harbwr gwag

 

Home
seren wen
white star
harbwr gwag
empty harbour
un diwrnod...
dwr mawr llwyd
big grey water
llen micro
amryw
dolenni / links

 

harbwrgwag.JPG (107530 bytes)

Dyma'r fersiwn gwreiddiol a anfonwyd i gystadleuaeth y Fedal 31 Ionawr 1994

 

O'r harbwr gwag i'r cefnfor gwyn

I Sian a Lowri Angharad

 

(Diolch i Dafydd Tomos am osod yr hirnodau ar ben pob 'w' ac 'y' oedd eu hangen)

 

 

Pennod 1

 

Rywle yng nghanol cyfnos y ddinas mae'na ffôn yn canu mewn stafell wag. Mae'r sŵn yn llifo fel atgof hyd y coridorau ac i fyny ac i lawr y grisiau ond ni threiddia fawr i'r rhandai eraill heibio'u drysau trwm a'u chwerthin teledu. Ond yn y stafell foel mae'r larwm yn diaspedain o wal i wal ac yn atsain o'r ffenestri. Drwy'r canu ni syfl y streipen olau sy'n disgyn o'r ffenest ac yn rhannu'r llawr yn ddwy ac yn rhannu'r waliau'n drioglau llwydion. Yn y cysgod o dan y ffenest saif y teclyn swnllyd ar docyn o lyfrau ffôn. Ar y rhain hefyd mae llyfryn cyferiadau â phensal yn ei gefn, rhuban carpiog yn rhannu'r tudalennau. Fel arall mae'r llawr yn wag - heblaw ambell sgrwnsh o bapur lapio yn y corneli. Draw drwy'r ffenest cyfyd boncyffion y fforest goncrid fesul petryal o geunentydd y strydoedd islaw a'r ffrydiau o goch ac o wyn yn llifo hyd-ddynt ar draws chwe lôn. Mae mwg gwyn yn powlio bob hyn a hyn o gopaon yr adeiladau. A'r ffôn yn dal i ganu. Rhwng dau ganiad cyfyd cŵyn seiren yn wan drwy'r gwydr atal sŵn. Ar bwy mae'r ffôn drwy'r cyfnos yn galw'n ofer? Calon pwy sy'n ceisio cyrraedd lle nad oes glust a glyw? Mae rhywun yn rhywle yn blino disgwyl ac mae'r canu yn nghlustiau'r rhandy'n peidio'n glec. Sibrwd y seiren yn cael ei lyncu gan y nos. O'r diwedd gall y stafell ail-afael yn ei thawelwch a dechrau llithro'n ôl dan yr haenau o llwch sydd eisoes fel eira mân ar fawnog yn dechrau hel.

 

*

 

Does gen i fawr o reddf at dynnu llun ond nid un anodd mo hwn. Y cwbwl dach chi angen ei weld ydi'r môr yn las a'r haul yn felyn. Gweld porthladd hefyd, a llong ar hyd y cei a honno'n rhydlyd goch. Draw oddi wrthon ni dacw rengoedd o flychau cludo nwyddau'n sgleinio yn yr haul. Y ddinas wedyn yn gefndir a bryniau fel clustogau o'i chylch. Dyma'r cei rŵan, a thorf ansicr yn lledu'n gylch o gysgod y llong. Mae'r milwyr yn cau ar eu hadwy, yn eu dal fel cŵn yn gweithio diadell i gorlan, ac yn eu hel o'r haul sy'n bwrw am eu pennau yn ôl i gysgod y llong a'r golau'n pylu ar eu dannedd. O'r cyrion daw cyfarth a sŵn saethu. Oglau powdwr ar y gwynt. Lleisiau, sŵn traed, gwasgu'n ôl am y bont, sodlau'n cicio'r coed. Saethu eto, yn nes, i'r awyr hwyrach ond yn ddigon i rai redeg dros y bont i'r gorlan haearn ac i'r praidd eu dilyn o dan eu pynnau i gynefin y tun rhydlyd. Dim ond ambell un, rhai o blith y rheini ddaeth heb deulu, sy'n llwyddo i osgoi gwarchae'r bugeiliaid arfog a sleifio'n ddisylw i'w cuddfannau rhwng y bocsys nwyddau mawrion dur.

 

Un o'r rhain oedd Gregor Marini, cyw pensaer o'r ochor draw. Rhwng dau feddwl yr oedd o, p'un ai i fentro ai peidio. Roedd ei freuddwydion am ddyfodol newydd yn codi pwys arno. Pwy ond hurtyn a gredai bellach, fel y credasai unwaith, fod dim byd rhynddo fo â byd gwell ond dydd a nos a charped o fôr? Dychwelyd a wnai, fe wyddai, fel ci wedi cael cweir, hanner ei gynilion wedi mynd ar y siwrne seithig hon, dychwelyd i chwilio'n ofer eto am waith nad oedd ar gael. I guro ar ddrysau y collwyd goriadau'r cloeau. Ac yn ôl at Alice i drafod cymwysterau'i ddwylo gweigion. Roedd yr haul yn curo'n biwis. Trwy gil ei lygaid gwelai'r dorf gefngrwm yn cael ei sugno i geg y llong. Roedd ei gefn yn erbyn ochor blwch a honno'n llosgi'n boeth drwy'i siaced a'i grys. Dau gam ac fe fyddai o'r golwg rhwng y blychau. Gweld ei gyfle a methu'i gymryd. Ac ni chafodd ail-gynnig. Cydiwyd yn ddiseremoni yn ei fraich a'i lusgo'n nerthol i'r agen gul a llaw fel rhaw yn cau ar ei lwnc a'r bysedd papur tywod yn crafu'i ruddiau. Ni welai ddim, ni allai na thynnu gwynt nac yngan gair, roedd yn rhy wan i strancio. Ildiodd i'r cledr arw a gaeai arno.

"Dilyn fi, Gregor, a phaid â baglu," meddai llais bloesg yn ei glust a fyntau'n cynefino efo'r cysgodion ac yn gweld gwyneb tywyll yn chwysu ddwy fodfedd o'i drwyn. A gweld dau lygad golau dan aeliau trwchus yn syllu arno fo. Tynwyd y llaw o'i geg.

"Petrog!" meddai'n llyncu gwynt.

 

Wedi cropian rhwng y blychau led cae go lew o'r cei cawsant hyd i flwch gwag naw medr wrth dair a dringo iddo.

"Be oedd dy feddwl di, Gregor," meddai Petrog. "Isio tynnu'r milwyr am ein pennau ni? Rhaid ichdi gymryd dy gyfle pan ddaw o ichdi. Ei di i nunlla'n tin droi fel'na."

"Wn i," meddai Gregor yn ceisio tynnu caead y blwch ato heb iddo wichian.

"Paid â'i gau o'n glep," cynghorodd Petrog. "Gad o'n gil agored. Mae'na gadwyn fachu'n y top fan'na...brysia."

A'r caead dros geg y blwch dyma hi'n dywyllwch fel diffyg ar yr haul ond bod y gwres yn codi. Roedd Gregor yn dechrau edifarhau na fyddai wedi dilyn pawb i'r llong.

"Sut awn ni o'ma, Petrog?"

Roedd Petrog yn gorwedd ar ei hyd a'i ben at yr hollt lachar. "Aros tan heno," atebodd yn ddi-daro. "Mi fydd yn haws a ninnau'n ddau, haws eu drysu nhw decini. Sgin ti bres?"

"Ryw chydig," meddai Gregor yn byseddu'r arian sychion yn ei boced. Diolchodd fod y gweddill yn dynn a diogel mewn poced gudd yn leinin ei siaced. "Dyma be sgin i." Estynnodd ddau bapur deg dolar.

"Mae'r rheina'n werth pres fan hyn," meddai Petrog yn codi. "Tyd, cym dro wrth yr hollt ichdi gael dy wynt atat."

Rowliodd Gregor draw a drachtio o'r mymryn awel a dreiddiai ato. Ceisiodd godi poer yng ngefn ei geg, eisiau cael iro peth ar ei dafod. Sodrodd ei gadach gwddw rhyngddo â'r dur. Tynnodd ei law dros ei wyneb a'i ên. Chwys fel olew ar ei groen. Rhwbio'i drwyn wedyn rhwng bys a bawd a llenwi dwy ffroen ag aroglau melys chwerw'r chwys. A oedd hynny'n lleddfu peth ar ei bryderon? Gwthiodd ei fysedd yn grib drwy'i wallt, ysgwyd ei ben a chraffu eto drwy gil y drws. A oedd o'n gwneud y peth iawn? Be ddiawl oedd o'n da ynghanol lle diarth heb wybod dim na nabod neb? "Petrog," meddai'n floesg yn troi'i ben, "be ddaw ohonan ni dŵad?"

"Taw â dy gwyno," meddai hwnnw. "Munud fyddwn ni dros ben ffens fydd dal yn y byd arnon ni. Traed dannom a'i nelu hi am y Stadau Breision."

"Be os cawn ni'n troi'n ôl fanny?"

"Gwranda, Gregor, fasa neb wedi cyrraedd nunlle hefo dy agwedd di. Ffin dwristiaid sydd rhwng y Gogledd Dir a'r Stadau Breision, nid ffin ffoaduriaid. Mae'r darn anodda tu cefn inni."

"Ydio?" meddai Gregor yn troi'n ôl at y rhimyn golau yng nghil y drws. Efallai fod cysgod o gwmwl wedi dofi peth ar ŵg yr haul, gallai weld cyn belled â'r cei, gweld o ble deuai'r cloncian cadwynni a chanfod drwyddo rwndi peiriant. Cynyddai'r grwndi a'r chwyrnu a daeth i'w glyw ferw dŵr yn corddi. Caniad hir o'r cyrn. Y llong yn crafu symud, mor araf â bys cloc tŵr. Dilyn a'i lygad y llwybr gwyn yn lledu o'i hôl a dychmygu ffresni'r gwynt ac oerni'r ewyn. Y llong goch fel tegan ar garped glas yn troi'n herciog am geg yr harbwr. Clustfeiniodd am sgrechiadau'r gwylanod conffeti ond mae'n beryg fod y gwynt wedi troi.

Cododd ei ben. Roedd Petrog yn sefyll wrth ei benelin â slas o haul ar ei wyneb yn goleuo'i lygad ac yn duo blew ei ên. "Dwinna isio 'nadlu," meddai. "Symud."

Ildiodd Gregor ei le iddo a fyntau'n gwthio'i wefusau i'r agen gul ac yn yfed yn swnllyd o'r pnawn estron.

 

Roedd glas yr awyr yn dyfnhau a sglein y dŵr yn pylu. Dringai cysgodion y craeniau fel olion malwod hyd y concrid a'r blychau. Llithrai Gregor i mewn ac allan o freuddwydion blin. Llyncu a llyncu o botelaid o ddŵr byrlymus a'r dŵr yn ffrydio ar ei wyneb ond heb ei ddiwallu. Eistedd wrth fwrdd pafin tu allan i'r Aircol, cynlluniau pensaer oedd y lliain bwrdd ac arno wydr gwag a Gregor wrthi'n galw am chwaneg o ddŵr. Toedd o'n eu nabod nhw i gyd? Ei gydweithwyr, dacw Steffan, ia, a dacw Zwingli, ond doedd neb wedi sylwi arno, ond fe wnai iddyn nhw sylwi, fe fynnai sylw. Gwelai ambell un yn crwydro'r traeth islaw, roedd gwylanod yn plymio drwy'r gwynt uwchben y bae. O'r diwedd daeth Steffan â'r botel ddŵr ar hambwrdd a'i gosod o'i flaen. Ond bob gafael cyn iddo lowcio o'r botel deuai dwylo Zwingli i'w chipio o'i afael ac yntau'n waldio'i ddyrnau allan ond yn rhy hwyr. Cai botelaid arall ond deuai'r dwylo drachefn. Roedd o'n rhedeg o'r gwesty nerth esgyrn ei draed. Pwy oedd yn ei erlid? Roedd o'n rhedeg o'r dref i'r maesydd sy'n codi tu cefn iddi, y môr yn bell islaw a llygaid melyn yr eithin yn ei ddilyn o'r cloddiau. A dyma'r goedlan a'r afon risial rhwng ei cherrig a'r haul yn treiglio yng ngemau'r ewyn. Lluchio'i hyn ar ei hyd ar ei glan a phlymio'i ben yn iasol i'r dŵr nes llenwi'i ben â rhuo'r llif. Drachtio a drachtio ond dim diwallu arno. Yfed nes yfed ei fol yn swigen ond heb dorri syched. Nid oes ddŵr yn afonydd cread i dorri'r syched coch cythreulig hwn. Gwres du du yn ei lenwi a phwysau plum yn ei suddo a golau'r byd yn ymbellhau. Olwyn ffair heb olau arni'n troi yn ei berfedd a dim byd o flaen ei lygaid ond swigod dŵr. Caeodd crafanc am ei fraich a'i dynnu â gafael cranc drwy'r erwau duon. Ei lusgo tua'r ogof yng ngwaelod eigion. Yntau'n cicio ac yn strancio ac yn deffro i fyd du.

"Wyt ti wedi deffro," crafodd llais Petrog a hwnnw'n gollwng ei afael yn ei fraich. "Hen bryd hefyd."

"Lle ydan ni?" meddai Gregor yn llusgo'i dafod dros ei ddannedd ac yn cofio. Drwy gil y drws deuai i'w lygaid glytwaith arian y lleuad yn agor ac yn cau ar y culfor. Nid oedd cwsg wedi ei ddadflino.

"Mae hi'n bryd inni fynd." Rhoes Petrog fraich am ysgwydd Gregor. "Does dim dal be ddaw," meddai. "Well inni rannu'r pres rŵan, rhag ofn. Mi fydd deg dolar yr un yn ddigon am y tro mewn lle fel hyn."

 

Aeth ias o ddychryn drwy Gregor pan wthiwyd y ddôr a honno'n gwichian dros bob man. Rhaid fod rhywun wedi ei chlywed... Ynteu efallai mai dim ond yn ei ben yr oedd y sŵn mor fawr? Crensian sgidiau hoelion mawr tu allan? Ynteu crafu'r tonnau ar y traeth? Neidiasant o'r blwch ill dau a chropian rhwng cilfachau'r blychau.

Wedi cyrraedd cyrion y blychau roeddynt mewn ardal eang, ddiarth a'r craeniau'n bell ar hyd y cei tu cefn iddyn nhw.

O'u blaen ymestynai gwastadedd gwyneb târ. Erwau o dâr cynnes ar bob llaw. A'r lleuad ar eu cefnau'n gwneud i'w cysgodion hirion chwarae fel pypedau. Clywai Gregor sŵn eu traed yn disgyn o'u cwmpas fel cawod haf. Adeiladau'r porthladd yn isel o'r naill ochor, ambell olau'n felyn mewn ffenesti. Ar yr awel daeth eda o chwerthin atynt a sŵn gwydr yn malu.

"Gwahanu piau hi," meddai Petrog drwy'i ddannedd.

"Be?"

"Gwahanu. Dwbwl y gwaith dal dau. Mi dala'i'r pres yn ôl ichdi eto."

"Ond Petrog..." Ni fu dadl, roedd ei gydymaith eisoes yn pellhau oddi wrtho yn tynnu cwpan yr awyr oren amdano. Symudai'r ddau oddi wrth ei gilydd fel dwy chwilen ar ganol sgwâr. Nid oedd y ffens i'w gweld yn dŵad dim nes. Roedd Gregor ar fin rhedeg ar ôl ei gyfaill pan ddaeth fflach llifoleuadau i fferu'r maes. Breichiau o oleuni'n sgubo fel melin. Disgynnodd Gregor ar ei fol ar lawr a gweld y golau'n sefyll fel bys yn pwyntio a chafodd gip ar wybedyn o ddyn wedi ei ddal yn ei fflam a'i garpiau'n llac fel sach amdano. Lleisiau'n cyfarth, cŵn yn coethi, uchelseinydd yn bytheirio. Gwelodd Petrog yn codi'i ddwylo at ei war.

Gregor yn gorwedd ar ei hyd ar lawr a'r milwyr yn heidio o gwmpas ei gydymaith. Roedd atsain eu bwtsias yn clepio ac yn crafu. Yn ara deg troes ei wyneb tua'r cyrion. Doedd dim lle ar ôl yn ei ben i weld nac i feddwl rhagor. Greddf oedd yn ei dynnu tua'r cytiau sment ar erchwyn y maes a fyntau'n ei dilyn fesul modfedd tuag atyn nhw wysg ei fol. Canolbwyntio'n llwyr ar yr adwy gyfyng hon o gyfle. Llusgodd ei hun gerfydd ei ewinedd i ben to un o'r cytiau a rhwng fflangelliadau'r llifoleuadau fe ddaeth o lech i lwyn at y weiren bigog rhwng ei physt o goncrid cefngrwm gwyn. Lapiodd ei siaced am y weiren uchaf a'i chroesi. Pa ots wedyn am rwygo'r llawes wrth dynnu'r siaced ar ei ôl?

Cyrraedd bywyd ac aros. Stordai, maesydd llwytho. Neb i'w weld. Goleuadau draw. Strydoedd llydan. Adeiladau praff o gerrig nâdd, Gothig o ran arddull, tybiai'n frysiog a'i lygad ar y strydoedd golau lle cai ymollwng ac ymgolli a thorri syched.

Ar y prif strydoedd roedd goleuadau'r ceir yn sgleinio fel haul ar olwyn ddŵr a'r tramwywyr palmant yn gwau drwy'i gilydd yn dilyn patrwm anweledig. Crogai'r goleuadau stryd bob yn bâr oddi ar freichiau haearn cywrain wedi eu sodro yn nhalceni'r adeiladau. O dan rheini wedyn roedd lliwiau'r siopau a'r bwytai'n fflachio'n goch ac yn las. Gwasgodd Gregor i blith y cerddwyr a gadael iddo'i hun gael ei gludo fel gwymon ar lanw aflonydd. Sylwodd ar foneddiges fawr nobl yn sefyll ar erchwyn y palmant, ci cyrliog dan ei chesail a hithau'n codi'i llaw rydd at y traffig. Tacsi gwyn yn nofio ati ac yn sefyll ger ei bron. Hithau'n mynd iddo. Dau gariad fraich ym mraich yn sgwrsio'n frwd, ei ên o'n llyfn a'i wallt yn gyrliog a hithau'n dangos ei dannedd yn fflach ei gwên. Mor dda y gweddai iddi'r capyn lês gwyn ar gorun ei phen. Symudodd y ddau gam yn ôl fel y daeth criw o filwyr lifrai'n hercian cerdded hyd y palmant a nhwthtau'n gwthio pobol o'u ffordd dan chwerthin. Roedd tafarnwr mewn ffedog ddu yn sefyll ar ei riniog fel petai'n gwylio Gregor. Dywedodd rywbeth yng nghlust dyn tal esgyrnog wrth ei ymyl. Gwenodd yntau a Gregor yn gweld y graith wen yn plygu ar ei foch. Cerddodd ymlaen, heibio cardotyn a'i fraich 'dat ei gesail mewn blwch concrid a'i gôt yn fawr a'i wallt yn gaglau. Rhoes Gregor gip olwg dros ei ysgwydd i weld a oedd y tafarnwr yn dal i'w wylio ond nid oedd golwg ohono nac o'r dyn arall. Lle cai o ddiod? Roedd o'n gyndyn i godi diod mewn tafarn rhag ofn ei fradychu'i hun â'i acen, ac fe wyddai nad oedd ei ddillad carpiog yn help, hwyrach y bydden nhw'n gofyn am ei bapurau... rhaid oedd iddo wylio'i gamre nes cael ei draed danno...

