dyma ni'n ôl

i Owain
PENNOD UN
Dim yn y tywod dan lygad yr haul oeddwn i'n gorfadd ond
ynghanol glaswallt ac asgall a llanast caniau a photeli gwin. Nid haul y dwyrain
oedd yn gwneud imi chwysu ond haul cynta'r bora'n taro'r adlan. Doedd yna ddim
twrw bach na mawr o'r garafán, pwy bynnag oedd biau hi. Codi wnes i a cherddad
o'i chwmpas a'r gwlith yn drwch ar hyd fy fferau. Dim golwg o'r blydi beic. Beic
da oedd o hefyd, un du hefo un deg wyth gêr.
Roedd yr awyr yn wyrddlas a'r
ehedydd eisoes yn uchel uwch ben maes Mathrafal. Byddai heddiw'n ddiwrnod
chwilboeth arall yn ôl pob golwg. Sodrais fy sbectol haul yn sownd ar fy nhrwyn
a'i nelu hi am banad. Roedd yna bobol droednoeth yn tynnu casgeni piso ac yn
trio osgoi'r asgall. Roedd yna griw o fora‑godwyr yn trio osgoi'r mwd wrth
y tap dŵr oer. Diolch byth roedd Sbâr ar agor.
Prynais botelad fflat o wisgi clycha a chardyn newydd i'r ffôn bach.
"Drws nesa," meddai'r hogan yn y ffedog werdd pan ofynnais iddi
lle cawn i banad.
"Ti'n fore heddiw," meddai hogan y Gegin Ore a hithau'n gwenu.
Mi dynnais fy sbectol haul i
edrych arni. "Fues i rioed yma o'r blaen," meddwn i. Roedd ei chroen
yn llawn haul a'i llgada'n rhai duon a'i dannadd yn wyn. "Tyd a chwpan wag
imi hefyd," meddwn i wedyn. "Dwi'n licio lot o lefrith." Roedd
hi'n slaff o hogan heglog a'i ffedog wen yn llaes 'dat ei
phenna glinia.
Isio lle i roi jochiad o wisgi yn fy nghoffi oeddwn i. Roeddwn i'n
teimlo'n well wedyn ac yn dechrau dadebru wedi clecio'r ail banad. Dyna lle'r
oeddwn i a'm penelinoedd ar y bwrdd plastig gwyn yn syllu ar y staens coffi ac
yn gwasgu fy nyrnau at fy arleisiau nes oeddwn i'n gweld sêr. Roeddwn i'n cofio
deffro'n ddisymwth o freuddwyd annifyr. Gorfadd yn y tywod poeth a'm llygad at y
telesgopig a pherlau duon o chwys a thywod yn britho fy nhalcan. Roeddwn i'n
tynnu fy mys yn ysgafn ysgafn ar y gliciad fel daeth y fflach a'm deffrodd. Hen
deimlad annifyr ydi cael dy saethu yn dy freuddwyd. Gwthiais fy nyrnau'n dynnach
eto o boptu fy mhen ond ar waetha'r gwasgu 'ches i fawr o synnwyr ohono fo.
Hefo'r beic oedd fy nghwynion yn
cychwyn ond ddim dyna lle roeddan nhw'n gorffan. Beic da, beic du hefo streipan
arian ar ei hyd o, hefo un deg wyth o gêrs a golau'n gweithio'n y ffrynt a'r
cefn. Does neb yn dwyn beics yn 'Steddfod. Dyma gadarnla ola gwlad y menyg
gwynion.
Mae gwaeth petha i'w colli na
beics hefyd. Fasa colli'r byd i gyd yn grwn yn ddim gin i chadal colli'r
plantos. Dyna pam dwi mor daer i'w cael nhw'n ôl. Nid os ond pryd y daw'r plant
yn ôl i Gymru fydd hi os ca'i fy ffordd. Dwi wedi gweld eu bodia bach nhw'n
glwstwr pan oeddan nhw'n fabis, a'u breichiau'n agor fel breichiau mwncis
uwchben y bath. Dwi wedi newid eu clytia nhw a'u dandwn a'u diddori a dysgu
iaith iddyn nhw a'u cadw rhag drygioni. Nes i'r ast o'r Alban eu cipio nhw oddi
arna’i.
A finnau'n poeni am hen feic.
Ynta poeni nad ydwi'n cofio be wnes i hefo fo ydw i? Dwn i'm. Be dwi'n gofio
ydi'r beic cynta gafodd Siôn pan oedd o'n dair oed. Buan iawn y bu'n rhaid
tynnu'r olwynion bach o boptu'r olwyn ôl, fyntau'n rêl boi'n pedalu fel
fflamiau i lawr yr allt tuag ata'i. Bethan wedyn er ei bod hi'n hogan fawr yn
ochor Siôn yn 'cau gadael imi tynnu nhw rhag ofn iddi syrthio. Mae'r beics bach
wedi hen fynd. Sglefrio bwrdd ar hannar peipan ydi pethau'r hogyn'cw erbyn hyn.
Dyna ddeudodd o wrtha'i y tro dwytha inni gael sgwrs ffôn. Mae'r beics yn y
sgip a'r plant ymhell oddi wrtha'i rŵan.
Mi fasa ochor arall y lleuad yn nes os ceith hi ei dymuniad.
Dwi'n cadw llun o'r ddau yn fy
walad, dynnwyd yn yr ysgol fis Medi dwytha. Mae o'n sbïo'n heriol a'i ddant
blaen newydd yn sgleinio'n anghyfarwydd dros ei wefus, hithau'n swil a'i gwallt
melyngoch yn dynn ar dop ei phen. Mae'r llun wedi treulio braidd, tydio wedi bod
yn fy walad ers misoedd. Byddwn i'n syllu arno fo bob cyfla pan oeddan ni yn yr
anialwch ac yn meddwl amdanyn nhw'n chwara'n iard yr ysgol a finnau ar fy hyd yn
y llwch poeth yn aros am gyfla i ladd rhywun arall. Hefo hogyn o Benllach oeddwn
i, Dewi Pritchard oedd ei enw fo. Roedd o'n fengach na fi o saith mlynadd.
Yno byddai'r ddau ohonom ar ein hyd yn y tywod yn syllu ar y gwres yn
crynu fel tonnau ar draws llyn y morynion. Weithiau am awr neu ddwy, weithiau am
ddiwrnod ar ei hyd. Pan ti mewn lle felly a'r gwynt yn chwipio'r tywod i'th
wynab di, ti ddim yn teimlo fel llawar o gongrinero. Cachu plancia fyddwn i rhan
fwyaf o'r amsar. Pan fyddwn i'n teimlo'r cryndod yn cerdded drosta'i byddwn i'n
estyn am y llun bach a syllu ar y plantos gan feddwl amdanyn nhw'n chwarae'n
braf heb wybod dim byd am haul yr anialwch.
Dwn i ddim p'run o'r ddau dymor
dyletswydd fues i arnyn nhw oedd y gwaethaf, hwnnw pan oedd y rhyfel yn dechrau
yntau wedyn, pan oeddan ni'n methu cadw'r heddwch a'r holl beth wedi mynd yn
draed moch.
Ond un bora gafodd Dewi fwlad
drwy'i dalcan. Mi gafodd fynd adra mewn sach ddu a'i gladdu hefo Jac yr Undeb
dros ei arch o a rhosod gwynion ar ei phen. Maen nhw'n deud mai gwaith milwr ydi
lladd neu gael ei ladd. Maen nhw'n deud mai dyna mae o'n ei ddysgu. Ydi hynny'n
gwneud ei farw o'n llai o gollad felly?
Un tro roedd y bobol leol wedi
heidio amdan ein cwt concrid ac wrthi'n ein pledu ni hefo bwledi a ninnau heb
gymorth o'r tu allan na hofrennydd i'w galw i lawr. Tydi'r ffaith i mi gael fy
nhraed yn rhydd ddim yn fy ngwneud i'n arwr. Lwc mul a gewin o leuad biau'r
diolch imi fedru croesi'r anialwch dan y sêr. Draw tua'r corsydd yr ochor draw
yr es i nes cyrraedd pobol heb eu cyffwrdd gan yr oesoedd, heb nag injan na
pheiriant i dorri ar suo'r gwynt drwy'r brwyn. Pobol draddodiadol oedd yma heb
ddiddordab mewn rhyfal. Doedd neb isio'u tir nhw eto; roedd eu croeso'n syml.
Drwyddyn nhw y dois i allan o Irac y tro cynta.
Cyrraedd adra fel huddug i botas
gan feddwl rhoi sypreis i bawb a ffeindio'r lle wedi ei gloi. Doeddwn i ddim
wedi siarad hefo neb ers gorfod diffodd y ffôn bach yn yr anialwch. Doedd neb
yn fy nisgwyl i'n ôl mor fuan. Peth gwirion i'w wneud, rhoi syrpreis i bobol.
Doedd o'n gneud dim gwahaniaeth. Doeddan nhw ddim yno. Roedd Bethan a Siôn wedi
mynd, meddai'r nodyn, chawn i mo'u gweld nhw eto. Rhif rhyw dwrna'n yr Alban.
Mi gawn ni weld am hynna, meddwn
inna wrthyf fy hun. Tydw innau nad oes gen i hawliau, 'wst ti.
Mi wn i'n iawn fod yr hen gnawas
wedi cadw'r ddau ffôn symudol rois i iddyn nhw tro dwytha. Dim ond negas mewn
acan Glasgow sydd ar y peiriant atab yn y fflat. Un tro fues i am bedair awr
wedi parcio wrth odra'r tŵr lle maen nhw'n byw a dal heb eu gweld nhw.
Finnau wedi gyrru ar hyd y nos i'r Alban dim ond i roi anrheg penblwydd i Bethan
yn wyth oed. Wel, y tro hwn mi fydd pethau'n wahanol. Dwi'n ôl am byth y tro
hwn a dwi yma i'w dwyn nhw'n ôl i'w cynefin lle maen nhw i fod.
Dim ond ychydig o ysgol gafodd y
plant ym Manod cyn inni symud i'r tŷ byddin yng Nghatraeth. Ond roedd o'n
ddigon iddyn nhw fagu egin o Gymreictod. Dwi'n cofio Siôn yn dŵad ata'i ar
ôl ysgol un diwrnod ac yn gofyn, "Ydi'r iaith Gymraeg yn mynd i
farw?"
"Duwcs nacdi, siŵr,"
meddwn innau. "Pobol sy'n marw nid ieithoedd."
"Mrs Preis yn rwdlian eto
mae'n siŵr," meddai Siôn.
Dwi'n cofio Bethan adag oeddan
nhw'n fach yn ysgol Sul Tabernacl yn dweud wrtha i, "Duw sy'n rhoi plant i
bobol, ynde?"
"Ia, 'mach," meddwn
innau.
"Lwcws iddo fo roi plant
bach Cymraeg i chdi, 'de, dad?" meddai Siôn.
"Ia," meddwn innau.
"Lwcus iawn."
Fyddwn i'n mynd am dro hefo nhw
i hel madarch melyn a mwyar duon. Fydden ni'n gwrando ar chwiban y dryw ac yn
gweld y sioncyn yn y gwair. Fydden ni'n sbïo i'r entyrchion liw nos a nabod y
sosban neu'r arad a rhai o'r sêr eraill.
"Dadi oes yna fyd
arall?" meddai Siôn.
"Sut fyd?" meddwn i.
"Byd a pobol yn byw ynddo
fo," meddai.
"Be wyt ti’n ddyfalu?”
"Dau,” meddai yntau.
"Dim ond un sy’n siŵr,”
"Hwyrach fod yna fwy,”
"Nawrach,” meddwn innau.
Roedd y ddau'n wahanol iawn o
ran anian, hyd yn oed pan oeddan nhw'n fach. Dwi'n cofio pan fyddai'r tylwyth
teg yn galw i roi pres dannadd i'r plant fyddai Bethan yn paratoi nodyn iddyn
nhw mewn amlen dan ei gobenydd. Magl fyddai Siôn yn ei gosod iddyn nhw i drio'u
dal nhw. Eglurais iddo fo fod trïo dal y tylwyth teg ddim yn syniad da iawn.
"Ond mae arnyn nhw bres imi," meddai. "Naethon nhw
anghofio'r tro dwytha."
"Dwi'n siŵr bod yn ddrwg iawn ganddyn nhw," meddwn innau
a'm llaw yn fy mhocad yn chwilio oedd gynna'i bishyn dwybunt at nes ymlaen.
Un peth wnaeth magu plant i fi
oedd f'atgoffa o'm hoes innau'r un oed â nhw. Radag honno roeddwn i'n byw yr
ochor draw i Ddolwyddelan. Lawr wrth y bont oeddwn i'n byw a thwrw'r afon yn fy
mhen bob bore ar y ffordd i'r ysgol. Ac ar y ffordd yno'r diwrnod cyntaf dwi'n
cofio'r wal yn dweud "Helo" wrtha'i. Wnes i ddim atab gan fod Nain yn
gafael yn fy llaw. Wnes i ddim atab y wal tan nes oeddwn gallu cerdded ar fy
mhen fy hun.
"Helo, wal," meddwn i wrthi.
"Paid ti â'm 'helo, wal' i," meddai'r wal. "A chditha
wedi'n anwybyddu fi o'r blaen y diawl oriog ichdi."
"Ia, sori am hynna," meddwn i.
"Oedd Nain hefo fi. Tasa hi 'di 'ngweld i'n siarad hefo'r wal hwyrach y
basa hi 'di deud rhwybath wrth Jôs Sgŵl."
"Felly?"
meddai'r wal. "A be fasa hwnnw wedi'i wneud hefo chdi?"
