaf cyfforddus, Llongws?' holodd hithau gan wneud sw^n clychau hefo'r goriadau.

'Cell un,' meddai yntau'n floesg a hithau'n ei arwain iddi.

'Gorwedd di ar y gwely 'ta,' meddai Nel, 'i minnau gael tynnu amdanaf.' Dechreuodd ddaffod botymau ei ffrog. 'Wel, wyt ti am rythu arna'i fel ci a finnau'n tynnu amdanaf ynteu wyt ti am gau dy lygaid fel gw^r bonheddig a throi at y pared? Mi gei weld hynny tisio yn y munud.' Ufuddhaodd PC Llong a hithau wedyn yn sleifio o'r gell ac yn cloi'r drws yn ddistaw bach ar ei hôl.

Daeth Vatilan o'i gell a rhoi sws i Nel. 'Da'r hogan, mi wyddwn ei fod o ynot ti.' Sylwodd ar ddillad PC Llong wedi eu lapio'n daclus ar gadair y swyddfa. Tynnodd Vatilan amdano a gwisgo dillad y glas. Roeddan nhw'n rhy fawr ond gyda chymorth ambell i bìn dwbwl cafwyd trefn weddol.

'Ga'i agor fy llygaid rw^an?' galwodd PC Llong o gell un.

'Cei os tisio,' meddai Vatilan. 'Ond faswn i ddim isio gweld yr hyn weli di.' Gwasgodd ei wyneb i'r blwch yn y drws. 'Ych a fi, Llong. Yli, stwffia dy gorff i'r rhain,' medda fo wedyn a gwthio'i ddillad carchar drwy flwch bach y drws.

'Mi'ch lladda'i chi am hyn!' bytheiriodd PC Llong a fyntau'n ceisio cuddio'i noethni a'i ddwy law. 'Be ddyfyd y Sarjant?'

'Taw rw^an,' gorchmynnodd Vatilan. Aeth yn ôl i'r swyddfa a sgwennu adroddiad swyddogol ar gyfer y Sarjant oedd i alw, yn ôl y rota, yn hwyrach y pnawn hwnnw. Wedi canu'n iach â'r cop anffodus aeth Nel a fyntau i'r stryd a'i chychwyn hi yng nghar yr heddlu am y maes awyr. Ar y ffordd bu'n rhaid i Vatilan, yn rhith PC Llong, restio perchennog set o lestri Llanelli am nad oedd ganddo hawl i'w atal dweud a chymerodd y llestri i'r ddalfa o ran mechnïaeth. Rhoes dderbynneb swyddogol i'r perchennog a'i arwyddo PC Llong. Gwerthodd Nel y llestri i Sais stondin farchnad a chyda'r pres prynasant siwt a thei a dillad bimbo a dau docyn dim troi'n ôl ar Goncord i Efrog Newydd gan esgus eu bod yn swyddogion i un o gwangos Cymru. Anfonasant air at y siopwr Gemp yn ymddiheuro am ei wneud yn hapus a hefyd am frifo'i ben ac amgáu hefo'r llythyr lot o bres i wneud iawn am y cam. Anfonasant archeb banc sylweddol i Huws Parsli gydag archeb am dunnell o fananas gan ofyn iddo eu danfon i garchar PC Llong.

Y pnawn hwnnw daeth Sarjant Goch heibio celloedd Llong a chanfod fod y plismon bant â'r cart. Roedd Sarjant Goch wedi bod yn ffan o Glas y Dorlan erstalwm ac fe hoffai ymarfer iaith y de. Roedd hi'n nes at acen plismyn Efrog Newydd, yn ei dyb o. 'Ble iffen ma'r jawl,' meddai gan chwilio drwy'r papurach ar y ddesg. Cafodd y nodyn ac aeth drwodd i edrych am y carcharor.

'Diolch i Dduw eich bod wedi cyrraedd,' meddai'r carcharor yn wylofus. 'Brysiwch, agorwch y drws 'ma wnewch chi, plîs.'