"Hei, chdi!" galwodd y cardotyn arno.

Edrychodd Gregor o'i gwmpas. Ond arno fo roedd o'n amneidio. Cymerodd ddau gam tuag ato a phwyntio at ei frest. "Fi?" meddai.

"Be ti'n da ar fy mhatsh i?" meddai'r cardotyn. "Dos, g'leua hi!" Crychodd ei drwyn a throi'n ôl at ei waith yn turio drwy'r sbwriel.

Arhosodd Gregor i'w wylio am ennyd a daeth i'w feddwl y gallai dynnu llaw dros ben y trempyn. "Ges i well hwyl arni'r ochor draw," meddai'n mynd i'w boced ac yn tynnu cwpwl o ddarnau pres mân o'i gwaelod.

Daeth y dyn a'i wyneb yn agos at wyneb Gregor a'i wêdd yn caledu. "Lle cest ti nhw?"

"Ynda," meddai Gregor yn cynnig un iddo. Chwiliodd y boced a'i fysedd yn cau ar chwaneg. "Ges i'r rhain hefyd."

Brathodd y trempyn y darn pres. "Be wyt ti isio?" Roedd ei lygaid llwyd yn chwilio wyneb Gregor Marini.

"Sgint ti ddiod?"

"Oes, diolch," meddai dyn y biniau.

"Gei di'r pres os ca'i ddiod," meddai Gregor.

"Sgin i'm gwerth hynna." Cododd botel fawr frown o boced ei gôt a'i dal yn erbyn y golau.

Hanner llawn. Cymerodd Gregor hi. Y cwrw cynnes fflat yn ffrydio drwy'i gorff ac yn codi nerth i'w galon. Gwagiodd y botel blastig a honno'n rhoi o dan ei fysedd. Rhoes hi yn y blwch sbwriel ac estyn ei law.

"Gregor 'di'r enw," meddai.

"Llygad Bwyd," meddai'r trempyn yn gwthio llaw Gregor oddi wrtho. "Dim ond diod oeddach di isio?"

"Dwisio bwyd."

"Sgin ti chwaneg o bres?"

"Rhyw gymun."

"Tyd 'ta. Dilyn fi."

Wedi gwthio drwy'r bobol cawsant balmentydd rhydd. Ni allai Gregor benderfynu beth oedd achos y llwch du dros wynebau'r adeiladau, llygredd ceir ynteu mwg tanau glo. Ym mhen pella'r ffordd gwelai geg y brif stryd yn sgwâr o oleuni a'r bobol yn croesi ar ei thraws.

Hanner ffordd i lawr y stryd o'u blaen gwelai haid o drueiniaid wedi hel fel gwenyn i bot jam at ryw risiau llydan. O boptu'r grisiau ymestynai ffenestri llydan ddau led tŷ ar hyd y stryd ac ar waetha'r stremps llwyd hyd y gwydr gellid gweld fod yna ferw mawr tu mewn. Brasgamodd Llygad Bwyd i ganol yr haid garpiog a Gregor yn gweld fod hyd yn oed y rhai uchaf eu cloch am ildio'u lle iddo. Cadwodd yn dynn yn ei sodlau. "Ddim chdi!" gwaeddwyd a dwylo'n gwthio Gregor yn ei ôl.

"Mae o hefo fi," meddai Llygad Bwyd yn tynnu Gregor gerfydd ei lawes.

 

O gynefinio â golau hallt y stribedi gellid gweld yn y mur fwlch sgwâr a thrwyddo lewysau gwynion a dwylo menig pinc yn rhannu cawl a bara. Cawson nhwythau fara a phowlenaid o gawl bob un a Gregor yn cynnig pres.

"I fi mae'r rheina," meddai Llygad Bwyd "I fi mae'r pres am ddŵad â chdi yma, mae'r bwyd am ddim."

Wedi gwasgu i le gwag wrth un o'r llond neuadd o fyrddau swnllyd claddasant y cawl dima a'r bara haidd. Codai stêm o gotiau'r bobol ac anger o'u cawl ac roedd oglau bresych wedi ei ferwi'n drwm drwy'r ffreutur, yn gymysg ag oglau piso'n sychu.

Roedd gan Gregor syched eto.

"Cwrw?" chwarddodd Llygad Bwyd. "Mae'na dap dŵr yn y wal yn fancw."

 

Dim ond wedyn, ar bafin stryd gefn, y daethon nhw, dan arweiniad Llygad Bwyd, at fwrdd gwerthu â photeli plastig yn sgleinio arno. Safai'r gwerthwr y tu ôl i'r bwrdd a thua dau ddwsin o ddynion simsan yn sefyllian o'i flaen. Cymerodd Llygad Bwyd bres gan Gregor a gwthio drwyddynt fel y gwnaeth cynt, er tro'ma sylwodd Gregor fod llai o ildio nag a fu. Wedi cryn drafod a phwyntio a chyfnewid dychwelodd gyda dwy botel blastig drom a photel wydr gwyn. "Hwda," medda fo'n gwthio un i ddwylo Gregor. Roedd Gregor yn sbio arno fo'n ymholgar. "Toedd yna ddim newid," ychwanegodd.

Rhoesant glec i'r un gyntaf yn y fan a'r lle a'r dynion yn eu gwylio. Gadawodd Llygad Bwyd stwmp yn ei gwaelod a'i gwthio i'r dwylo a ymestynai amdani. Cipwyd hi ac aeth hi'n dwrw rhwng y dynion. Roeddan nhw'n dal i glywed lleisiau'n ffraeo y tu cefn iddyn nhw a nhwthau'n ymbellhau yn ôl i lawr y stryd.

Mynd linc di lonc fuodd pia hi wedyn. Llygad Bwyd ar ben ei ddigon. Am i Gregor ganu caneuon môr a Greor yn gwrthod. Be wyddai o am ganeuon môr? Dim ond gorffwys oedd ar ei feddwl. Cyraeddasant faes diffaith o gerrig a chwyn a wal sment ar ei hyd.

"Dyma ni," meddai Llygad Bwyd.

"Fan'ma?" holodd Gregor yn synn.

"Ia," meddai'r llall wedi ei bechu. "Ydi o ddim digon da gen ti, nacdi... Wel dos i gysgu ar fainc parc 'ta, mi weli di chwaneg o dy frid yno. Wrth gwrs yn jêl fyddwch chi erbyn bore ac ar dy ffordd adref erbyn drennydd a rhai clên iawn ydi'r milwyr hefo ffoaduriaid o'r ochor draw..."

"Mae'n iawn," meddai Gregor yn byseddu ymyl blwch papur oedd wedi ei osod yn erbyn y wal. "Fan hyn wyt ti'n byw?"

"Fi pia'r blwch yna," meddai Llygad Bwyd yn taro'r llaw o'r ffordd. "Ia, weithiau." Agorodd y botel dryloyw a chymryd jochiad, ei lygaid yn cau. "Mae gen i wraig a chartref, cofia," meddai'n tynnu'i lawes dros ei enau ac yn eistedd ar swp o bapur wrth ei focs. "A llysfab hefyd. Dwi ddim yn ddiymgeledd, weli di. Ond crwydryn cyffredin liw nos ar hyd y dref ydwi ar hyn o bryd. Wyt ti'n gweld y lleuad yn llenwi? Oni fasa'n ddigon i dynnu neb ar gyfeiliorn o hir syllu arni hi?" Llowciodd yn awchus o'r botel eto a'i chynnig i Gregor. "Mi fedra'i fyw heb y ddiod, wyddost. Nid ar honno mae'r bai. Arna i mae'r bai, mwn, ac ar y mab. Mab yn wir! Mae'n gwilydd fel mae o'n fy nhrin. Troi'r hen ddynes yn fy erbyn i. Fy ngadael yma i gysgu dan y sêr. Estyn y botel imi, wir."

 

Roedd Gregor wedi blino gormod i fedru meddwi. Doedd ganddo fawr o ddiddordeb yn hanes Llygad Bwyd chwaith. Aeth am bisiad a phan ddychwelodd roedd Llygad Bwyd wedi mynd i'w focs. Tynnodd Gregor y papurach a glustnodwyd iddo dros ei draed a gwthio'n drwsgwl clwt o bapur dan ei ben. Cyn pen dim roedd yntau'n cysgu. Dim ond weithiau drwy'r breuddwydion trafflith y deuai'r palmant caled ato a chnoi yn ei esgyrn. Roedd o'n crwydro llwybrau defaid cae'r dibyn uwchben yr hen borthladd yn chwilio am lwybyr i lawr i'r stryd. Codai'r tai gwyngalch yn risiau o'r cei a gwynebau llwydion fel o hen luniau yn llenwi'r ffenestri. A tho crib coch yn codi dros y dail gwyrddion. Graean y dreif yn wyn dan draed a'r tŷ i'r golwg a wyneb Alice yn dynn yn un o'r ffenesti a'i hanadl ar y gwydr. Troes yntau oddi wrthi a mynd lawr am y dref, heibio'r wynebau yn y ffenestri a'r bysedd ar y stryd. Clywai sŵn fel traed milwyr yn martsio. Roedd y cymylau'n rhannu a'r haul yn tasgu'n llafn. Agorodd ei lygaid a gweld Llygad Bwyd yn sefyll drosto, rhyngddo â'r haul, ei sgidiau'n crensian ar y palmant a'i ddwylo'n chwilio drwy'i bocedi. Sylwodd ar fodiau cnotiog ei draed yn brathu'i pennau o flaenau'i fflachod. Cododd ar un fraich a'r hen ddyn yn tynnu'i ddwylo oddi arno ac yn cymryd cam yn ôl. "Cyfod mae'n ddydd," meddai'n ddi-hid.

Bustachodd Gregor i'w draed. Rhoes ei law yn ei fynwes i deimlo cysur y celc yn y boced gudd. Cododd ei olygon y tu draw i waliau maes y chwyn a gweld cerrig y ddinas yn codi'n onglog ac yn solet. Heibio'r adeiladau gwelai gopaon y bryniau a rhwydi'r cymylau'n llusgo drostynt ac yn cael eu rhannu.

Wedi gadael y maes diffaith daethant at lwybr troed a dail yn drwch dan draed a choed â'u bonion mewn cewyll ar hyd dorlan afon a honno'n llifo dan bontydd cefngrwm. Cerddasant gyda'r afon i lawr tua chanol y ddinas a'r haul yn euro'r brigau. Coed castan, meddlyliai yn dilyn a'i lygad ddeilen unig yn troi ar yr awel. Glaniodd ar wybeb y dŵr a'r lli'n ei chipio a'i chario.

Roedd hi'n fore, mae'n rhaid, cyn lleied o gerddwyr oedd i'w gweld hyd y fan, a'r rheini a welent ddim yn trafferth i sbio ar y ddau drempyn, yn wir yn troi eu golygon ymaith wrth brysuro ar eu rhawd. Fyntau'n teimlo'n well ar waetha'i ben. Eglurodd Llygad Bwyd ei fod am chwilio blychau sbwriel rhodfa'r afon heddiw ac y cai Gregor rannu'r patsh efo fo a bod yr ysbail i'w rhannu ddau draean iddo fo, traean i Gregor ond bod Gregor i dalu am y bwyd. "Bargen dda ichdi," meddai Llygad Bwyd. "Chaet ti'm byd fel arall."

Cydsyniodd Gregor. Cystal ffordd â'r un i gael dŵad i nabod y lle, meddyliai. Cadw ei draed yn rhydd oedd y peth pwysicaf.

 

Cafodd Gregor hyd i docyn o gylchgronau cyfredol, rai heb eu crychu, wedi eu gadael ar gaead bin, ac oddi tanyn nhw yn y bin belen o 'dafedd gwyrdd-leim. Turiodd yn is a chael bagiad ar ei hanner o sglodion tatws a gweddillion bynsan friwgig yn dal yn ei chwdyn plastig melyn. Gwthiodd y cwbwl i'r rhwyd. Mewn bin arall cafodd bâr o bymps pinc heb gareiau. "Mi lasa'r rhain ei ffitio," meddai wrtho'i hun.

"Be mae'r rhain yn da imi?" holodd Llygad Bwyd yn wawdlyd yn gollwng y sgidiau ar lawr ac yn lloffi drwy'r cylchgronau.

"Rhai cyfredol ydyn nhw, mi gwertha'i nhw am lai na'u pris," meddai Gregor yn cymryd y cylchgronau oddi arno. Aeth i gornel y stryd a thrio'u hwrjio ar y cerddwyr. Ni thalwyd yr un sylw i'w ymbil.

"Cer at y ceir," gwaeddodd Llygad Bwyd dros bennau'r bobol. Aeth Gregor at set o oleuadau traffig a thrio gwerthu'r papurau o ffenest i ffenest. Gweithiai hynny'n well achos ymddangosai nad oedd y gyrwyr eisiau olion bysedd Gregor hyd eu gwydrau. Curo ar ffenest car yn sefyll, hithau'n agor weithiau iddo wthio cylchgrawn i'r agen.

Roedd Llygad Bwyd i'w weld wedi ei siomi ar yr ochor orau. "Go lew, wir," meddai'n cymryd dau draean o'r pres. "Diawch, rwyt ti'n dŵad iddi. Roedd y bara a chig yna'n weddol hefyd ond ei fod o'n sych heb sos coch. Mae'r sgidia yma'n rhy fawr imi."

"Clyma nhw hefo'r 'dafadd," meddai Gregor yn amyneddgar gan dangos iddo sut oedd gwneud.

"Cria gwyrdd-leim hefo sgidia pinc!" gwaeddodd Llygad Bwyd, "be ddeudith pobol?"

"Tria nhw," awgrymodd Gregor gan blygu i dynnu'r hen garpiau oddi ar draed corniog ei bartner. "Dyna chdi," meddai'n gwthio'r rhai newydd i'w lle. "Ti'n grand o dy go rŵan."

"Dipyn o steil, ia wir, achan," meddai Llygad Bwyd yn edrych ar y sgidiau am ei draed.

Gwahanasant eto a Gregor erbyn hyn yn crwydro heibio stondinau marchnad. Ar un stondin cynigiai hen wreigan ychydig lysiau heb fod yn ffres iawn yr olwg: swigan dwll o bupur gwyrdd, rhaffaid o arlleg, cwpwl o afalau wedi mynd a'u pen iddyn. Doedd neb i'w weld yn prynu. Ymhellach draw daeth at stondin dillad ail-law.

"Gad lonydd i'r nwyddau," meddai'r gwerthwr yn gweld bachau Gregor yn y rêl ddillad.

Tynnodd Gregor ychydig arian sychion o boced ei gelc. Daeth y gwerthwr o'r tu arall ato fo a dechrau estyn crysau a siacedi. Gadawodd Gregor ei hen ddillad efo dyn y stondin, mi gafodd sentan neu ddwy am eu gwerth nhw, a martsio'n dalog yn ei grys gwyn a'i siaced ddu i chwylio am stondin trin gwallt. Fel yr ymdwtiai clywai ei galon yn magu hyder.

Wedi cael golchi a thrin ei wallt ac eillio'r egin locsyn ar ei ên aeth am y sgwâr lle trefnasai i gwrdd â Llygad Bwyd. Llygadodd hwnnw fo'n amheus o'i gorun i'w sawdl ac yn ôl. "Bedi hyn?" meddai. "Lle cest ti'r pres?"

"Mae gen i ryw gymun, fel mae'n digwydd bod," meddai Gregor, "a thydwi ddim am gysgu allan eto heno chwaith."

"Wel sbiwch arno fo," meddai Llygad Bwyd yn watwarus. "Chdi a dy ben punt a'th gynffon ddimai, lle uffarn ei di felly?"

"Meddwl hwyrach y basat ti'n awgrymu rhywle, Llygad Bwyd, rhywle anffurfiol, heb fod yn rhy ddrud..."

"Rhywle fydd dim rhaid ichdi ddangos cardyn nabod, ia? Tria Ostan Laban, ar agor ddydd a nos, rhad fel baw a digon o le." Eglurodd lle'r oedd y llety a Gregor yn trio'i orau i gofio'r cyfarwyddiadau.

"A'r cardyn nabod?" meddai Gregor wedyn.

"Dim problem talu ymlaen nagoes?"

"Talu ymlaen?"

"Am y cardyn."

"Be wn i wyt ti'n dryst neu beidio?"

"Gair Llygad Bwyd cystal â gair neb," meddai hwnnw'n bendant. "Pres rŵan, cardyn nabod fory. Mae'na fyrddau hyd Stryd Parc Bach. Bydd yno am hanner dydd."

"Geiriau'n costio dim i neb," meddai Gregor yn ceisio tynnu pres o'i boced heb ddangos mwy nag oedd raid. "Dyma'i hanner o, a'r hanner arall hefo'r cardyn."

Ni wnaeth Llygad Bwyd ond cipio'r papurau doleri a throi ar ei sawdl heb ddweud dim byd. Roedd diferion cawod yn dechrau disgyn fel pys ac yn taro'n swnllyd i'r dail ar lawr. Gwyliodd Gregor yr hen ddyn yn llusgo mynd a'i sgidiau pinc efo'r careiau gwyrdd-leim arnyn nhw yn gwthio fel swch eira drwy'r dail.

 

Pennod 2

 

Oglau lladd gwair mae hi'n ei glywed gyntaf a hynny o'r llwybr islaw'r ffrwd. Cyneuafu'r fron olau maen nhw, mae hi'n eu gweld rhwng y brigau ac yn gweld y fron yn grwn ac yn felyn dan eu traed. Mae'r coed sy'n gwyro drosti'n dywyll a'r dail yn eiddil yn erbyn awyr las a chwmwl gwyn. Dim ond ar ben y dalar y daw ati ar yr awel sibrwd llafnau'r pladuriau drwy'r gwair. Mae'r sofl yn cosi ac yn crafu ar ei fferau a'i breichiau'n dechrau brifo efo pwysau'r piser dŵr.

Suo'r pladurio'n peidio a'r dynion yn pwyso ar eu harfau yn ei gwylio'n cerdded tuag atyn.

"Sgin dy nain ddim byd gwell inni na dŵr, Iwerydd?" medd un yn tynnu coes.

"A dim sôn am damaid i aros pryd na dim?" medd un arall.

"Byta'r gwair fydd raid inni, neu lwgu." Mae'r trydydd o'r pedwar yn chwerthin. "Faint sy tan amser cinio dwch?"

Tydi Deicws Bach yn dweud dim byd wrth i'r lleill wamalu. Y fo ydi'r olaf i gael y piser o'i dwylo, mae o'n cyffwrdd ei bysedd, ac mae o'n drachtio ohono'n cil edrych arni hi. Wedyn yn tollti'r stwmp dros ei ben a'r gwallt fu gynt yn gyrliog yn gwywo a'r diferion yn bistyll a'i hances wddw'n socian.