"Fy nghuro i eto
'mwn," meddwn i. "Paid â bod yn flin, wal bach. Tydi'n braf arnach di
yn cael gorfadd yma drwy'r dydd? Dim codi'n bora na mynd i'r gwely'n nos. Dim
gwaith nac ysgol, dim ond gorfadd yn llygad yr haul yn berwi hefo mwyar
duon."
"Wyt ti wedi gorffan
paldaruo?" meddai hithau. "Dwi'n gaeth yma dan bob tywydd a'r drain
uffernol yma'n fy mhigo'n ddu las. Daeargryn ydi'r unig beth ddaw â'r artaith
yma i ben a gadael imi suddo'n ôl i'r pridd lle dwi isio bod."
Es i ar hyd lôn Cwm Lledr yn ddiweddar ond roedd dynion â pheiriannau
wedi chwalu cerrig y wal er mwyn lledu'r ffordd. O leia gafodd hi ei dymuniad.
Roeddwn i'n dechrau chwysu
chwartia dan lygad yr haul. Mi faswn i'n hanner lladd y sglyfath ddwynodd fy
meic. Codais oddi wrth y bwrdd simsan stremplyd a'i chychwyn hi i rywle; Maes-B,
hwyrach, i chwilio amdano fo. Toedd o wedi costio'n agos i ddau gan punt imi,
heb sôn am y strach o'i gael o yma wedi ei strapio i gefn y car. Croesi'r lôn
alwminiwm rychiog oeddwn i pan ddaeth Gwyn Bont ata'i a'i fag 'molchi yn ei law
a'i dŵal dan ei gesail yr un ffunud â Ioan Bedyddiwr.
"Pwy sy'di dwyn dy bwdin di
'ta, sowldiwr?" meddai pan glywodd fy 'su'mai' swta fi.
"Ryw sglyfath wedi dwyn fy meic i," meddwn i a phoeri i'r
llwch. "A thydw i ddim yn sowldiwr ddim mwy tasa fo'n fusnas i chdi."
"Be sy?" Edrychodd arnaf o'm coryn i'm sawdl. "Y frenhines
ddim yn edrach ar dy ôl di'n iawn neu rywbeth?" Ysgydwodd ei ben yn araf.
"Sut oeddach di'n medru saethu a chditha'n methu gweld?" Pwyntiodd
hefo'i fys tuag at y siop.
Be welwn i'n ochor y ffens ond fy meic. "Hei, reit dda rŵan,
Gwyn Bont," meddwn innau.
"Gwyn ap Llwyd, os gwelwch
yn dda," meddai'n findlws gan blygu'i ben moel tuag ata'i. Roedd ei siwmpar
yn hongian amdano a'r llewys yn rhy hir i'w freichia.
Chymris i run sylw ohono fo.
Dwi'n cofio Gwyn Bont a finnau a ninnau'n hogia wedi dringo clogwyn ceunant y
Gelli a’r siglan yn croesi’r pwll a fynta arni hi. Dim ond ei sodlau’n
fflachio yn yr haul welis i ac roedd y diawl a’i ben i lawr yn yr afon. Fues i
hefo fo ar ben y moelydd a'n brechdanau jam ni'n biws fel y llus. Dwi'n cofio
mynd hefo fo un tro ar gefn beics i Betws a rhyfeddu at yr holl bobol yn gweu
drwy'i gilydd fel morgrug a ninnau'n dwyn fferins ac anrhegion o'r siop fwya ar
y stryd fawr. Diawl o waith gwthio'r beics yr holl ffordd nôl dros y Creimea
wedyn. Roedd hi wedi twllu erbyn inni gyrraedd adra.
Fues i hefo fo'n torri ffenestri
ac yn prynu diod o dan oed. Roeddan ni'n dilyn ein gilydd i bob man yr adag
honno a ninnau'n yr un dosbarth yn yr ysgol bach. Dim ond adag aethon ni i Ysgol
y Moelwyn gawson ni'n gwahnau. Llyfrau oedd ei betha fo erbyn hynny, a finna'n
gwneud dim ohoni'n yr ysgol ond hel genod a gwneud drygau. Toeddwn i ddim yn
poeni llawar am y dyfodol, roedd digon o gyfleon yn yr Atomfa. Oeddwn i wedi
cael hanas joban yna hefyd, ond wedyn daeth y sôn bod y lle am gau.
Welis i'm llawar ar Gwyn Bont ar
ôl iddo fo fynd i'r Colag. Aros wnaeth o yng Nghaerdydd wedyn, landio ryw joban
hefo'r cyfryngau neu rywbeth. Mae o yno ers blynyddoedd rŵan. Ydio'n gwneud
gwahaniaeth? Dim llawar yn y bôn. Gwyn Bont fydd o i mi, waeth be ddeudith o
ydi'i enw o.
"Chdi aeth â'r beic, y
crinc dwylo blewog," meddwn i'n gyhuddgar wrtho fo. Roedd y gwir am
ddiflaniad y beic wedi fy nharo o'r diwadd. Fyddai Gwyn Bont byth yn
gwahaniaethu rhwng ei eiddo fo'i hun ac eiddo pobol eraill. Benthyg fydd ei air
mawr o bob gafael. Fel yna mae o wedi bod erioed. 'Ddim dwyn, dim ond benthyg'
fatha tiwn gron.
"Felly ti wedi darfod dy fandaliaeth yn Irac?" holodd wedyn.
"Be oedd, Wil Chips, methu dal y pwysau?"
"Dwi ddim isio trafod y peth," meddwn innau'n swta a finna'n
clywad rhywbath yn dechra cnoi yn fy stumog i eto.
"Pam na fasach chi'n rhwystro'r lladron a'r llosgwyr?" meddai
Gwyn. "Mae hanes ein holl wareiddiad yn y fantol."
"Am be wyt ti'n mwydro, dŵad?" meddwn i. "Rhwystro
pwy i wneud be?"
"Ond rhwystro llosgi'r Llyfrgell Genedlaethol a'i holl
archifau," meddai Gwyn yn dechrau cynhyrfu. "Archif Frenhinol Irac a
hanes yr Ottomaniaid, a'r casgliad pwysicaf o lawysgrifau Arabaidd yn y byd.
Roedd yna luniau o'r memrynau a'r llawysgrifau'n powlio fel dail ar hyd y
cwterydd, llythyrau o lys Sharif Hussein o Mecca i'r Ottomaniaid ym Maghdad,
llythyrau cymeradwyaeth i lysoedd Arabia, adroddiadau am ymosodiadau ar
bererinion yn yr anialwch. Mi losgodd ŵyr Genghis Khan y ddinas yn y canol
oesoedd ac Afon Tigris yn ddu hefo inc ei llyfrau. A dyma'r un peth yn digwydd
eto." Syllodd arnaf drwy gil ei lygaid. "Pam? Dyna'r cwestiwn."
"Dim syniad," meddwn i. "Chdi 'di'r un sy'n cael cyffro
mewn hen lyfrau. Chdi 'di'r un sy'n meddwl fod llyfrgell yn werth mwy na bywyd y
llyfrgellydd."
Edrychodd Gwyn arna'i eilwaith ac yna droi i hel pry copyn oddi ar ei
ysgwydd. "Roedd gan yr Arabiaid ddywediad fod eu llyfrau'n cael eu sgwennu
yng Nghairo, eu rhwymo ym Meirwt a'u darllan ym Maghdad," meddai.
"Diolch byth eu bod nhw
wedi'u darllan nhw cyn iddyn nhw gael eu llosgi, felly," meddwn i.
Gwnaeth Gwyn sŵn twt twtian
ac ysgwyd ei ben. "Dwi'n mynd am gawod," meddai.
"Ddoi hefo chdi," meddwn innau.
"A chroeso." Roedd
cysgod o wên yn cyniwair ar ei wefus.
"Gei di roi benthyg stwff
'molchi imi am ddwyn fy meic i," meddwn i.
"Dwyn dim byd, dim ond
benthyg," meddai yntau gan estyn siampŵ a ballu imi. Wrth lwc roedd
ganddo fo rasal sbâr hefyd.
Ar waetha'r holl amsar doeddan
ni ddim i'n gweld wedi colli nabod ar ein gilydd. A doedd o'n altro dim o ran
deud clwydda a ballu'n ôl pob golwg, er mai sôn am betha go iawn oedd o'n ei
wneud rŵan, chadal fo. Un da am ddeud clwydda oedd o'r adag honno'n Stiniog
pan ddaeth y trên i stop oherwydd iddo fo dynnu'r gadwyn yn y twnal. Dwi'n ei
gofio fo pan oeddan ni'n fach a fyntau'n taeru iddo fo fygwth môr ladron, a
nhwythau'n dawnsio ar y dibyn hefo'u cyllyll rhwng eu dannedd. Welodd Gwyn Bont
rioed fôr ladron, dim ond darllan eu hanas nhw yn ei lyfrau. Tydwi'n deud dim
byd yn erbyn ei lyfra fo. Mae o wedi mynd yn bell yn sgîl ei holl eiriau a'i
fedal a'i goron a'i wisg wen ac ati. Straeon ydyn nhw, meddai Gwyn Bont, straeon
sydd wedi digwydd go iawn.
Mynd ar goll yng nghanol ei stori'i hun fydd o, dwi'n meddwl. A finna ar
goll yng nghanol fy ngwirionadd. Mae o isio'r gwinoedd gorau heb wybod sut i
drin y winllan. Dwi'n siŵr y baswn i'n gallu trin y winllan iddo fo; fasa'm
ots gin i brofi'r gwin hefyd. Licio'i lonydd i feddwl fydd Gwyn. Llonydd i
sgwennu ydi'i betha fo. Llonydd i feddwl ydi'r peth ola dwi isio, mae gormod o
betha annifyr yn nofio i'r gwynab fel swigod. Cwyno nad oes yna ddim llonydd i'w
gael fydd o, a finnau'n trïo cadw'n brysur lle bod y llonydd yn fy mygu fi.
O ran Gwyn, dwi'n ama mai'r
llonydd sy'n dŵad gynta a'r sgwennu'n ail ar aelwyd y prif lenor neu'r
prifardd ap Llwyd neu beth bynnag ddiawl ydio yn ei goban. A Duw yn unig â
ŵyr lle cafodd o'r enw Gwyn ap Llwyd chwaith. Robat Bont ydi enw'i dad o a
Jones ydi'r teulu. Yr unig beth llwyd ar ei gyfyl o unwaith oedd y tomenydd
llechi ar bob llaw a'r tai a'r toeau ar draws pedol y Blaenau. Roedd yn rhaid
iddo fo gael enw Cymraeg iawn, medda fo. I be oedd o isio derbyn rhyw drefn wedi
ei gorfodi arno fo o'r tu allan?
Diawl o bwys gin i be alwith
bobol fi. Wil Chips ydwi 'di bod erioed gan bawb. Ac eto toes yna ddim tsipsan
wedi ei gwerthu acw ers i Nain roi'r saim ar dân a llosgi'r siop pan oeddwn i'n
fach a gorfodi'r cymdogion i symud allan am y noson. Ar ôl hynny fuon ni draw
yng nghyffiniau Dolwyddelan am blwc nes i Nain cael lle gin y cyngor ym
Mhengwndwn. Beth bynnag Gwyn ap Llwyd ydi Gwyn Bont erstalwm rŵan,
ers iddo fo gael medal am sgwennu ryw rwts nad oes neb isio'i ddarllan a
chael ei urddo’n aelod o'r Orsadd. Dwi'n cofio dweud wrth fo sut i godi
gwerthiant nofelau Cymraeg - sgwennu gwell llyfrau.
"Gwna di 'ta," oedd ei
unig atab.
Un dda oedd y gawod. Mi olchis i'n sanau yn y shampŵ achos roeddan
nhw'n plygu hefo chwys sych. Rhois i nhw ar y ffens i sychu tra oedd Gwyn yn
cael panad a rhôl selsig ac ŵy. Roeddwn i'n chwilio am yr hogan hefo'r
llygaid duon ond doedd dim golwg ohoni. Hogan arall oedd yn gweini'r tro'ma,
jadan bach ddigon sych hefyd.
"Dim diolch," meddai
Gwyn pan dynnais y botel fflat allan o'm pocad. Doedd o ddim isio lysh i frecwast, isio cadw ei ben yn glir
ar gyfer rhyw anerchiad oedd ganddo fo ar ôl cinio ym Mhabell y Cymdeithasau.
"Neith tropyn bach ddim drwg i neb," meddwn innau a tharo
jochiad yn llygad ei baned o. Digon i gnesu bol.
Roedd Gwyn isio mynd am y maes wedyn a dyma finnau'n mynd hefo fo gan
adael y beic tu allan i'r brif fynedfa. "Aros di'n fan'na tro'ma,"
meddwn i wrth y beic a hanner llygad ar Gwyn Bont. "Paid â meddwl rhoi dy
bump ar hwn eto, Gwyn Bont."
"Cer i godi tocyn 'ta," meddai Gwyn.
"Pam ti ddim isio un?"
"Gin i hwn toes," meddai a dangos imi docyn bach gwyn hefo
'Mynediad i'r Maes: Urdd Derwydd' arno fo mewn inc du.
"Iawn i rai," meddwn innau. "Dwi'm yn talu. Cer i nôl
stamp a tyd allan yma hefo'r tocyn imi gael mynd i mewn yn dy sgil di."
Wysg ei din y cytunodd o.
Wn i ddim oedd ceidwad y porth
yn coelio 'mod i'n dderwydd. Roedd o'n syllu'n ddigon rhyfadd arna'i. Tynnais fy
sbectol haul a dweud "Be sy, ydach chi ddim yn nabod fi heb y goban?"
ac mi ges i basio gan godi map o'r maes am ddim oddi ar ei gowntar.