'Gad dy lap, Vatilan!' meddai Sarjant Goch. 'Blydi Gogs! Grinda, fi wedi darllen nodyn PC Llong man hyn felly paid ti â meddwl y gelli di 'nhwyllo i, gwboi. Ma fe wedi egluro fel yr wyt ti wedi rhoi pwysau 'mlân yn un swydd i fod yn debyg iddo fe. Ti'n wan yn dy ben, boi bach. Ta beth, fe fydd hi WPC Sych yma fory - mae'n ymddangos fod PC Llong bant o'r wlad am sbelen fach. Y Blismones Sych sy'n cymryd ei le fe - trïa di efelychu honno os ti mor glefar! Efallai bydd y ddeiet fananas mae Llong wedi ei threfnu iti'n help.' Aeth Sarjant Goch allan o'r swyddfa dan biffian chwerthin. Oni bai am y lifrai swyddogol oedd ganddo amdano byddai wedi chwibanu wrth gerdded y strydoedd a fyntau'n meddwl gymaint yn saffach oedd yr hen fyd yma a Vatilan yn gaeth mewn cell a PC Llong yn bell i ffwrdd.


 

Amser y gwcw yw Ebrill a Mai

 

Eisteddais ym môn coeden fawr i wylio'r haul yn chwarae yn y dail ac i wrando'r byd. Peth anodd ei ganfod ydi llonydd, peth anodd ei gael. Sgwn i gafodd y gog hyd iddo fo'n rhywle? Neu ydi hi'n dal i chwilio'r hen lonydd gorffenedig yn Eifionydd neu Feirionnydd? Neu ydi hi'n blasu'r grawnwin poethion sy'n suddo ati drwy'r cwmwl ar y gorwel? Ta waeth, peth prin ar y naw ydi llonydd wedi mynd. Bechod ei wastraffu o, 'ddyliais i, a neb i'w weld ar fy nghyfyl a neb yn crwydro'r traeth islaw. Dim un wan jac ohonyn nhw heddiw'n lluchio preniau o flaen eu cw^n. Ia, syllu wnes i rhwng y dail a'r coed. A'r haul yn trio chwincio arna'i dan odre'r cwmwl a finnau â 'ngolwg dan y brigau ar erwau'r tywod. Taclus ydi tywod traeth llanw, yndê? Dim chwyn yn tyfu arno nac olion cestyll yn suddo iddo.

Welais i 'rioed mohoni'n dw^ad drwy'r coed ar flaenau'i thraed. Chlywais i mohoni'n mynd o ran hynny chwaith. Sut gyflwr sydd arnach di, meddai. Wn i ddim yn siw^r, atebais innau. Rhois fy llaw i guddio golau'r haul rhwng y brigau oedd yn dallu fy llygaid. Mae'r waliau'n debyg, meddwn i, a'r un hen fwsog sydd ar eu pennau. Dyna wyt ti'n ei feddwl, meddai hi a melyn y briallu yn ei gwallt a glas bwtsias y gog yn ei llygaid, ond chlywsom ni mo'r gwcw'n canu eleni, naddo? Efallai y doith hi gyda hyn eto, meddwn i. Neu hwyrach mai cân arall sydd ganddi erbyn hyn. Y tiroedd mae hi'n gorfod hedfan drostyn nhw sy'n drech na hi decini. Wn i ddim byd am wres, meddai hi, mae'n well gen i'r glaw. Mae glaw'n anochel rywsut er ei bod hi'n braf cael yr haul drwy'r dail i gosi dy fochau hefyd. Ond be ydi tywydd i mi? Drycin, hindda, gaeaf, ha', dwn i ddim byd amdanyn nhw. Fyddi di weithiau'n clywed llais arall yn sibrwd yn dy glust di?

Roedd hi'n fy llygadu fel 'tae hi'n disgwyl am ateb. Be ydan ni haws â holi, meddwn i. Weithiau, meddai hi, mi rydan ni. Dim ond pan fydd y lleisiau'n berwi yn y brigau ac yn llithro rhwng y dail. A welaist ti fel y chwiliwn amdanat a chdithau'n syllu'n bell i'r aber gwag? Welais i ddim byd, meddwn i, dim ond gweld y byd yn fan'cw ac wedyn dyma fi'n cau fy ll'gadau am ennyd a gweld chdithau'n fan'ma hefo fi'n aros llanw ar erchwyn nos. Ia, meddai hi, ond dim ond dail sy'n medru agor heb fedru cau. Agorais i 'nghalon unwaith, meddai wedyn, ac er ceulo'r briw...