"Diolch, Iwerydd." Mae o'n estyn y piser iddi dan wenu, mor wyn ydi ei ddannedd, mor fyw y fflam las yn ei lygaid. Gŵyr amdano fo'n sbio arni hi o'r blaen ond y tro yma nid yw hithau'n cuddiad rhag ei lygaid. Pam heddiw heb air arall rhyngddyn nhw ei bod hi'n gallu sbio'n ôl ac yn teimlo'n braf wrth wenu arno yntau?

Mae'r dynion wedi torri syched. Deicws fel y lleill yn poeri ar ei gledrau ac yn cydied yn ei bladur. "Dowch, mae'r werglodd isa'cw isio'i lladd cyn nos." Sisial y pladurio'n ail-gychwyn a'r gwair fel dominos fesul gwanaf yn syrthio i'r llawr.

Braf ydi cerdded llwybrau'r haf a phiser gwag dan dy fraich a'th galon yn ysgafn fel yr haul a'r pryfaid yn dawnsio. Sŵn chwerthin o'r fron, hithau'n troi, mae Deicws yn codi'i law. Mae'r gwallt cyrliog wedi sychu, mae hi'n dychmygu'r llygaid gleision yn chwylio ei llygaid hi. Mi fyddan lawr am eu cinio toc. Well iddi frysio neu fydd nain yn dwrdio.

 

*

 

A gwynt teg ar d'ôl dithau hefyd, meddyliai Gregor a fyntau'n gwylio'r trempyn yn ymlwybro o glun i glun hyd lwybr yr afon oddi wrtho. Anadlodd yn ddwfn o leithder y pnawn a chlywed gwres ddoe yn bell. Roedd hi'n fendith cael cefnu ar Llygad Bwyd, cefnu ar ei gwyno a'i gecru a chael bod ar ei ben ei hun i sylwi ar y sêr yn deffro. Doedd neb yn mynd i ddweud dim byd wrtho fo rŵan, neb yn mynd i gydied yn ei benelin a'i lusgo naill ochor. Cai gardyn nabod fory os byw a iach ac os oedd coel ar Llygad Bwyd ac os na chai, faint gwaeth fyddai? Oni fentri di beth, enilli di ddim, meddyliai gan gychwyn i lawr i gyfeiriad canol y dref. Er mwyn sefydlu'r patrwm strydoedd yn ei feddwl penderfynodd gael hyd i'r lle roedd i godi'r cardyn drannoeth. Roedd y gawod sydyn wedi hel llawer o gerddwyr y palmentydd oddi ar y strydoedd. Doedd neb allan wrth fyrddau'r palmant, y cadeiriau wedi eu troi wyneb i waered at y byrddau a'r ymbarelau i gyd ar gau. Lle braf ar bnawn o haf, siŵr o fod, meddyliai, rhyfedd mor sgut y gallai'r hinsawdd droi mewn lle fel hyn. Dychmygai'r jolihoetwyr hirddydd haf yn llymeitian gwin ac yn chwerthin dan awyr las. Onid oedd rhywbeth yn ddigalon am y byrddau rŵan a dafnau'r gawod yn crogi'n glychau o gefnau'r cadeiriau?

Lle bynnag y cerddai, byddai'n clywed arogleuon dieithr yn llenwi'i ffroenau, a synau rhyfedd yn nofio i'w glustiau. Roedd hyd yn oed coethi'r cŵn o gefnau'r tai i'w glywed yn wahanol i gyfarth cŵn ei wlad ei hyn. Eisiau bwyd, yr arogleuon yn codi awydd arno, eisiau cysur rhywbeth poeth yn ei fol. Efallai byddai'r ddinas yn llai afreal iddo wedyn. O stondin stryd fe brynodd gig seimllyd mewn poced hirgrwn o fara fflat a chlywed ei flas yn taro'n chwithig chadal bwyd ei wlad. Rhyw hadau poethion yn y does yn llosgi'i lwnc a'r saws coch sur am ben y cig yn codi syched arno'n syth bin. Gwasgodd y papur lapio i fin concrid a tharo i mewn i'r bar agosaf heb fentro fawr pellach na chornel y bar. Roedd o'n falch o'r curo byddarol a daranai o'r uchelseinydd, ni allai neb mo'i holi â'r fath wahanfur o sŵn yn berwi o'i gylch. Rhoes glec i'w gwrw ac allan â fo a'i draed yn sydyn fel clai a phob cymal yn ei gorff yn gwingo. Faint o'r gloch oedd hi? Doedd bosib ei bod hi'n hwyr iawn - ac eto roedd y nos yn dew o'i gylch a'r goleuadau'n diffodd o un i un yn y tai bwyta a'r caffis nos.

Erbyn iddo fo gael hyd i'r gwesty - doedd y rhan fwyaf heb glywed sôn am Ostan Laban, llai byth yn gwybod lle'r ydoedd - roedd y lle mewn tywyllwch a'r drws dan glo. Dringodd y grisiau at y porth a thanio matsen i gael gweld a oedd unrhyw gyfarwyddiadau i hwyrddyfodiaid. Nagoedd, dim byd. Colofnau cerrig mawr o boptu'r drws, cerrig crwn a cherrig sgwâr am yn ail yn taro'n chwithig ar lygaid Gregor, arddull troad y ganrif, tybiai, annaturiol, hyll. Cododd y cnociwr rhwng bys a bawd a'i ollwng - a'i galon yn llamu wrth i'r diasbedain annisgwyl atsain o'r cyntedd fel carreg i bydew. Clywodd rwgnach a sŵn sbrings gwely. Toc dyma olau'n cael ei gynna yn goch y tu ôl i'r llenni. Golau wedyn yn y cyntedd. Agorwyd y drws led cadwyn fachu a mellten fflashlamp ar ganol ei wyneb yn ei ddallu.

"Bedachisio?" mynnodd llais blin o'r tywyllwch y tu ôl i'r golau.

"Llety am y noson," meddai Gregor yn codi'i law at ei lygaid.

"Dim lle. Rhy hwyr. Nos dawch." Llais dynes flin.

"Os gwelwch yn dda," meddai Gregor yn bwyllog ac yn gwrtais, "roeddwn i ar ddallt eich bod chi'n gorad ddydd a nos a byth yn llawn. Wnaech chi mo 'ngadael ar y stryd?"

Crwydrodd y fflashlamp drosto eto. "Wel wir," meddai hi fymryn yn llai piwis, "Lle fuoch chi tan rŵan? Lle mae'ch bagiau?"

"Mi ddôn fory. Nid y fi sy'n gyfrifol am amserlenni'r trennau. Nac am y diffyg tacsis. Dowch, wraig fonheddig, dangoswch beth letygarwch i ymwelydd blinedig yn lle fy ngadael i fferu ar eich trothwy. Yn y busnes croeso ydach chi, ia ddim? "

"Chi â'ch siarad mawr ... " Roedd tinc petrus yn ei llais. "Cyrraedd heb fagiau gefn nos ddu..." Ystyriodd am ennyd. "Sefwch yn ôl am funud, wnewch chi." Tynnodd y drws ati. Clywodd Gregor y gadwyn yn dadfachu. Agorwyd y drws a hithau'n sefyll yn ei choban a'i fflashlamp yn goleuo'r llawr. "Mi wn i pwy ydach chi rŵan, dowch i mewn... " Symudodd iddo fynd heibio iddi i mewn. "Doeddwn i heb ddeffro'n iawn ylwch ac..."

"Na phoened neb, letywraig," meddai Gregor a'i amrannau'n dechrau cau. "Os caf fynd i'm llofft yn union deg efallai cawn ni gwbwlhau'r manylion yn y bore..."

 

Llofft bach ar y pumed llawr gafodd o. Dodrefnwyd hi â gwely haearn, cwpwrdd, bwrdd a sinc fawr wen. Uwch ben pen y gwely roedd ffenest bach a llen drosti yn agor ar y cefnau. A'i droed ar ffram y gwely gallai ymestyn drwyddi nes gweld ymhell islaw ar y dde ruban gwyn yr afon drwy ganol y dref. Uwchben roedd cymylau hirion fel mwg yn goleuo wrth fynd heibio'r lleuad. Sgleiniai llechi'r toeau'n oer. Yn ochor y ffenest ar y mur tu allan roedd peipen haearn bwrw yn dŵad i lawr o'r landeri ac yn mynd o'r golwg yn nryswch rhyw risiau tân onglog, du. Tynnodd ei ben i mewn a chau'r ffenest. Rhyfedd o fyd, meddyliai, a fyntau'n tynnu amdano 'dat ei ddillad isa. "Be ddiawl ydwi'n da mewn lle fel hyn?" Gwingodd wrth i'w fraich gyffwrdd ffram y gwely a gwingo eto wrth lithro dan y cynfasau. Er ei bod yn oer, a'r flanced dennau o'r braidd yn ei gynhesu, cyn hir fe gysgodd Gregor.

Drannoeth y bore, wedi ymolchi a gwisgo'i siwt, aeth am i lawr. Roedd ei ddrws yn agor ar landing yn y grisiau, coridorau'n arwain i bob cyfeiriad oddi wrtho. Edrychodd i dwll y grisiau a gweld pennau ac ysgwyddau yn symud ar lefel y stryd. Edrychodd i fyny ond p'un ai mwg ai gwe pryfaid copion oedd o, roedd pen ucha'r grisiau ar goll mewn tawch. Hen garped wedi colli ei batrwm a'r sach yn dangos drwyddo oedd ar lawr, yr edafedd yn codi fel asennau ar ei hyd. Efallai nad oedd y llety'n llawn, fel yr awgrymasai Llygad Bwyd, ond nid oedd yno ddiffyg lletywyr. Gellid clywed synau amrywiol, cerddoriaeth, pesychu, ffraeo, yn dŵad drwy'r parwydydd o bob cyfeiriad. Sbonciai hwyr godwyr fesul dwy ris i lawr y grisiau, ymlusgai gweithwyr nos o glun i glyn ar orifyny. Mor gyfyng oedd y grisiau fel ag i'w gorfodi i wasgu heibio'i gilydd pan gwrddent. "Bore da," meddai Gregor wrth un ohonyn nhw. Ond aeth pwy bynnag oedd o heibio heb ddweud run gair. Cychwynodd eto a chamu'n ôl o weld dau weithiwr nos yn dringo'n ara deg tuag ato, eu symudiadau mewn cytgord fel petaent ar gefn beic deuddyn yn llusgo i fyny'r allt. Byddai'r rhain yn siŵr o'i gyfarch, tybiodd, ond na, aethon nhwythau heibio heb ei gydnabod.

Ar y rhediad ola llamodd hogyn gwalltgoch crychiog heibio iddo a gwneud iddo golli'i gydbwysedd yn llwyr. Cael a chael fu iddo lwyddo i fachu'i law yn y canllaw i'w sadio'i hun. Ni arhosodd yr llanc, dim ond neidio y grisiau gwaelod, bowndian am y drws allan a diflannu. Safai'r lletywraig yn nrws ei hystafell a'i dwylo ymhleth, osgo arni fel petai'n aros amdano. Y tu ôl iddi gwelai ffenest ar agor yn ochor drws ei stafell.

"Y llyfrau'n barod ichi tu mewn," meddai.

Dilynodd Gregor hi i'w stafell. Pa lyfrau oedd rhain?

Yn ogystal a'r ffenest i'r cyntedd roedd ganddi ffenest fawr ym mhen arall y stafell, honno welsai neithiwr, a hithau'n gil agored rŵan a'r llenni cochion yn codi ac yn gostwng ar yr awel a chwythai drwyddi. Ar hyd un ochor roedd gwely, ac o dan ffenest y cyntedd ddesg isel a llyfrau cofnodion wedi eu hagor arni. "Dyma nhw," meddai'n symud cefn ei llaw drostynt. "Steddwch."

"Be'n union 'dwi fod i'w wneud hefo nhw?" holodd Gregor. Eisteddodd wrth y ddesg a chraffu arnynt.

"Bedachi'n feddwl be dach chi fod i'w wneud hefo nhw? Chi a ŵyr hynny, siawns. Un newydd i'r swydd ydach chi?"

"Maddeuwch i mi?" meddai Gregor.

"Wel y chi ddeudodd neithiwr, honi eich bod yn archwiliwr safonau, fasa chi heb gael lle yma fel arall, nafsach wir."

"Ddeudis i mo'r ffasiwn beth... Wn i ddim am be dach chi'n mwydro, be wn i am archwilio safonau?"

"Un o'r swyddfa ydach chi'n de? Be arall ydach chi isio yma? Does gen i ddim byd i'w guddio."

"Nid un o'r Swyddfa ydwi, er mwyn dyn, myfyriwr ydwi."

"Wel diolch am hynny," meddai hithu'n cau'r llyfrau. "Mae'n gas gen i ymweliadau'r archwilwyr, chei di byth wybod ganddyn nhw be sydd o'i le, dim ond gwŷs ddienw ar bapur y Swyddfa a goro egluro am bethau na wyddost ti ddim be ydyn nhw. Y gŵr fyddai'n cadw'r llyfrau... ond dyna fo, tyd, mi gawn baned."

 

"Myfyriwr aie?" meddai'r wraig yn tollti'r te. "Dy bethau'n dilyn felly, Gregor? Y llyfrau a ballu, ia?"

"Wel, na fyddan, yn anffodus," eglurodd Gregor. "Waeth imi gyfaddef ichi rŵan imi ddweud anwiredd bach wrthoch chi neithiwr - doedd o ddim i'w weld yn beth mor fawr ar y pryd ond dwi'n gweld erbyn hyn imi fod yn annoeth na fyddwn i wedi dweud y gwir plaen wrthoch chi o'r dechrau - does gen i ddim bagiau'n dilyn. Eu colli nhw ddaru mi, hynny ydi, a dyma ydwi'n ei amau'n gry, cael eu dwyn gawson nhw a finnau'n cysgu ar y trên. Deffro, dim byd ar ôl - colli bob dim ond y dillad ar fy nghefn. Do, wrth gwrs, mi chwiliais hi fesul cerbyd o'r naill ben i'r llall ond yn ofer."

"Tydi'r Colegau ddim yn agor am fis arall."

"Nacdyn? Wel, nacdyn siŵr... Dyna pam y deuthum i'n fuan, yn y gobaith o gael gwaith yn y ddinas i hel fy nghelc cyn i'r tymor gychwyn... Mae gynnoch chi le prysur yma, toes?"

"Felly," meddai hithau'n cloriannu'r hyn a glywsai.

"Dwedwch i mi, Mrs Laban," gofynnodd Gregor yn codi'i gwpan o'r soser. "Pam fod y fath frys ar y preswylwyr a pham nad oes bore da na dim i'w gael ganddyn nhw?"

"Tydi pawb ar frys yn y ddinas? Dim amser i ddim byd gan neb. Dyn a ŵyr i ble maen nhw'n mynd. Fydda'i'n meddwl weithiau, ydyn nhw'n gwybod eu hunain? Paid â disgwyl cyfarchiad gan bobol y tŷ na'r stryd, yn un peth mi fasa fiw iddyn nhw siarad â dieithryn, rhag ofn. Mae'na sôn am ffoaduriaid yn ein mysg - dyna'r ofn oedd gen i neithiwr pan ddoist i'r drws yn yr oriau mân ... meddwl mai un o'r Archwiliwyr oeddat ti - tasa'r Archwilwyr yn canfod ffoadur yn cuddio'n fan'ma y fi a neb arall fyddai'n goro ateb dros hynny..."

"Dwi'n gweld," meddai Gregor. "Wel, mae'n hwyr glas imi fynd. Faint ddwedsoch chi oedd arna'i am y stafell?"

"Duwcs annwl, nid y fi fydd yn delio hefo pethau felly. Daw negeswyr y Swyddfa atat yn ddigon buan pan fydd yn bryd ichdi dalu."

"Rheini sy'n cadw'ch cyfrifon chi felly?" holodd Gregor yn ffidlan efo'i bres.

"Rheini sy'n cadw'r cwbwl, fy ngwas i," meddai hithau'n codi dwy gledr tuag ato i wrthod yr arian a gynigiai iddi. "Felly chwilio am waith wnei di, aie, Gregor? Be sydd gen ti dan sylw?"

"Fawr o ddim, cofiwch," meddai yntau'n fflat. "Mae'n ddigon anodd i'w gael, siŵr o fod. Mi fedra'i fesur a thynnu graddluniau, amcangyfrif a manylebu... a gweini gwin. Fawr o alw am sgiliau felly mwn? "

"Ia, ti'n iawn," cytunodd hithau. "Y taclau dros môr ydi'r drwg. Wedi dwyn ein swyddi ni i gyd ac yn gwneud dwbwl y gwaith am hanner y pres. Mae'r peth yn sgandal! Ond pwy ti'n nabod ydio i gyd, medda'r mab wedyn... mi fydd adra am ei ginio toc - efallai y gellith o dy roi di ar ben ffordd." Sylwodd Gregor am y tro cynta fod yna wely arall yn y stafell, gwely glapsam cul wedi ei wasgu i'r gornel bella. Yn y gornel gyferbyn, lle bu'r wreigan yn gwneud paned, roedd sinc fetal a Gregor yn gweld y tu ôl i honno stôf nwy a sosban arni a honno'n dechrau ffrwtian berwi a'r caead yn clecian. Tynnu am amser cinio, meddyliai, fel y llanwai'r stafell gyda stêm a'r wreigan yn plygu i ddofi'r gwres, hwyr glas iddo fynd i chwilio am Llygad Bwyd.

"Mae'r mab yn gweithio yn y Llyfrgell," meddai'n troi ato. "Mae o'n uchel ei barch yno."

"Byddwn yn falch o'i gyfarfod," meddai Gregor ac ar hynny dyma'r drws yn fflio'n gorad a dyn mawr egar yr olwg yn llenwi'r bwlch. Roedd ei wyneb yn esgyrnog a chraith hir ganddo o'i arlais i'w ên. Crogai cadwyn aur am ei wddf agored a bricsen bach aur arni'n nythu yn ei frest flewog.

"Adam," meddai'r fam, "Dyma Gregor Marini, mae o wedi bod yn edrych ymlaen i dy gyfarfod."

"Be mae o isio?" meddai Adam Laban yn gas heb sbio ar Gregor. "Ydio'n aros yma?" Troes i hoelio Gregor â dau lygad pen pin. "Dim preswylwyr yn y stafell yma, syr, mae fan'ma'n breifat."

"Paid â chymryd sylw ohono fo," meddai'r lletywaig. "Fydd Adam wastad yn flin cyn cinio, yn byddi 'mach?"

Roedd Adam yn tynnu ar ei fysedd yn fygythiol ac yn gwneud i'w figyrnau glecian.

"Rwan Adam," meddai hithau eto, "Mae Gregor yn fyfyriwr ac yn chwilio am waith cyn i'r colegau agor."

"Ydio wir!" gwaeddodd Adam yn gasach byth. "Bydd yn y caffi dros ffor' am chwech. A rŵan dos o'ma, dwi isio 'nghinio."