Mi ddoth Gwyn hefo fi at y peiriant pres. Roedd yna giw'n gweitsiad yn
barod. Roeddwn i'n gobeithio na fyddai'r taclau'n gwagio'r peiriant cyn imi
gyrraedd. Mi dynnais allan gant o bunnau.
"Wyt ti'n aros ar y maes drwy'r dydd heddiw?" gofynnais i Gwyn
wedyn.
"Am wn i," meddai. "Dwi isio mynd i'r
Cadeirio ddiwedd pnawn hefyd, i weld ydi'r stori'n wir am brifardd newydd."
A dyma fo'n dangos tocyn bach gwyn hefo Y CADEIRIO wedi brintio arno fo mewn inc
du.
"Ddoi hefo chdi," meddwn innau.
"Chei di ddim dŵad
hefo fi i'r Cadeirio, ti'm yn aelod o'r Orsedd," atebodd. Stopiodd a throi
i mewn i stondin hen lyfrau.
"Pwy sy am fy stopio fi?" holais. Roedd llond y stondin o hen
focsys yn llawn o lyfrau llychlyd a silffeidiau o rai tebyg ar hyd y waliau. Y
rhan fwyaf yn hanner canrif oed a mwy. Rhai oeddwn i'n nabod o ddyddiau ysgol,
eraill na welis i rioed mohonyn nhw o'r blaen. Codais lyfryn tenau hefo clawr
melynfrown o'r enw Llinell neu Ddwy gan Ioan Brothen. Sbïis i ar y gerdd
gyntaf,
'Ow! Fy more gartre gynt,
Wylaf wrth weld ei helynt;
Brudded yw ei dynged wael
Wedi i'w blant ei adael;'
ac es i a fo at y cowntar. "Faint dach chi isio am
hwn?" holais.
"Dwy bunt," meddai'r gwerthwr llyfrau. "Un o'r Penrhyn wyt
ti?"
"Nacia, Stiniog," meddwn i.
"Mae'na ganu yma i Gwmorthin," meddai'r gwerthwr.
"Tangrisiau ydi
fan'na," meddwn i.
"Fel arfer rhai o
Benrhyndeudraeth fydd yn prynu Ioan Brothen. Neb arall wedi clywad sôn amdano
fo, beryg."
"Licio'r teitl oeddwn i." Plygais y llyfryn a'i wasgu o i'm
poced ôl.
"Ti'n ei ddifetha fo
fel'na," meddai'r llyfrwerthwr.
"Hwyrach," meddwn i.
"Llyfr ydi o,"
meddai'r gwerthwr. "Isio parchu llyfrau 'sti."
"Dwy bunt oedd o,"
meddwn i. "Chdi roth bris isal arno fo, nid y fi."
Phrynodd Gwyn Bont ddim byd, y
cybydd. Am drio'u cael nhw’n rhatach ar eBay, mwn.
"Wel os ti ddim yn prynu tyd o'ma i chwilio am le amgenach,"
meddwn i. "Dwi isio bwyd."
"Hwyrach y cei di rywbeth yn fan'ma," meddai Gwyn a phwyntio at
stondin fawr hefo offer coginio yn y tu blaen a dyn gwallt gwyllt mewn ffedog
wrthi'n trio sgramblo wyau.
"Fasa ddim yn well iddo fo
wisgo cap," meddai Gwyn, "cofn i'r blew yna fynd i mewn i'r
bwyd?"
Roedd o'n egluro sut i wneud omlet dros uchelseinydd. "Wel mae o'n
medru siarad Cymraeg yn o lew, o leia," meddwn i.
"Yndi, yn well na'i blant
o," meddai Gwyn.
"Rhywbath iddo fo ydi
hynny," meddwn innau.
"Ia, ond os na fedrith o
forol i drosglwyddo'r iaith i'w blant ei hun pa hawl sgynno fo i honni ei fod o
am wneud rhywbath dros blant Cymraeg eraill?"
"Neith o'm effeithio ar fy
mhlant i, yn na wneith, Gwyn," meddwn innau.
"Diawl o le ydi'r
Alban," meddai Gwyn. "Wyt ti wedi eu gweld nhw ers ti'n ôl?"
"Mae'r astan Sgotaidd yna'n
gwneud pob dim fedrith hi i nadu fi," meddwn i. "Tydi'r gyfraith yn
wahanol yn fanno ac mae'r diawl lle'n bell i ddreifio."
Ysgydwodd Gwyn ei ben.
Roedd yr omlet yn barod ond ddaru ni sôn ein bod ni wedi cael brecwast,
diolch yr un fath.
PENNOD DAU
Fel oeddan ni'n gadael stondin y Cynulliad daeth hogan mewn
crys Radio Cymru aton ni hefo clipfwrdd yn ei llaw a modrwy yn ei bogal.
"Fasach chi'n hoffi gweld
bar bar ar faes y Steddfod?" holodd.
"Ar bob cyfri," meddwn
innau. "Arwain di'r ffordd."
"Isio recordio eitem hefo
Dylan ar gyfer Taro'r Post," meddai wedyn. "Chwilio am rywun i ddadla
o blaid. Fasach chi'n fodlon deud gair?"
"O'r gora," meddai
Gwyn Bont.
Arweiniodd ni ar draws y maes
hebio Bwrdd yr Iaith, Pafiliwn Bwyd Blas a stondin Cyngor y Celfyddydau draw i
safla Cytûn: yr Eglwys ynghyd yng Nghymru yn ymyl y cwrt arlwyo. Dyna lle roedd
cyflwynydd y rhaglan yn siarad hefo nifer o weinidogion. Mi gaethon ni gynnig
panad a bisgedan ar y stondin.
"Mi fasa cael bar ar y maes
yn arwain at alcoholiaeth a hwliganiaeth," meddai'r cyflwynydd wrthan ni
gan wthio meic dan ein trwynau ni.
"Na fasa Tad," meddwn
i. "Mi fasa fo'n arwain at lawar mwy o bobol yn dŵad i'r maes i'w
mwynhau eu hunain yn yr hen ffordd Gymreig go iawn yn lle goro llymeitian
paneidiau piso dryw."
"Mae'r Eisteddfod yn
achlysur teuluol," torrodd un o'r gweinidogion ar fy nhraws. "Mae'r
diafol yn y gasgen gwrw a does dim lle iddi o fewn terfynau'r Brifwyl."
Gwthiodd y cyflwynydd y meic i
wynab Gwyn Bont. "Y Prifadd Gwyn ap Llwyd," meddai "Lle ydach
chi'n sefyll ar y pwynt yma?"
"Dwi'n sefyll fan hyn wrth
dy ochor di," meddai Gwyn Bont. "Ac mae'r rheol sych yma'n lol botas
maip. Ydi gwin a chwrw'n bethau i'w cuddio oddi wrth blant felly a chreu
cymhlethdod ynddyn nhw pan ân nhw'n hŷn? Meibion dirwestwrs ydi'r rafins
gwaetha gewch chi. A pheth arall, os ydi yfad alcohol yn beth mor ddrwg pam
ddaru'r Iesu droi'r dŵr yn win? Os ydi dirwestwyr Cymru isio defnyddio
crefydd fel arf yn erbyn bar ar y maes fasa'n rheitiach iddyn nhw droi'n
Foslemiaid. O leia does dim dwywaith fod y Corân yn gwahardd alcohol."
"Dwi'n siomedig iawn yn agwedd haerllyg ac anghyfrifol y
prifadd," meddai'r gweinidog. "Mae yna lawer yn fwy i fywyd nag yfed y
ddiod gadarn."
"Oes," meddwn i, "Dyna pam dan ni angan y lysh inni fedru
dygymod hefo'i holl ergydion o."
"Diolch yn fawr ichi o'ch tri am eich sylwadau," meddai'r
cyflwynydd gan graffu ar ei amserlen. "A draw a ni rŵan i'r stafell
newyddion ar gyfer y penawdau."
Mi gerddodd y gweinidog oddi wrthym yn ffrom at ddau neu dri o'i debyg ym
mhen draw'r stondin. Roeddan nhw'n codi eu pennau i daro golwg anghymeradwyol
arnom o bryd i'w gilydd.
Daeth gweinidog iau na'r lleill atom o'r ochor arall a chynnig panad
arall inni. Efallai nad oedd o wedi clywad y sgwrs. Estynnodd blataid o fisgedi
hefo cyrrains ynddyn nhw inni. "Cymrwych ddwy bob un," meddai.
Pwyntiodd Gwyn at y groes ar y
wal tu cefn iddo fo. "Deudwch i mi," meddai. "Pam ydach chi'n
ystyried y Groes yn eicon crefyddol?" Dwi ddim yn siŵr a ydi Gwyn yn
cymryd y busnas crefydd yma o ddifri, ond mae o i'w weld yn olau iawn yn ei
Feibil bob gafal.
"Wel am resymau amlwg," meddai'r gweinidog ifanc.
"Tydio ddim yn amlwg i mi," meddai Gwyn. "Os basa'r Iesu
wedi byw yn y ganrif ddwytha ac wedi ei ddienyddio gan yr Unol Daleithiau tybad
fasach chi'n arddel model o'r gadair drydan yn lle Croes?"
"Be dach chi'n feddwl?" meddai'r gweinidog yn gythryblus.
"Ond hap a damwain ydi'r symbol, gallai fod yn stanc llosgi, yn
garreg labyddio, neu'n anifal rheibus ar lawr y colisëum. Digwydd bod, ei
groeshoelio gafodd yr Iesu, ond mi lasai fod wedi ei ladd mewn ffyrdd
eraill." Cymrodd lymaid o'i baned a lledu'i ddwylo fel petai ar fin
pregethu.
"Be sy nelo pictiwrs Port
â'r peth?" holais.
"Ddim y Colisëum yna dwi'n
feddwl, twpsyn," meddai Gwyn. "Colisëum y Rhufeinwyr. Dim ond
gwehilion cymdeithas oedd yn cael eu croesholio. Rhan o'r sarhad oedd
hynny." Edrychodd o'r naill i'r llall ohonom i weld oeddan ni wedi dallt.
Cymerais arnaf fy mod i'n dilyn ei eiriau gydag arddeliad.
"Be sy a wnelo hynny â'r peth?" meddai'r gweinidog.
"Dim ond bod yr holl
gerfluniau o'r Iesu ar y groes yn ffeithiol anghywir," meddai Gwyn.
"Be wyddost ti am
hynny?" meddai'r gweinidog yn dechrau codi'i wrychyn ryw gymaint.
"Digon," meddai Gwyn
Bont. "Roeddwn i'n darllan hanes darganfyddiadau diweddar yn Israel.
Ydychig iawn o dystiolaeth sydd wedi bod o ran sut oedd y gosb yn cael ei
gweithredu. Ond am y tro cyntaf o'r bron mae archeolegwyr wedi cael hyd i
sgerbwd dyn a groeshoeliwyd yn oes Iesu Grist. Mae'r esgyrn yn profi mai
dychymyg pur ydi gwaith yr arlunwyr a'r haneswyr ar hyd yr oesoedd." Aeth
i'w boced ac estyn papur a beiro i dynnu llun.
"I ddechrau," meddai,
"roeddan nhw'n sodro'r traed hefo'i gilydd ar un ochor i'r stanc fel'na, ac
yna'n curo pawl haearn drwy'r ddwy sawdl i mewn i'r pren hefo'r pennau gliniau
wedi eu plygu ac yn troi am allan ar un ochor." Gwnaeth lun o'r trawst
croes wedyn ac ychwanegu: "Doedd yr hoelion ddim yn mynd drwy'r dwylo ond
drwy’r garddyrnau, rhwng y ddau asgwrn sy'n cysylltu'r llaw a'r benelin. Pan
fyddai'r coesau'n diffygio o'r diwadd byddai'r ysgyfaint yn cael ei hymestyn nes
fygu'r cradur ar y groes. Mi lasai gymryd dau ddiwrnod neu fwy iddo farw."
"Mi rydach chi'n gwybod llawer am y cefndir," meddai'r
Gweinidog. "Ond y ffydd sy'n bwsig, nid y manylion technegol."
"Ia," meddai Gwyn,
"ond gofyn 'dwi pam fod y groes yn ganolog. Am dri chan mlynedd symbolau
heblaw'r Groes oedd gan Gristnogion, pysgodyn neu angor er enghraifft. Symbol o
wawd oedd y Groes i ddechrau. Yn y plastar ar furiau un o'r celloedd dan blasty
Cesar yn Rhufain mae'na graffiti sy'n dangos corff dyn hefo pen asyn a hwnnw ar
groes a dyn ar ei liniau o'i flaen o hefo'r arysgrif: 'Alecsamenos yn addoli ei
dduw'."
"A beth mae hynny'n ei
brofi?" holodd y gweinidog.
"Dim byd," meddai
Gwyn, "ond y pwynt ydi, dim ond ar ôl i Constantîn wahardd croeshoelio yn
y bedwaredd ganrif Oed Crist y daeth y Groes yn symbol crefyddol yn hytrach na
digwyddiad beunyddiol annymunol."
"Nid sut lladdwyd O sy'n
bwysig," meddai'r gweinidog. "Ond Ei fod o wedi Atgyfodi."
"Wel, ia," meddai
Gwyn. "Dyna ydi craidd y peth. Heb yr Atgyfodiad does gan Gristnogaeth fawr
i'w gynnig. Ond doedd neb yn
disgwyl yr Atgyfodiad ar y pryd, cofiwch. Dioddefaint, amheuon ac anobaith oedd
yn llenwi calonnau'r disgyblion a'r Iesu fel ei gilydd ar fryn Calfaria."
"Ydach chi'n aelod?" holodd y gweinidog.
"Dim ffiars o beryg," meddai Gwyn. "Diolch am y
banad."