Camodd ataf a dw^ad â'i gwyneb yn agos ataf. Gafaelais yn ei law o, meddai hi, a finnau heb ddisgwyl clai yng ngwely'r afon na phigau'r sêr. Roedd ei law o'n oer, meddai, ond roedd ei dalcen yn ferw o chwys. Ei sychu wnes i â godre fy llawes ond mi gododd ar ei draed nes oedd ei gysgod wedi mynd i lenwi'r lle a'i anadl yn pylu'r golau drwy chwareli'r ffenest. Ers faint ydwi wedi deffro, meddai fo wedyn. Wyddwn i ddim mai cysgu oeddach di, meddwn innau o'r drws achos mi wyddwn wedyn fod yn rhaid imi fynd. Wn i ddim lle mae o rw^an na be mae o'n wneud. Dim ond weithiau fydd o'n meddwl amdana'i, decini. Mi fydda innau weithiau'n meddwl amdano fo. Dwi'n cofio un tro, ar ochor y foel, mi ddaeth dros y boncan ata'i ac eistedd fel erioed wrth f'ymyl ond ei fod o'n swil wrth laesu'i fraich am fy sgwydda ac yn dyner wrth fy nghusanu dan fy nghlust. Awn ni ddim i ben foel heddiw, medda fo, mae hi'n bygwth tywydd mawr ac mae'r foel yn fwy na be dwi'n gofio hefyd. Pethau bach felly sy'n gwneud imi wybod ei fod o'n cofio.

Tydi hi ddim yn fêl i gyd ar neb, nacdi, meddwn innau yn ei gweld hi'n gwelwi. Roedd hithau rw^an yn syllu allan i'r bae a chysgodion fel cymylau yn symud ar draws ei llygaid. Nid hefo fi roedd hi'n siarad hwyrach. Dim ond syllu draw a'i gwefusau'n mynd. Chynigiais i rioed ddim byd iddo fo, meddai, dim ond fy nghalon. Dwi'n dal i drio cofio be oedd fy rhan i o'r fargen i fod. Ac mi ges innau fy nghalon yn ei hôl o'r diwedd a hithau'n waeth ei thraul. Mae'r briw wedi ceulo erbyn hyn a'r graith yn fach fach. Mae hi'n fach ac yn wyn yn fan'ma o dan fy mron.

A phan gododd ei chrys dyna lle'r oedd hi'n graith fach wen o dan ei bron chwith. Peth garw am frifo ydi cariad, meddwn i, ond isio fo ydan ni o hyd. Ia, wn i, meddai hi wrth dacluso'i chrys. Un garw wyt tithau am ddweud pethau sy'n amlwg i bawb. Maen nhw'n haws eu dweud na dweud pethau annelwig, meddwn i. Mae'n haws caru na dadgaru, meddai hithau. Yndi, meddwn i a finnau'n trio meddwl am beth tebyg. Haws torri na dadwreiddio, meddwn innau wedyn. Hawdd baeddu sidan main gwyn, meddai hi. Amlwg bai lle ni cherir, ychwanegodd. Amlwg cas, a chariad, meddai eto. Gawn ni beidio â siarad mewn damhegion bob gafael os gweli di'n dda, meddwn i. Hawdd i'r claf a fo'n ddiddolur beri i'r afiach gymryd cysur, meddai hi. Ia, wn i hynny, meddwn i a finnau'n trio cofio rhyw ddiarhebion. Digon o bwdin i'r diwrnod ei ddrwg ei hun, meddwn i. Digon o grwth a thelyn, ychwanegais. Digon yw digon o ganu'r un gân, digon yw digon o fêl ar y tân. Digon yw 'chydig yn fwy na sgin ti, a digon o bwdin a dagith chwech o gw^n. A chaeais fy ngheg.