 

Braf oedd camu i'r awyr iach ar ôl oglau berwi tatws y stafell. Roedd hi'n bnawn o awyr las a haul a'r gwynt croes yn ffres yn hytrach nag yn oer. Teimlai Gregor yn weddol hyderus ei fod yn nabod ei ffordd hyd y lle erbyn hyn. Stryd y caffis teras oedd arno'i heisiau. Cyfeiriodd ei gamre tua'r afon a cherdded ei glannau dan gysgod y coed castan. Roedd cylchoedd o haul drwy'r brigau yn dawnsio ar y llwybr o'i flaen ac yn symud dros wyneb dŵr yr afon. Llenwodd ei ben ac oglau'r dail hydref a'i glustiau a'u siffrwd crin. Weithiau fe giciai'r dail dan draed yn lluwchfeydd dim ond er mwyn eu gwylio'n troi. Roedd llif yr afon yn llonydd heblaw pan âi dan y pontydd cerddwyr lle y'i rhennid yn ffrydiau ewynog gan y colofnau. Yr afon yn llifo tua'r de felly ei chroesi tua'r dwyrain, onid dyna oedd arno'i eisiau? Ynteu ai hon oedd ochor y dwyrain? Daeth at bont gefngrwm a'i chroesi beth bynnag a chael ei fod mewn parc bach o laswellt emrallt a blodau tri lliw ar ddeg ar droi eu lliw. Croesodd y lawnt heb sylwi fod ei sgidiau'n gwlychu'n glytiau. Roedd gwres y cei i'w weld yn bellach nag echdoe ac oglau'r gwlith mor drwm ar y gwlŷdd. Gwelodd giosc papur newydd yng nghornel y maes ac aeth ato. "Papur heddiw," meddai a'i lais i'w glywed yn estron iddo. Mynd at fainc ddaru o wedyn ond ei lygaid yn methu darllen, yn gwneud dim byd heblaw nofio'r tudalennau a fyntau'n crwydro strydoedd ei feddwl ac yn sbio yn y ffenestri. Amser cinio oedd hi'r Sadwrn hwnnw'n yr Aircol a thinc bodlon cyllyll ar blâtiau a suo sgyrsiau tawel yn llenwi'r stafell, traed y gweinyddwyr yn gwneud dim sŵn dros y carped trwchus. Cymeradwyodd y dewis cyn cyflwyno'r botel Calon Ségur '82 i'r Americanwyr a'r dyn mawr tew a'i harchebodd yn mynnu cael ei hagor wrth y bwrdd. Pwy oedd o i ddadlau? Eu bai nhw oedd o, tasa fo 'di cael ei dad-gostrellu hi yn y cefn ni fuasai dim ffwdan wedi bod, ond na, eisiau cael ei hagor o'u blaen fel petai hynny'n rhan o'r sioe. Mwy o bres na sens. Trin gwin da fatha tasa fo'n degan chwarae plant. Ai ei fai o oedd bod y corcyn yn bwdwr? Wedi tynnu pen y cap plwm a phlymio'i ddadgorcydd yn gelfydd i'r gwddw hir sylwasai fod top y corcyn wedi chwyddo'n biws a hwnnw'n cau dŵad. Be allai'i wneud ond tynnu nes oedd ei figyrnau'n wynion? Y nhw ddaru fynny cael ei hagor hi wrth y bwrdd, nid y fo, ac nid arno fo oedd y bai fod tin y corcyn wedi braenu i gyd a bod ei ddadgorcydd felly wedi sboncio o'r botel a'r corcyn yn tasgu cawod o friwsion gwlybion dros bob man yn gochion am ben blows wen gwraig y boi tew a hithau'n sgrechian. Be oedd un flows iddyn nhw nelo colli ei waith iddo fyntau? Mae'n siŵr fod gan y beunas fronnog ddegau o flowsys, dim ond un joban oedd gynno fo. A dim gobaith am un arall rŵan, nagoedd, a'r byd wedi mynd mor wan. Neb isio pensaer di-bartneriaeth, neb isio gweinydd sy'n colli'r gwin. Tamaid i aros pryd oedd y gwaith yma, wrth gwrs, ond gwaith oedd yn talu'n iawn nelo'r pres tramor oedd i'w cael efo'r cil-dyrnau. Arian y wlad yn ddi-werth ers tro ac yn mynd yn waeth. Dim rhyfedd fod pawb isio gweithio yn y gwestai mawrion, doleri gwyrddion oedd yr unig bres i'w hel erbyn hyn. Ac roedd yntau'n nabod ei winoedd, yn weinydd diffwdan a da, siawns na chai gyfle arall... Barn rhai oedd y cai, ond y rhai dibrofiad oedd rheini. Ysgwydai'r hen lawiau eu pennau. Ni wyddai yntau beth i feddwl, ond ceisio gobeithio'r gorau, a fyntau'n sefyll y tu allan i swyddfa Zwingli yng nghefn y Dderbynfa a chlecian y teipiaduron fel petaent eisoes yn torri llythrennau duon ar ei lythyr diswyddo.

"Wel, Gregor," meddai Zwingli yn codi pâr o lygaid llonydd, ymylon melyn o'r nodyn ar ei ddesg. Nid oedd Gregor wedi arfer ei weld tu ôl i'w ddesg, byddai'n ei weld amlaf yn prysuro heibio a'i gynorthwywyr yn ei sgîl, ond tybiai ei fod yn ddyn teg. Safai Gregor o'i flaen dan y golau trydan a'i lifrai'n drwm ac yn boeth amdano a cheisio cofio bob dim ddigwyddodd ac egluro'r sefyllfa o'i dechrau i'w diwedd heb ychwanegu na chuddio dim. Gwrandawodd Zwingli arno gan daro ambell nodyn pensel ar ymyl y ddalen o'i flaen. Bu distawrwydd am ychydig wedi i Gregor orffen yr hanes.

"Gregor," meddai toc, "petai'n fater i mi yn unig... petai'r mater yn gyfan gwbwl yn fy nwylo i - oherwydd dwi'n weddol fodlon ar dy waith di ac mae dy wybodaeth am winoedd wedi datblygu'n dda - petai'n fater i mi yn unig... Ond, Gregor, petai a phetasa ydi'r ddau air casa, medda'n nhw. Nid yn fy nwylo i'n unig mae'r mater, gwaetha'r modd. Mae gen innau reolwyr uwch fy mhen, mae gan rheini gyfarwyddwyr ac mae ganddyn nhwythau eu cyfranddaliadwyr ac i'r rheini dan ni gyd yn atebol yn y pen draw. Rhaid iti ddeall, Gregor, nad oes eithriadau i'r rheolau."

"Mi wna'i dalu am y flows, Syr," cynigiodd Gregor, "gewch chi gadw'r pres yn ôl bob wythnos a..."

"Fydd dim angen hynny, Gregor." Lloffodd y Rheolwr drwy'r papurau. "Hmm, dyma ni... wedi cwblhau dy saith mlynedd i fynd yn bensaer - dyna ni, mae digon o alw am benseiri yn y gwledydd newydd yn ôl y sôn, rwyt ti'n gwastraffu dy ddoniau yn fan hyn, mi fedri di wneud yn well na hyn ichdi dy hun. Mi hoffwn i ddymuno iti bob llwyddiant, rwyt ti'n ei haeddu. Mi gei dy dalu'n llawn hyd ddiwedd dy shifft heno, dyma nodyn i'r adran gyfrifon, a rŵan, Gregor, mi rwyt ti'n rhydd i fynd. Wrth gwrs mi fydd angen iti wagio dy gwpwrdd yn union deg. Mae'n ddrwg gen i am hyn, Gregor, ac fel dywedais i, petai'n fater i mi'n unig..."

 

Roedd ei gyd-letywyr naill ai o gwmpas eu gwaith neu allan hyd y strydoedd a diolchodd Gregor am lonydd i hel ei bethau. Wedi newid i'w ddillad bob dydd a phacio'i fag edrychodd unwaith o gwmpas y stafell a fu'n gartref iddo ers hanner blwyddyn, ni theimlai dim byd ond gwacter tu mewn a chyda blas sur yn codi i'w geg troes ei gefn am byth ar ei yrfa ddisglair yn Ngwesty'r Aircol.

Pan gamodd i'r iard gefn o'r drws bach a ddefnyddid gan y staff bu'n rhaid iddo wthio'i ffordd drwy fagad swnllyd o tua phymtheg o fechgyn yn gwthio am y gorau i gael bob ym mhen y rhes. "Sumai, Gregor," meddai un ohonyn nhw, bachgen a elwid Coesau Hirion, wyddai Gregor mo'i enw iawn o.

"Trio am swydd yn yr Aircol, Coesau Hirion?" meddai Gregor wrth fynd heibio, heb aros i siarad â'r bachgen.

"Ia," galwodd y llall. "Cha'i moni 'mwn, be wn i am win?"

"Ti'n gwybod digon am ei yfed o," galwodd rhywun arall a phawb yn chwerthin. Brathodd Gregor ei wefus a cherdded yn ei flaen.

O flaen gwestai'r lan môr mae stryd lydan yn rhedeg yn hanner cylch uwchben y traeth a meinciau'n gwynebu'r môr ar y pafin tywodlyd. Bu'n eistedd yno am hydoedd a'i ben yn ei blu yn sylwi'n achlysurol ar y tonnau'n symud tua'r traeth ac ar y cerddwyr ar y tywod yn mynd a'u cŵn am dro. Roedd yr holl beth wedi digwydd mor sydyn. Hyd yn oed rŵan a fyntau'n y parc bach yng nghanol dinas estron ymhell o'i wlad roedd yn dal yn flin am y cam a gafodd. Ac o ran galw am benseiri, jôc oedd honno, a jôc sal hefyd. A doedd cyfleon am waith fawr gwell ffordd hyn, yn ôl a welai, doedd ganddo ddim ffydd yng ngallu Adam Laban i'w helpu. Gorau po gyntaf y cai gyfle i fwrw ymlaen tua'r Gogledd a chroesi'r ffin, efallai y gwnai rywbeth ohoni wedyn, roedd rhai gwaeth na fo wedi llwyddo. Rywle o berfeddion y ddinas daeth murmur cnul clychau i'w glyw a chofiodd am Llygad Bwyd a'r cardyn nabod. Plygodd y papur nas darllenwyd a'i wthio i fin sbwriel ar ei ffordd o'r parc.

 

Dewis adwy yn y pen uchaf oddi wrth y bont wnaeth o, gan gadw at ymyl yr afon ar y llaw chwith. Roedd grwndi'r traffig yn uchel a'r mwg o'u pibellau gwastraff yn powlio'n dew. Ni fu'n hir arno ynghanol y mwg cyn cyrraedd lôn gerddwyr yn dilyn yr afon tuag at balmentydd llydain a rhesiad o gaffis â chynfasau haul ohonyn nhw'n cysgodi'r byrddau. O flaen rhai roedd yna fyrddau dan ymbarelau streips a phobol yn llymeitian gwin neu goffi. Cyn croesi atyn nhw safodd i weld a welai Llygad Bwyd wrth un o'r byrddau. Doedd o ddim i'w weld, y cwbwl welodd Gregor oedd cloben o ddynes fawr a gwallt mawr ar dop ei phen yn llusgo ci rhech ar ei hôl, pwdl cyrliog gwyn, a hwnnw'n gyndyn i'w dilyn. Aeth y tenyn yn sownd yng nghoes un o fyrddau'r caffi gyferbyn. Hithau'n ceisio tynnu'r ci'n rhydd a hwnnw'n strancio a'i ben o'r diwedd yn dŵad o'i goler. "Ffiffi, tyd yn ôl," gwichiodd y ddynes yn chwifio'r tenyn a'r goler. "FFiffi, tyd yn ôl yma'r munud yma..." Ond roedd y ci wedi ffoi rhwng coesau'r byrddau a hithau'n fawr ei stŵr ar ei ôl. "Gwna'n fawr o dy gyfle, Ffiffi," meddai Gregor dan ei wynt a chroesi'r lôn.

Er nad oedd ond llond dwrn o gwsmeriaid wrth y byrddau roedden nhw i gyd yn eistedd ar eu pennau'u hunain, un wrth bob un o'r byrddau, fel nad oedd bwrdd rhydd i'w gael. Penderfynodd fynd i mewn ac yfed ei baned ar ei draed. Ymwthiodd heibio'r dodrefn ac i mewn â fo dros y llawr llwch lli at y bar lle safai dau gwsmer ysgwydd yn ysgwydd yn sgwrsio efo'r tafarnwr. Ni chymerodd neb sylw o Gregor nag o'i besychu cwrtais wedyn, ond o'r diwedd dyma'r tafarnwr yn codi bys diog ac yn pwyntio tua'r byrddau allan. "Ddoi allan atat ti," meddai.

Aeth Gregor allan a dewis un o'r byrddau pellaf. Ni chododd y sawl a eisteddai yno mo'i ben o'i bapur wrth i Gregor ymuno ag o. Bwrdd bach bach oedd o a'r gadair yn galed a'r cefn yn gwyro'n ôl fel na allai ymlacio arni heb i'w draed gyffwrdd yng nghoesau'i gymydog. Ni allai chwaith bwyso ymlaen â'i benelinau ar y bwrdd heb i'w ben fynd i ganol papur newydd y dyn arall. Eistedd yn gefnsyth fel sowldiwr oedd yr unig ddewis felly. Toc sylwodd fod cysgod newydd wedi tywyllu'r bwrdd. Y tafarnwr oedd yno'n dal bwydlen rhyngddo â'r goleuni.

"Coffi du a bechdan grasu," meddai Gregor heb sbio ar y fwydlen. "Sgynnoch chi gaws a chig moch?"

Cipiodd y dyn y fwydlen a throi ar ei sawdl a'r dyn arall yn gostwng ymyl ei bapur i ac yn cymryd cip olwg ar Gregor a'r papur yn ei ôl yn syth cyn i Gregor weld ei wyneb. Nid darllen y papur oedd o chwaith ond ei ddal fel ag i gysgodi pad sgwennu o'i flaen a Gregor yn gweld rŵan ym mhlyg y papur ei law'n taro nodiadau arno mewn llawysgrifen fân, fân fel coesau morgrug.

Ymhen hir a hwyr plygodd y dyn ei bapur, pocedu'i lyfryn ac i ffwrdd â fo. Rhoes Gregor ei draed i fyny ar y sêt o'i flaen a theimlo chydig yn gyfforddusach er waetha'r gweitsiad diderfyn am ei fwyd. Ni fyddai neb wedi gorfod disgwyl fel hyn yr yr Arcol, meddyliai, ni welsai'r ffasiwn wasanaeth sâl erioed. Yn yr Arcol fe gaet dy archeb o fewn tri munud neu dy bres yn ôl, dyna'r addewid. Ac nid oedd neb chwimach ar ei draed na fo, roedd hyd yn oed Zwingli wedi cydnabod hynny. Tasa ond am y ddamwain efo'r gwin... Wel, waeth iddo heb â chodi pais rŵan eto. Cyrraedd y nôd nesa oedd piau hi bellach. Cofiai fel yr eisteddasai ar hyd y pnawn hwnnw ar ei fainc ar Rodfa'r Môr a'r syniad yn cyniwair, yn crisialu yn ei ben nes tyfu'n argyhoeddiad fod yn rhaid iddo fentro'i siawns bellach dros y môr. Roedd ganddo ryw chydig o bres tramor wrth gefn, 'toedd, ei gil-dyrnau i gyd a'r rheini y bu'n eu hel ers talwm yn barod at y diwrnod mawr. Wel, wedi colli'i waith byddai'r diwrnod hwnnw'n cael gohiriad arall, yn byddai? Ni allen nhw feddwl priodi rŵan, hwyrach y dywedai Alice nad oedd ots, ond nid o'n fodlon rhoi'r fodrwy am ei bys ac wedyn gorfod byw ar drugaredd ei theulu hi a fyntau heb ddim. Ond pan ddychwelai, wedi gwneud yn fawr o'i gyfle mewn lle gwell, fe gaen nhw i gyd ail, o caent. Cofiai fel y bu'r meddyliau'n corddi drwy'i feddwl ar ei fainc wyntog ar lan y môr a fyntau'n disgwyl amser diwedd ei shifft. Doedd o ddim am i Alice wybod iddo gael ei hel adre ar ei chanol. Byddai'n ddigon iddi wybod fod y gwaith wedi mynd. Ond wedyn, ai gweinydd oedd o i fod? Ai dyna oedd hi isio iddo fo fod? Isio bod yn bensaer go iawn oedd o, fe wyddai hi hynny, roedd o'n amlwg, toedd? Ac onid oedd hithau wedi meddwl mai pensaer fyddai hi'n ei briodi? Wel pendafad oedd ganddi hi yn lle hynny erbyn hyn. Pensaer, wir! Doedd o ddim hyn yn oed yn gallu agor potel o win! Byddai'r stori honno'n mynd o'i flaen o, yn byddai? Ac ni fyddai gobaith iddo wedyn am waith berwi teciall yn swyddfeydd penseiri'r dref heb sôn am gael lle fel prentis cyflog.

O'r diwedd dyma bedwar o'r gloch yn cyrraedd a hithau'n amser iddo lusgo'i draed i fyny'r allt at y tŷ mawr ar ben y bryn, doedd o'n cofio fawr am hynny bellach, dim ond cofio'r gwylanod yn cecru uwch ei ben. "Be wnei di rŵan?" Dyna ofynnodd hi, ynde? "Mynd dros môr, be arall sy'na." atebasai yntau'n fflat. Cyndyn fu hithau i gytuno, fel y disgwylasai y byddai hi: "Mae'n ffin ni'n agored, ella, ond mae'r ffiniau tramor wedi cau," ymresymasai. "Pwy gymerith chdi? Mae nhw'n troi pawb yn ôl." "Troed yn drws ydwi isio ac mi fydda'i i mewn." "Sut ei di?" "Mae Petrog wedi sôn am gwch yn mynd." "Ddoi di'n ôl?" "Wrth gwrs y do'i, Alice. Ac mi sgwenna'i ar ôl cyrraedd os byw ac iach..."

Wedi cyrraedd y tro yn y dreif edrychodd drach ei gefn arni'n sefyll ar y portsh a chlywed ei galon yn gwasgu'n fach tu mewn. Wrth gwrs ei fod o'n ei charu ac roedd hi'n anodd ei siomi ond pa ddewis oedd ganddo? Wedi cyrraedd y stryd dychwelodd sbonc i'w gerdded a fyntau'n dechrau chwibianu wrth frysio i lawr tua'r dref ac yn clywed gwynt y môr yn ysgafn braf ar ei ruddiau. Er ei waethaf yr oedd wedi dechrau edrych ymlaen at yr antur. A dyma'r antur. Aros am goffi a bechdan grasu yn nhwll din byd. Gwyn dy fyd y sawl a saif adref, meddyliai, a lle ddiawl oedd Llygad Bwyd arni, y fo a'i addewidion gweigion? Efallai iddo'i fethu, iddo gyrraedd o flaen Gregor a rhoi'r gorau i ddisgwyl amdano a Gregor yn pendwmpian yn y parc... Gallai holi'r tafarnwr. Fe'i holai pan ddeuai... pan ddeuai, ia. Faint ddiawl o amser oedd ar ddyn ei angen i wneud paned a bechdan grasu?

"Dy goffi." meddai'r tafarnwr yn gwneud i Gregor neidio nes taro'i ben glin yn y bwrdd a fyntau'n estyn cwpan bach oddi ar hambwrdd ac yn colli ei hanner i'r soser wrth ei tharo o'i flaen. "Dy fechdan grasu." Trawodd blât yn ochr y gwpan a gwthio'r cyfrif wedi ei blygu dan ochor hwnnw.

"Esgusodwch fi," meddai Gregor, "Roeddwn i fod i gwrdd rhywun yma...Does neb wedi..."