"Ac am y bisgedi,"
meddwn innau'n porthi o'r cefn.
Aethon ni'n ôl heibio'r Neuadd
Arddangos a'r Cyngor Llyfrau Cymraeg i'r groesffordd wrth ymyl stondin Blas.
Roedd hwn yn adeilad cyfoes yr olwg hefo lle i ista tu mewn a thu allan a
byrddau go iawn yn lle'r petha plastig gwyn yna a chadeiriau braf a bwydlenni a
ballu. Wyddwn i ddim tan hynny fod yna lefydd bwyd safonnol yn y Steddfod.
Eglurodd Gwyn mai peth newydd oedd o eleni. Roedd yna fynd go lew arno fo'n
amlwg achos roedd yna res o bobol eisoes yn aros am fwrdd i gael cinio a hithau
ond yn dechra tynnu am hannar dydd. Pwy oedd ym mlaen y ciw ond Hywal Dimbach.
Un garw am ei fol ydi Hywal, ac am ei win hefyd, run fath â Gwyn yma.
"Su'mai hogia," meddai
ac amneidio arnom ni. "Ydach chi am damaid o ginio?"
"Dwi'm yn talu prisiau'r lle'ma," meddwn innau.
"Dowch," medda fyntau. "Dwi angan eich cefnogaeth i'r
gwrthdystiad."
"Dos i grafu," meddai Gwyn ap Llwyd. "Pa
wrthdystiad?"
"Eglura'i ichi dros ginio," meddai Hywal. "Fi sy'n
talu."
"Iawn, felly" meddai'r ddau ohonom a sleifio ato fo i ben y
rhes. Ymhen dim roedd y tri ohonom ni wrth fwrdd bach yng nghanol y bwyty a
bwydlenni yn ein dwylo.
"Mae'r eog Rhydlewis wedi ei gochi hefo cocos Penclawdd yn swnio'n
dda," meddai Hywal heb godi ei ben o'r fwydlen; roedd o wedi bod yn byw yn
Sbaen ac yn dallt pob dim am fwyd y môr. Troes i siarad hefo un o'r gennod oedd
yn gweini. "Gawn ni botelaid o Ddŵr-y-Cwm os gwelwch yn dda a chwech o
wydrau?"
"Welis i mohonach di'n ordro dŵr o'r blaen," meddwn i.
"I be tisio chwech o wydrau?"
"Dŵr ydi'r ddiod iachaf yn y byd," meddai Hywal.
"Tropyn o win gwyn oer
fasa'n braf hefo'r bwyd," meddai Gwyn.
"Pa fath o win gwyn oer fasa chdi'n ei ddewis hefo eog Rhydlewis a
chocos Penclawdd?" holodd Hywal gan syllu ar Gwyn yn chwilfrydig.
"Rhyw Sauvignon Blanc bach o'r Loire neu o Seland Newydd,"
meddai Gwyn. "Sansêr hwyrach i dorri ar draws brastar yr eog."
"Be am hon?" Aeth
Hywal i ryw fag plastig glas Cyngor Llyfrau Cymraeg oedd ganddo fo o dan y bwrdd
ac estyn potelaid o win ohono fo a gwlith y ffridj yn dal i dreiglo'i lawr ei
gwddw hir hi. Estynnodd gyllell boced ac mewn chwinciad roedd pen y caead plwm
yn ei law a’r tynnwr cyrcs yn suddo i'r corcyn. "Ond nid unrhyw Sansêr
mo hon," cofiwch. "Dim
ond potelaid o Bailly-Reverdy o Bue-les-Sancerre. Un o'r gwinoedd gorau yn
Nyffryn y Loire."
Daeth y corcyn allan fel tynnu
bys o foch. Troes ambell un ei ben wrth glywed y sŵn cyfarwydd. Mewn dau
funud roedd ganddo ni wydraid bob un o win gwyn oer yn ein dwylo.
"Hir oes i'r
chwyldro!" meddai Hywal a tharo gwydrau hefo ni.
"Pa chwyldro?" meddwn i. "Be ydi'r
brotest yma oeddach di'n sôn amdani gynnau, gyda llaw?"
"Dyma
hi," meddai Hywal gan ddal ei wydyr uwch ei ben. "Gwrthdystiad yn
erbyn rheol sych yr Eisteddfod. Dan ni'n dangos bod diwylliant a mwynhad yn
gallu cyd-fyw law yn llaw yng nghadarnla ola'r hen ddirwestwyr."
"'Dan
ni newydd orffan deud yr un peth ar Radio Cymru," meddwn i. "Dwi'n siŵr
na chafodd Daniel ddim bisgedi yn ffau'r llewod." Estynnais am y botel i
dwallt gwydrad arall.
Fel oeddwn i'n ei chodi hi dyma'r rheolwr atom a
dweud fod y Steddfod yn daer yn erbyn diod ar y maes a bod dim hawl gynnon ni
i'w yfed o yma o dan unrhyw amgylchiadau nac amodau.
"Wel ecsciws mi," meddai Hywal Dimbach, "ond tydi'r
Steddfod ddim yn erbyn alcohol ac a dweud y gwir maen nhw'n torri'i boliau i
gael bar ar y maes i helpu i dalu colledion y gorffennol. A beth bynnag, does
yna'r fath reol na deddf yn bod sy'n nadu ichi ddŵad â'ch gwin eich hun i
fwyty heb drwyddad. Oes yna rywun wedi cwyno'n bod ni'n yfed gwin yma? Mae hwn
yn win safonol, cofiwch, nid sothach melys allan o focs."
"Cwyno eu bod nhwythau isio gwin maen nhw," cyfaddefodd y
rheolwr.
Bu'n ddigon clên i adael inni gadw'r botal dan y bwrdd.
"Dim problam," medden
ninnau. Roedd y botel yn wag beth bynnag.
"Lle gawn ni un
arall?" meddai Hywal.
"Gei di ryw Sansêr bach digon yfadwy yn Siop Sbâr," meddai
Gwyn Bont gan astudio'r labal. "Fydd o ddim cystal â hwn, cofiwch."
"Fydd o'n oer ac yn wlyb, yn bydd," meddwn innau. "Â'i nôl
peth ar gefn fy meic." Gafaelais yn y bag Cyngor Llyfrau.
"Tyd â dwy," meddai
Hywal gan estyn papur ugain o'i walad.
Erbyn imi gyrraedd yn ôl roedd y bwyd ar y bwrdd ac ambell un wedi hel
o'i gwmpas fel gwenyn i bot jam wedi clywad hanas y gwrthdystiad.
"Sgin ti'm llawar o liw
haul," meddai Dei Congol y Wal a hwnnw'n sbïo arna fi drwy gil ei lygadau.
Hen hogyn sbeitlyd ydio'n gallu bod.
"Lle uffarn ti'n feddwl dwi 'di bod," meddwn innau. "Ar fy
ngwyliau?"
"Est ti'n ôl yr ail
dro," meddai Congol y Wal. "Maen rhaid fod yna ryw dynfa yna
ichdi."
"Gad lonydd iddo fo,"
meddai Gwyn.
"Pam be nei di, Gwyn
Bont?" meddai Congol y Wal yn wawdlyd. "Cadi ffan yn gwarchod y
sowldiwr? Be sy, methu atab drostat dy hun, ia?"
"Gei di atab gin i ryw dro, Congol y Wal," meddwn i'n dawal gan
syllu i'w llgada fo. "A gyda llaw, Gwyn ap Llwyd ydi o ichdi, ddim Gwyn
Bont."
"Cic allan ges ti'n
de?" meddai Congol y Wal.
"Cer yn ôl i Manod, nei
di," meddai Gwyn Bont. "Neu cau dy geg a chym lasiad o win."
Tolltodd lasiad iddo fo. "Mae'r holl helynt yna'n Irac yn mynd yn ôl yn
bell, wyddoch chi," meddai. "Yr Iancs a'r Brits yn y pum degau oedd y
drwg yn y caws. Ddaru nhw drïo newid y gyfundrefn yno'r adag honno hefyd, nôl
yn un naw pum tri. Mae lludw'r goelcerth honno'n dew dros y Dwyrain Canol hyd
heddiw."
"Wyddoch chi fod gan y Rhyddfrydwyr fap mawr o Irac dros wal y
stondin," meddai Hywal. "Mi fasa Wil Chips yma'n nabod y llefydd i
gyd, mwn."
"I be maen nhw isio map o Irac?" meddwn innau. "Cefnogi
ynteu gwrthwynebu'r rhyfal maen nhw?"
"Dwn i'm yn Duw," meddai Hywal. "Cynnig gwobr maen nhw i
bwy bynnag sy'n rhoid ei groes ar y map a darganfod lle mae'r arfau dinistr
torfol wedi eu cuddio."
"Penna defaid," meddwn innau. "Gwleidyddiaeth chwarae
plant. Ddim gêm ydi rhyfal. Cheith y diawlad mo'm pleidlais i eto."
"Chawson nhw eirioed
mohoni," meddai Gwyn Bont.
"Dim ots," meddwn i. "Mi liciwn i
weld y blydi stondin yna imi gael dweud wrthyn nhw be dwi'n feddwl ohonyn
nhw."
"Yma am yr wythnos, Wil?" meddai Huw Penmachno i droi'r stori.
"Diawl o beryg,"
meddwn i. "Un diwrnod yn yr Eisteddfod yn hen ddigon gin i. Sut mae
pethau'n Penmachno?"
"Diawledig," meddai
Huw. "Taswn i ond wedi mynd amdan y tŷ oeddan ni a'n llygad arno fo
llynadd. Mae'r diawl lle wedi dyblu yn ei bris ers hynny. Tŷ teras dwy
lofft wedi codi o dri deg pum mil i saith deg mil. Mond pobol ddiarth sy'n prynu
acw erbyn hyn."
"Felly mae hi 'mhobman," meddai Hywal Dimbach.
"Mae hi'n waeth yng Nghwm
Penmachno," meddai Huw. "Chi dacla'r Blaenau'n cwyno'ch byd o hyd ar
ôl cau Traws. Tydach chi ddim yn gwybod ei hannar hi. Dwi'n cofio taid yn sôn
fod gynnon ni dri deg o siopau acw ar un adag, a chwe ysgol. Un ysgol sydd ar ôl
a dim un siop. Aeth y bobol leol i ganlyn y gwaith. Wyddoch chi erbyn hyn mae
holl dai y cwm yn llawn eto, ond does yna fawr neb ar ôl sy'n gwybod dim am
ddiwylliant a iaith gynhenid y fro."
"Tilsley gafodd y gadair am
awdl i'r Cwm yn pump deg saith dwi'n meddwl," meddai Gwyn Bont.
"Llangefni oedd hi dŵad?"
"Ia, siŵr," meddai Huw. "Yn anffodus tydi tranc iaith
ardaloedd fel Cwm Penmachno ddim yn bwysig i'n harweinwyr gwleidyddol ni. "
"Tasan ni'n forgrug neu'n swp o fwsog mi fasa na orchymun gadwraeth
arnom ni'n syth bin," meddai Hywal Dimbach. "Mae hi ar ben ar Gymru
hogia bach. Be ddaru Thatcher mo'i ddinistrio mi geith o'i orffan gan y
Cynulliad. Dyna pam dan ni'n codi pac a'i throi hi tua Sbaen."
"Mi fydd hi fel Cernyw yma
cyn bo hir," meddai Gwyn. "Dim ond tri chan mlynedd yn ôl pan oedd
Edward Lhuyd yng Nghernyw mi nododd enwau'r un deg pedwar o blwyfi lle'r oedd yr
hen iaith yn fyw o hyd ar hyd yr arfordir o Ben-y-Wlad i St. Kevern. Ond doeddan
nhw'n gweld dim gwerth i'r iaith achos roedd pawb yn medru Saesneg hefyd. Sawl
gwaith ar hyd lan y môr yng Nghernyw y clywodd Edward Lhuyd y plantos a'r
gwylanod mewn byd Cernyweg?"
"A'r lle heddiw fel Abarsoch ar ŵyl Banc," meddai Huw
Penmachno.
"Ia," meddai Gwyn,
"Ond be ydan ni haws â phoeni?" Edrychodd ar ei oriawr. "Hei,
Wil, lle fydd y Steddfod yn y
flwyddyn dwy fil un deg pedwar?"
"Be ddiawl wn i,"
meddwn innau.
"Yn unlla," meddai
Gwyn, "achos fydd yna ddim Steddfod na Chymru na byd ar ôl erbyn hynny os
ydi'r astronomegwyr yn gywir. Toes yna asteroid ar gwrs i daro'r byd ar yr unfed
ar hugain o Fawrth y flwyddyn honno? Mae'r bwcis yn cymryd pres ar y peth i dalu
allan ffortiwn pan gawn ni'n taro, achos fyddan nhw ddim yma ar ôl iddi landio
mwy na ninnau. Wyth miliwn gwaith yn gryfach na bom Hiroshima fydd y ffrwydriad,
yr un fath a'r glec honno chwe deg pump o filiynau o flynyddoedd yn ôl laddodd
y deinosoriaid."
"Hawdd i chdi a chditha'n byw yng Nghaerdydd i boeni am y
deinosoriaid," meddwn i. "Dim ots gin ti am be sy'n digwydd yng nghefn
gwlad."
"Mae yna ddigon o
ddeinosoriaid ar ôl yng Nghymru," meddai Hywal. "Fel y boi yna heb
ben sy'n trio nadu i bobol gael lysh ar y maes."
"Wyt ti am fudo dros môr
go iawn, Hywal?" meddwn i gan lenwi'i wydyr o. "Pam Sbaen yn eno'r
Tad?"