Roedd hi'n eistedd ym môn y goeden las ac yn sbïo arnaf o 'mhen i'm sawdl. Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun, meddai a dechrau agor ei chrys eto. Wyddwn i'r un ddihareb am bethau felly. Digrif yw gwisgo deugrys, meddai hi'n ffrom gan lithro'r sidan main gwyn oddi am ei sgwyddau. A dyma groen heb yr un crys! A dyma hi'n chwyrlïo'r dilledyn o'i chylch a'i luchio oddi wrthi dros lygaid yr eithin a finnau'n ei gweld hi'n fronnoeth flin o'm blaen a'i llygaid yn goleuo mellt a'i dwy law ar ei chluniau. Gwnaeth osgo â'i phen a gododd ei gwallt ar yr awel. Gwisga fo 'ta, meddai, gwisga fo amdanat ar ben dy grys. T'yd imi gael dy weld, y deugrys bach. A phwyntio ddaru hi at y llwyn eithin a'r pigau'n brigo drwy'r sidan golau a'r lleuad yn codi dros grib y mynydd.

Cipiais y crys rhwng bys a bawd a'i bersawr yn flodau Mai a'i dynnu rhwng fy mysedd a'i lapio amdanaf yn faner wen fel hwyl cwch heulog ar aber henfelyn a'r awel ym mlodau'r eithin yn felyn a'r sidan yn syrthio amdanaf fel tonnau o ewyn. O beth bach, mae hi'n licio'i chrysau'n llaes, meddyliais. Nid blows o grys mo hwn, meddwn i wrthyf fy hun, ond hugan Bendigeidfran o grys, barclod bras y gawres o Fôn o grys, parasiwt o grys myn cebyst. Rhyw fath o dduwies wyt ti, mae'n rhaid, meddwn i, a finnau wedi cael bwlch i 'mhen rhwng dau fotwm, dim ond duwiesau fasa'n cael gwisgo crys mor nobl â hwn.

Roedd golau'r lleuad yn llenwi ei chroen ac roedd sw^n y llanw yn llenwi'r traeth. Y peth nesa wyddwn i roedd hi wrthi'n tynnu'i sgert. A finnau'n dal i drio ymgodymu â'r crys sidan. Tynna dithau amdanat, meddai hi. Be? Holais i. Pam? Am ei bod hi'n dop llanw a'r lleuad yn llawn, meddai hi. T'yd, mi awn ni i drochi. Dwi ddim yn licio ymdrochi'n y môr, meddwn i, ac mae pigau'r eithin yn dew dan draed ac mi fasa'n rheitiach inni feddwl am ei throi hi. A phwy ddywedodd y down i hefo chdi? Meddai hi gan gicio'i sgert oddi wrthi a dechrau mingamu dros bigau'r eithin am greigiau'r môr. T'yd, meddai hi, tydi'r dw^r ddim yn oer...iawn. Erbyn imi ddringo i lawr y creigiau roedd hi wedi nofio hanner y ffordd i'r ynys; mi gwelwn i hi fel corcyn gwyn yng nghanol y bae a finnau'n brathu bodiau 'nhraed i'r dw^r. Dwi'n dw^ad, meddwn i gan drio gweiddi ond roedd awel tonnau'r môr yn f'erbyn. Ac mi roedd y dw^r yn oer.