"Oes," meddai'r tafarnwr yn rhoi'i fys ar y papur. "A thalu ymlaen llaw ydi'r drefn i fod, nid hanner yn hanner, dallt?"

Cododd Gregor y cyfrif. Llithrodd cardyn plastig o'r plyg ynddo a disgyn ar ei lin. Roedd swm o ddoleri wedi ei nodi ar y papur heb ddim manylion ar ei gyfyl.

"Nid dyna be gytunais i," meddai Gregor yn ffwndrus.

"Mae o'n cynnwys y bwyd a'r coffi." Safodd y tafarnwr a'i ddwylo'n dal yr hambwrdd at ei frest. "Brysia, ddieithryn, mae gen i gwsmeriaid eraill."

Talodd Gregor. Cymrodd lwnc o'r coffi llugoer a chodi'r fechdan yn ei law. Pan gafodd led stryd rhyngddo â'r caffi tynnodd y cardyn o'i boced i'w studio, am yn ail a chnoi'r fechdan. Doedd o fawr gwell na chardyn credyd, ac roedd y darn lle roedd o i fod i arwyddo wedi ei lenwi yn llaw rhywun arall. Talu crocbris am sothach noeth, meddyliai, ond be arall oedd o i fod i'w wneud? Dechreuodd feddwl faint o'r gloch oedd hi a chwilio wedyn am gloc stryd. Chwarter i chwech yn barod? Brasgamodd mewn dychryn i gyfeiriad yr afon a rhedeg ar hyd ei glan hi. Uwch ei ben roedd cymylau boliog yn hebrwng cyfnos. A oedd yn nabod yr ardal hon ai peidio? Dechreuodd amau, methai'n lan a gwybod ymhle i droi. Gwelodd rywun yn taflu briwsion i'r dŵr a rhedodd ato.

"Wyddoch chi lle mae Ostan Laban?" holodd a'i wynt yn ei ddwrn. Dim ond osgo cynnil â'i ben wnaeth y taflwr briwsion a Gregor yn sbio ac yn gweld OSTAN LABAN mewn llythrennau trydan lliw drwy frigau'r coed am y ffordd â nhw. Pan droes y gornel i'r stryd dyna lle'r oedd y caffi ac "Ar Agor" mawr yn gam ar y drws gwydr.

Aeth Gregor i mewn a chloc y mur yn taro chwech. Gwelodd Adam Laban yn eistedd wrth fwrdd yn y cefn yn syllu arno ac yn curo'i fysedd yn ddiamynedd ar y bwrdd o'i flaen. Cododd pan ddaeth Gregor ato.

"Mae'n ddrwg gen i dy gadw di," meddai Gregor.

"Chwech ddeudis i, ynde? Tyd, wir Dduw." A brasgamodd Adam Laban oddi wrtho am y drws a Gregor yn rhedeg ar ei ôl.

"Ydi'r llyfrgell yn bell, Adam?" galwodd ond âi Adam ar y ffasiwn wîb, heb redeg, dim ond brasgamu, fel na allai Gregor gadw wrth ei sodlau o gwbwl - fe'i collodd yn gyfan gwbwl unwaith a meddwl troi'n ei ôl ond wrth lwc cafodd gip arno'n troi cornel yn y pellder. Gydag ymdrech a wnaeth i'w galon ddyrnu fe'i daliodd eto, ond nid arhosai Adam wrtho, dim ond cerdded yn hamddenol yr olwg yn ei flaen.

"Yndi pell iawn," meddai dros ei ysgwydd.

"Ga'i ddŵad yn dy sgîl di cofn bod yna waith?"

"Dyna wyt ti'n wneud, ynde. A'r tro nesa dwi'n deud chwech, bydd yno am chwarter i."

"Iawn, tshîff," meddai Gregor yn teimlo ei fod yn dechrau cael ei dderbyn. Dilynnodd Adam Laban i lawr set o risiau fel grisiau gorsaf trênau tanddaearol a chyrraedd pyrth llydain. Drwy'r rheini daethpwyd at neuadd foel a meinciau ar hyd ei waliau a dim ond un adwy'n y wal bella ac arni "Y LLYFRGELL" mewn llythrennau duon uwch ei phen. Roedd greddf Gregor yn dweud wrtho nad o dan ddaear oedd y lle gorau i gadw llyfrau, ond ella bod penseiri'r wlad yma'n meddwl fel arall. "Ista di'n fanna," meddai Adam Laban. "Dwi'n mynd, a phaid â sôn mai fi a'th hebryngodd di yma, dallt? Mi ddaw rhywun atat." Rhoes ei law ar ysgwydd Gregor a'i wthio at y meinciai.

Neuadd lom, concrid ar lawr, goleuadau noeth. "Mae'n siwr fod y llyfrgell yn foethus tu mewn," meddai Gregor wrtho'i hun. O dipyn i beth roedd y neuadd yn llenwi, dynion a merched yn cyrraedd drwy'r pyrth, eu cyrff yn dechrau cnesu'r gwagle a chyn hir yn peri i ddiferion dŵr hel hyd bibellau'r nenfwd. Pan oedd y meinciau'n dynn o dinau a Gregor yn gwasgu'i draed i'r llawr i gadw ei le caewyd y pyrth allan a daeth swyddog o'r adwy bella a sefyll ynghanol y llawr.

"Cynigion heddiw," meddai'n darllen o bapur ar fordyn bachu yn ei law. "Chwynwyr. Chwech gyda phrofiad a dim ofn gwaith. Adran y Geiriau Anllad." Codwyd llu o ddwylo. Dewiswyd chwech ac aethpwyd â nhw.

"Llosgwyr. Dau gyda chymwysterau cymwys. Adran Hanes." Tri a gynigiodd am y swydd a bu cryn drafod cyn troi un o'r neilltu. Cymrodd hwnnw arno fynd at y pyrth ond a neb yn sbio sleifiodd yn ôl i eistedd ar ymyl y fainc.

"Clwyddgwn. Deuddeg. Adran Wleidyddiaeth." Sylwodd Gregor fod yr un a wrthodwyd cynt yn cael ei dderbyn y tro hwn, ynghyd ag unarddeg arall o'r rhesi brwd yn chwifio'u breichiau o ymgeiswyr.

"Sychwyr Blychau Llwch!" cyhoeddodd y swyddog wedyn. "Dau i fod dan law Adam Laban. Adran Golchi Blychau Llwch." Cododd Gregor ei law'n obeithiol, ond roedd yn rhy hwyr. Roedd dau eisoes wedi eu dewis ac yn ffarwelio â chymdogion llai llwyddiannus.

"Catalogydd. Un. Profiad yn amherthnasol. Adran Fytholeg." Ni chafwyd ymateb y tro hwn. Ail-adroddwyd y cynnig a llais y swyddog yn crafu braidd. "Catalogydd. Un. Profiad yn amherthnasol. Adran Fytholeg." Ni chodwyd yr un llaw eithr yn hytrach gwasgai'r bobl eu dwylo i ddyfnderau'u pocedi a syllu i'r llawr. Neb yn symud. Pennau i lawr. Roedd y swyddog a'i law yn cysgodi'i lygaid yn chwilio o un i un ar hyd y rhesi. Dal ar ei bennau gliniau oedd dwylo Gregor a'i ben heb ei blygu yn sbio draw tuag ato. Oedodd trem y swyddog arno. Yn betrus, fe gododd Gregor ei law.

Daeth swyddogion i'w gyrchu ac aed â fo. Clywai'r cynnig nesaf yn cael ei ddarllen fel y pasiodd drwy'r adwy. "Cerddwr Cŵn. Un. Cyfathrebwr da a chroendew. Adran Mynd â chŵn y Prif Lyfrgellydd am dro." Clywai Gregor ddwndwr traed yn sgriffian a fyntau'n synhwyro fod hon yn swydd â dipyn o fynd arni.

Doedd dim llawer o wahaniaeth pa swydd oedd neb yn trio amdani o ran cofrestru, erbyn dallt. Enw, oed, cyfeiriad a chefndir. Cynigiodd Gregor ei gardyn nabod newydd ac ni wnaed namyn taro llygad arno, nodio pen yn frysiog a dwylo'n ei gyfeirio draw. "Ffordd hyn," meddai swyddog yn ei wthio yn ei gefn. "Sefyll fanna" brathodd a nhwythau wedi cyrraedd at fynedfa uchel a dau ddrws yn gil-agored arni. Felly fe safodd Gregor lle'r ydoedd. Ni welai rhwng y drysau namyn rhyw fath ar bulpud coed a run enaid byw ar gyfyl y lle. Toc daeth sŵn crafu o'r pulpud a chododd pen â mop o wallt du arno a wyneb sbectol ffyrnig dan y gwallt a dau lygad yn rhythu ar Gregor dros y sbectol a llais yn gweiddi "Tyd i mewn!"

"Dydd da," meddai'r un blewog yn gyhuddgar. "Pwy maen nhw wedi ei anfon y tro hwn?"

"Gregor, syr. Wedi dŵad i gatalogio'r adran."

"Y Du Traheus ydw i," meddai'r sbectol ffyrnig. "Pennaeth yr Adran. Fi fydd yn penderfunu pwy wneith be yma. Oes gen ti gymwysterau?"

"Oes, ond eu bod nhw'n amherthnasol."

" Fedri di ddarllen a sgwennu?"

"Dwi'n fyfyriwr."

"Osgoi'r cwestiwn, ia? Wel, mi wnei di'r tro. Dim gwaeth na'r lleill, decini." Disgynnodd y Du Traheus o'i bulpud. "Tyd," meddai'n symud fel epa ar draws y llawr a'i bawen fawr flewog yn dynn am law Gregor yn ei dynnu ar ei ôl. Gosodwyd Gregor wrth ddesg bach isel a fyntau'n methu plygu'i bennau gliniau oddi tani. Tynnodd y Du Traheus ewin ddu dros docyn o lyfrau ar ganol y ddesg. "Cofrestru," meddai. "Mae cofrestru'n well gair na chatalogio."

"Mae'n ddrwg gen i?" holodd Gregor.

"Nid dy fai di ydio 'ngwas i," meddai'r Pennaeth ac yn ôl â fo am ei bulpud dan siarad yn ddistaw bach wrtho fo'i hun.

 

Pennod 3

 

Codi a gostwng fel tonnau'r môr wna gwichian y corn canu a'r fagbig, codi a gostwng wna'r rhubannau a'r peisiau i'r un dôn. Rhengodd yn gweu drwy'i gilydd ym mhatrwm y ddawns. Clocsiau duon yn clepio'r curiad a llwch y sgwâr yn codi ac yn cymysgu â mwg tanau'r rhostwyr cig. Erys y nodyn hir ola ar yr awel a'r ddau gerddor ar eu cadeiriau uchel ar bennau'r ddwy gasgen yn gwyro at eu diodydd. Dau funud wedyn daw trawant ddawns y mynydd ac mae Deicws fel y bechgyn eraill yn sbio o'i gwmpas yn chwilio am bartneres newydd. Mae'i wyneb o'n laddar o chwys a'r llwch codi wedi glynnu ar ei dalcen ac o dan ei lygaid.

Ac Iwerydd yn rhy ara deg yn camu'n ôl i gysgod stondin. Mae Deicws yn cerdded tuag ati hi. Mi allasai fod wedi gafael yn llaw unrhyw un o genod y pentref. Nid nad oes arni awydd dawnsio.

"Wyt ti ddim am ddawnsio, Iwerydd?" Mae o'n gwenu. "Y gwres yn ormod gen ti?"

"Chdi sy'n chwysu, Deicws."

Gŵyl mabsant, pawb yn cael hwyl a sbri, ac eto rhai llygaid eisoes wedi dechrau sylwi arnyn nhw. Nid llygaid y twristiaid, mae'r rheini a'u fidios yn gwylio'r ddawns.

"Neith hi un, 'ta?" Mae o'n cynnig iddi'i law a hithau'n ei derbyn.

Ei fysedd cryfion yn dynner am ei llaw. Ei groen yn gryf a'i gam yn sicr, hithau gam yng ngham ag o, weithiau'n ei arwain, weithiau'n cymryd ei harwain ganddo, curiad y gân yn codi'u traed gyda thraed y llinnell yn dawnsio o gylch y sgwâr. Curo coed ar gerrig. Oglau saim ar y mwg o'r tanau. Twristiaid yn eu dilyn â llygaid eu fidios. Dim ots ganddi hi, mae hi'n rhydd, yn ysgafn ac yn llifo'n araf tuag i fyny law yn llaw â Deicws Bach. Gwenu mae hi wrth feddwl amdanyn nhw'n tynnu'r lluniau heb weld dim byd. "Pam mae nhw isio tynnu'n lluniau ni, Deicws?"

"Anghofia amdanyn nhw, Iwerydd, mae hon yn ddawns braf." Mae o'n gorfod croesi oddi wrthi cyn dŵad yn ôl. "Chan nhw ddim byd ran lluniau," medd wedyn. "Chodan nhw ddim byd. Tydan ni ddim yn bod go iawn i'r rhain, 'mach. Cwbwl gân nhw ydi sgwâr gwag heblaw am ddwy gasgen, tydyn nhw'n gweld dim byd."

"Chdi â dy gellwair," medd hithau'n gafael yn dynnach yn ei law fel mae'r alaw'n peidio. "Diolch am y ddawns, dwi'n goro mynd."

"Nei di 'nghwrdd i eto, Iwerydd?"

Mae hi'n twtio'r cap gwyn ar ei phen ac yn troi oddi wrtho heb ateb. Ar gwr y sgwâr dyma droi i'w wylio'n mynd ond sefyll mae o'n aros am ei llygaid. "Rhyd y Felin heno tua'r naw?" Nid ei glywed wnaeth hi ond darllen y symud ar ei wefusau ac wedyn roedd o wedi mynd.

Cyn hir mae mewian y canu yn bell o'i hôl a hithau'n dringo'r rhiw rhwng y caeau i fyny hyd lwybrau'r wlad.

 

*

 

O un i un tynnodd Gregor y llyfrau ato a'u troi drwy'i ddwylo. Erbyn hyn roedd o'n dechrau anghofio'i fol gwag. "Be goblyn ydwi i fod i'w wneud hefo'r rhain?" meddyliai. Cododd ei ben i sbio o'i gwmpas. Edrych ar hyd y rheseidiau o lyfrau'n dirwyn oddi wrtho i bob cyfeiriad, dim pen draw i'w weld arnyn nhw, dim ond cysgodion yn eu llyncu. Troes yn ôl at y llyfrau ar y ddesg gyfyng a lloffi drwyddyn nhw i weld a fedrai ganfod patrwm. Tynnodd bump llinnell i lawr tudalen o bapur gwyn a llinnell ar ei draws yn y top ar gyfer ei benawdau: teitl, awdur, cyhoeddwr, lle a dyddiad ac mewn byr o dro roedd wedi llenwi'r tudalen i'r gwaelod un. Tybiodd fentro at y porth, lle gwelai rimyn o olau melyn, i chwilio am ei feistr i gael dangos iddo fo'i waith. Ni wnaeth y Du Traheus ond edrych dros ei sbectol arno o lwyfan ei bulpud.

"Wyt ti'n medru sgwennu?" meddai hwnnw'n amheus yn estyn i dderbyn y papur.

"Be'di hwn ond sgwennu?" meddai Gregor.

"O, i'r dim felly," meddai'r Du Traheus. "Mae hyn yn achos dathlu." Aeth i gwpwrdd ei bulpud ac estyn tair potelaid o hylifau amrywiol eu lliwiau â rhyw ffrwythau anelwig yn nofio ynddyn nhw. "Be gymeri di?"

"Dibynnu be dach chi'n gynnig," meddai Gregor.

"Brandi ceirios amdani felly." Tywalltodd ddogn hael i'r ddau wydr a gwddw'r botel yn tincian arnyn nhw. "Hir oes i'r Hen Drefn!" meddai'n taro'i wydr yng ngwydr ei ddisgybl. "Iechyd i'r Llyfrbryf!" meddai Gregor yn meddwl fod hwnnw'n sylwad addas. Tagodd wrth roi clec i'r gwydraid a'r hylif trwchus yn cnesu'i lwnc ac yn llosgi'i fol. Yfwyd un bob un eto, ac un arall, a'r Du Traheus yn dŵad yn gleniach bob gafael a phen Gregor yn mynd i droi a fynta heb fwyta drwy'r dydd.

"Ydi'r gwaith cofnodi'n gywir?" holodd Gregor yn cofio'r llyfrau wedyn.

"Nacdi," meddai'r Du Traheus a mynd i'w gwpwrdd ac estyn ohono dorth hir, cosyn a chyllell. "Isio bwyd?"

Claddodd Gregor y bara a chaws a gynigwyd iddo. Gorffenwyd y botel brandi ceirios. Estynnodd y Du Traheus ei getyn a'i lenwi'n bwyllog, braf. Toc roedd mwg persawrus yn cordeddu oddi wrtho i lawr y coridorau llyfrau ac yn ymdoddi i'r tywyllwch draw. Sugnai'n swnllyd ar goes ei getyn a'i wthio'n galed weithiau yn erbyn ei ddannedd. "Mae hi'n hanner nos," meddai. "A'th brentisiaeth dithau ar ben." Dringodd i ben ei bulpud a thurio yno am chydig cyn dychwelyd. Be oedd ganddo fo? Broets bach? Yn chwincian rhwng ei ddwy ewin, roedd o'n ei chynnig hi i Gregor. "Dyma dy fathodyn," meddai. Siâp llyfr agored oedd o a Gregor yn ei ddal o flaen ei lygad i geisio darllen yr ysgrithiadau cynnil ar y tudalennau: Gregor Marini. Is-Gatalogydd. Adran Fytholeg. Fe'i piniodd i fflap ei siaced a chodi'i ben at ei athro. Hwnnw'n edrych arno'n dadol gan nodio'i ben. "Well ichdi fynd rŵan," meddai. "Ben bore fory mae'r gwaith yn cychwyn, cofia. Mi wyddost faint o'r gloch?"

"Chwarter i, ia, syr?" meddai Gregor yn codi'i law at ei arlais.

 

Cododd swyddog nos fys at ei gap wrth ei weld yn mynd heibio. Agorwyd giatiau'r porth iddo heb air. Bwrw glaw oedd hi tu allan, ac olwynion y ceir yn gwasgu dŵr o'r cwterydd fel o gadach llestri. Diferion cawod yn wę dan y goleuadau stryd hyd lwybr yr afon, y dafnau weithiau'n fferu ac yna'n datod. Dail fel papur gwlyb dan draed ond bod rhain yn sgleinio. Wrth gamu heibio'r parc tua'r caffi safodd yn stond, safodd i wrando'r nodau grisial a glywai'n tasgu o gangen loyw uwch ei ben. Ac yntau heb glwyed ei chân erioed beth oedd yn gwneud iddo feddwl mai eos oedd hi? Roedd nodau'i chân yn diferu drosto a'r glaw mân yn britho'i dalcen ac yn cosi'i drwyn. Ni thyciodd iddo mo'r craffu, ni allai ei gweld. Wedi penderfynu mai eos oedd hi, ar ba sail ni wyddai, roedd yn fodlon aros, yn gorfod aros i'w gwrando. A rhywbeth yn ei gnoi o hyd, fel hiraeth hen. Tawodd y gân a'r siffrwd o'r brigau'n dweud am godiad yr aderyn ar adain nos. "Rhwydd hynt ichdi," meddai Gregor yn ei dychmygu'i phîg yn mynd drwy bigau'r glaw.