"I osgoi Saeson,"
meddai Hywal. "Dwn i'm be 'dach chi'n gwyno am Stiniog a ballu, mae hi'n
saith waeth yn Nyffryn Clwyd. Waeth ichi fod yng nghanol Lloegar ddim, blaw na
fedran nhw ddim deud enwa'r llefydd. Dan ni am fynd yn ddigon pell cyn i'r plant
sylweddoli eu bod nhw'n eilradd yn eu gwlad eu hunain."
"Mae'na fwy o Saeson yn
Sbaen nag yng Nghymru," meddai Dei Congol y Wal. "Tydi'r lle'n berwi
hefo nhw."
"Ddim i Benidorm dan ni am fynd, washi,"
meddai Hywal. "Wedi cael hanes lle bach wrth y ffin hefo Portiwgâl."
"Mi fydd yna rai yn fan'no hefyd, gei di
weld," meddwn innau.
"Na fydd," meddai Hywal dan wenu.
"Toedd o'n un o'r amodau rois i wrth lenwi'r ffurflen ar lein: 'Dim
Saeson'. 'Dim problem, Seňor', oedd eu hagwedd nhwythau. Fuon ni yno'n
ddiweddar. Mae'r hen blant wrth eu bodd; fyddan nhw ddim chwinc yn dysgu'r
iaith. Hen dŷ hefo gwaith adnewyddu arno fo, tydi hynny'n poeni dim arnon
ni. Mi gawn ni anghofio bob dim am yr Ymerodraeth Brydeinig wedyn."
"Mae'r Sbaeneg yn iaith orthrymus hefyd, cofia," meddai Gwyn.
"Does yna fawr o ieithoedd brodorol yn ffynnu'n ei sgil hi."
"Pwy wyt ti, Syr John Morris Jones?" meddai Hywal.
"Sbaeneg ydi'r lingua franca newydd, oeddach di heb glywed? A beth
bynnag, mae'r Basgwyr a'r Catalanwyr beth uffarn ar y blaen arnom ni yng
Nghymru."
"Cyn bellad nad oedd nelo'r tywydd ddim byd â'r dewis," meddai
Gwyn Bont wedyn. "Achos mae hwnnw ar fin newid, yn Sbaen hefyd. Ac nid
cnesu wneith hi ond mynd yn oerach."
"Tyd laen 'ta, cysurwr Job," meddai Hywal.
"Chlywsoch chi ddim fod cerrynt y gwlff ar fin newid?" meddai
Gwyn a hwnnw'n troi o'r naill i'r llall ohonom gan ysgwyd ei ben yn ara deg. "Mae'r holl focha dan ni'n ei wneud o ran yr hinsawdd yn
cael effaith ar y llif sy'n gyrru'r dŵr cynnas tuag atom. Tua thair mil o
fedrau o dan y rhew yn ymyl yr Ynys Las, Grønland i chdi, Wil, mae'r dŵr
hallt i fod i suddo a chodi dŵr croyw i'r gwynab yr un fath â phwmp. Ond
mae o'n dechra methu suddo oherwydd yr holl rew croyw sy'n dadmar ers tua deng
mlynedd rŵan. Nid cnesu fyddwn ni ffordd hyn ond oeri mae arna'i ofn."
Eisteddodd yn ei ôl a phlethu'i fysedd dros ei ganol main gan syllu tua'r
nenfwd. "Mae'r ysbaid braf sydd wedi para deng mil o flynyddoedd ar fin dŵad
i ben. Mae'r ysbaid gynnas sydd wedi caniatâu i wareiddiad ffynnu ar fin
gorffen a chan mil o flynyddoedd o oerfal trybeilig ar ein gwarthaf."
"Dim bwys gin i," meddwn innau. "Fedrith o ddim bod dim
gwaeth na be sgin i rŵan. Geith yr holl fyd ddŵad i ben fory a
chroeso. Tydio'm gwerth ei gael."
"Mi liciwn innau godi pac a
dechrau eto mewn lle newydd," meddai Huw Penmachno.
"Man gwyn, man draw," meddai Hywal Dimbach.
"Hei Wil," meddai
Congol y Wal, "Pam nad ei di ar herw i ben y Migneint fel y gwylliaid
erstalwm? Ddylis i dy fod ti'n ddigon o gomando i fyw ar lus a dŵr cors am
oes pys."
"Cau hi, cyn imi dy sodro di," meddwn innau.
"Dyhead pobol ar hyd yr oesoedd ydi denig i le gwell," meddai
Hywal. "Dyna sut aeth pobol o Affrica i bedwar ban byd. Dyna sy'n gyrru'r
diwydiant ffoaduriaid ledled y byd. Gobaith am le gwell. Dyna sy'n gyrru'r Mojados
drwy'r anialwch o Fecsico dros y ffin i farw o syched yn llygad yr haul."
"Pwy ydi'r Mojados?" meddai Huw Penmachno.
"Ond y 'cefnau gwlybion'," meddai Hywal. "Pan oeddwn i'n
Arizona tua deng mlynedd yn ôl, ar y ffordd i Tucson ar Interstate-8 mi
ges i hanes un ohonyn nhw o lygad y ffynnon."
"Ymadrodd eironig braidd," meddai Gwyn Bont.
"Tyd â fo 'ta," meddwn innau ac estyn am y botal win.
"Miguel oedd ei enw fo," meddai Hywal. "Roedd o wedi
cychwyn o safle bysiau anghysbell ychydig filltiroedd i'r de o'r ffin,"
meddai Gwyn Bont. "Roedd o'n teithio ar ei ben ei hun. Roedd o'n gwisgo cap
Houston Oilers ar ei ben a phâr o huaraches, fflachod lledar
Mecsicanaidd, am ei draed. Cychwyn am y gogledd, tuag at y ffin, ac anialwch
anferth Arizona yr ochor draw. Yn ei sach gefn roedd ganddo fo ddau alwyn o ddŵr
mewn poteli plastig, tyniad o tsilis ac ychydig o tortillas i'w gynnal ar
ei daith o bedwar deg pum milltir. Ganol haf bydd dyn yn lwcus i bara pedair awr
ar hugain heb ddŵr mewn lle felly. Dyna ddywedodd un o warchodwyr y ffin
wrtha'i: 'Erbyn y diwedd maen nhw'n troi mewn cylchoedd,' meddai. 'Maen nhw'n
tynnu amdanyn i geisio oeri ond cyflymu'r sychu mae hyn yn ei wneud wrth i'r
chwys anweddu oddi arnyn nhw. Hyd at y diwedd un byddan nhw'n dal i gropian
fesul modfedd, yn dal i chwilio am ddŵr, nes troi fel torch ar lawr.
Mae’u cyrff fel rhesins, yn dduon ac wedi crebachu i gyd a'r tywod o'u cwmpas
wedi ei gorddi'n rhacs.'
"Does yna ddim ffens na ffos i ddangos y ffin, dim ond tomen bach o
gerrig a hen bolyn rhydlyd yn yr anialwch. Mae hen botel Tequila wag ar ben y
cerrig, ac mae rhai wedi torri eu henwau yn rhwd y polyn: 'Juan', 'Felix',
'Luis'. Ychydig lathenni i'r gogledd mae darn o goed plei a'r llythrennau USA
wedi eu paentio arno.
"Mae'n rhaid ei fod o wedi pasio fan hyn ganol y pnawn, gan gerdded
ar hyd ochor ddwyreiniol mynyddoedd y Tinajas Altas, ac i'r gogledd ddwyrain
wedyn ar draws Anialwch Lechuguilla, gan anelu am y bwlch rhwng dau fynydd pell,
y Bwlch Mawr. Wrth groesi ffordd lychlyd o bridd fe dynnodd ddail ar ei ôl i
guddio'i lwybr. Erbyn machlud haul roedd o allan tua gwastadeddau creosot
Lechuguilla yn baglu yn nhyllau'r cnofilod, yn gwylio rhag nadroedd wysg eu
hochrau, dyn unig yn symud heb sŵn ar draws cefndir enfawr yng ngolau'r
lleuad.
"Cerddodd drwy'r nos, drwy'r Bwlch Mawr ac allan i Ddyffryn Mohawk
a'r twyni tywod. Ugain milltir i ffwrdd gallai weld goleuadau Interstate 8
(I-8). Roedd o'n dal i wylio am nadroedd wysg ochor ond la migra oedd o'n
ei ofni fwyaf, patrôl y ffin. Erbyn hanner dydd drannoeth roedd o wedi cerdded
tri deg milltir a phymtheg i fynd. Roedd hi'n bedwar deg gradd canradd yn y
cysgod. Yr unig gysgod ar yr anialwch oedd yr un daflai adenydd chwe throedfedd
o hyd y fwlturiaid wrth gylchu'n araf uwch ei ben. Pan fydd dyn yn marw o syched
yn yr anialwch mi lenwith ei geg hefo tywod fel pe bai'n ceisio sugno ryw
wlybaniaeth ohono.
"Roeddwn i'n gyrru'n ôl i Tucson ar hyd Interstate-8 pan
stopiais yn Ardal Orffwyso Mohawk, clwstwr o doiledau, bocsys gwerthu sothach,
teleffonau a byrddau picnic. Gwelais ddyn esgyrnog, tal wrthi'n llenwi potel
blastig wrth y tap cyhoeddus. Roedd ganddo drawswch main llwyd a llygaid brown
wedi suddo i'w wyneb. Roedd ei ddillad yn garpiog, roedd ganddo huaraches
am ei draed a chap Houston Oilers ar ei ben.
"Pwyntiais i'r de ar draws yr anialwch. Ni ddywedodd air o'i ben.
"'¿Tiene hambre?'
gofynnais iddo. Wyt ti isio bwyd?
"Es i nôl ychydig o gig sych o'r car a grawnffrwyth a chwrw cynnes.
"'Pam wnest ti groesi ar draws yr anialwch?' holais. 'Fedret ti fod
wedi marw'n hawdd.'
"'Sbïa arna fi,' meddai Miguel. 'Tydw i ddim wedi marw a thydw i
ddim ym Mecsico.'
"Fydda'i'n meddwl yn amal
be ddaeth o'i hanes o wedyn," meddai Hywal gan amneidio ar un o'r
gweinyddesau a gofyn am y bil. "Ddaru o ganfod y freuddwyd Americanaidd
ynteu marw'n y gwter?"
Roedd pawb fel tasan nhw wedi
colli diddordab. Es innau i sbïo ar y darn Siop i weld be oedd gynnyn nhw. A
dyma fi'n agor fy llgadau'n yn fawr wrth weld llond silff o Fodca a Jin o
Aberhonddu a dyma finnau â photelaid at y cowntar.
"Sori, bach, fi'n ffili gwerthu hon i ti," meddai'r eneth oedd
yn serfio.
"Pam?" meddwn innau. "Dwi ddim o dan oed."
"Nage, sdim ono fe ar werth," eglurodd.
"Be ydi pwrpas rhoi nhw allan 'ta?" holais. "'Nac arwain
ni i brofedigaeth' medd y Testament Newydd. Tydi hyn ddim yn deg."
Ond mynd â'r Jin yn ôl at y silff fuo'n rhaid imi. Dyna pryd sylwis i
ar yr arwydd 'DIM AR WERTH'. Doedd yna ddim byd ynglŷn â dwyn, serch
hynny, ac er ein bod ni'n y Steddfod i'r bag Cyngor Llyfrau yr aeth hi'n
ddiseremoni heb i neb sylwi.
Es i'n ôl at y cownter.
"Ydach chi ddim yn gwerthu tonic mae'n siŵr?" holais. Ysgydwodd
yr eneth ei phen.
Dywedodd Gwyn Bont ei bod hi'n hwyr glas iddo fynd i draddodi'r araith.
Dwi ddim yn siŵr oedd o wedi cadw'i feddwl yn glir neu beidio at yr
achlysur. Maen rhaid nad oeddwn i ddim, beth bynnag, achos cytunais i fynd hefo
fo. Felly'n ôl â ni beibio Bwrdd yr Iaith a'u paneidiau dwyieithog wedi eu
noddi gan Tescos, a hebio'r Cynulliad a'r offer coginio'n segur am y tro, draw
yn ymyl y Banc lle roedd Paball y Cymdeithasau. Eisteddais yn yr ail res tua'r
canol. Doeddwn i heb ystyried ei bod hi'n haws denig os wyt ti'n ista'n y cefn
yn ymyl drws argyfwng. Doedd neb isio ista'n y rhes flaen am ryw reswm. Wyddwn i
ddim am be oedd y sgwrs i fod achos anghofiais holi. Llond dwrn oedd wedi
cyrraedd i wrando ar y Prifardd, ac roedd rhai o'r rheini a golwg arnyn nhw na
fasa fawr o ots be fasan nhw'n gwrando arno fo, fasan nhw ddim callach.
Wedi cyflwyniad hirwyntog gan y
cyflwynydd gwahoddwyd Gwyn ap Llwyd i ddŵad ymlaen a chafodd gymeradwyaeth.
Camodd i ffrynt y llwyfan a tharo swrn o bapurau ar y ddesg ddarllan. Tasa fo'n
gwysgo sbectol dwi'n siŵr y basa fo wedi ei gwthio i flaen ei drwyn ar y
pwynt yma a chodi'i ben at y gynulleidfa, ond tydio ddim a 'wnaeth o ddim
chwaith, dim ond dechrau darllan o'i nodiadau. Fasa fo byth yn gwneud darllenydd
newyddion achos pur anamal oedd o'n codi ei ben i sbïo arnon ni, dim ond dal ei
drwyn yn ei bapurach rownd y bedlan.
" Echdoe bu farw iaith
arall," meddai. "Bu farw Carlos Westez, neu Cwmwl Taran Goch fel y'i
gelwid yn amlach yn saithdeg-chwech oed." Cododd ei ben i weld oedd ei
sylwadau agoriadol wedi creu argraff, ond cyn bellad ag y gwelwn i doedd neb
ddim callach am be oedd o'n sôn.