Ddalis i mohoni, naddo, toedd gen i ddim gobaith ei goddiweddyd a hithau'n nofio fel sliwan wen. Ella mai môr-forwyn ydi hi, meddyliais i, ond wedyn sgan rheini ddim coesau. Ar greigiau'r ynys roedd hi'n gweitsiad amdana'i. T'yd, meddai hi, brysia. Lle dan ni'n mynd? Gei di weld. Roedd dafnau'r môr yn berlau ar hyd ei chefn a'i gwallt hi'n rhaffan dros un ysgwydd. Gwelais ei llaw wen hi'n estyn am yn ôl a'i bysedd hi'n amneidio. Ninnau'n gafael dwylo a'n dwylo ni'n oer. Mae 'na ryw Sais wedi prynu'r ynys, meddai hi, ac mae gynno fo sleifar o dy^ ha 'rochor draw. A dyna lle'r aethon ni - mi wyddai hi sut i fynd i mewn - a lapio'n hunain mewn blancedi a chynnau tân. Wisgi da sgin y Sais Ty^ Ha 'ma, meddwn i a ninnau draed yn nhraed ar groen dafad o flaen tân a gwydrau grisial yn chwincio fel sêr yn ein dwylo. Dim ond yn y deyrnas yma dan ni'n byw fel hyn, meddai hi. Pa deyrnas ydi honno, holais i. Teyrnas neb, meddai hi. Gwthiodd ei gwallt o'i gwyneb. Doeddwn i ddim yn dallt ond mi smaliais fy mod i. Teyrnas neb, meddwn i. Roedd yr hen olwg bell yna yn ôl yn ei llygaid. Ia, meddai hi. Lle dan ni'n nabod heb gyffwrdd ac yn cael heb geisio ond yn ceisio dim byd nad ydi o ar gael. Mi sbïodd arna'i ac ychwanegu, Wyt ti'n fy nabod i? Yndw, meddwn i. Doeddach chdi ddim, meddai hi. Fydda'i eto? Meddwn i. Does yna ddim tro nesa yn nheyrnas neb, meddai hi. Pam? Holais i. Achos does yna'r un ddoe na'r un yfory, na'r un oriawr na chloc taid. Sut maen nhw'n gwybod faint o'r gloch ydi hi 'ta? Meddwn i. Taw, meddai hi. Dim ond yn nheyrnas neb dan ni'n cael byw fel hyn. Ond chei di mohoni wrth chwilio, 'sti. A phaid ti â methu dy law pan ddaw dy dro i drio'i dal hi, cofia, achos weli di mohoni eto. Wela'i, meddwn i, heb ddeall yn iawn. Wyt ti'n hapus, felly? Yndw, meddai hi. Ond pam, meddwn i, os na pharith dim byd? Mae pob dim yn para am byth yn nheyrnas neb, meddai hi. Ond chdi ddeudodd na pharith honno ddim, meddwn i. Roedd y tân yn marw yn y grât a'r wawr yn llwyd yn y ffenest. Codais a'm cysgod yn llenwi'r llawr a sychais fy anadl oddi ar chwarel y ffenest i gael gweld golau glas y bore.

Mi allwn gerdded y traeth yn ôl, meddai hi. Siawns ei bod hi wedi treio. Yndi, meddwn i a'm golwg ar y tywod tywyll.

Sgwn i ddaru'r Sais Ty^ Ha yna weld colli'r ddwy flanced, mae'n siw^r iddo weld colli'r wisgi. Roedd ein traed yn gwichian yn y tywod a'r carpiau o gymylau'n wylltion yn y dwyrain draw. Stribedi o byllau fel olew lle bu'r môr. Adar traeth yn chwibanu. A darn o'r nos wedi aros yng nghoed y dorlan a thrydar adar mân yn boddi sgrech dwy wylan unig allan ar y traeth. A'm traed yn feddal ar ôl y tywod a'r pinnau eithin yn mynd i'm traed a finnau'n neidio ar un goes. Cerddodd hithau dros binnau'r eithin heb ochor gamu a chipio'i chrys o'r llwyn. Golau'r bore'n sleifio atom o bob man. Rhoes ei chrys amdani a hwnnw'n ffitio. Finnau'n tynnu fy nhrowsus amdanaf ac yn cau fy malog. Tynnais gledr llaw dros fy ngwefus i gael clywed y blas hallt. Camodd hi at ei sgert a honno'n dorch ar lawr a'i chodi a'i hysgwyd yn rhydd o bryfetach a dail. Roedd y gwlith wedi gwlychu'n dillad ni'n wlyb soc. Crynodd wrth dynnu'r sgert dros ei fferau ac am ei choesau. Finnau'n straffaglio i wthio fy nhraed i sgidiau oedd newydd fynd ddau faint yn rhy fach imi. Roedd berw'r adar yn llenwi'r coed ac yn diasbedain drwy fy mhen. Ac mi gribodd ei gwallt â'i bysedd a'i hel o yn ei ôl. A dal ei chledr i ddal llygedyn o haul y bore a dreiddiodd drwy'r brigau ati a'i llaw yn dal y golau fel petai drych yn ei llaw. Troes ata'i a gwenu. Mi glywn aroglau'r bwtsias y gog ac aroglau'r traeth. Roedd y golau yn nrych ei llaw yn loyw lân ac yn sgleinio o'i gwallt briallu ac o'i llygaid glas. Hithau'n troi ei chledr yn ara deg tuag ata'i a'r golau'n pefrio drosof ac yn fy llenwi â'i wres gwyn. Codais fy llaw at fy ngwyneb a gweld y llaw yn olau fel pe bai fflashlamp yn tasgu arni. Rhois y llaw arall allan i'm sadio ym môn derwen wrth f'ymyl. Roedd ei chroen yn arw ac yn dew o dan fy mysedd. Gwelwn y golau'n turio i gilfachau'r rhisgl ac yn deffro'r trychfilod nes eu dychryn a'u hel i guddfannau newydd yn eu braw. Ni allwn fwy na nhwythau syllu i lygad yr haul. A hithau'n chwerthin drwy'r cwmwl ar ddechrau'r haf. Welais i mohoni'n mynd. Meddwl oeddwn i ei bod hi yno o hyd ac y cawn droi ati a chwerthin hefo hi a sôn am be welsom ni. A meddwl wedyn y gwelwn i hi pan godai'r cwmwl oddi ar wyneb yr haul. Ond yn lle hynny daeth pigau'r glaw i guro ar y dail. Rywle'n y coed roedd sguthanod i'w clywed yn gwatwar llais y gog. Chanodd honno ddim eto eleni. Llonydd oedd arni hi isio, mae'n siw^r. Sgwn i gafodd hi hyd iddo fo?