Er hwyred yr awr roedd y caffi'n ferw dew o fwg sigarennau ac oglau saim. Sylwai fod rhai'n bwyta prydoedd poeth, rhai'n yfed, rhai'n torri newyn ar goffi du a rholion bara gwyn. Cafodd le i eistedd, byrddau rhannu, roedd o'n eistedd rhwng dau weithiwr nos ar ganol pryd. Archebodd yntau gawl a bara 'menyn a hanner potelaid o win cefn gwlad.

"Sumai," meddai'r gweithwyr ar ei law chwith.

Bu'n rhaid i Gregor boeri llond ceg o gawl yn ôl i'w fowlen. "Reit dda diolch," meddai'n sychu'i wefus. "A chithau? Noson fudur. Mi glywais eos gynnau, ydyn nhw'n..."

"Sumai deudis i," meddair'r gweithiwr nos yn gwthio fforchaid o gig i'w geg. "Dwimisio hanes dy sglyfath fywyd di."

"Sori," meddai Gregor yn gwrido ac yn codi'i lwy.

O ran lle bach roedd y sŵn yn fawr ar waethaf diffyg sgwrs cymdogion Gregor. O stafell drwodd y deuai llawer o'r gweiddi, yn ôl a welai Gregor, a fyntau'n clywed wedyn drwst dodrefn yn cwympo yn gymysg â thwrw gwydrau'n malu a'r berw'n cynyddu. Doedd neb i'w weld â diddordeb yn y terfysg. Cadwent eu llygaid ar eu bwyd. Daliai Gregor i daro cipolwg bob hyn a hyn dros ei ysgwydd i gyfeiriad y dwndwr a gweld o'r niwl wedyn Adam Laban yn camu i ganol y llawr a fyntau'n gwaedu fel mochyn o archoll yn ei ben. Roedd y gweiddi a'r sŵn malu wedi tewi. Rhuthrodd Gregor ato'n rhwygo hances o'i boced. "Wyt ti'n iawn, Adam?" holodd yn ceisio gwasgu'r hances i'r clwyf ar yr arlais dde uwchben ei graith.

"Oeddwn i'n iawn tan welais i chdi," meddai Adam Laban. "Be ti'n da yma?"

"Ar fy ffordd adref o'r llyfrgell 'dwi."

"Adref?"

"I'r gwesty 'ta."

"Mi gest waith, felly?"

"Do, " meddai Gregor yn dangos ei fathodyn. "Dan y Du Traheus."

"Hy!" meddai Adam Laban. "Be wyddost ti am lyfrau?"

"Mi driais am job llnau blychau llwch ond ches i mohoni."

"Sgwn i pam?" meddai Adam drwy'i ddannedd. "Y fi oedd ddim isio chdi, dyna pam! Fydda'i ddim yn cymryd rhywun rywun ata'i fel bydd y Du Traheus."

"Be ddigwyddodd?" meddai Gregor yn cyfeirio at yr archoll.

"Bedio ichdi?" meddai Adam. "Ydi'r hancas yma'n lan?" Cadarnhaodd Gregor â'i ben. Ildiodd Adam i'w benthyg a'i dal i ochor ei ben.

"Wel, nos dawch rŵan," meddai Gregor, "dwi am y ciando."

"Ciando!" meddai Adam yn wawdlyd. "Pam na ddeudi di 'gwely' fatha pawb arall y crinc." Troes ar ei ei sawdl a diflannu i'r stafell gefn. Fel yr aeth iddi ail-ddechreuodd yr helynt a honno'n cynyddu bob gafael. Daeth sŵn enbyd fel cloc taid neu ddresal yn disgyn a sgrech yn ei ddilyn a honno'n darfod fel y caeodd Gregor ddrws y caffi ar ei ôl.

 

Gan nad oedd cloc larwm ar ei helw fe geisiodd Gregor aros yn effro'n ei wely drwy'r nos. Ond hepian wnaeth o tua'r tri yma a phan ddeffroes roedd blaen y wawr lwyd yn llenwi'r ffenest ac yn glasu'r parwydydd.

Y lle cynta'r aeth o, wedi codi, oedd i'r caffi dros lôn. Dim ond pump o'r gloch oedd hi erbyn dallt ond serch hynny llywciodd ei uwd a'i baned a'i gleuo hi am y llyfrgell heb din droi. Bu'n rhaid iddo ddisgwyl wedyn am hanner awr yn sefyllian yn stryd cyn i'r pyrth agor am chwarter i. Roedd y gwynt yn mynd drwyddo a'i esgyrn i gyd yn merwinio tu mewn iddo. O'r diwedd cafodd ddangos ei fathodyn a chael mynd i mewn.

"Wyt ti am sefyll tu allan drwy'r bore?" gwaeddodd y Du Traheus o'i bulpud. "Tyd i mewn, wir dduwiau, mae'r drws yn 'gorad."

"Ydi'r diawl yn byw ac yn bod yma?" meddyliai Gregor wrtho'i hun. "Bore da," meddai.

"Ydi hi?" meddai'r Du Traheus. "Dwi'n amau. Rŵan, at dy waith."

Roedd yn ddrwg gan Gregor fod y gwaith a wnai'n anghywir, ond gan na soniwyd am amgenach techneg fe ddaliodd ati am y tro. Yn ystod ei amser cinio piciodd i'r brif fynedfa a chwilio'r rhestr fawr. Cafodd hyd i'r adran y chwiliai amdani. ADRAN GYFEIRIO. Drws nesa, bron. Dau funud fyddai o. Pwyntiodd at ei fathodyn a chafodd fynediad.

"Chwilio am y llythyren C ydwi," meddai wrth y porthor.

"Wel chwilia rhwng B ac CH 'ta," meddai hwnnw'n dylyfu gên.

"Rydych yn camddeall," meddai Gregor yn bwyllog. "Hoffwn ddyfod o hyd i'r adran y mae'r llythyren C yn gychwyn i bob gair ynddi."

"Wel chwilio rhwng B ac Ch ynde." Dangosodd â'i fys y ffordd i fynd.

A Gregor yn mynd heibio castanedd, cestyll, castellydd castiog nes cyrraedd catalogio. Ar sail ei fathodyn cafodd fenthyg cwpwl o lyfrau ar y grefft honno a'i gneud hi'n ôl i'r Adran Fytholeg heb i'r Du Traheus sylwi ei fod o'n hwyr.

Aeth yn syth at ei ddesg ond wrth droi'r gornel tuag ati cafodd fod Adam Laban yn eistedd arni a'i freichiau ymhleth. "Helo Adam!" galwodd wrth gerdded tuag ato.

"Lle ti 'di bod?" gwaeddodd hwnnw'n neidio i'w draed ac yn rhuthro i gydied yn fflapiau siaced Gregor. "Tro dy wep gael imi roid un ichdi."

"Gwll fi!" meddai Gregor mewn braw a rhoes Adam sgwd iddo at ei ddesg. "Eistedd!" meddai. Gwasgodd Gregor i'w le y tu ôl iddi, roedd yn rhaid iddo fynd i'w gwrcwd i ffitio, fel pry copyn mawr mewn bocs matsys bach. Adam yn eistedd eto ar gornel y ddesg a sbio arno fel petai'n aros am eglurhad. Sylwodd Gregor fod crawen o waed wedi ceulo'n ddu yn ochr ei glust ac wedi rhedeg i rych yr hen graith ar ei foch. Nid oedd wedi ymolchi na chribo'i wallt, yn ôl pob golwg, ac roedd oglau mwg a diod yn codi ohono fel o domen."Wel?" meddai'n filain.

"Wel be?" meddai Gregor yn ceisio tynnu'r llyfrau ato yn lle bod Adam Laban yn eistedd arnyn nhw.

"Wel, lle wyt ti 'di bod?" Pwyntiodd Adam at ei arddwrn er nad oedd oriawr arno. "Ti'n hwyr," ysgyrnygodd.

"Gwell hwyr na hwyrach," meddai Gregor yn nawddoglyd. "Tydi'r Du Traheus heb ddweud dim byd wrtha'i am fod yn hwyr ac iddo fo dwi'n atebol 'dwi'n meddwl, ia ddim, Adam?"

"Ia, ac i finnau mae'r mwnci hwnnw'n atebol," poerodd Adam. "Wyt ti wedi dal yr adran yma'n ôl am hydoedd hefo dy galifantio ac wedi rhoid y Du Traheus mewn cawl poeth hefyd."

"Choelis i fawr," meddai Gregor. "Chdi'n bennaeth ar y Du Traheus? Llnau blychau llwch ydi dy waith di i fod, ti'm yn bennaeth arno fo."

"Tyd hefo fi," meddai Adam yn colli mynedd ac yn ei halio ar ei ôl fel doli glwt at bulpud y Du Traheus. "Tyd lawr o fanna'r epa blewog," gorchmynodd ar y Du Traheus. Daeth hwnnw i lawr a sefyll ger eu bron, roedd ei gefn mor grwm a chrwban a'i figyrnau'n llusgo ar lawr. Cododd ei ben a sbio'n dinslip o'r naill i'r llall heb ddweud un gair. Cododd Adam Laban gyfrol drwchus o fwrdd gerllaw. "Pethau garw ydi llyfrau am godi isio cysgu ynde?" meddai'n pwyso'r gyfrol yn ei law ac yn ei chodi'n uchel uchel ac yn ei waldio i lawr i ganol corun yr hen ŵr. Cwympodd y Du Traheus yn flêr ar ei fol ar lawr a'i freichiau a'i goesau'n gwneud croes a'i sbectol wedi fflio at odre'r pulpud oddi wrtho.

"Paid â gadael i hyn ddigwydd eto, Du Traheus," gwaeddodd Adam Laban yn rhoi cic anwaraidd iddo yn ei asennau.

Wedi iddo fynd dyma Gregor ar ei liniau yn ochr ei feistr a'i droi'n ofalus ar ei gefn. Estynnodd gwpwl o lyfrau clawr meddal a'u sodro'n glustogau o dan ei ben a gosod ei sbectol yn ôl ar ei drwyn. Aeth i gwpwrdd y pulpud a thywallt gwydraid bob un iddyn nhw ac wedyn ceisio arllwys dogn y Du Traheus lawr ei gorn gwddf ond ar hyd ei locsyn a'i ddillad aeth y rhan fwyaf. Ta waeth, bu'n ddigon i'w ddadebru ac yn y munud galwodd am wydraid arall a'i lyncu ar ei dalcen. "Dyna welliant," meddai. Cododd yn ei eistedd. "Rŵan," meddai'n ysgwyd ei fys yn ddifrifol, "chaiff hyn ddim digwydd eto."

"Neith o ddim, syr," addawodd Gregor.

"Ydan ni'n gwybod be ydio?" holodd y Du Traheus.

"Be'di be, syr?" meddai Gregor.

"Be sydd ddim i fod i ddigwydd eto."

"Fi'n bod yn hwyr yn ôl o 'nghinio, syr."

"O," meddai'r Du Traheus. "Wel, paid â bod yn hwyr yn ôl o dy ginio 'ta. Dyna hynna wedi'i setlo."

"Mae'n ddrwg gen i am achosi trafferth ichi. Ydio'n wir ei fod o'n bennaeth arnoch chi, yr Adam Laban yna?"

"Dyna mae'n nhw'n ddweud wrtha'i," meddai'r Du Traheus yn freuddwydiol. "Ond mae na feistr ar Mistar Mostyn decini hefyd, toes?"

"Ond llnau blychau llwch ydi'i waith o i fod, ddylis i," meddai Gregor mewn penbleth.

"Ia," meddai'r Du Traheus. "A dim ond y fi sy'n smocio. Mae'r adrannau eraill i gyd yn ddi-fwg ond mi fynnais i'r hawl i gochi 'nghetyn rŵan ac yn y man ac mae gen i'r hawl i gadw gwirodydd a bara caws a ballu hefyd. Sut fywiwn i yma fel arall, dŵad?"

"Yma ydach chi'n byw go iawn?"

"Wel ia, lle arall? Dwi'n dallt bod gaeaf arall ar y gorwel, ond tydwi'n goro poeni dim am bethau felly fan hyn nacdw. A thydwi'n talu dim rhent er na cha'i ddim mynd allan wedyn bedi ambell swadan gan Adam Laban yn ochor hynna i gyd?"

"Oes ganddo fo hawl i fod yn bowld hefo chi?"

"Nagoes, nid yn bowld," meddai'r Du Traheus yn byseddu'r ŵy oedd yn codi ar ei gorun. "Geith o fod yn ddigwylidd, yn hy hyd yn oed ond nid yn bowld yn ôl fy nghytundeb gwaith. Ond wedyn does nemor o wahaniaeth rhyngddyn nhw felly fydda'i ddim yn cwyno."

"Ond powld yn hytrach na digwylydd ydi'ch galw chi'n 'epa blewog' ia ddim?"

"O, dwn im," meddai'r Du Traheus yn ystyriol. "Na, hyfdra ydi hynny, yn fy marn i."

"Chi ŵyr eich pethau," meddai Gregor yn dechrau amau tybed oedd ei feistr yn swllt crwn.

 

Dysgodd lawer o'i lyfrau benthyg. Cardiau ac nid tudalennau oedd eu hangen arno, a blychau i'w dal. Pan holodd y Du Traheus am rhain cyfeirwyd o at hen storfa heb glo arni lle cafodd y cwbwl lot. Dysgodd lenwi cardyn i bob llyfr a'u dosbarthu'n ôl y wyddor, blwch i bob llythyren. Ni bu fawr o dro chwaith yn sylweddoli fod yn haws cychwyn mewn un man a dilyn hyd braich ar hyd y rhes yn hytrach na chipio cyfrolau o hwnt ac yma ac wedyn anghofio lle i'w cadw. Ni ddangosai'r Du Traheus unrhyw ddiddordeb yn ei waith. Cai Gregor lonnydd i wneud fel fyd fynnai. Nid âi Gregor allan am ei ginio, arhosai i rannu tamaid efo'i feistr yng nghodre'r pulpud. Yr unig un a ddeuai ar ei gyfyl wrth ei ddesg fyddai Adam Laban pan ddeuai beunydd i wagio blwch llwch y Du Traheus ac i gadw llygad ar bethau.

Ar waethaf diffyg diddordeb ei bennaeth llwyddodd Gregor ar ei liwt ei hun i gofrestru hyd braich oddi wrtho i bob cyfeiriad o lyfrau o fewn ei ddiwrnodiau cyntaf yn y gwaith. Gweithiai'n ddygn ac ni chai amser i hel meddyliau. Un pnawn rhydd gafodd o'n ystod yr amser yma a gwnaeth yn fawr o'i gyfle i brynu chydig o anghenion at ei fyw, sanau, tronsys, sebon, papur sgwennu, amlen a stamp, a bag lledr i'w cadw'n dwt. Ar un o'r stondinau ail-law ger y parc gwelodd set radio a holi'i phris. Wedi cael praw fod y batris yn gweithio fe'i prynodd er nad oedd hi'n ffiaidd o rad. Ar stondin arall cafodd ffram ffoto o fetel gwyn a ffenest hirgron ynddi i ddal llun. Bechod na fyddai ganddo lun o Alice i'w roi ynddi. Sut bu mor flêr, meddyliai, wrth agor y darn cefn a sefyll y ffram ar y bwrdd. Ta waeth, roedd ei lofft yn fwy cartrefol o chydig rŵan a fyntau fel pioden a'i bethau bach o'i gwmpas fel hyn yn ei nyth oer. Cododd weiren y radio a chwarae efo'r nobyn tiwnio, ei glust yn sownd i'r twll sŵn ac o'r diwedd daeth drwy'r sŵn ffrio a gwichian furmur lleisiau o'i wlad ei hun. Er prined y dalltai o'r geiriau egwan drwy hisian tonnau'r awyr roedd yn ddigon i bwysleisio'r pellder rhynddo a'i fywyd cynt. Diffoddodd y set a'i gwthio i waelod ei fag. Tynnodd ato ddalen o bapur a chodi pin sgwennu. Doedd o rioed wedi sgwennu ati o'r blaen, ystyriai, a digon chwithig oedd trio gwneud hefyd. Byddai dweud y gwir plaen yn siom iddi, nad oedd o wedi llwyddo i gyrraedd nunlle go iawn, ac efallai pe deuai pethau'n well cyn hir y byddai'n difaru cwyno'i fyd ar hyn o bryd... ond doedd dim diben codi gobeithion gweigion chwaith... Be alla'i ddweud? Gadael iddi wybod ei fod wedi cyrraedd yn saff, ei fod o'n dal i'w charu, ei fod o'n meddwl amdani a ballu a ballu... Wedi cyfeirioi'r amlen a gwasgu'r stamp i'w le cododd ei olygon tua'r ffenest a gweld cysgodion nos yn dechrau hel. Roedd hi'n hwyr glas iddo fo hel ei draed i'w waith, shifft nos eto, pam goblyn fod angen llyfrgellwyr arnyn nhw ddydd a nos? Ar ei ffordd allan gollyngodd y llythyr i flwch post y gwesty yn ochor drws Mrs Laban a'i nelu hi ffwl sbîd am y llyfrgell erbyn chwech.