"Siaradwr olaf yr iaith
Catawbeg oedd Cwmwl Taran Goch," meddai wedyn. "Roedd o'n gwybod holl
ganeuon hela, salmau cân, a hwiangerddi'r Catawbeg ar ei gof, ac mi godwyd ei
wybodaeth ar dâp gan Amgueddfa'r Smithsonian." Edrychodd o'i gwmpas eto.
"Ond pwy o ddifri fydd eisiau'i clywad nhw eto? Efallai y daw rhyw lyfrbryf
heibio hefo geiriadur, ond i be? Mae'r iaith wedi marw." Edrychodd ar ei
nodiadau am ennyd. "Mae'i gi o'n fyw o hyd," meddai, "Cwmwl Bach
ydi'i enw fo mewn Catawbeg, ond tydi ci uniaith Catawbeg ddim yn mynd i achub yr
iaith." Dwn i ddim oedd Gwyn yn disgwyl inni chwerthin, ond ddaru neb wneud
beth bynnag.
"Mae yna chwe mil o
ieithoedd yn y byd," meddai'n ffrwcslyd braidd. "Dim ond deg y cant
ohonyn nhw sydd hefo dros hanner miliwn o siaradwyr. Wyddoch chi fod dros gant o
ieithoedd yn dal yn fyw yng Ngogledd America hyd heddiw?" Doedd y newyddion
hyn ddim i'w weld yn syfrdanol iawn i'r gynulleidfa. O ran cynulleidfa, roedd
llawer ohonyn nhw erbyn hyn yn sbïo ar ei gilydd ac ar eu watsys ac ar y drws.
"Aeth anthropolegwr i godi
sgwrs rhwng dau frawd o'r enw Dan a Sidney Motahoac, siaradwyr olaf eu hiaith
ger Montréal yn ddiweddar," meddai Gwyn. "Ar y ffordd adref cafodd eu
gyrrwr ddamwain a lladdwyd un o'r brodyr. Mae sgwrs olaf un yr iaith honno ar
gof a chadw felly, er bod cyfarpar codi llais dan wely Dan at pan fydd o'n
siarad yn ei gwsg." Roeddwn i'n dechrau amau fod Gwyn yn dechrau colli'i
ffordd hefo'r sgwrs, yn enwdig wrth ei weld o'n turio fel daeargi drwy'i
nodiadau.
"Mae'r rheini sydd wedi methu dysgu iaith arall yn honni ei fod o'n
beth anodd," meddai gan edrych i fyny fel yr oedd tri yn y rhes gefn yn
ceisio cerddad allan ar flaenau'i traed. "I bawb ohonom ni sy'n ddwyieithog
mae hynny'n dwp, tydi?Agwedd ydi'r peth, nid geirfa. Statws yr iaith yn ei
pharthau dominyddol sy'n pennu'i gobaith am barhad." Dwi'n amau fod pawb ar
goll erbyn hyn ac yn 'difaru iddyn nhw dwllu'r Babell ar bnawn mor grasboeth. O
ran parch allwn i ddim gadael, ond mi allwn hepian cysgu. Hyd yn oed wedyn roedd
ei eiriau'n suddo ataf fel sŵn gwenyn diog.
"Nid i lwyth y Catawbiaid y ganwyd Cwmwl Taran Goch ac nid ei
mamiaith mohoni. Ond bu'n ymweld droeon a'r diriogaeth frodorol yn Ne Carolina
ac fe’i trwythodd ei hun yn yr iaith a'r traddodiadau. Llwyddodd y caneuon a
recordiodd i ennyn diddordeb eang mewn miwsig brodorol America. Teithiodd i
Lydaw unwaith a chodi wigwam a dweud straeon.
"Mae o wedi mynd ac mae'r iaith yn ei bedd. Dim bwys gynnon ni am
ieithoedd eraill, dim ond am ein hiaith ein hun. Dan ni'n dallt erbyn hyn fod
morgrug sy'n croesi'r lôn yn bwysicach na'r pentrefwyr ac un mab anghyfiaith yn
gallu atal traffig ym Mhen Llŷn. Dan ni’n gweld ystyriaethau i bob ystlum
a phenglog. Mor bwysig ydi iechyd a diogelwch. Heblaw am iechyd y Cymry fel
cenedl. Oglau pres ydi Zyklon B y trydydd mileniwm.
"Rhagrith ydi'r holl ddagrau am ddifancoll ieithoedd. Maen nhw wrth
eu bodd. Tydi'r uniaith ddim yn gallu amgyffred byw drwy iaith heblaw eu hiaith
nhw, am resymau amlwg. Tydi'r rhai sy ddim yn gallu nofio ddim yn gallu
amgyffred rhyddid y dŵr. Tydi'r rhai na welodd yr haul ar Grib Goch a honno
dan eira ddim yn codi'n ddigon bora neu ddim yn licio mynydda." Roeddwn i'n
synhwyro ei fod o ar fin ei cholli hi'n gyfangwbl erbyn hyn ac mi roddais
besychiad hegar a dechrau chwifio fy mysedd o dan fy ngên fel arwydd i'w thorri
yn ei blas ond ymlaen yr aeth o heb sylwi arna'i.
"Pan fydd y rhieni'n peidio
â throsglwyddo iaith i'w plant mae hi ar ben arni. Dyna ddigwyddodd yn Iwerddon
a Llydaw. Yn Alasga dim ond dwy o'r ugain iaith frodorol sy'n cael eu
trosglwyddo i'r plant ac yng Ngogledd America gyfan dim ond 38 iaith allan o 187
sydd ar wefusau plant bach. Yn Awstralia mae 90 y cant o'r ieithoedd brodorol ar
eu ffordd i'r fynwent am yr un rheswm. Ni all iaith ffynnu heb gymunedau lle mae
hi'n iaith naturiol i drwch y boblogaeth. Mae tri pheth yn bosib o ran pam nad
ydi'r Cynulliad yn gwneud dim am hyn, tydyn nhw ddim isio dallt, tydyn nhw ddim
isio coelio neu tydyn nhw'n poeni dim achos Saesneg ydi iaith eu plant nhw beth
bynnag." Cododd Gwyn ei ben o'i bapurau fel yr oedd grŵp bychan o
ddiflasedigion wrthi'n sleifio drwy'r drws cefn gan adael ychydig o hen bobol
fyddar, tri Llydawr, dyn hefo siwt frethyn a thei batrwm tartan a finnau.
"O dan groen pob iaith mae
yna raglen drefnus fiolegol sy'n ffurfio'n ara deg ac yn ddiarwybod ym meddwl y
plentyn bach," meddai Gwyn. Roeddwn i'n synnu at ei wybodaeth a fyntau
rioed wedi bod yn dad. Ond darllan am bethau fydd Gwyn yn hytrach na'u profi, am
wn i.
"I ddechrau fydd plentyn
ddim yn sylweddoli fod synau'n gallu bod yn enwau ar bethau. O gwmpas y deunaw
mis fydd y plentyn yn croesi trothwy'r enwau, lle mae pob dim yn cael ei enw ei
hun. Dilynir hyn gan ffrwydrad geiriol, a dau neu fwy o eiriau'n cael eu rhoi
wrth ei gilydd, ac mae iaith yn cael ei chreu: 'cyw'n dal pry neidar' am lun
aderyn yn tynnu pry genwair o'r pridd, 'peth cwch' am angor, 'einosorys' am
ddeinosor, 'ocsoffys' am octopws ac yn y blaen. Erbyn y bydd yn dair a hanner
oed bydd wedi cymhathu'r rhan fwyaf o ffurfiau iaith oedolion. Erbyn bydd o'n ei
arddegau cynnar bydd iaith y plentyn ac iaith ei rieni'n cystadlu hefo'i gilydd
am statws. Daw'r plentyn â geiriau newydd i'r fei, geiriau benthyg, cysyniadau
newydd. Mewn cymdeithas ddwyieithog fydd y ddwy iaith y mae'r plentyn yn eu
siarad yn cael eu chwarae'n erbyn ei gilydd a'u cydblethu a'u datod yn
ddi‑baid.
"Mewn astudiaeth ym
Mhrifysgol Miami mae Kimrough Oller a'i gydweithwyr wedi profi fod plant
dwyieithog yn meddu ar amgyffrediad uwch na'u cyfoedion uniaith. Mae plant bach
yn gallu cymhathu ieithoedd yn rhwydd yn ystod eu blynyddoedd meithrin. Mae'r
ysfa i gyfathrebu'n goresgyn pob rhwystr, yn anwybyddu pob ffin ac yn symud o
genhedlaeth i genhedlaeth mor gyson â'r llanw, mor dreiddgar â'r glaw."
Cododd Gwyn ei ben eto o'i bapur
a tasa gynno fo sbectol dwi'n credu y basa fo'n ei thynnu oddi ar ei drwyn ar y
pryd yma, ond sgynno fo ddim un. Roedd y dyn hefo'r siwt a thei yn syllu'n syth
o'i flaen. Roedd y tri Llydawr yn sibrwd ymysg ei gilydd a finnau, er mawr
cywilydd imi, yn hepian cysgu. Fesul
un dyma'r pump ohonom yn dechrau curo'n dwylo. Roedd pawb arall wedi llwyddo i
ddianc.
Daeth dyn hefo bathodyn ar ei
frest i'r llwyfan a chynnig diolchiadau. O fewn dim roeddwn i yn yr awyr iach
eto dan haul tanbaid yn rwbio fy llygadau.
Roedd Gwyn wedi aros i siarad hefo'r Llydawyr, mi wyddwn y byddai yno am
beth amsar. Wn i ddim eto be oedd teitl ei sgwrs o nag am be oedd hi'n sôn.
PENNOD TRI
Roedd yna wrych mawr ar ben clawdd rhyngof a'r darn arall
o'r maes a methais ganfod adwy am hydoedd. Es i eistedd am blwc ym môn y clawdd
y tu ôl i un o'r llefydd arlwyo a chymryd joch o'r jin i'm dadebru. Draw wedyn
rhwng Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ac S4C dyma fi'n cael hyd i'r agoriad i'r
maes pella a mynd drwyddo. Ar y chwith imi be welwn i ond y babell wyddoniaeth
ac i mewn a fi.
Llond y lle o'm blaen o gyfarpar
cyfrifiadurol ac ati. Ges i sgrîn rydd a logio i mewn i hotmail i godi
negeseuon rhag ofn fod yna rywbeth gan y plant. Mae'n siŵr iddi stopio nhw
fynd ar y rhyngrwyd neu rywbeth. Ella fydd ganddyn nhw hawl i yrru neges o'r
peiriant yn eu hysgol newydd ddechrau Medi. Dyma finnau'n ailagor y dwytha o'u
negeseuon nhw. Bron i bedwar mis yn ôl.
Mawrth, 15 Ebr 2003 12:40:01 -0000
Annwyl Dad,
Diolch am y llun ohonach di yn yr anialwch. Mae'n siwr ei
bod hi'n boeth iawn yno. Mae hi'n braf yma hefyd ond ddim mor boeth. Mae Sion
wedi cael row yn yr ysgol am fod yn ddigwilydd hefo'i athrawes. Ydio'n wir bod y
rhyfal wedi gorffan rwan? Rydan ni'n cael mynd ar ein gwyliau i'r Alban adag
gwyliau'r Pasg. Plis tyd adra mewn pryd i ddod hefo ni.
lot o swsys gan Bethan a Sion,
xxxx
Wnes i ddim edrych yn ôl ar y rhai cyn hynny.
Roedd darllan y geiriau'n codi'r felan arna'i. Y petha bach diniwad yn meddwl eu
bod nhw'n cael mynd ar wyliau. Toedd y gnawas wedi amseru pob dim yn berffaith?
Roeddwn i'n clywad fy ngwaed yn dechra berwi eto ac mi gaeais Hotmail a mynd i
sbïo ar safla fy nghyn gatrawd i weld gawn i ryw oleuni gwell ar fy sefyllfa.
Roeddwn i wedi cael hyd i'r adran yma o'r blaen ond heb ei studio hi'n ofalus.
Cliciais ar y ddolen 'Priodi’ i gael gweld mwy:
'Priodi - Cyflwyniad
'Mae'r Fyddin yn cydnabod fod bywyd milwrol yn creu
straen ar fywyd teuluol uwchlaw'r hyn a geir mewn bywyd pob dydd. Mae nifer o
fesurau mewn lle i ddal dan deuluoedd milwrol sy'n cydnabod lle hanfodol y teulu
ym mywyd ein personél.
'Golyga natur bywyd y Fyddin fod milwr yn gorfod derbyn
weithiau gael ei anfon ar gylchdaith heb ei deulu, naill ai ar gyfer ymarferion
neu ar ddyletswydd i ymladd neu i gadw'r heddwch i unrhyw ran o'r byd. Gall hyd
fod am ychydig wythnosau neu hyd at ddeuddeg mis o amser ar y tro. Nid yw
aelodau'r teulu'n cael ymuno pan fod aelod o'r fyddin ar ddyletswyddau o'r fath
gan nad oes cyfleusterau ar eu cyfer.
'Problemau Priodasol
Gall problemau priodasol ddigwydd mewn bywyd sifil a
bywyd milwrol fel ei gilydd. Mae'n bwysig i'r rhai sy'n eu cael eu hunain mewn
sefyllfa o'r fath i gofio nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Mae cymorth parod
wrth law, o ffynonellau milwrol a sifil, a dylid ei geisio mor fuan ag sy'n
bosibl oherwydd gall gweithredu buan gael effaith ar ddyfodol y rhai dan sylw.