 

 

 

Sbarion

 

Faint mor fyr ydi stori fer i fod? Ydi'r rhain yn straeon ynteu'n falu awyr penchwiban? Pam fod angen holi neu egluro? Ta waeth, maen nhw yma rŽan ac felly dyna fo. Nid oes gysylltiad bwriadol cyd rhyngddynt ac nid ydynt mewn unrhyw drefn neilltuol.

 

*

 

 

Y hi ydi siffrwd yr awel yn y dail, hi 'di'r don sy'n llithro'i chrychiad dros y llyn. Hi ydi'r gwybed bach yn y rhedyn a'r clecian ym mrigau'r allt. Trigwn ynddi weithiau a hithau weithiau'n byw ynof i. Fel bod rhwng cwsg ac effro, fel breuddwyd yn colli'i gafael, dihangodd fy nhrên i dwnnel ac eisoes daeth chwiban trên arall heibio'r tro a hawlio'r lein.

 

*

 

Roeddwn i'n edrych allan i'r bae ac yn gweld y goleuni'n cyrraedd ata'i o bob man. Pyst haul ar y gorwel a chleisiau ar hyd y dw^r. A finnau'n meddwl am bethau dibwys ac yn dal i drio gweld pethau mawr.

 

*

 

Dim ond ymyl ei gwefus yn codi. Efallai ystum o'i phen. Dyna'r unig bethau a'i gwnaeth hi'n wahanol. Ond 'roedd fel rhwygo o'r ffenest ddarn o'r llen. Yn symud ei gwefusau roedd chwaon cynnes y môr. Roedd hi'n fy nghyhuddo. Dwi'n cofio ymddiheuro. Mae'n rhaid fy mod i'n syllu. A chlywais wres y gwrid yn lledu, pesychais; troist dithau dy ben.

 

 

*

 

Roeddan ni mewn car. Golf penagored a dim ond y gwynt yn canu. Yn dreifio'n hir ar hyd traethau heulog a merched bronnoeth yn bobman, rai'n torheulo. Roedd yr arbenigwyr yn dweud fod yr haul yn ddrwg i'r croen, ond nid dyna'r oeddwn i. Chwilio am rywun oeddwn i. Ni. Dwi'n cofio ni'n troi o'r traeth hyd lonydd y twyni draw i'r dref a'i strydoedd gwyngalchog a'i chysgodion. Mynd am y fferi oeddan ni, goro croesi. Nes inni'n sydyn sylweddoli nad oedd yr ochor arall ddim yn bod.