Penderfynasai'r bore hwnnw y cymerai un silff ar ei hyd heno a cheisio cofnodi'r holl lyfrau oedd arni. Byddai'n waith hir, tybiodd, wythnosau o waith, efallai, ond fe sylwai'r Du Traheus ar ei ymdrech, fe gai weld ei fod ar ben ei bethau ac fe gai ganddo'r ganmoliaeth a haeddai. Er mwyn asesu'r hyn oedd o'i flaen aeth am dro rhwng y silffoedd ar ei hyd. Buan y canfu mai dim ond i ardal gyfyng o gwmpas ei ddesg roedd y golau'n cyrraedd, lled dywyll oedd y silffoedd pella'n ymestyn draw ac yn cael eu llyncu yn y llwydwyll llychlyd. Hyd yn oed nepell o'i ddesg roedd trwch tenau o lwch yn pylu sglein coed y llawr ac ôlion ei draed yntau i'w gweld yn gysgod trwyddo. Sylwai ar sŵn ei draed yn pylu fel y tewychai'r llwch dan draed. Roedd twnelau cyfyng yn agor bob yn deirllath o'r brif adwy, twnelau o silffoedd a'r rheini'n ymestyn i'r entyrchion uwch ei ben. Doedd Gregor ddim yn cofio troi cornel ond pan edrychodd drach ei gefn roedd chwincian y golau uwch ei ddesg wedi mynd. Tynnodd gyfrol drwchus o gornel silff a'i gosod yn garreg filltir ar ganol y groesffordd lle safai. Dewisodd droi i'r dde wedyn. Roedd twnelau eraill yn arwain i'r dde ac i'r chwith eto. Cerddodd a'r llwch yn codi. Cerdded nes oedd y chwys yn dew ar ei dalcen a'r llwch yn crensian ar ei ddannedd. Dim i'w glywed heblaw sgrwnsian ei draed fel ar eira sych a fyntau'n meddwl am y rheini gerddodd y lleuad am y tro cyntaf erioed a'u hôl traed dal yno'n oes oesoedd yn dyst i'w dyfod, yn meddwl am yr helwyr cregin yn cerdded glennydd y cynfyd ac ôl eu traed nhwythau wedi aros yn nhywodfaen yr hen arfordiroedd. Tybed fyddai olion ei draed yntau'n para cyhyd? Digon o waith. Suddai hyd ei fferau i'r llwch, llenwai'r powdwr ei sanau a'i sgidiau. Roedd gwe pry copyn yn bachu yn ei wallt ac yn ei wyneb. Tynnodd ei fysedd ar hyd blaen silff a'r eira cynnes yn ffrydio'n ddistaw fel tywod berwi wyau i'r llawr. O dipyn i beth deuai'r gwe yn gaglau ar draws ei ddannedd, ceisiai ei hel draw â'i ddwylo ond roedd o'n ymdynhau amdano bob yn dipyn nes cau'n gortynau lastig o'i flaen. Cydiodd mewn llyfr mawr trwm a'i luchio i'r rhwydi llwydion a'r llyfr yn siglo'n ara deg arnyn nhw heb hitio'r llawr. Lluchiodd un arall ar ei ben a phwysau'r ddau yn sigo'r gwe ac yn plymio â chlep i'r llwch. Troi'n ôl oedd piau hi. Ond lle bu'n cwffio drwy'r gwe gynnau roedd y cortynau wedi cau eto y tu ôl iddo a fyntau'n gorfod brwydro'n saith waeth. Cydiai'r gwe ynddo, suddai'i draed i'r llwch, baglai, syrthiodd unwaith a phwysau'r rhwydi sychion yn gwasgu ar ei gefn ac yn ei lethu a fyntau wedyn yn gorfod ymlusgo ar ei fol fel llysywen yn y gwair. Dofwyd peth ar y cnoi ar ei fol pan gafodd gyfrol lydan ar ganol croesffordd. Ond wedi mynd yn bellach daeth at gyfrol arall debyg ac un arall wedyn. Ymlaen ynteu'n ôl yr âi? "Meistar!" gwaeddodd ond roedd gwlân cotwm y gwe'n dal y geiriau'n dynn. Prin bellach ei fod yn gweld ei law o flaen ei wyneb. Cwffio am ei wynt. Roedd y gwe'n cydied yn ei draed ac yn tynnu yn ei wallt. Hyn i gyd er mwyn cofnodi rhyw lyfrau sychion na fyddai neb byth yn eu darllen? Llyfrau na wyddai neb amdanyn nhw hyd yn oed? Damniodd y llyfrau, damnio'r llyfrgell, y ddinas a phawb ynddi. A'i law'n canfod bwlch yn y gwe. Gallai fustachu i'w draed fan hyn a medru gwthio drwy'r gwe fel pe trwy storm o genllysg a gwynt. A'r storm yn llacio. Y gwynt yn gostegu. Mîn yr ias yn pylu. Clywai ei galon yn dyrnu fel injan a fyntau'n rhedeg yr hanner canllath olaf yn baglu ac yn straffaglu tuag at y llygedyn o olau a welai'n chwincio ym mhen draw'r twnel.

Sefyll wrth y ddesg bach oedd y Du Traheus yn bwrw golwg dros y llyfrau a photel ganddo'n y naill law a dau wydr yn y llall a dal i sefyll wnaeth o a Gregor Marini'n ffrwydro o'r twnel llyfrau ac yn cwympo'n glewt ar lawr o'i flaen gan dynnu corwynt o lwch a gwe pry cop ar ei ôl.

"Llymed?" meddai'r Du Traheus yn tywallt jochiad da bob un iddyn nhw o wirod ceirios. "Llychlyd draw fanna, tydi?"

Crafangodd Gregor am y ddiod a'i lyncu. "Llychlyd, syr, yndi. Ydach chi 'di bod lle mae'r rhwydi'n cau?"

"Dwi'n nabod pob twll o'r lle'ma, achan, a phob pry copyn - mae rhai mawr i'w cael wyddost, maen nhw'n werth eu gweld... ta waeth, welist ti'r un, mae'n amlwg..."

Ysgwydodd Gregor ei ben. "Dipyn o adran sgynnoch chi," meddai wedyn a fyntau wrthi'n hel y gwe o'i wallt ac oddi ar ei ddillad.

"Be ydi'r cardiau yma ar dy ddesg?" holodd y Du Traheus yn troi un ohonyn nhw yn ei law'n chwilfrydig. "Cymerais gip ar dy waith a chdithau'n absennol rŵan, be ydi hyn sgin ti ar y gweill yma?"

"Cofnodi'r adran, syr. Un cardyn i bob llyfr, un blwch i bob llythyren o'r wyddor. Mae gen i'n barod dros bum mil wedi eu cofnodi ichi."

"Gorau cofnod, cofnod cof," meddai'r Du Traheus. "Pum mil, ia?"

"Ia, syr."

"Ac mi wyt tithau'n rhywbeth ar hugain?"

"Saith, syr."

"Wel, mi fydd yn rhaid iti fyw i fod yn dri chant a phymtheng mlwydd oed felly cyn cei di orffen." Gosododd y cardyn cofnodi'n ofalus ar y bwrdd. "Well imi beidio dy gadw di."

"Syr," meddai Gregor a fyntau'n ei wasgu ei hun yn ôl ddesg, "ydi holl fytholeg y byd yma?"

"Nacdi," atebodd y Du Traheus. "Dim ond geiriau sy'n fan hyn. Digon o eiriau i lenwi un gornel bach o'r jig-so mawr. Maen nhw'n trio fy nghael i ildio'r gweddill, ond mae fy ngeiriau i'n dŵad o'r Gogledd Dir, chymeran nhw mo'u rhwydo a'u dal rhwng cloriau trymion. Mae'n geiriau ni'n licio chwarae ar yr awel yn nail y coed. Mae'n nhw'n hel yng ngheseiliau'r nentydd ac yn llenwi'r holl ddyffrynoedd. Tydi'r awdurdodau ddim yn licio meddwl am bethau felly, nacdyn? Geiriau heb awduron? Wyddost ti be ydi glain neidr? Wyt ti'n meddwl y byddwn yma pe'i cawn yn ôl? Wyt ti'n dallt mai dy waith di ydi fy helpu fi? Wyt ti?"

"Wel," meddai Gregor yn dallt dim byd. "Chi 'di'r bòs." Rhwystrodd ei hyn rhag dylyfu gên nes i'r Du Traheus droi'i gefn ac ymlwybro'n ôl i gyfeiriad ei bulpud. Dechreuodd loffi drwy'r llyfrau o'i flaen. Pum mil yn y bag, meddyliai. Dim ond pum deg wyth miliwn a hanner i fynd felly, os oedd y Du Traheus yn dweud y gwir. Mae'n rhaid fod yna ffordd haws na hyn. Gwaith diflas hefyd. Mytholeg? Ai am honno oedd y llyfrau yma'i gyd yn sôn? Dechreuodd bori yma a thraw ynddyn nhw. Darllen am y tylwyth teg yn eu hogofeydd yn difyrru'r dydd â'u chwarae peli aur ac yn crwydro'r nos yn anweledig i bawb ond i blant a hen bobol. Gwelai dair pelen aur yn treiglio o law i law a'u lliw yn llifo'n felyn mewn ffrwd ddu. Clywai eu lleisiau main yn gwichian ac yn chwerthin. Gallai weld eu llwybrau'n gweu rhwng boncyffion coed derw a llawr gwyrddlas anwastad y goedwig yn swigod drosto o gerrig crwn, esmwyth dan eu cwrlidiau o fwsog. Gallai glywed sŵn afon yn clebran. Yn y pellder gwelai rimyn golau lle 'roedd y goedwig yn darfod ac wrth ddynesu gwelai'r caeau a'r borfa'n chwyddo rhwng rhwydi'r waliau. Cyfeiriodd ei gamre tuag at bluen o fwg a godai, fel y gwelai o ddŵad yn nes, o gorn simdde tyddyn â llond y buarth o'i flaen yn crafu o ieir a chwiaid. Curodd y drws a hwnnw'n agor yn wichlyd ohono'i hyn, roedd ei odre wedi ei dreulio fel petai wedi ei gnoi gan gi. Codi cawl i ddysglau oedd yr hen wreigan yn ei chap gwyn a'i dillad duon, a'i gŵr llaeswallt llwyd yn dal ei fowlen at ymyl y crochan. Eisteddodd Gregor wrth y bwrdd a chafodd yntau gawl a hwnnw'n llawn llygaid tatws a moron yn nofio. Ar hynny dyma ferch ifanc i mewn wedi ei gwysgo run fath â'r wreigan - roedd hi i'w gweld yn rhy ifanc i fod yn ferch iddyn nhw, tybiodd, wyres efallai - rhoes ddwy dorth ar ganol y bwrdd. Pan holodd Gregor am y tylwyth teg a'u peli aur dechreuodd yr henwr chwerthin ac aeth i estyn cyfrol fawr a darllen ohoni a Gregor yn clywed y geiriau'n llifo fel ffrwd o'i enau ac yn eu gweld yn codi fel gloynnod byw oddi ar y tudalennau ac yn dringo hyd fariau'r haul machlud o'r ffenest a'r llestri ar y dresal yn cochi a'r cysgodion yn dyfnhau a'r geiriau'n dal i godi ac yn hedfan i'r haul yn ddu fel brain yn erbyn yr machlud coch. Fel y suddai'r haul i frigau'r coed agorai llygaid cochion ym marwor yr aelwyd a'r tân yn suo'n dawel a llais yr henwr wedi tewi a Gregor yn synhwyro presenoldeb newydd.

"Cysgu ar y job, ia?" meddai Adam Laban yn sbeitlyd. "Be sy matar hefo'r gwely acw? Cneuen dan y fatres?"

"Hepian, Adam, mi weithiaf yn hwyr i wneud iawn amdano..."

"Geith y Du Traheus dalu am hyn," meddai Adam Laban yn troi i fynd. "Ac oni bai bod mam yn mynnu dal danat mi fyddai'n ddu ar y diawl arnat tithau."

Teimlai Gregor gywilydd iddo gael ei ddal yn cysgu wrth ei waith. Estynnodd ato gyfrol arall a dechrau pori ynddi ond ni allai ganolbwyntio. Roedd y llythrennau'n nofio'n hy o flaen ei lygaid a'r geiriau eto'n codi oddi ar y papur gwyn nes rubannu'n araf o gylch ei ben fel bronfreithiaid yn dilyn ei gilydd ar hyd y rhesi a'i amrannau yntau'n cau fel caeadau ffenestri siopau nos. Cafodd ei fod yn sefyll ar ganol maes a chaeau a chloddiau a choed o'i gylch hyd y gorwel. Uwch ben roedd haul mawr yn pwyso a hwnnw i'w glywed yn agos agos uwch ben. Roedd hi'n boeth, pob anadliad yn llosgi'i lwnc. O dan ei draed clywai'r ddaear yn galed ac yn sych. Nid oedd gwynt nac awel yn symyd yn nrain y cloddiau. O bell deuai ato leisiau dynion, yn cynyddu'n raddol, lleisiau'n gweiddi ac yn chwerthin. Y gwres yn llenwi'i wddf a'i ffroenau. Sŵn traed yn curo'r pridd. Yna fe'i gwelodd nhw. Dwsin, ugain ohonyn nhw, rai mewn lifrai eraill yn gwisgo dillad pob dydd. Fflachiai llafnau bidogau yn yr haul, clonciai gynau peiriant yn erbyn gwregysau bwledi, a dau o'r dynion yn cludo lli draws a'i dannedd yn chwerthin yn yr haul. Gwthient lanc ifanc o'u blaen, ei wasgod a'i grys gwyn yn agored a'i hances goch yn llac am ei wddf. Ceisio cadw ar ei draed oedd yntau a'r milwyr yn ei wthio yn ei gefn ac yn ei gicio. Yr haul yn taro ar foteli'n mynd o law i law. Baglodd y llanc unwaith a disgyn ond cydiwyd ynddo a'i wthio ymlaen a phan geisiodd blygu i godi rhywbeth a gollasai cafodd sgwd yn ei gefn a'i yrrodd bedwar cam. Roedd y lleisiau'n edwino, yn cael eu llyncu gan y gwres. Arhosodd Gregor yn ei unfan. Pan nad oedd un dim ar ôl ond suo'r pryfaid a churo'i galon dan ei fron mentrodd i'r lle buon nhw a phlygu i godi'r botwm a welai'n sgleinio ar lawr. Clywed siffrwd yn nail y coed. Awel yn codi. Cwmwl yn bygwth llithro dros yr haul. Ai dim ond fo oedd yn clywed y ddaear yn aflonyddu ac yn codi ac yn gostwng fel tonnau'r môr? Teimlodd ei goesau'n ildio oddi tano, ceisiodd sadio'i hun yn y clawdd ond roedd yn disgyn, yn disgyn drwy groen y ddaear a'r cerrig a'r pridd yn llifo i lawr am ei ben. Rhoes ei stumog dro y tu mewn iddo, rhoes ei dalcen glec wrth daro'r bwrdd.

Chwarddodd y Du Traheus. "Toes yna fyd hefo chdi," meddai'n rhwbio ochor ei ben. "Dim rhyfedd fod Adam Laban yn flin. Be wnae o 'tae o'n gwybod dy fod ti'n darllen y llyfrau?"

"Dwn i ddim be ddaeth drosta'i," ymddiheurodd Gregor. "Y tro yn y gwe wedi dweud arna'i, beryg. Ddaru o'ch taro chi?"

"Be ydi hynny i mi?" meddai'r Du Traheus yn cil-chwerthin. "Fydd gynnon ni ddim llyfrau ar ôl ffordd wyt ti'n eu llyncu nhw."

"Bedachi'n feddwl, syr?"

"Wel sbia," meddai'r llyfrgellydd yn cyfeirio at y llyfr y bu Gregor yn ei ddarllen a hwnnw ar agor ar y ddesg o'i flaen. Neidiodd Gregor i'w draed. Nid oedd ond papur gwyn ar ôl.

"Y geiriau!" meddai Gregor. "Lle'r aeth y geiriau?"

"Dyna fydd yn rhaid ichdi ddarganfod," meddai'r Du Traheus yn awgrymog. "Tyd rŵan," ychwanegodd. "Mae gen i frandi eirin duon go arbennig yr hoffwn ichdi ei flasu."

 

Pennod 4

 

Mae'r gwres yn crynnu fel cidyll uwch sofl y bronnydd a'r awel yn glos fel anadl ci. Rhwng y bonion pigog cyfyd aroglau chwys y pridd yn drwchus ac yn drwm. Mae hi'n syllu i fôn y clawdd lle mae'r rhedyn yn glustogau dan gysgod yr helyg. Gwasgod yn dorch, ei wasgod o. Ei chodi. Mae botwm ar goll arni. Ar donnau'r gwres daw i'w chlust sŵn lleisiau, draw am y cloddiau â hi, lleisiau'n gweiddi. Cynnwrf o liwiau'n symud rhwng y brigau. Pennau'n plygu'n ddygyn dros eu gwaith. Chwerthin creulon, chwil. Dros y caeau tuag ati mae ei lygaid gleision yn nofio ac yn suddo, yn chwilio amdani, ond mae'r dwylo geirwon eisoes yn tynhau eu gafael, dannedd lli fawr yn gostwng drosto. Mae o'n codi'i law i'w sadio'i hun, yn bachu awyr, dychryn lond ei lygaid, lond ei floedd. Ei floedd yn boddi'r chwerthin. Ei floedd yn boddi'r hindda ac yn ei llenwi â ias angheuol. Ar ei phennau gliniau mae hi'n sibrwd "Deicws!" ond mae'r pnawn yn llawn distawrwydd, y coed eto'n gwisgo'u dail, adar yn cylchu'n araf. Mae'i chysgod hithau'n llithro ar hyd y clawdd a'r wasgod yn dynn at ei gruddiau. Nid yw'n aros i godi'r cap gwyn sy'n cwympo oddi ar ei phen. Erbyn cyrraedd y lle nid ar ôl ond ambell botel wag a stympiau sigarennau, a gwaed gludog ar y glaswellt ac yn bwll ar lawr. Ar ei phennau gliniau cyfyd hithau'r gwaed i gwpan ei dwylo a'i lyfu oddi ar ei chledrau a'i dagrau'n boeth a'r gwaed yn hallt ar ei dannedd. Dim ond un gair sydd ar ei gwefusau: "Pam?" Erbyn iddi agor ei llygaid mae'r hwyr eisoes yn hel yng ngheseiliau'r cloddiau a'r gwybed bach yn symud rhwng y sêr. Ym môn y clawdd mae'r gwlith nos yn oer ar y rhedyn a hithau ar ei hyd ar lawr heb glywed dim o gerdded y pryfetach dros ei choesau a thrwy'i gwallt. Fel pe na bai dim yn bod go iawn try ei hwyneb tua thref a'r wasgod yn dynn yn ei dyrnau gwaedlyd a'i gwallt ar draws ei dannedd a'r rheini'n clecian.

 

 

*

 

"Wyddoch chi," meddai Gregor a nhwthau'n llymeitian brandi eirin duon wrth odre'r pulpud. "Wyddoch chi, y sôn yma gynnau am y Gogledd Dir?"

"Gwn," meddai'r Du Traheus.

"Dwi wedi clywed dipyn o hanes y lle," meddai'n trio cofio rhywbeth amdano fo. "Mae nhw'n gwisgo'n hen ffasiwn yno, tydyn?"

"Mae nhw'n cadw at yr hen bethau, yndyn tad. Deu, mi fasa'n werth iti glywed y straeon sgynnyn nhw. Does yna fawr ar ôl yno sy'n eu gwybod i gyd." Cnociodd y Du Traheus ei getyn yn y blwch llwch a'i osod yn ofalus ar ei ymyl. Roedd golwg bell yn ei lygaid a Gregor yn dychmygu ei feddwl yn crwydro fel cwmwl ar hyd y Gogledd Dir.

"Ydio'n bwysig fod y chwedlau i gyd yn cael eu hel?" holodd yn ddiniwed gan dywallt gwydraid arall iddo'i hun a'r tameidiau ffrwythau yn y botel yn llithro i'r gwddw. Beth bynnag oedd gan y Du Traheus yn stwytho yn ei wirod roedd o'n ychwanegu blas rhyfedd ar y naw.

"Siŵr iawn ei fod o'n bwysig," meddai'r Du Traheus yn fyfyriol. "Mae'r awdurdodau am gofnodi pob wan jac ohonyn nhw, fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl a ballu neu fydd dim byd i'w roi yn yr amgueddfa erbyn byddan nhw wedi eu gwastrodi'n llwyr."

"Un o'r Gogledd Dir ydach chi?" holodd Gregor er mwyn dallt pethau'n iawn.

"Ia, mysg llefydd eraill," meddai'r Du Traheus yn tynnu'i law dros ei locsyn. "Ac mi dwi cystal chwedleuwr â neb ar affeth hon y ddaear, mi gurwn y gorau eto, heblaw Ddail Coed, hwyrach. A dyma finnau'n fan'ma'n geidwad carchar geiriau, myn Llaw Gyffes."

"Dach chi'n difaru dwyn y geiriau felly?"