'Ffynonellau Cymorth
Lle bynnag y mae'r chwalfa briodasol yn digwydd, mae'n
bwysig i ddewis un person i weithredu ac i gynghori er mwyn osgoi dyblygu
ymdrech. Eu nod fydd i gynghori ac i roi cymorth gyda pha bynnag gamau yr
hoffai'r cwpwl eu cymryd, boed hynny'n gais i gymodi ynteu'n benderfyniad i
wahanu. Gall y rhesymau am broblemau mewn perthynas fod yn niferus ac yn
amrywiol. Gall argaeledd cymorth parod a chyngor ymarferol prydlon fod yn
hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y berthynas. Gweler y llyfryn Dygymod gyda
Chwalfa mewn Priodas
Roeddwn i wedi hen sylweddoli
erbyn hyn mai atab y fyddin i unrhyw broblemau personol oedd hwrjio llyfrynnau
arnach di. Roedd ganddyn nhw bamffled ar gyfar pob achlysur. Be ddiawl oedd
pethau felly'n da i mi? Yn y bôn, doeddan nhw ddim isio gwybod. Rhois glic ar y
ddolen nesa.
'Y Cartref
'Mae llety'n cael ei ddarparu i deuluoedd aelodau o'r
Fyddin fel rhan o swydd y cymar ac fe'i preswylir dan drwydded. Mae'r llety
teuluol ar gael i bersonél priod, felly os yw'r milwr yn newid ei statws o fod
yn briod gyda chymar i fod yn briod heb gymar trwy arwyddo'r ffurflen AFO
1700 bydd camau'n dilyn i adfeddiannu'r eiddo. Mae'r drefn o ran achosion o
chwalfa briodasol ac adfeddiannu eiddo yn sgil hynny yn eithaf manwl. Ceir
crynodeb isod:
'Gall y Prif Swyddog ganiatâu cyfnod 'claearu' o hyd at
3 mis er mwyn ceisio cymod. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y milwr yn symud i lety
sengl ond yn dal i dalu costau llety teuluol dros ei deulu.
'Os na fydd cymod yn bosibl bydd gofyn i'r milwr newid ei
statws priodasol trwy arwyddo'r ffurflen AFO 1700. Gall y teulu aros yn y
llety teuluol am gyfnod 'defnyddio a phreswylio' o hyd at 93 diwrnod a'r milwr
yn talu'r costau.
'Ar gychwyn y cyfnod 93 diwrnod, bydd y cymar nad yw'n
gwasanaethu'r Fyddin yn derbyn Rhybudd i Adael. Bydd hyn yn hysbysu'r cymar o'r
bwriad i adfeddiannu'r eiddo ar ôl 93 diwrnod ac os y bydd yn aros yn yr eiddo
wedi'r cyfnod hwn y bydd yn cael ei chofrestru neu'i gofrestru fel Preswyliwr
Afreolaidd ac yn agored i dalu costau pris y farchnad am ddefnyddio'r llety a
elwir 'Iawndal am Dresmasu'. Gall y Rhybudd i Adael gael ei defnyddio gan y
cymar i hysbysu'r Awdurdod Lleol lle bynnag y dymuna ymsefydlu o'i statws
digartrefedd sydd ar ddod.'
Fuodd gen i ddim dewis ond arwyddo'r ffurflen AFO 1700
er mwyn i'r wraig a'r plant gael llety gan yr Awdurdod Lleol. Gwaetha'r modd
Glasgow oedd yr Awdurdod yn hytrach na Gwynedd. Mynd yn ôl at ei theulu i'r
Alban. Cael rhandy mewn tŵr uchel ar gyrion y ddinas. Dwi'n cofio 'nghanol
yn suddo wrth stopio'r car y tu allan a gweld y fath le anial, dienaid. Dwi'n
gwybod mai yn Swydd Efrog oeddan ni tan hynny, ond o leia roedd yna goed a
chaeau ac adar yn canu.
Dau glic arall ac oeddwn i ar dudalen holi ac ateb. Dim ond dau gwestiwn
oeddwn i isio atebion iddyn nhw. Darllenais y geiriau'n araf wrth dynnu'r
llygoden i lawr ochr dde’r sgrîn:
'A gaf fy erlyn am gipio fy mhlant?
'Mewn dau achos:
'Un, pan fo'r naill riant hefo hawliau gwarchodaeth a'r
llall hefo hawliau ymweld, a'r llall yn cadw'r plentyn yn anghyfreithlon a heb
ei ddychwelyd i'r naill. Ystyrir hyn fel achos o Gipio Syml.
'Dau, pan eir a'r plentyn dramor a'i gadw a'i gymryd yn
anghyfreithlon. Bydd hyn yn arwain at Achos o Gipio a bydd angen deisebu am
ddychweliad y plentyn yn unol â Chytundeb yr Hâg 1980, mewn perthynas ag
agweddau sifil o ddeddf ryngwladol cipio plant. Yn y ddau achos, y Barnwr fydd yn diffinio’r trosedd.
'Dwi'n talu i gynnal fy mhlant, ond nid yw'r fam yn
gadael imi eu gweld. Be ddylwn ei wneud?
'Pwy bynnag sy'n cydymffurfio gyda'i oblygiadau fel
rhiant, bydd ganddo hawl ymweld â'i blant, drwy gymod neu drwy ddyfarniad
barnwrol yn unol â Chymal 150, Cymal 31 Paragraff 2 a Chymal 72 Côd y Plant.
Mae sawl tad sy'n ceisio hawl llys i weld ei blant mewn achosion o ysgariad yn
cael ei gyhuddo o drais ar yr aelwyd gyda'r honiad ei fod yn risg i'w blant.
'Mae ymgyrchwyr dros ddiogelwch plant wedi dogfennu
llawer achos o dadau treisgar yn ennill hawliau ymweld ac yna'n achosi niwed
neu'n lladd aelodau o'u teulu. Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae o leiaf 19 o
blant wedi eu lladd gan eu tadau mewn sefyllfa o'r fath. Maen nhw'n cynnwys
pedwar plentyn Claude Mubiangata, yr un ieuengaf yn dair oed. Wedi ei gloi ei
hun yn ei gar hefo'r plant fe roes y cerbyd ar dân.
'Galwn ar y Llywodraeth i sicrhau nad yw'r llysoedd yn
caniatâu cysylltiad gyda rhiant sydd wedi ei brofi i fod yn dreisgar o fewn y
teulu,' meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Atal Creulondeb i Blant.'
Roedd y geiriau'n nofio o flaen fy llygadau. Mae hi'n
gwybod na faswn i byth yn cyffwrdd pen fy mys yn yr un blewyn o'u pen. A finnau
wedi cyfaddef i'w tharo hi unwaith. Pwy fasa'n coelio imi wneud o i'm hamddiffyn
fy hun? Mae hi'n gwybod y byddaf i'n dad da iddyn nhw, gwell nag y mae hi o fam
iddyn nhw yn sicr. Dwi'n gwybod y gwela'i mhlant eto, mi gwela'i nhw'n fuan ac
yn amal, mi gwela'i nhw bob dydd a'u danfon nhw i'r ysgol. Dwi'n goro credu
hynny. Heb gredu hynny does yna ddim byd i'm cynnal o fore gwyn tan nos.
Roeddwn i'n dechrau cael llond bol ar jargon y wefan; dim
ond un clic arall, meddwn i. Gael imi weld be ddaru nhw sgwennu amdanon ni. Ges
i hyd i adran am fy Nghatrawd ymysg hen adroddiadau BBC Cymru ar lein. Gwynebau
cyfarwydd a'u llygaid yn pefrio. Finnau'n cofio'r cyffro ddaru ni deimlo pan
gawson ni wybod ein bod ni'n mynd. A'r ofnau hefyd. Ond antur fawr oedd y cwbwl
yn y bôn, yn enwedig i'r hogia fenga, ac wedi'r gwaith gweitsiad roedd pawb ar
bigau'r drain isio cael cychwyn. Sŵn ein bwtsias yn taro'n galad ar y
concrid a rhewynt y bora bach yn llosgi'n bochau dan y goleuadau gwynion.
'Dydd Iau, 6 Chwefror, 2003, 16:44 GMT
'Milwyr Cymreig yn cychwyn am y Gwlff
'Naw deg milwr o Warchodlu Dragŵn y Frenhines,
catrawd Gymreig gan fwyaf, yn gadael eu barics yng Nghatraeth, Swydd Efrog ar
gyfer RAF Brize Norton yn barod i adael am Coweit fel rhan o'r flaengad mewn
unrhyw ymgyrch yn erbyn Irac. Sefydlwyd y Gwarchodlu gan Iago'r Ail yn 1685 ac
mae'n cynnwys milwyr o Gymru, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig. Mae'r Gatrawd o
600 milwr, 'Y Cafalri Cymreig' fel y'i gelwir weithiau, yn arbenigo mewn
cyrchoedd sgowtio ar faes y gad ac ar hyd y llinell flaen. Mae'r alwad yn dilyn
blwyddyn o hyfforddi caled, yn cynnwys ymarferion yng Nghanada. Yn eu hugeiniau
cynnar mae'r rhan fwyaf o'r dynion, ond dywed eu Prif Swyddogion eu bod yn barod
at ryfel. Dywed Uwchgapten Anthony Pittman, Dirpryw Bennaeth y Gwarchodlu:
'Dwi'n hyderus eu bod nhw'n hollol barod ar gyfer yr ymfyddiniad.'
'Hon fydd ymgyrch dramor gyntaf Marchfilwr
Clayton Griffiths, 19, o'r Rhyl, sydd wedi bod hefo'r Gwarchodlu ers tair
blynedd. 'Dwi'n bryderus, ond mae gynnon ni lot o hogia da, mi ddyla bob dim fod
yn iawn,' meddai. 'Mae'r hogiau hŷn wedi dweud y bydd pethau'n ocê. Dan ni
ddim yn gwybod wneith Saddam Hussein ddefnyddio arfau dinistr torfol ac mae
meddwl am arfau cemegol yn ddigon a dychryn neb.'
'Dywedodd Corporal Gavin Davies, 'Mae mam yn poeni. Tydi
hi ddim yn gwybod be sy'n mynd ymlaen heblaw be mae hi'n weld ar y newyddion'.
'Bu'n rhaid i Dewi Pritchard, 26 oed, ganu'n iach â'i
wraig Ffion a'i ferch fach saith wythnos oed. 'Dwi'n teimlo'n ofnadwy am adael
fy merch a'm gwraig. Maen nhw wedi dychwelyd i Benllach i fod hefo'i theulu.
Roedd gen i deimlad y bydden ni'n cael ein hanfon allan, ond mae wedi bod yn
syndod o sydyn.'
'Bu Corporal William 'Chips' Roberts, 33 oed, o Flaenau
Ffestiniog, eisoes ar wasanaeth gweithredol yn y Bosnia, Rwanda ac Affganistân.
'Mae'n anodd gadael y plant,' meddai. 'Ond dwi wedi bod i'r rhan honno o'r byd
o'r blaen a dwi ddim yn rhy bryderus.'
'Ni welodd Gavin Griffiths na Paul Pritchard wasanaeth
gweithredol o'r blaen. Dywedasant, 'Dan ni'n hapus i gael y cyfle yma i roi ein
hyfforddiant ar waith.'
Roedd yr hogia'n gwenu ac yn codi bawd ar y camra. Dacw Dewi druan yn
gwenu fel giât yn ei lifrai newydd. Doedd y cradur fawr o feddwl na welai o
mo'i wraig na'i blant byth mwy. Doeddwn innau fawr o feddwl na welwn i mo
'mhlant. Ond o leia mi dwi dal yma i gwffio amdanyn nhw'n eu hôl.
Tynnais y llgodan i lawr y sgrîn i weld be arall oedd ganddyn nhw
amdanom ni. Gweld gwynebau'r hogiau'n chwysu dan eu helmedau. Cofio'r gwres yn
ein taro nes bron â'n llorio a ninnau'n camu o'r awyren i darmac y maes awyr.
Cofio'r tywod yn ein llgadau a'n cegau ac ym mhob man.
'Dydd Iau, 20 Chwefror, 2003, 17:34 GMT
'Cymry mewn storm dywod yn y Gwlff
'Y Cafalri Cymreig sydd ymysg y milwyr cyntaf i gyrraedd
de Irac. Mae'r Cafalri Cymreig wrthi'n rhagchwilio a pharatoi ar gyfer rhan
nesaf y goresgyniad. Mae'r traeth ar benrhyn Al Fao ger môr-lwybr llongau
allforio olew Saddam. Mae cipio'r penrhyn a'i ddal yn allweddol i lwyddiant y
goresgyniad yn ei gyfanrwydd.Tanciau Scimitar Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines
– y gatrawd Gymreig gan fwyaf – yn paratoi'r ffordd i'r Marîns Brenhinol a
sicrhau glanfa ar arfordir y Gwlff yn agos i Iran. Roedd sôn eu bod nhw'n
gweithio tuag at agor ffordd drwodd i'r gogledd tua Basra, tref o bwys strategol
yn yr ardal.
'Mae tua 2,000 o ddynion a merched o Gymru'n gwasanaethu
yn yr ardal, yn darparu ystod eang o arbenigeddau ar y llinell flaen ac wrth
gefn fel rhan o'r Cynghrair sy'n cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau i
ddisodli'r gyfundrefn Iracaidd bresennol. Mae llawer o'r milwyr wedi manteisio
ar y cyfle i wneud galwad ffôn ddiwethaf adra cyn cychwyn eu gweithrediadau yn
yr anialwch. Cafodd Iola a Merfyn Owen o Benllech, Sir Fôn alwad gan eu mab
Dewi. 'Galwad fer iawn oedd hi – munud yn unig - ond mi ddywedodd ei fod o'n
ddiogel a'u bod nhw bellach tua deng milltir i mewn i Irac,' meddai Mr Owen.