 

*

 

Roedd gwreiddiau John F. Thomas yn ddwfn ym mhridd gardd lysiau Mrs Wilderbeest-Evans. Plannwyd ef yn y flwyddyn 1883 ac roedd yn ei flodau o hynny hyd y flwyddyn 1921 pan dociwyd braidd ar ei ben a bu farw. Claddwyd ef ym mynwent y Gaiman. Ar ei fedd fe eginodd coeden domatos a brifiodd yn gadeiriog lydan. O'i bôn daeth ffrwythau cochion sgleiniog braf. Bachwyd y rhain liw nos gan giang o hogiau drwg iawn. Cawsant eu gwerthu i Jâms y Llysiau. Gwnaeth yntau arddangosfa ohonynt. Eithr nid oedd neb am brynu hogiau mor afreolus. Cawsant eu rhyddhau ar fechniaeth. Roedd y tomatos wedi llenwi fel cosynnau cochion Amsterdam. Roeddan nhw'n crynu ac yn aflonyddu yn y gwres. Aeth â hwy adref er mwyn ceisio'u tawelu ond ni thyciai ddim iddo. Gosododd gloriau ar y ffenestri a phapur dan odre'r drysau ac aeth i'w wely. Ond yn nhrymder llethol y stafell, a gewinau hirion o haul yn crafangu awyr lychlyd y llofft, a'r tomatos yn aflonyddu yn y gegin, pa obaith oedd ganddo i gysgu?

 

*

 

Ti'n cofio nos Galan ym Mhrâg a llawr y ddawns yn ein sgubo ar draws llyn rhew a ninnau'n nofio'n braf dros frigau'r coed? Pam oeddan ni mor ddrwg a finnau'n dy garu fel tân yn caru mwg? A ninnau'n mynd allan i ganol y Sgwâr i gyfarch rhyddid Ionawr a'r wlad newydd yn eu llygaid a'r gwynt yn fain. Dobre dania ydi'r unig beth dwi'n gofio o'u hiaith nhw rw^an. 'Neith hi ddawns arall?' meddwn i ac aethon ni'n ôl i mewn, neu efallai mai chdi a ddywedodd.

 

*

 

Yn lle dianc allan i'r strydoedd maen nhw'n esgyn y grisiau at goridorau tywyll sy'n eu harwain i siambr Briallu Dawel. 'Cusana hi!' medd rhywun. Dim ond wedyn maen nhw'n cael ffoi. O dan y gwely mae drws yn y llawr hefo grisiau cyfyng yn dirwyn i grombil y ddaear. Mae'r rhwd yn goch ar eu dwylo o'r canllaw hen. Cyrhaeddant lawr gwastad a phridd dan draed. Wedi tanio matsien gwelir canhwyllau yma ac acw mewn cilfachau. Mae o'n eu goleuo fesul un. Daw sw^n dw^r atynt o bell fel mae'r twnnel yn culhau. Mae o'n gwasgu dan lechen enfawr a'r ffrwd yn oer ar ei wyneb. Mynd fel sliwan, wysg ei ochor, a'i law yn trio dal y gannwyll uwch ei ben. Mae o'n yfed o'r dw^r fel cath yn yfed llefrith ond daw sw^n llechi'n crafu'i gilydd a fyntau'n troi ei ben a gweld llechen sgleiniog hefo geiriau arni. Cyn iddo fedru eu darllen mae o'n sylweddoli fod yr agen y daeth drwyddi wedi cau o'i ôl ac mae'r gannwyll rhwng ei fys a'i fawd ar ddarfod.

*

 

Tasa'na dair neu bedair plaid yn bod a bod un o'r rheini'n curo'r lleill oedd wedi arfer bod hefo'r grym er bod chwe deg y cant o'r bobol yn erbyn y blaid honno, ac wedyn bod dwy neu dair o'r pleidiau llai llwyddiannus yn creu clymblaid er mwyn codi dros bennau'r blaid lwyddiannus y tro nesaf, a bod y tro nesa'n dw^ad, a'r glymblaid yn curo, ond eu bod nhw wedyn yn ffraeo hefo'i gilydd ac yn methu cytuno dim byd ond eu bod nhw am ddatgymalu, ond yn methu cytuno wedyn sut i wneud hynny, a bod y blaid fawr a enillodd y tro cyntaf ond oedd newydd golli i'r glymblaid yn awyddus i gael pig i mewn ac yn dechrau ymuno dow dow hefo rhai carfanau o fewn y glymblaid annosbarthus nes dw^ad yn diwadd i'w meistroli hi'n llwyr a'i gwastrodi, a hynny heb fawr o wrthwynebiad, be fasa gynnoch chi?

