llen micro

 

Home
seren wen
white star
harbwr gwag
empty harbour
un diwrnod...
dwr mawr llwyd
big grey water
llen micro
amryw
dolenni / links

 

Casgliad o ddeg stori 'llên micro' ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, Awst 2004

dyma ni'n ôl

 

Diolch y Brenin

 

Erstalwm roedd yna gastell a brenin yn byw ynddo. Pan chwalwyd y castell a gneud y brenin yn ddigartref daeth ei was ato a rhoi swllt yn ei law. Ni wyddai'r brenin beth i'w ddweud.

“Mi fasa diolch yn ddigon,” meddai’r gwas.

“Croeso fy ngwas i,” meddai’r brenin.

 

 

Pam yma?

 

Heno mae'r lleuad yn llwy yn nw^r yr aber. Dim ond y lleuad sy'n wyn a chrwn a llawn fel llwy yn llaw dy fab. Dacw'r pentref sydd wedi mynd â'i ben iddo. Mae gen i go o'r adag oeddach di'n rhan o'r lle yma. Roeddach di'n dyst i be ddigwyddodd. Roeddach di'n rhan ohono fo.

 

Tylwyth Teg

 

Roedd y ddau'n wahanol iawn o ran eu hanian, wrth reswm. Pan fyddai'r tylwyth teg yn dŵad â phres dannadd iddi hi mi gaen nodyn o ddiolch mewn amlen dan ei gobenydd. Fyntau'n gosod magl i'w dal wrth erchwyn ei wely. Dywedais wrtho fo nad oedd trïo dal y tylwyth teg ddim yn syniad da iawn.

            "Ond mae arnyn nhw bres imi," eglurodd. "Naethon nhw anghofio amdana'i tro dwytha."

            "Dwi'n siŵr fod yn ddrwg ganddyn nhw," meddwn innau.

           

 

Eisiau lle

 

Dwi'n cofio ni'n rhedag ar hyd y prom. Nos Lun o Dachwedd, anghofia'i byth mo'r dyddiad.

"Fan'na," waeddis i yn nannadd y rhyferthwy. Roedd crib y tonnau’n taro fel glafoer drosom o ben y morgloddiau.

            Siwrwd o heli a gwynt yn ein cefnau'n hel ni i gyntedd gwesty. Gofyn oedd ganddyn nhw le.

            Cododd y ddynes ei phen o'i phapur ac edrych arnom. ‘Faint o le ydach chi isio?’ meddai.

 

 

Blingo Morlo

 

Mae nhw’n gwylio'r tân gwyllt a'u llewyrch yn lliwio'r eira. Mae'r ddau yn troi eu pennau i ddilyn bwâu o rocedi dros y bae. Ffrwydrad sêr yn goleuo cychod wrth y cei.

Ger y cei mae’r helwyr yn rhwygo’r croen oddi ar gorff morlo.

"Mae’n traed ni mewn dau fyd," meddai Teman.

“Ia," meddai hithau. "Ond dim ond mewn un byd ydan ni'n byw."

 

 

Hedfan Barcud

 

Ar lan y môr roedd cannoedd yn ymdrochi. Rhai'n hedfan bacrud dros y traeth. Rhai'n dallt i'r dim be oedd gwyliau'n ei olgygu. Nid San Tropê mo Mochras yn yr haf. Daeth llinyn i’m llaw a finnau’n cael fy nghodi nes oedd y gwynt yn corddi 'ngwallt a'm llgada'n dyfrio. A finnau'n codi dros y twyni a'r cortyn yn gylchau gwynion am fy ngharddwrn. Mochras ydi'r lle i hedfan barcud meddan nhw.

 

Sôn run gair

 

Doedd dim disgwyl i blant ddallt geiriau mawr yr holl areithiau. Aethon nhw i'r traeth. Suddodd yntau dros ei ben i bwll. Mae llwbyr yr afon yn anwadal ar ei ffordd drwy'r traeth. Mae hi'n dŵad a phyllau o'i dyfnderoedd ac yn eu symyd nhw draw weithiau, dro arall am yr ynys. Y peth dwytha welodd o oedd swigod yn codi heibio’i ben fel oedd o'n suddo.

Pan ddadebrodd roedd ei drwyn yn y tywod a’r dw^r yn ffrydio'n hyrddiau o'i grombil a'i chwaer a'i ffrind a'u dyrnau yn ei gefn. Wedi colbio'r môr ohono aethon nhw i'r lan gan ddweud wrtho fo sôn run gair wrth neb rhag ofn cael row am bron iawn boddi.

 

 

Canu’n iach yn y glaw

 

Diferion glaw fel gwythiennau ar hyd y ffenast allan. Finnau wedi 'ngwasgu i'm sêt a'm trwyn at y ffenast a chledar fy llaw at y chwaral oer. Roeddat tithau'n sefyll tu allan yn y glaw lawlaw â mi drwy'r gwydyr. Dwi'n cofio'r glaw fel pistyll rhwng dy fysedd a thros gefn dy law a chditha heb symud ond dal d'afael yn fy llaw drwy'r gwydr nes aeth y bws i ffwrdd.

 

Chwerthin fel yr haul

 

Mae'r rhyfel drosodd rŵan, ac mi rwyt tithau'n chwerthin fel yr haul. Dwi'n licio dy wallt fel'na wedi ei glymu'n dynn at dy war a dim ond cydynau'n cyffwrdd dy fochau. Wnei di glymu fy ngwallt i fel'na fel gwnes ti adag fy mhen blwydd? Weithiau bydd mamau plant eraill yn cyrraedd ac yn mynd â nhw adra. Dwi'n goro plygu'r llun i'w gadw, ac mae'r plŷg wedi torri rhych ar draws dy gydynau. Brysia ditha, mam, cyn i'r llun ddifetha.

 

 

Dra nnoeth

 

Y bora trannoeth roedd y gwlith yn codi a dail palmwydd torlannau'r deml yn llonydd. Yng nghysgod y dail yn llechwraidd aeth dynion ati i ysbeilio conglfeini'r hen ymerodraeth.

 

nôl i'r top