Roeddwn
i'n methu maddau i'r erthyglau yma, heb ddarllan ein hanas ni o'r blaen. Roedd
rhyw falchdar rhyfadd yn fy ngherddad i wrth sylweddoli fod pobol adra wedi bod
yn darllan am ein hanas ni, a ninnau'n teimlo mor ynysig o bell ar y pryd, dim
ffonio, dim ebostio, dim ond amball i lythyr rŵan ac yn y man i rai ohonom.
'Llun, 24 Mawrth, 2003, 16:12 GMT
'Milwr Cymreig yn dal i frwydro
'Milwyr o Gymru wrthi’n ceisio sicrhau porthladdoedd
allweddol yn ne Irac. Mae'r Cafalri Cymreig yn rhan o'r lluoedd sy'n dal Penrhyn
Al-Faw ac wrthi'n codi gwersylloedd carcharorion rhyfel yn ne'r wlad.
Bydd y rhain yn wersylloedd mawr wedi eu hamgylchu gan ffensys weiren
rasel yn cael eu codi yn yr anialwch ger Basra gan Warchodlu Dragŵn y
Frenhines, gydag adnoddau meddygol ar gyfer y carcharorion Iracaidd. Bydd yn
cymryd 'peth amser' i'w cwblhau, meddai llefarydd. Mae'r anialwch yn
'boeth iawn' ond
mae'r stormydd tywod wedi lliniaru'n ddiweddar. Yn ôl llefarydd o'r Pentagon
disgwylir y bydd 'miloedd' o garcharorion yn dod dan oruchwyliaeth y cynghrair
fel y mae'n tynhau'i afael ar ail ddinas Irac. Mae tanciau Gwarchodlu Dragŵn
y Frenhines yn arwain y ffordd i'r ail Ddinas. Dywedir fod hyd at 8,000 o
aelodau 51ain Adran Milwyr Traed Irac wedi ildio i marîns Americanaidd y tu
allan i Basra. Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: 'Rydan ni'n
ymwybodol sut i drin carcharorion rhyfel a bydd y driniaeth honno'n unol â
Chonfensiwn Genefa.'
'Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan
wedi dweud efallai y bydd gofyn i Gymru roi help llaw o ran sut i greu
gweriniaeth ddatganoledig ar ôl y rhyfel. Dywedodd Mr Morgan efallai y byddai'r
cynulliad yn cynnig ei arbenigedd ar greu gweinyddiaeth newydd. Mae nifer o
grwpiau ethnig a grwpiau crefyddol yn Iran gan gynnwys Shiaid yn y de a
Chwrdiaid yn y gogledd. Serch hynny gwrthododd Mr Morgan ddatgelu ei safbwynt ef
tuag at y rhyfel, heblaw ailadrodd ei farn fod y Prif Weinidog Tony Blair wedi
bod yn iawn i roi'r penderfyniad i'r Senedd.
'Yn Sir Fôn heddiw (Llun), mae
saith gwrthdystiwr wedi eu cadwyno eu hunain i offer ym Maes Awyr yr Awyrlu yn y
Fali, fel rhan o wrthdystiad yn erbyn y rhyfel a saith arall wedi eu cadwyno eu
hunain i gatiau'r brif fynediad gan rwystro i gerbydau fynd i mewn ac allan.
'Torrwyd y cadwyni gan
swyddogion yr Awyrlu a chludo'r gwrthdystwyr allan o'r ganolfan – ni arestiwyd
neb.
'Dywedodd llefarydd ar ran y
gwrthdystwyr, fod y gwrthdystiad wedi targedu Maes Awyr y Fali gan fod
peilotiaid yn cael eu hyfforddi yno i hedfan ar gyrchoedd ymosod ar Irac.
Roeddwn
i wedi cael dŵad adra ychydig ar ôl y Pasg, dros dro ar lîf. Roedd yr
hogiau oedd yn gorffan eu cylchdaith yn gorfod aros sbelan eto yn y gwres. Mi
fasa wedi bod yn well i minnau aros, nelo'r tŷ gwag ges i i'm croesawu.
Finnau'n meddwl mai rhywbath dros dro oedd o ac y deuai'r plant yn ôl erbyn i'r
ysgol ail-agor. Gwastraffu amsar, yn lle mynd ati. Boddi fy nhrafferthion fesul
tafarn, fesul potal. A chyn pen dim roeddwn i ar fy ffordd yn ôl i gadw'r
heddwch. Heddwch o ddiawl. Roedd yna fwy'n cael eu lladd rŵan nag oedd yn
ystod y rhyfal ei hun myn diân i. Mwy o filwyr a mwy o bobol ddiniwad ar y
stryd ac yn eu tai. Mae sgrechian y plant o'r cerbyd wenfflam yn fy nglustiau
byth. Roedd Nain yn iawn yn diwadd, wedi'r cwbwl. "Nei di byth sowldiwr,
Wil bach," meddai gan droi i brocio'r tân glo. "Ti'n hogyn rhy wyllt
ac mae dy galon di'n rhy fawr."
'Sul, 25 Mehefin, 2003, 13:30 GMT
'Milwr yn gwrthod codi arfau?
'Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad
oedd unrhyw sail i'r honiad fod milwr yng Nghatrawd y Cafalri Cymreig wedi ei
anfon adref am wrthod codi ei arfau: 'Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod
unrhyw un wedi ei anfon yn ôl am wrthod ysgwyddo'i arfau. Bydd milwyr yn cael
eu hanfon yn ôl o bryd i'w gilydd am resymau amrywiol megis rhesymau meddygol,
seicolegol, lles a disgyblaeth, pethau sydd angen ymdrin â nhw gartref hefo'r
unedau.'
"Dyna ddigon o hynna," meddwn i wrthyf fy hun. Roeddwn i'n
sylweddoli mae'n siŵr fy mod i'n lwcus na ddaru nhw ddim dŵad ag achos
yn fy erbyn. Toedd gen i ddim help fod pethau wedi mynd yn drech na fi. Cael dy
saethu fasat ti'n y Rhyfel Byd Cyntaf meddai un Prif Swyddog wrtha'i. Dwi'n
cofio deud wrtho fo am fy saethu fi felly, doedd waeth gen i hynny ddim. Ges i
fy mygwth am fod yn ddigwilydd, ond isio fi allan o'u golwg nhw oeddan nhw erbyn
hynny a chael golchi'u dwylo ohona'i.
Roeddwn i isio edrych oedd yna rywbeth arall ar safle'r
Fyddin am sefyllfa rhai run fath â fi a chliciais yn ôl i lle bues i'n pori
o'r blaen nes cael yr adran iawn.
'Rhyddhau Gorfodol
'Ni fydd personél sy'n cael eu rhyddhau'n orfodol o'r
Fyddin yn cael llawer o amser i baratoi am eu rhyddhad ac fe'u hystyrir yn
agored i sgil-effeithiau problemau lles ôl-ryddhad, a allai mewn amser arwain
at ddigartrefedd. Mae pecyn lles wedi ei roi mewn lle i sicrhau fod y sawl sy'n
cael ei ryddhau yn cael cyfweliad lles ac ail-gartrefu cyn gadael ei uned a'i
fod yn derbyn llyfryn Cyfarwyddyd Lles – Rhyddhau Gorfodol sydd wedi ei
dargedu'n neilltuol i roi arweiniad mewn sefyllfa o'r fath.'
Doeddwn i ddim yn gweld fod yma ddim byd i'm
helpu, dim ond geiriau gweigion. Cefais ronyn bach o fwynhad o glicio 'cau' ar y
porwr a gweld yr holl gybolfa'n diflannu o’r sgrîn. Eisteddais am funud neu
ddau'n syllu ar y sgrîn wag.
"Esgusodwch fi,"
meddai llais tu ôl i’m ysgwydd. "Ydach chi’n defnyddio’r sgrîn
yma?"
"Yndw," meddwn i gan
droi ati ferch ifanc yn ei harddegau. "Fydda'i ddim yn hir rŵan."
Cliciais eicon y prosesydd geiriau a theipio Y CADEIRIO mewn ffont Rhufeinig
tua'r maint oeddwn i wedi'i weld ar docyn Gwyn Bont. Holais am bapur tewach na'i
gilydd i'w argraffu. Wedi ei argraffu a'i dorri i'r maint cywir roeddwn i'n
tybio na fasa'r Archdderwydd ei hun ddim callach nad oedd o'n un iawn.
"Dyma chdi'r cyfrifiadur," meddwn i wrth yr hogan ysgol gan
ddal y gadair iddi.
Roedd hi'n boethach byth y tu
allan a finnau'n chwysu dan fy ngheseiliau ac yn clywed oglau neithiwr ar fy
nillad. Es ar sgowt am grys chwys glân. Lle crysa cynta welis i oedd Cowbois a
digon o ddewis i'w weld ganddyn nhw.
"Be sgynnoch chi i'm ffitio
fi," meddwn i wrth y boi tu ôl y cowntar.
Dangosodd wahanol rai imi.
"Be mae o'n ddeud?"
meddwn i.
"Dwi'n Gymro, dwi ddim yn
Sais," meddai'r boi.
"Mae hynny'n amlwg,"
meddwn i. "Be ydi'r sgwennu ar y crys?"
"Dyna mae o'n ei ddeud ar y crys, mewn
Portiwgaleg," eglurodd yn amyneddgar. "Fedri di gael o mewn Ffrangeg,
Eidaleg, Almaeneg neu Roegeg os tisio," ychwanegodd.
"Fedra'i
ddim penderfynu," meddwn innau. "Ddoi nôl."
Ar hynny dyma fi'n clywad neges destun yn cyrraedd
y ffôn bach. Now John oedd yno'n tecstio: 'Gwil a fi ar y ffordd lawr. Isio 2
docyn i Jarman heno. Gweld chdi yna.'
"Lle ga'i docynnau i Jarman?" gofynnais
i'r boi tu ôl y cowntar.
"Cymuned dwi'n
meddwl," meddai. "Syth i lawr y rhes yma ffor'cw."
Gwasg Gomer oedd y drws nesa,
llyfrau ac ati. Taswn i'n awdur mi faswn i wedi gallu cael dau ddeg y cant i
ffwrdd o'u llyfrau ond gan nad oeddwn i ddim chawn i ddim a toeddwn i ddim isio
llyfr arall p'run bynnag.
Cymris i gip ar y crysau ac ati
drws nesa wedyn yn Alff a Bet ond heb brynu dim byd yn fanno chwaith. Roedd y
jin yn dechra cawlio fy mrêns felly mi drois i mewn i'r stondin nesaf i holi.
Pwy welis i yno ond y dyn siwt frethyn hefo'r tei batrwm tartan arni.
"Ddaru chi fwynhau'r
ddarlith gynna?" holis i. "Ym Mhaball y Cymdeithasa?"
"Pa ddarlith?" meddai.
"Fues i ddim yno. Ond mi roeddwn i yn y Pafiliwn yn Steddfod Aberteifi adag
y cadeirio. Sôn am helynt! Dwy awdl a dim ond un gadair."
"Lle mae Cymuned os gwelwch
chi'n dda," meddwn i.
"Pwy?" meddai.
Ges i well lwc drws nesa ar
stondin gemwaith Rhiannon, mi ddangoswyd imi lle i fynd, drws nesa ond un hebio
Cyd Bwyllgor Addysg Cymru. Roedd Cymuned hefo bwrdd gwerthu o flaen y stondin
lle'r oedd yr holl docynnau ar werth.
"Tri tocyn i Jarman,"
meddwn i.
"Tri thocyn i Jarman?" meddai'r gwerthwr.
"Ia, tri tocyn," meddwn i, "Be sy, methu gwneud syms wyt
ti?"
"Mae'na dreigliad llaes ar ôl tri," meddai'r gwerthwr.
"Faint ydi'r crysau duon Dal dy Dir yna?" meddwn i. "Tyd
ag un neith ffitio fi."
"Wyt ti isio ymaelodi?" holodd y gwerthwr.
"Dwi'n aelod yn barod," meddwn innau. "Gwisg wen, urdd
Derwydd, sana draig goch a sbectol haul."
"Pa ardal?" holodd o
gan grafu'i drwyn.
"Hen Ogladd," meddwn
innau wrth gymryd y crys a'r tocynnau. "Aelwyd Catraeth."
"Mae cenhadon ein
darostyngiad yn rhwyfo drwy'r niwl tuag atom," meddai'r stondinwr.
"Mae trwynau'u cychod eisoes yn crafu graean ein traethau."
"Wn i," meddwn innau. "Blydi jet-scis uffarn."
Roeddwn i'n aros am y newid ond welis i mohonyn nhw eto. "Cadwa'r newid at
yr achos," meddwn i ymhen hir a hwyr.
"Diolch yn fawr iawn," meddai yntau.
Wnes i ddim mentro i'r stondin nesa wedyn ar ben y rhes. Canolfan Madog
ar gyfer Astudiaethau Cymraeg, Prifysgol Rio Grande oedd ei henw hi. Un o'r
asiantaetha newydd yna tua'r Port mae'n siŵr.
Es i draw wedyn i ryw le oeddwn
i wedi'i weld yn gwerthu nialwch pren wedi eu paentio a chael arwydd drws bach
lliwgar bob un i'r plant, un Bart Simpson i'r mab hefo 'Stafell Siôn' arno fo
ac un siâp llamhidydd i'r ferch hefo 'Ystafell Bethan' ar hwnnw. Tydi hi ddim
yn licio sgwennu anffurfiol.
Doedd waeth imi ddilyn fy nhrwyn
ychydig eto. Heibio ryw ddodran gardd pîn ar ben y rhes, a s