Dwn im, me Wil. Chdi 'di'r un w^yr y ffeithia 'ma. Tisio peint?

 

*

Mae gan hyd yn oed fynyddoedd deimladau, 'sti. Meddylia di amdano fo - goro sefyll allan dan bob tywydd, goro sefyll yn ein hunfan heb syflyd blewyn a dim ond effing defaid yn gwmpeini. A chleimars. Yn bersonol, well gin i'r defaid. Gwell sgwrs i'w chael hefo nhw. A thydi defaid ddim yn gwisgo crampons. Fydd y defaid ddim yn gwanio bwyeill eira miniog i'n mannau tyner ni. Ac maen nhw'n gofyn inni fod yn ddiolchgar iddyn nhw am beidio â thynnu'r cwbwl o'n perfedd ni fel bydden nhw. Turio drwyddan ni a hollti'n ni i gael at ein creigiau ni. Ond o leia roedd y chwarelwrs yn siarad ein hiaith ni. Nid fel yr hepil yna sy'n trio'n corlannu ni i ryw barciau busnes. Sut hoffet ti gael dynion blewog mewn sanau cochion yn piso ar dy ben? Fawr o daro, mwn. Sut deimlet ti yngly^n â chynnwys caffi tu nôl i dy glust? A rheilffordd i gyrraedd at dy glust? Dwi ddim hyd yn oed yn cael gwisgo fy nghap wedi mynd, rhag sbwylio'r fiw! Ond mae'n profi un peth, ichi - nid y fi maen nhw isio'i weld, y llefydd weli di o 'nghopa fi. Pam na fasan nhw'n mynd yno'n y lle cynta? Nhwythau'n dw^ad yn rêl congrineros wedi lladd eu hunain yn dringo'r holl ffordd. Ac ar ôl eu hanner o lager maen nhw'n talu i gael mynd lawr y mynydd ar y trên. Mae 'na rai'n edliw imi 'mod innau'n ddiog ond cyfeiliorni maen nhw. Gwitsiad ydwi, gwitsiad am yr adeg iawn. A phan symuda'i mi gewch weld be ydi symud. Ond tydw i ddim ar frys mawr. Ges i 'mhen blwydd yn ddeugain mil miliwn echdoe a faint o gardiau ges i? Nacia, dim un! Sôn yn papur? Dim twrw bach na mawr. Dim hyd yn oed llun. Felly'r tro nesaf y daw rhyw ohebydd heibio, mi fydda'i'n hen barod amdano. A dyna ichdi sgw^p fydd i Eco'r Wyddfa y mis wedyn. 'Hen Hac Hic Iacit' fydd y pennawd, synnwn i ddim. Ac mi gofian amdana'i wedyn pan fydda'i'n ddeugain mil miliwn ac un.

 

 

 

*

Dim uchelgais ond dy weld di'n gwenu. Mae'r dydd a'r nos wedi ffeirio'u lle. A'r plant yn chwarae mewn ty^ gwag a'r ffenestri'n chwilfriw. Goleuadau car yn sgubo lawr y dreif. Mae ffenest drydan y car yn agor fel agor ceg. Dyn bach prysur sy'n rhuthro at ystlys y car a gwthio'i ben atom i'r ffenest. Rwy'n cofio gofyn iddo a oedd yn ymarfer i fynd yn bengwyn.

 

*

O fore gwyn, o bedwar ban, Sul, gw^yl a gwaith mae'r hen blant bach yn cyrraedd atom ac yn ein goddiweddyd ar y ffordd sy'n codi am wddf y mynydd.

 

 

 

Cyhoeddwr

Argraffwyd gan Wasg Gomer, Llandysul, 1995. ISBN 1-85902-297-9

nôl i'r top