Edrychodd y Du Traheus yn synn arno. "Ddygis i ddim byd, Gregor bach. Y fi gafodd ei ddwyn a'i ddal yn gaeth, nid y geiriau. Goruchel garcharorion, wir, tydi Mabon ddim ynddi hi, na'r pen byngalo Gwair yna. Neb wedi 'chael hi'n waeth na nhw, neb wedi cael ei garcharu cyn dosted, choelis i fawr! Be amdana i? Ydw i'n cwyno fy myd fatha ryw gadi ffan? Nacdw. Diodde'r dynghedfen yn ddistaw. Ac yma fydda'i nes diwedd geiriau oni bai am lain neidr i'w thorri. Ia, yn fy sgîl i daeth y geiriau yma. Ac a finnau'n gaeth yma pa obaith sgin i o ganfod glain neidr y Gogledd Dir. Oni bai..." Pwyntiodd y Du Traheus at ei drwyn hael a wincio'n slei.

"Ddylis i eich bod chi wrth eich bodd yma," meddai Gregor. "Yn eich cragen danddaearol fan hyn yn byw ar hen freuddwydion ac yn slochian lysh. Fedrith pawb ddim byw yn yr hen oesoedd, cofiwch."

"Nid pawb ydwi," meddai'r Du Traheus. "Ac nid hen oesoedd ydyn nhw. Fydda'i'n teimlo weithiau fel can mlynedd yn ôl ac weithiau fel can mlynedd ymlaen, mil o flynyddoedd, pa wahaniaeth? Cylch ydio i gyd fel glaw, afon a môr. Peth yn felys a pheth yn hallt. A dim ond hyn rŵan sy'n cyfri."

"Dallt dim byd arnoch chi, syr," meddai Gregor yn clincian gwydrau â'i feistr. Yn ddi-daro, cododd lyfr clawr lledr cywrain oddi ar y bwrdd a'i droi yn ei law. "Ydwi'n dallt yn iawn eich bod isio rhywun i fynd drostoch i'r Gogledd Dir, feistr?"

"Pwy âi drosta'i, Gregor bach? Aderyn du a'i blyfyn sidan? Pwy gawn i'n ddigon dibynnol, yn ddigon dewr, yn ddigon o foi? Mae hi'n ddrwg yno, mae'na helynt fawr, fydd dim sôn am y Gogledd Dir cyn bo hir. Mae'r lle'n gyntefig, tydyn nhw'n credu dim mewn technoleg, does yna ddim peiriannau, dim trydan, dim teledu, ac mae'i dillad nhw'n hen ffasiwn ac yn glytiau drostyn nhw. Deu, dwi'n cofio fel byddai'r lle'n dew hefo twristiaid, dŵad i ryfeddu fydden nhw, o'r Taleithiau Breision am y ffin hefo'u fidios a'u camerâu, ond toes fawr o sôn am rheini bellach, ddyliwn. Rhy beryg, weli di. Pwy ddiawl âi drosta'i i le felly, Gregor?"

"Fi, syr," meddai Gregor yn ddistaw bach.

"Cythral o neb isio twllu'r lle, nagoes?" Nid oedd y Du Traheus fel petai wedi clywed. "Pethau diasgwrn cefn ydi ymwelwyr, fachgen, mi fydden nhw'n dŵad o'r blaen fel llygod o'u tyllau, yn eu coetsys moethus hyd y traffyrdd dan y mynyddoedd a nhwthau'n uchel eu cloch yn chwerthin am ben pethau heb wybod eu hystyr yn prynu heb nabod y pris. Ond y munud y daeth hi'n saethu mi sgrialodd y diawled i'w coetsys a ffoi. Does yna fawr o dramwy drwy'r twnelau erbyn hyn, mi wranta, dim ond rheini sy'n ffoi am y Taleithiau Breision sy'n mynd drwyddyn nhw erbyn hyn."

Pesychodd Gregor i'w ddwrn. "Os ydach chi'n chwilio am rywun i hel straeon ichi," meddai'n codi'i lygaid i wyneb y Du Traheus, "mi af i ichi. Yr holl ffordd i'r Gogledd Dir."

"Ia, Y Gogledd Dir." meddai'r Du Traheus yn codi'i getyn at ei wefus ac yn estyn am ei dân. Eisteddai'n ddywedwst gan syllu i'r pellder, heibio'r silffoedd, heibio'r llyfrgell, debygai Gregor, hyd lwybrau daearyddiaeth ei gof.

"Esgusodwch fi, syr," meddai Gregor yn wylaidd, "dweud oeddwn i..."

"Mi wn i'n iawn be ddywedaist ti, is-gatalogydd dan hyfforddiant," meddai'r Du Traheus. Caeodd ei lygaid. Cyn hir roedd ei ben yn hongian ar ei frest a'i anadlu trwm wedi mynd yn chwyrnu cyson. Estynnodd Gregor am y botel frandi eirin duon a'i gwagio i'w wydr. Roedd hi'n edrych yn debyg i noson hir a'r adran yn dechrau oeri drwyddi. "Sgwn i," meddai Gregor wrtho'i hun yn pwyso a mesur a fyddai gan y Du Traheus fara caws ar ôl yng nghwpwrdd ei bulpud ac a feiddiai gymryd tamaid. Rhoes ei wydr ar y bwrdd a chodi ar ei draed.

Agorodd y Du Traheus ei lygaid. "Gei di fynd," meddai.

"Ga'i fynd?" holodd Gregor.

"Cei."

"Be, i'r Gogledd Dir?"

"Ia."

"Go iawn?"

"Mi ddylat wybod na fydd y Du Traheus byth yn gwamalu." Cododd a'i gefn yn clecian. Esgynnodd i'w bulpud a chwilio un o'r drorsys. "Mae gen i drwydded yma'n rhywle eith â chdi," meddai. "Tyd â dy gardyn nabod yma." "Twt lol," meddai'n wfftiol, "tydi'r safon ddim fel y bydda fo, nacdi? Faint dalist ti am hwn?"

Dywedodd Gregor wrtho a'r Du Traheus yn chwerthin. "Hwda," meddai'n estyn y drwydded newydd i Gregor ac yn gwthio'r cardyn nabod yn wfftiol yn ôl i'w ddwylo. "Mi wneith hon yn well ichdi na chardyn nabod ffug, di-glem."

Diolchodd Gregor iddo a'i harchwilio'n synn. Cardyn mewn plastig a'i lun o'i hun ynghanol y plastig fel pry mewn amber â'r geiriau GREGOR MARINI. HELIWR CHWEDLAU. LLYFRGELL Y DDINAS. "Sut goblyn?" holodd.

"Mi gei'r manylion fory."

"Hwyrach y basa peiriant codi llais yn ddefnyddiol," cynigiodd Gregor.

"Nafsa," meddai'r Du Traheus yn swta. "Tydyn nhw ddim yn cydnabod technoleg fodern ac felly tydio'n tycio dim trio'i harfer hi hefo nhw - cwbwl gaet ti fyddai tâp gwag a'r geiriau'n dal i fflio'n rhydd hyd lle. Mae hi'n hwyr. Adre â chdi ar dy ben."

"Mae gen i lyfr cyfeiriadau," meddai Gregor yn awyddus i ddangos ei frwdfrydedd a fyntau'n codi o'i boced lyfr bach treuliedig a'i ddal ar gledr ei law. Yn ei law hefyd roedd botwm bach arian a hwnnw'n sgleinio'n loyw yn ei fysedd.

 

Wrthi'n chwythu ar ei lobscows ac yn taenu menyn ar ei fara yn y caffi dros lôn ar ei ffordd adra o'i waith toc wedi hanner nos oedd Gregor pan ruthrodd llencyn pengoch dros y trothwy a chamu'n bwrpasol ato. Adnabu Gregor o. Hwn oedd y bachgen y bu ond y dim iddo faglu Gregor ar risiau Ostan Laban y bore cyntaf hwnnw pan oedd bob dim yn newydd.

"Mae'n ddifeddwl ohonot, Gregor" meddai'r llencyn, "i aros allan tan berfeddion fel hyn heb dywyllu dy lety drwy'r dydd a finnau'n gorfod rhuthro o bant i bentan yn chwilio amdanat. Pa hawl sydd gen ti i darfu ar amserlen brysur negeswyr y swyddfa?" Eisteddodd yn ymyl Gregor ac estyn llaw at y bara.

Cymerodd Gregor arno anwybyddu ei hyfdra. "Fel mae'n digwydd bod, mi fues i yn fy stafell drwy'r pnawn."

"Waeth gen i am dy esgusodion," meddai'r pengoch yn siarad fel petai'n darllen o lyfr. "Yr unig beth ddywedaf wrthot ti ydi ei bod yn well iti fynd yn ôl i dy lofft ar fyrder. Mae dweud hyn ynddo'i hun yn fwy nag a ddylwn ei ddatgelu ichdi ond dwi'n fodlon mentro ychydig er mwyn cael dy gydweithrediad. Mae arna'i ofn y bydd yn rhaid ichdi adael y cawl'na a mynd". Llygadai'r bwyd a'r glafoerion yn glasu dros ei wefus.

Roedd ymddygiad y llencyn wedi lladd unrhyw awydd bwyd a fu gan Gregor. Roedd rhywbeth anghynnes yn ei gylch, rhywbeth yn ei lygaid, ffieiddiai ato ac ysai i fod o'i olwg. Cododd ar ei draed.

"Cofia di fynd yn syth i dy stafell," meddai'r llencyn gan estyn at y lobscows a chodi'r llwy.

 

Daeth cryndod drosto fel ci ar ôl cawod wrth iddo gamu o gynhesrwydd y caffi i nos y stryd. Tynnodd ei siaced yn dynnach amdano. Ar bob llaw codai'r adiladau'n uchel a dim ond streipen gul o awyr ddu rhynddynt a'r cymylau'n chwipio rhwng y toeau uchel. Rhwng ei draed roedd pyllau'r stryd crynu'n goch dan y golau o ffenest Mrs Laban drwy'r llenni tenau. Wedi agor y drws a'i allwedd dringodd ar flaenau'i draed drwy'r fforest cysgodion i'w lofft.

Ni wyddai beth i gredu ond eistedd wnaeth o ar y gwely ffram haearn i'w disgwyl, y fatres yn suddo dan ei ben ôl. Roedd hi'n oer, roedd o wedi blino ac roedd ei lygaid yn llosgi.

Ymhen hir a hwyr, ac heb glywed siw na miw o unman, cymerodd stwmp o ganwyll o'r ddrôr ac aeth am dro. Clywsai gan rywun fod yna stafelloedd i'r swyddfa ar un o'r lloriau uwchben. Efallai y byddai rhywun ar ei draed yno o hyd, efallai y cai wybod wedyn ynglŷn â'r neges. Doedd fawr o olwg y cai hyd i neb, serch hynny, a'r tŷ'n gwichian ac yn clecian fel cawr yn ei wely a phob man yn fagddu fawr. Chwythai awel oer drwy'r coridorau ac yntau'n gorfod cysgodi'r fflam â'i law. Chwaneg o risiau wedyn, dringo a dringo yn chwilio am ben draw. Craffu'n ofer am olau yng ngodre'r drysau. O'r diwedd a fyntau'n flin ac yn ddryslyd troes ar ei sawdl am yn ôl.

Tua'r hanner ffordd i lawr clywodd awel groes ar ei foch a chanfod ei tharddle ar ei law chwith: grisiau bach yn codi o'r prif rediad. Ym mhen y grisiau daeth at basej cul yn dirwyn am i fyny eto a'r carped ar ei hyd yn rhychau bler. Heibio'r tro gwelai ffram o olau melyn am ddrws cil agored a sŵn chwerthin yn cyrraedd ato o'r tu mewn. Safodd am ennyd i wrando. Lleisiau'n trafod. Nesâodd nes gweld cefn dyn hirfain â chôt gynffon wennol amdano'n siarad â rhywun o'r golwg tu ôl i'r drws ac yn cyfeirio bob hyn a hyn at ryw bapur oedd ganddo yn ei law. Roedd oglau tân coed i'w glywed a Gregor yn tybied clywed clecian brigau'n llosgi. "Mi fydd wedi cyrraedd erbyn hyn," meddai'r dyn hirfain, "cawn alw amdano yn y man... ond yn gynta, llymed arall?" Dyma'r dyn yn troi wysg ei ochor a Gregor yn gweld gwydr bach grisial yn ei law a golau'r fflamau'n fflachio drwyddo. Penderfynodd fynd yn ôl. Ond a fyntau'n troi daeth gwich o'r byrddau llawr dan ei droed a'r dyn yn y stafell yn chwipio ato gan luchio'r drws ar agor led y pen.

"Wel dyma inni gwrteisi newydd," meddai'n drwynsur yn gwthio'r papur i'w boced. "Clustfeinio o'r cysgodion, ai ie? Tyd i mewn yma inni gael dy weld! ... Felly y fo ydio, aie? Gwell y dyn ddaeth 'mhen y flwyddyn, dyna dy gêm di? Wel, mae'n ddrwg gen i dy siomi, syr, ond mi rwyt ti braidd yn rhy ddiweddar. Y fath hyfdra! Mae'r negeswyr wedi hen 'laru ar ddisgwyl wrthot ac wedi mynd i'w gwlâu. Wneith hyn ddim mo'r tro o gwbwl."

Ni wyddai Gregor beth i'w ddweud felly safodd ar y trothwy yn clywed gwres y tân yn mynd heibio'i glustiau a'r gwynt oer o'r pasej yn troelli o gwmpas ei bennau gliniau. Ciledrychodd o'i gwmpas. Nis synnwyd o weld Adam Laban yn eistedd yn braf ar y soffa ledr o flaen y tân, nis synnwyd fod hogan benddu lygatddu gul yn eistedd ar ei lin, ond braw a gafodd o weld wrth eu hochor neb llai na Llygad Bwyd. Hwnnw'n dal ei wydr grisial yn drwm yn ei bawen. "Tyd i mewn a chau'r drws, Gregor," meddai Adam Laban a'i lais yn crygu. "Mae gen i asgwrn i grafu hefo chdi."

Ni symudodd Gregor.

"Tyd," meddai'r hogan. Ciledrychodd Gregor arni ac ar ei ffrog hir yn cyrraedd hyd at ei thraed a fflamau'r tân yn disgleirio yn y sidan ac yn adlewyrchu ym myclau arian ei sgidiau. "Wel wyt ti am ddŵad? Eistedda fan hyn hefo ni ar y soffa."

Edrychodd Gregor ar y dyn ifanc yn y gôt hir. "Na chei," meddai hwnnw'n pwyntio at gadair galed. Eisteddodd Gregor. Roedd gwres y tân yn braf ar ei wyneb.

"Ti'n nabod Adam, twyt?" meddai'r hogan wedyn yn tynnu'i llaw drwy wallt Adam Laban. Chymerodd hwnnw ddim sylw ohoni, dim ond dal i rythu ar Gregor. Hithau'n gwenu'n braf. "Gwenllian Mwnwgl Wyn ydw i," meddai. "A dyma Sebedeus." Nodiodd y dyn côt wennol ato'n nawddoglyd. Troes hithau at y trempyn, "a dyma Llygad Bwyd."

"Ia, dwi'n ei nabod o," meddai Gregor. "Sut mae'r hwyl ers tro byd, Llygad Bwyd?"

"Wyt ti'n wir?" meddai Llygad Bwyd yn bigog. "Dwi'm yn dy nabod di, mêt."

"O, wela'i," meddai Gregor. "Felly mae'i dallt hi. Wel, mae'n ddrwg gen i os ydwi'n hwyr. Doeddwn i ddim ar fwriad clustfeinio tu allan, cofiwch, y neges gefais i oedd i fynd i'm llofft a'ch disgwyl chi'n fan'no." Sylwodd Gregor fod Sebedeus yn sbio'n ymchwilgar ar Adam Laban. Aeth rhagddo: "Wedi disgwyl yn ofer yn y llofft mi feddyliais fynd i chwilio am swyddfeydd y negeswyr rhag ofn fod yna gamddealltwriaeth wedi bod, fel yr ymddengys y bu."

Dal i aros eglurhad gan Adam Laban oedd Sebedeus, heb droi at Gregor.

"O'r snechgi," chwyrnodd Adam yn codi Gwenllian Mwnwgl Wyn oddi ar ei lin. Camodd ato a phlygu drosto, ei freichiau wedi eu sodro ar freichiau'r gadair a'i wyneb creithiog yn agos agor nes oedd yr oglau sur ar ei wynt yn codi stwmp ar stumog Gregor. "Sut feiddi di geisio codi amheuon ynglŷn a dibynoldeb gweision y tŷ hwn? Pan glywith mam am hyn fydd hyd yn oed hithau'n gweld drwyddach di! Mi fydd yma newid byd yma wedyn, washi! Mi anfonna'i amdano fo'r munud yma inni gael prawf o dy glwyddau di'r llipryn anonest, unwaith ac am byth!" Cymrodd gam tuag at y drws gan bwyntio'i fys yn ôl i wyneb Gregor.

"Fydd dim angen tarfu ar y bachgen heno, Adam," meddai Sebedeus yn bwyllog. "Mae'r honiad yn chwerthinllyd. Byddai'n sen ar enw da eich tŷ petaem hyd yn oed yn rhoi hanner clust i ensyniadau o'r fath. Waeth iddo heb a cheisio achub ei gam trwy feio eraill. Mae arna'i ofn y ffeindith na thycith hynny ddim iddo'n y wlad hon. Does dim angen i weithiwr dyfal fel y gwas coch ofni run ymhoniad o eiddo hwn."

"Diolch, Sebedeus," meddai Adam Laban yn ymlacio drwyddo ac yn camu'n ôl i ganol y stafell. Nodiodd i gyfeiriad Gregor â phoer ar ei wefus. "Mi ga'i di am hyn, Gregor."

"Heb ddallt oedd o, mwn," meddai Gwenllian yn fwyn. "Tydio'n ddiarth i'r parthau hyn? Dewch, waeth inni heb â ffraeo. Mi geith o'i holi gan y negeswyr fory. Yn y cyfamser mae o'n westai i ni. Felly cymer wydraid bach, Gregor, a chlosia at y tân."

"Diolch," meddai Gregor. Felly nid rhain oedd y negeswyr, meddyliai. Cymrodd lymaid o'i ddiod. "Os ydwi wedi drysu eich cynlluniau mewn unrhyw ffordd yna mae'n ddrwg gen i, wneuthum i mohono fo o'm gwirfodd eithr yn hytrach o'm hanwybodaeth."

"Anwybodaeth?" meddai Llygad Bwyd.

"Ia," meddai Adam Laban, "mae ganddo fo ddigon o hwnnw."

"Gwenllian sy'n iawn," meddai Sebedeus, "Awn ni i nunlle'n dadlau dros yr achos heno. Mae'n anghyfleus iawn, dwi'n cyfaddef, ond dyna fo, mae negeswyr y swyddfa wedi penderfynu, waeth mor eithriadol o anarferol y bo, eu bod am aros i dy weld di bore fory cyn codi cŵn Caer. Ac mi gei di ddiolch i'r drefn fod Mrs Laban wedi eu darbwyllo i'w adael tan hynny, yn groes, mae'n rhaid imi gyfaddef, i'm cyngor innau - ond pwy ydw i yn ochor negeswyr y swyddfa - ac felly yn rhinwedd fy swydd fel clerc y negeswyr, dwi'n dy wysio di i ymddangos ger eu bron am chwarter i, yn unol a'r orchymyn."